Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFAITH CAU YSGOL RHEWL

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr – Cefnogi Addysg (Copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r gefnogaeth a ddarparwyd i Ysgol Rhewl yn ystod y broses cau ac adborth gan fudd-ddeiliaid ar y gefnogaeth a dderbyniwyd.

 

10.45am – 11.15am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Prif Reolwr,  Moderneiddio Addysg, (a ddosbarthwyd eisoes) yn amlinellu'r gefnogaeth a roddwyd i Ysgol Rhewl yn ystod y broses o gau'r ysgol.  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd atodiadau’n crynhoi ymatebion rhieni i’r holiaduron a roddwyd iddynt, sylwadau a gafwyd gan yr ysgolion a fydd yn cymryd disgyblion Ysgol Rhewl yn ogystal â sylwadau’r Pennaeth dros dro ar adeg cau’r ysgol.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol mai dim ond dau riant oedd wedi ateb yr holiadur ac o’r saith ysgol a dderbyniodd ddisgyblion ysgol Rhewl, pump oedd wedi ymateb. Roedd rhai o’r sylwadau a gafwyd hefyd yn gwrth-ddweud ei gilydd.

 

Disgwyliwyd i ddechrau y byddai mwyafrif y disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgolion newydd yn Rhuthun ond ni ddigwyddodd hynny. Roedd nifer o’r plant wedi trosglwyddo i ysgolion mewn rhannau eraill o’r sir, rhai oherwydd eu bod yn byw'n agosach at yr ysgolion hynny ac eraill oherwydd dewis y rhieni.  Cydnabu'r Aelod  Arweiniol nad yw byth yn brofiad braf cau ysgol ond roedd yn falch o allu dweud fod y disgyblion wedi setlo’n dda yn eu hysgolion newydd.  Dywedodd y Prif Reolwr Moderneiddio Addysg wrth yr Aelodau bod swyddogion o Wasanaeth Addysg y Cyngor wedi gweithio’n agos â Phennaeth Dros dro Ysgol Rhewl drwy gydol y broses o gau’r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion.  Dywedodd hefyd bod y Pennaeth Dros dro wedi gweithio’n ddiwyd gyda disgyblion a rhieni dan amgylchiadau anodd dros ben.  Yn ogystal â rhoi cefnogaeth i rieni (mewn cyfarfodydd un i un a chyfarfodydd grŵp), disgyblion a'r corff llywodraethu roedd y Cyngor hefyd wedi darparu cefnogaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy Gyrfa Cymru, i staff yr ysgol - ffaith a nodwyd yn sylwadau'r Pennaeth Dros dro.  Gofynnodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant am i’r ffaith gael ei nodi, er bod y Cyngor yn ymgymryd â phroses siomedig ac amhleserus iddyn nhw’n bersonol, bod cymuned Ysgol Rhewl wedi ymddwyn yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn barchus tuag at swyddogion y Gwasanaeth Addysg. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

  • gydnabod bod cymunedau’n gwerthfawrogi eu hadeiladau ysgol gan ddweud bod y Cyngor yn cynnig yr opsiwn i’r gymuned leol brynu adeiladau ysgol diddefnydd.  Mewn man lle nad oes cyfleusterau cymunedol yn bodoli gallai fod yn gyfle da i'r gymuned brynu’r amwynder.  Fodd bynnag mae Pafiliwn Chwaraeon gyda'r holl offer angenrheidiol eisoes yn bodoli yn Rhewl felly nid oedd gan y gymuned unrhyw ddiddordeb mewn prynu adeiladau’r hen ysgol a oedd eisoes mewn cyflwr eithaf gwael.
  • nodi fod y swyddogion wedi gwneud eu gorau i ymgysylltu â rhieni, disgyblion a’r gymuned ysgol a’u cefnogi drwy’r broses, ond y byddai bob amser wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol.
  • nodi ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ac yn y blaen ar gael pan oedd rhieni a rhanddeiliaid yn barod i ymgysylltu.  Oherwydd sensitifrwydd cynigion i gau ysgolion nid yw pawb a effeithir bob amser yn barod i ymgysylltu neu geisio cefnogaeth ar yr un pryd. Bydd adeiladu hyblygrwydd i mewn i’r broses felly yn hollbwysig.
  • cadarnhau fod rhai disgyblion/rhieni wedi newid eu  meddwl am ba ysgol i drosglwyddo eu plentyn/plant iddi ar ôl dyddiau blasu mewn gwahanol ysgolion.
  • cynghori bod cefnogaeth hefyd wedi’i rhoi gan y Gwasanaeth Addysg i'r ysgolion hynny a oedd yn derbyn disgyblion o Ysgol Rhewl.
  • cadarnhau bod penderfyniad i beidio symud y disgyblion oedd wedi dewis symud i Ysgol Stryd Rhos i’r ysgol newydd pan fyddai’n agor ond yn hytrach aros tan y flwyddyn academaidd newydd wedi’i wneud ar ôl trafod ac ymgynghori gyda'r Pennaeth Dros dro.  Teimlwyd y byddai hyn yn gweithio’n well gan y byddai’n osgoi’r angen i ddisgyblion Blwyddyn 6 symud am ddim ond un tymor cyn gorfod symud eto i’r ysgol uwchradd yn nhymor yr  hydref.
  • nodi nad oes arwydd bod newid ysgol wedi cael effaith niweidiol ar gyrhaeddiad disgyblion.  Roedd dwy o’r ysgolion a dderbynion ddisgyblion o Ysgol Rhewl wedi cael eu harolygu gan Estyn yn ddiweddar ac wedi cael adroddiadau da dros ben.  Mae disgwyl y bydd adroddiad ar effaith yr adolygiad o ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Rhuthun gyfan yn mynd gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2019. Bydd yr adroddiad yn cynnwys asesiad o unrhyw effaith ar gyrhaeddiad disgyblion.
  • cadarnhad bod y Pennaeth Dros dro wedi mynd yn ôl i swydd yn ei hysgol flaenorol, roedd rhai staff wedi cymryd pecynnau diswyddo ac eraill wedi dod o hyd i waith arall.  Cytunodd y Prif Reolwr,  Moderneiddio Addysg y byddai’n dosbarthu gwybodaeth fanylach am hyn ac ar y gwaith sy’n cael ei wneud  gan Wasanaethau Ieuenctid y Cyngor, a
  • rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor fod y Rhewl yn bentref â chysylltiadau cymunedol cryf gyda nifer o weithgareddau cymunedol sefydledig yn cael eu cynnal yno'n rheolaidd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth

 

Penderfynwyd: - Yn amodol ar y sylwadau uchod, cydnabod yr adborth a gafwyd a’r gwersi a ddysgwyd a bod y Gwasanaeth Addysg yn eu defnyddio wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 am) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.55 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: