Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod y camau posibl i’r Cyngor eu hystyried mewn perthynas â chludiant anstatudol y mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd.  

 

10.05am – 10.45am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Rheolwr Addysg ac Adnoddau a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi manylion am yr elfennau anstatudol ym Mholisi Cludiant Dysgwyr Cyngor Sir Ddinbych 2018.

 

Yn ystod ei gyflwyniad eglurodd yr Aelod Arweiniol y daeth Polisi Cludiant Dysgwyr presennol y Cyngor i rym ym mis Medi 2018 yn dilyn ymarfer ymgynghori gyda’r holl randdeiliaid y flwyddyn flaenorol.  Mae’r polisi'n nodi sut y mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Fesur Teithio Gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.  Wrth adolygu’r polisi yn 2017 roedd sawl anghysonder wedi dod i’r amlwg e.e. llwybrau peryglus, ysgolion bwydo a phwysigrwydd eu perthynas â’r ysgolion uwchradd y maent wedi’u cysylltu â nhw ayyb.  Cafodd yr anghysonderau hyn eu hunioni yn y polisi diwygiedig.  Mae’r adolygiad hwn o’r polisi ynghyd â newidiadau perthnasol i gludiant ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion arbennig a darparwyr cludiant yn trosglwyddo costau chwyddiannol i’r Cyngor Sir wedi arwain at gynnydd o oddeutu £350k yng nghost cludiant ysgolion yn y sir yn ystod 2018/19.  Ni fydd cynnydd fel hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai’r Gwasanaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd sy’n dal y gyllideb cludiant ysgol ond mai’r Gwasanaeth Addysg sy’n pennu cymhwysedd disgybl i dderbyn cludiant am ddim.  Er bod hyn o bosibl yn ymddangos yn od, mae’n gweithio’n dda gan fod swyddogion Addysg yn gyfarwydd â’r darnau o ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cymhwysedd dysgwyr am gludiant am ddim, ond mae’r arbenigedd o ran tendro am, a chaffael cludiant, a gwybodaeth am argaeledd cludiant cyhoeddus yn bodoli o fewn tȋm cludiant y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd. 

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr Aelodau bod darpariaeth cludiant ar gyfer dysgwyr er mwyn iddynt gael mynediad at elfennau addysg anstatudol yn fater cynhennus dros ben a bod sawl awdurdod lleol sydd wedi edrych ar y posibilrwydd o roi stop ar gludiant am ddim neu godi tâl am gludiant e.e. i ddarpariaeth addysg seiliedig ar ffydd neu'r iaith Gymraeg, wedi cael sylw anffafriol yn y wasg/cyfryngau, a hyd yn oed her gyfreithiol.    Er ei bod yn bosib y byddai rhoi’r gorau i gynnig cludiant am ddim, neu godi tâl am gludiant er mwyn galluogi disgyblion i gael mynediad at addysg anstatudol, yn arwain at arbedion sylweddol i’r Cyngor, byddai'n bwysig dros ben asesu effaith unrhyw newidiadau ar addysg disgyblion y a'r gefnogaeth a roddir i’w galluogi i ennill y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  Mae hyn yn arbennig o bwysig o safbwynt addysg ôl-16.  Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gwario tua £1m bob blwyddyn ar gludo myfyrwyr i ddarpariaeth addysg ôl-16. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau:

  • bod ar yr Awdurdod ddyletswydd ddeddfwriaethol i gydymffurfio â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill perthnasol i ddarpariaeth addysg.
  • bod unrhyw gynnig i roi’r gorau i gludiant am ddim i ddarpariaeth addysg anstatudol yn debygol iawn o ddenu sylw negyddol yn y cyfryngau  Yr elfen leiaf cynhennus yn ôl pob tebyg fyddai cludiant i fyfyrwyr ôl-16.  Fodd bynnag byddai risgiau ynghlwm â hyn hefyd, yn enwedig o ran cyfleoedd gyrfa disgyblion yn y dyfodol a'r economi ehangach.
  • bod cludiant dysgwyr yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn costio cyfanswm o oddeutu £2.5m y flwyddyn  Roedd costau’n amrywio o sir i sir, gyda'r ardaloedd daearyddol mwyaf yn gwario llawer mwy ar gludiant dysgwyr.
  • bod hyn yn dangos y cymhlethdodau cysylltiedig â gwneud penderfyniadau am gludiant am ddim i ddysgwyr e.e. mae'n bosibl iawn y bydd rhai disgyblion yn gymwys o dan sawl gwahanol gategori e.e. Cyfrwng Cymraeg, ffydd, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ffyrdd peryglus ayyb ond y bydd  eraill nad ydynt yn gymwys o dan unrhyw feini prawf.
  • er bod £600k wedi’i ychwanegu at y gyllideb cludiant i ddysgwyr ddwy flynedd yn ôl er mwyn helpu i leddfu’r pwysau, nid oedd hynny'n ddigon gan fod gorwariant cyson ar y gyllideb.  Mae hon yn broblem sy'n codi dro ar ôl tro.
  • y bydd rhagor o newidiadau i ddeddfwriaeth AAA yn rhoi mwy o bwysau ar y gyllideb Cludiant Dysgwyr, ac y bydd prisiau tanwydd sy’n newid o hyd a chostau cynnal a chadw uwch –  pethau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod, hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gyllideb.  Yn ychwanegol mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi torri’r arian y mae’n ei roi i'r Cynghorau ar gyfer darpariaeth cludiant ysgolion; a
  • mae perthynas waith dda’n bodoli rhwng staff y Gwasanaeth Addysg a staff Adran Cludiant y Cyngor.  Er y gallai ymddangos yn anarferol bod y gyllideb cludiant i ddysgwyr yn cael ei gweinyddu a'i rheoli gan yr Adran Cludiant (o fewn Gwasanaeth yr Amgylchedd a Phriffyrdd) mae rheswm dilys dros yr ymdriniaeth hon, sef mai o fewn y Gwasanaeth Cludiant y mae’r arbenigedd o ran rheoli a chydlynu cludiant o bob math.  Swyddogion y Gwasanaeth Addysg sy’n pennu cymhwysedd disgyblion/myfyrwyr am gludiant am ddim i’r ysgol ac unwaith y bydd hynny wedi’i wneud y Gwasanaeth Cludiant fydd yn comisiynu ac yn cydlynu cludiant ar gyfer disgyblion unigol.  Mae’r ymdriniaeth hon yn gweithio’n dda i bawb.

 

Roedd yr Aelodau’n cydnabod y cymhlethdodau cysylltiedig â chludiant i ddysgwyr a deddfwriaeth berthnasol i addysg. Roeddent yn teimlo’n gryf y byddai’n fanteisiol, er mwyn hyrwyddo adolygiad trylwyr o elfennau anstatudol Polisi Cludiant i Ddysgwyr y Cyngor, sefydlu gweithgor o aelodau a swyddogion o’r gwasanaethau Addysg a Chludiant i edrych ar bob agwedd ar gludiant i ddarpariaeth addysg anstatudol.  Byddai’r grŵp yn gallu ymchwilio i drefniadau awdurdodau lleol eraill ochr yn ochr â risgiau ac effeithiau posibl rhoi’r gorau i unrhyw elfen o gludiant am ddim i ddarpariaeth anstatudol yn y dyfodol.  Roedd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion yn cytuno â'r ymdriniaeth hon ac yn teimlo y byddai’n rhoi mwy o eglurder ar gludiant i ddarpariaeth addysg statudol ac anstatudol gan helpu pawb i ddeall yr hyn y mae'r Cyngor yn ei ddarparu a pham.  Pwysleisiodd yr aelodau’r bod angen i'r Gweithgor ystyried natur wledig y sir a sicrhau na fydd unrhyw blentyn/fyfyriwr dan anfantais o ganlyniad i le maen nhw'n byw.  Dylai'r Gweithgor hefyd edrych ar gostau cadw'r gwahanol elfennau o gludiant dysgwyr i ddarpariaeth addysg anstatudol yn ogystal â dod o hyd i  ffyrdd posib o ariannu'r gwasanaeth.  Fel rhan o’i waith gallai’r grŵp benderfynu a yw'n dymuno edrych i mewn i sut y mae awdurdodau eraill wedi ymdrin â,  ac wedi ariannu cludiant i ddysgwyr i ddarpariaeth addysg anstatudol a’u heffeithlonrwydd, dulliau posibl i'w defnyddio wrth gynnal ei adolygiad h.y. ymgynghoriadau, arolygon ayyb ac ymdriniaethau o ran annog myfyrwyr i fynd i addysg bellach ayyb.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

Penderfynwyd: - ar ôl ystyried yr adroddiad ac yng ngoleuni'r sylwadau uchod:

(a)   sefydlu Gweithgor o bum aelod o’r Pwyllgor ac un aelod addysg cyfetholedig, gyda chefnogaeth swyddogion o Wasanaeth Addysg ac Adran Cludiant y Cyngor, i edrych ar bolisi Cludiant Dysgwyr y Cyngor o safbwynt darparu cludiant i ddarpariaeth addysgol anstatudol.  Bydd y Gweithgor yn canolbwyntio’n benodol ar:

(i)                 Rhoi eglurder a gwell dealltwriaeth o gyllideb cludiant dysgwyr flynyddol y  Cyngor a chostau cludo disgyblion/myfyrwyr i addysg statudol ac anstatudol, dewisol a heb fod yn ddewisol, gan gynnwys gwell dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cludiant addysg a dysgwyr a'u heffaith ar y gyllideb. Asesu effeithiau posibl rhoi’r gorau i ddarparu cludiant am ddim ar gyfer disgyblion/myfyrwyr sy'n mynychu'r elfennau anstatudol neu ddewisol amrywiol a gynigir ar hyn o bryd, gan gynnwys unrhyw risgiau i'r ddarpariaeth addysg ehangach yn yr ardal a'r sylfaen sgiliau sy'n angenrheidiol yn yr economi lleol. 

(ii)               sicrhau y caiff pob disgybl/myfyriwr yn y sir fynediad teg a chyfartal i ddarpariaeth addysg ac na chânt eu gwahaniaethu yn eu herbyn mewn unrhyw ffordd.

(b)   ceisio mynegiannau o ddiddordeb gan Aelodau’r Pwyllgor ac aelodau cyfetholedig i wasanaethu ar y gweithgor a rhannu ei gylch gorchwyl drafft gyda’r pwyllgor maes o law; a

(c)    bod y gweithgor yn adrodd ynghylch ei gasgliadau a'i argymhellion i'r Pwyllgor ar ôl darfod y gwaith.

 

 

Dogfennau ategol: