Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN

Ystyried adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a'r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet argymell i’r Cyngor  eu bod yn cefnogi achos busnes a sefydliad Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau/swyddogaethau hamdden 'o fewn cwmpas' y cytunwyd arnynt eisoes ynghyd â'r awdurdodiadau cysylltiedig.

 

Penderfyniad:

CYTUNWYD bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn -

 

(a)       Cefnogi’r Achos Busnes terfynol ar gyfer y Prosiect (bydd hyn yn cynnwys cywreinio'r achos busnes drafft wedi’i atodi yn Atodiad A o’r adroddiad);

 

(b)       cefnogi sefydlu Cwmni Cyfyngedig drwy Warant Masnachu Llywodraeth Leol Dielw (LATC);

 

(c)        cefnogi penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i Fwrdd y LATC;

 

(d)       Cefnogi cadw’r enw presennol ‘Hamdden Sir Ddinbych' ar gyfer y LATC, a

 

(e)       bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B Rhif Cyfeirnod 564 yn yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd yn gofyn i’r Cabinet ystyried yr Achos Busnes drafft (atodiad cyfrinachol ynghlwm â’r adroddiad) i sefydlu Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol ar gyfer ystod o weithgareddau/swyddogaethau cysylltiedig â hamdden “mewn cwmpas” a gytunwyd yn flaenorol ynghyd ag awdurdodiadau cysylltiedig cyn adrodd yn ffurfiol i’r Cyngor er mwyn i’r arbedion disgwyliedig allu cael eu cyflawni o flwyddyn ariannol 2020/21.

 

Ailadroddodd  y Cynghorydd Feeley werth a phwysigrwydd darpariaeth gwasanaeth hamdden y Cyngor o ran iechyd a lles pobl ac amlygodd y buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau hynny yn ddiweddar. Esboniwyd y rhesymeg y tu cefn i sefydlu Model Cyflwyno Amgen er mwyn darparu arbedion sylweddol i’r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni wrth alluogi i’r gwasanaeth hefyd fasnachu’n fwy masnachol er mwyn helpu cynnal cyfleusterau i’r dyfodol. Byddai’r model yn galluogi dull mwy hyblyg, arloesol ac entrepreneuraidd o droi at hamdden fasnachol wrth alluogi’r Cyngor hefyd i gadw rheolaeth lwyr gyda threfniadau llywodraethu grymus wedi’u cynnig. Cyfeiriwyd at Gynghorau eraill a oedd eisoes yn defnyddio modeli cyflwyno amgen tebyg i gyflwyno ystod o swyddogaethau ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd a darparwyd trosolwg o ran sut byddai Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol yn gweithredu’n ymarferol. Adroddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ar yr ystyriaethau ariannol y manylwyd arnynt yn gynhwysfawr yn yr adroddiad yn amlygu’r arbedion sylweddol a’r costau gweithredol a wariwyd ar y cwmni newydd ynghyd â chyfrifoldebau rheoli ariannol wrth symud ymlaen. Yn gryno, amcangyfrifwyd bod yr arbedion yn £1,107,000 gyda'r arbediad blynyddol net yn y flwyddyn gyntaf wedi’i amcangyfrif i fod yn £800,000. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am gadarnhad o delerau ac amodau staff ar gyfer y rheiny a fyddai’n cael eu trosglwyddo i’r cwmni newydd, oherwydd codwyd y cwestiwn ar ôl cyfarfod â’r undebau.  Byddai’r staff yr effeithir arnynt yn cael eu trosglwyddo i Gwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol  dan reoliadau TUPE ac yn destun yr un telerau ac amodau. Cynghorwyd y Cabinet hefyd, er bod y model cyfredol yn gysylltiedig â gweithgareddau swyddogaethau cysylltiedig â hamdden benodol, roedd cyfleoedd potensial i ychwanegu gweithgareddau/swyddogaethau eraill yn y dyfodol fel y bo’n briodol.

 

Nododd y Cabinet yr arbedion ariannol sylweddol sy’n codi o’r cynnig ynghyd â buddiannau tymor hwy i helpu diogelu hyfywedd ariannol ac ansawdd gwasanaethau hamdden wrth symud ymlaen gyda’i gilydd a chyfleoedd am dwf i’r dyfodol. Codwyd cwestiynau mewn perthynas â’r amryw agweddau ariannol sy’n codi o’r adroddiad ynghyd â threfniadau llywodraethu a ystyriwyd yn elfen allweddol wrth gyfrannu at lwyddiant Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol i’r dyfodol. Gofynnwyd am sicrwydd hefyd o ran rheoli risgiau dynodedig a diogelu telerau ac amodau staff wrth drosglwyddo ac yn y dyfodol.

 

Ymatebodd yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·        Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young sut y byddai llif arian y busnes newydd yn llifo.  Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid o ran sicrhau llif arian digonol yn y camau cyntaf a symud ymlaen, y bwriad oedd bod cymhorthdal y Cyngor yn cael ei dalu ymlaen llaw a fyddai’n caniatáu cyfalaf gweithio LATC i reoli ei faterion a hefyd i drosglwyddo cronfa arian parod i alluogi rhyddid i’r cwmni ynghylch buddsoddiad bach – ni rhagwelir y bydd y cwmni yn mynd dros y gyllideb, ond petai’n digwydd yna byddai’r ffigur arbedion net yn cael ei leihau yn unol â’r swm hwnnwgellir cymryd sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau llywodraethu grymus a gynigiwyd gyda dau fwrdd ar wahân (1) Bwrdd Gweithredol i reoli rhediad y cwmni o ddydd i ddydd, a (2) y Bwrdd Llywodraethu Strategol i ddarparu goruchwyliaeth strategol. Bydd cytundeb 10 mlynedd yn cael ei gytuno, ynghyd â strategaeth hamdden newydd. Byddai’r ddau fwrdd yn ychwanegol at fecanweithiau adrodd sefydledig y Cyngor ar gyflawni a pherfformiad, a byddai’r gwasanaeth hefyd yn destun proses herio’r gwasanaeth

·        esboniwyd y rhesymeg y tu cefn i beidio â chyhoeddi’r achos busnes drafft o gofio’i fod yn cynnwys elfennau cyfrinachol yn ymwneud â gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Deddf Llywodraeth Leol 1972 - teimlai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai teilyngdod mewn tynnu’r elfennau cyfrinachol i alluogi ar gyfer cyhoeddi gweddill yr achos busnes o gofio’i fod yn adroddiad cadarnhaol

·        rhoddwyd sicrwydd y byddai staff a drosglwyddir yn destun yr un telerau ac amodau a pholisïau cyflogaeth, gan gynnwys y cynllun pensiwn, a fyddai’n parhau yn y dyfodol – byddai angen i’r telerau hynny hefyd fod yn berthnasol i unrhyw staff newydd a gyflogir gan y cwmni, a bod y rhwymedigaethau cyfamodol a chadw rheolaeth gan y Cyngor yn darparu’r dulliau diogelu angenrheidiol yn hynny o beth

·        cydnabuwyd nad oedd yr un prosiect heb risgiau, y byddai llawer ohonynt yn yr achos hwn yn parhau i fod ar waith, p’un a oedd y gwasanaeth yn fewnol neu’n allanol. Bu’r cynnig trwy’r fethodoleg prosiect arferol oedd yn cynnwys cofrestr risg er mwyn lliniaru’r risgiau dynodedig cyn belled ag y bo hynny’n bosibl ac roedd y cynnig yn parhau i gael ei ystyried fel y dewis gorau i gyflwyno’r gwasanaeth wrth symud ymlaen. Ymhelaethodd y swyddogion ar y risgiau allweddol a ddynodwyd y manylwyd arnynt yn yr achos busnes a oedd yn cynnwys newidiadau i’r dyfodol mewn deddfwriaeth, trefniadau llywodraethu annigonol, a newidiadau i’r farchnad hamdden a chostau cyflwyno/cyflenwi – yn y sefyllfa achos gwaethaf, byddai’r achos yn mynd yn ôl at y Cyngor

·        cadarnhawyd yn ystod cam gweithredu ac ar ôl gweithredu’r prosiect, byddai gwaith yn cael ei wneud gan staff sy’n gweithredu ar ran y Cyngor a byddai protocolau Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol a wal Tsieineaidd yn cael eu datblygu a’u gweithredu i sicrhau gwahanu cyngor a lle’r oedd adran o’r Cyngor yn gweithredu ar ran y ddwy blaid, byddai gwahanol swyddogion yn cael eu dyrannu – byddai angen rhoi’r trefniadau hynny ar waith i weithredu’r gymeradwyaeth ganlynol o’r achos busnes gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor –

 

(a)       yn cefnogi’r Achos Busnes terfynol ar gyfer y Prosiect (bydd hyn yn cynnwys mireinio’r achos busnes drafft sydd ynghlwm fel Atodiad A yr adroddiad);

 

(b)       yn cefnogi’r gwaith o sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol dielw  cyfyngedig trwy Warant;

 

(c)        yn cefnogi penodiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Thir y Cyhoedd i Fwrdd Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol;

 

(d)       cefnogi cadw enw presennol ‘Hamdden Sir Ddinbych’ ar gyfer Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol; a

 

(e)       bod y Cabinet yn cadarnhau iddo ddarllen, deall ac ystyried yr Asesiadau Effaith ar Les (Atodiad B, Cyf 564 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaeth.

 

 

Dogfennau ategol: