Eitem ar yr agenda
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD SIR DDINBYCH - STRATEGAETH A FFAFRIR DRAFFT
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol
Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi ynghlwm) yn cyflwyno
argymhellion y Grwp Cynllunio Strategol mewn perthynas â Strategaeth a Ffefrir
Ddrafft y CDLl Newydd.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
argymell argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol i’r Cyngor ynglŷn
â’r Strategaeth Ddewisol CDLl Newydd Drafft fel a ganlyn -
(a) Lefelau Arfaethedig o Dwf Drafft:
68ha o dir cyflogaeth i gynnal rhagofyniad tir o 47.6ha.
Tir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd i gwrdd â'r gofyniad tai o 3,275.
(b) Dull Gofodol Arfaethedig Drafft:
Yn seiliedig ar Opsiwn 3 -
canolbwyntio ar ddatblygu yn Safle Strategol Bodelwyddan ac aneddiadau â
gwasanaeth; y tair haen uchaf yn yr hierarchaeth aneddiadau (prif ganolfannau,
canolfannau lleol a phentrefi) gyda thwf mwy cyfyngedig yn yr aneddiadau heb
wasanaethau eraill (mewnlenwi a safleoedd bach o fewn ffiniau datblygu), yn
canolbwyntio’n bennaf ar gwrdd ag anghenion lleol
(c) i argymell y Strategaeth a Ddewisir Drafft (Atodiad 2 o'r adroddiad) yn ei
gyfanrwydd i'r Cyngor, a
(d) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn
rhoi manylion y Gwaith a wnaed hyd yma ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd
Sir Ddinbych ac argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol mewn perthynas â’r
Strategaeth a Ffafrir Drafft ar gyfer yr CDLl. Byddai’r CDLl Newydd yn darparu
polisïau cynllunio cyfoes a dyraniadau safle ar gyfer datblygiadau i fynd i’r
afael â materion ac anghenion yn y sir ar gyfer y cyfnod 2018 - 2033. Yn gryno,
gosododd y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft -
Lefelau
Twf Arfaethedig Drafft –
·
68ha o dir cyflogaeth i
ddarparu ar gyfer gofyniad tir a ragwelir- o 47.6ha
·
Tir ar gyfer 3,775 o gartrefi
newydd i fodloni gofyniad tai o 3,275 o gartrefi
Dull
Gofodol Arfaethedig Drafft –
·
Canolbwyntio datblygiad ar
Safle Strategol Bodelwyddan a’r aneddiadau a wasanaethir: y tair haen uchaf yn
yr hierarchaeth aneddiadau (prif ganolfannau, canolfannau lleol a phentrefi)
gyda thwf mwy cyfyngedig mewn aneddiadau eraill heb eu gwasanaethu (safleoedd mewnlenwi
a safleoedd bach mewn ffiniau datblygu), sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fodloni
anghenion lleol.
Darparodd yr adroddiad rywfaint o gefndir mewn perthynas â sefydlu ac
aelodaeth o’r Grŵp Cynllunio Strategol ynghyd â datblygu’r Strategaeth a
Ffafrir Ddrafft o ran datblygu opsiynau twf a gofodol a gosod y cyd-destun ar
gyfer dynodi faint o dir datblygu oedd yn ofynnol ar gyfer tai a chyflogaeth ac
ymhle y dylid lleoli’r datblygiad hwnnw. Cytunodd mwyafrif y Grŵp
Cynllunio Strategol i argymell lefelau twf a ffafrir, y dull gofodol
arfaethedig a’r ddogfen Strategaeth a Ffafrir Ddrafft gyflawn i’r Cabinet a’r
Cyngor. Cefnogodd y Cadeirydd a
chynrychiolydd Grwpiau Ardal Aelodau Elwy y ffigur twf mewn tai ond nid y ffigur
tir cyflogaeth felly trwy oblygiad, ni wnaeth hefyd gefnogi’r dull gofodol.
Ystyriodd
y Cabinet yr adroddiad a’r argymhellion
a roddwyd gerbron gan y Grwpiau Cynllunio Strategol a chanolbwyntiodd y ddadl
ar y meysydd canlynol -
·
Cydnabyddodd y swyddogion yr
angen i ddarparu ar gyfer safle trosglwyddo Sipsiwn a Theithwyr trwy broses yr
CDLl a oedd yn cynnwys nifer o gamau a byddent yn cael eu cynnwys yng ngham yr
CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd ynghyd â phob dyraniad safle arall.
·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony
Thomas at faterion a godwyd gan rai Grwpiau Ardal Aelodau a theimlai y byddai’n
ddarbodus gohirio ystyriaeth o’r eitem i alluogi ar gyfer mynd i’r afael â’r
materion hynny a hefyd i adlewyrchu’n well anghenion busnesau bach a oedd yn
hollbwysig i economi Sir Ddinbych. Ar wahoddiad y Cadeirydd, y Cynghorydd Emrys
Wynne, crynhodd cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun ar y Grŵp
Cynllunio Strategol bryderon Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun mewn perthynas â’r
gostyngiad potensial yn swm y tir cyflogaeth sydd ar gael yn Rhuthun a’r
effaith andwyol dilynol ar yr ardal a ymhelaethwyd ymhellach arni gan y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Eglurodd y swyddogion fod ffigurau tir
cyflogaeth yn y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft wedi rhoi syniad bras o’r lefelau
twf arfaethedig a fu’n seiliedig ar adroddiad y BE Group a oedd wedi ystyried
y safleoedd mewn rhywfaint o fanylder ac esboniwyd y rhesymeg y tu cefn i’r
argymhellion o ran safleoedd Rhuthun yng Nglasdir a Lôn Parcwr. Rhoddwyd
sicrwydd nad oedd unrhyw ddyraniadau safle’n cael eu cynnig ar hyn o bryd ac os
oedd y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft yn cael ei chymeradwyo am ymgynghoriad,
byddai cyfle am adborth ac i roi gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo a cheisiadau
gan Grwpiau Ardal Aelodau i ailymweld â’r dyraniad safleoedd cyflogaeth yn cael
eu darparu ar eu cyfer. Yn ddiweddar, rhoddodd Grŵp Ardal Aelodau
Prestatyn safle cyflogaeth botensial gerbron i’w gynnwys yn yr CDLl a
chalonogwyd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd gwaharddiad i ddod â
safleoedd ychwanegol ymlaen yn ddiweddarach i’w hystyried fel rhan o’r broses
dyrannu safleoedd ac felly cefnogodd argymhellion y Grŵp Cynllunio
Strategol.
·
Heriodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts y ffigur twf cyflogaeth arfaethedig a sail y cyfrifiadau a
wnaed gan BE Group, yn enwedig mewn perthynas â’r defnydd o gyfraddau cwblhau’r
gorffennol na fyddent yn cymharu’n ffafriol yn Rhuthun, ac ystyriodd y dylai
dyraniadau fod yn seiliedig ar angen, gan ailadrodd ei bryderon mewn perthynas
â cholled potensial tir cyflogaeth sydd ar gael yn Rhuthun heb gynnig unrhyw
newid mewn ardaloedd eraill. Cynghorwyd y swyddogion ynghylch yr angen i
ymgymryd ag adolygiad o dir cyflogaeth a dynodi gofynion a chlustnodi safleoedd
yn yr CDLl oedd yn rhan o’r cam nesaf, o ganlyniad, adolygodd y BE Group
argaeledd presennol ac argymhellodd dir i’w gario ymlaen. Ailadroddwyd nad oedd
manylion ac argymhellion dyrannu’r safle’n rhan o’r cam presennol yn y broses
ond byddai’n cael ei ystyried yn fanwl yn y cam nesaf - nid oedd yr un o’r
safleoedd yn cael eu hystyried na’u diystyru ar y cam hwn. Dynododd y
Strategaeth a Ffafrif yr anghenion yn Sir Ddinbych a byddai trafodaeth fanylach
ar ardaloedd unigol yn digwydd yn nes ymlaen.
·
canolbwyntiodd rhywfaint o’r
drafodaeth ar rymuster y broses a ddefnyddiwyd i ymgysylltu aelodau a oedd yn cynnwys
sefydlu’r Grŵp Cynllunio Strategol a gadeiriwyd gan y Cynghorydd Brian
Jones (Aelod Arweiniol) ac a oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ac
un cynrychiolydd o bob Grŵp Ardal Aelodau i adrodd a rhoi adborth ar y
cyfraniadau gyda’i gilydd gyda dau sesiwn friffio o bob aelod. Gofynnodd y
Cynghorydd Mark Young am gadarnhad o ran argymhellion CCA a nodwyd bod y
Grŵp wedi pleidleisio o blaid yr argymhellion – 5 o blaid a 2 yn erbyn –
nid oedd y Cadeirydd a chynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Elwy yn cefnogi’r
ffigurau tir cyflogaeth. Adroddodd y Cynghorydd Brian Jones ar gyfarfodydd y Grŵp
Cynllunio Strategol ac ystyriwyd cyfoeth y dystiolaeth ynghyd â’i farn bersonol
mewn perthynas â thwf economaidd a phwysigrwydd busnesau bach. Teimlai’r
Cynghorydd Hilditch-Roberts ei bod hi’n bwysig i’r Aelod Arweiniol ac aelodau
eraill fod yn gysurus â’r argymhellion a holodd ynghylch yr amserlen ar gyfer
cyflawni ac a oedd cwmpas i fynd i’r afael ymhellach â materion eithriadol cyn
cyflwyno’r ddogfen i’r Cyngor. Nododd yr Arweinydd, ar wahân i Grŵp Ardal
Aelodau Elwy, fod pob cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau arall ar y Grŵp
Cynllunio Strategol wedi pleidleisio o blaid yr argymhellion a byddai cyfle
pellach i ddelio â’r materion a godwyd mewn perthynas â dyraniadau safle yn nes
ymlaen ac adolygu’r ffigurau tir cyflogaeth ar ôl y cyfnod ymgynghori.
Cyfeiriodd y swyddogion hefyd at y Cytundeb Cyflawni sy’n gosod yr amserlen
dynn ar gyfer llunio’r CDLl Newydd a gymeradwywyd gan y Cyngor ac yn dilyn
hynny, gan Lywodraeth Cymru.
·
Ailadroddodd y Cynghorydd
Richard Mainon bwysigrwydd sicrhau’r canlyniad cywir ar y cam hwn a holodd sut
roedd adborth o’r ymgynghoriad cynharach wedi dylanwadu ar y cynllun twf a
dyrannu tir cyflogaeth o gofio bod y llyw cychwynnol wedi bod ar gyfer Opsiwn
2. Heriodd y newid dilynol mewn cyfeiriad a’r effaith ar Safle Strategol
Allweddol Bodelwyddan, yn enwedig o gofio cyflwyno adroddiad BE Group ar gam
cymharol hwyr yn y broses a oedd wedi cael effaith sylweddol ar y ffigurau twf
a gyflwynwyd. Esboniodd y swyddogion y gwaith cychwynnol a gyflwynwyd gan
ystadegydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar sail sefyllfaoedd twf a
dewisiadau oedd yn gysylltiedig â thwf swyddi a chyfrifiadau gofyniad tir
dilynol i ddarparu lefel anghenion sylfaenol ar gyfer dewisiadau twf aelwydydd.
Roedd y BE Group wedi ymgymryd â darn o waith gwahanol mewn perthynas ag
adolygiad tir cyflogaeth a oedd yn cynnwys ymgynghori ag asiantau a busnesau ac adroddodd ddymuniad
cryf am ofynion twf pellach. Manylwyd ar y sail dystiolaeth ar gyfer y
cyfrifiadau lefel twf arfaethedig yn ymwneud â thir cyflogaeth yn adroddiad BE
Group a oedd ar gael i bob aelod.
Gwahoddodd
yr Arweinydd gyflwyniadau/cwestiynau gan bobl nad oeddent yn aelodau Cabinet –
·
Adroddodd y Cynghorydd Rhys
Thomas, Cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych
ar y Grŵp
Cynllunio Strategol fod y Grŵp
wedi cydweithio’n galed i fod o fantais i Sir Ddinbych i gyd a gellid mynd i’r
afael â materion ardal ward unigol ar gam diweddarach yn y broses. Ychwanegodd
y byddai agweddau ar y CDLl gyda chysylltiadau â Bargen Twf y Gogledd y dylid
eu trafod yn ystod y broses ymgynghori. Roedd yr Arweinydd yn parchu gwaith y
Grŵp Cynllunio Strategol ac o ran y fargen twf ranbarthol, cadarnhaodd y
potensial am fuddsoddiad enfawr
·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Arwel Roberts,
Cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Elwy ar y Grŵp Cynllunio Strategol
at ei ymwneud hwyr yn y Grŵp mewn cyfarfod Grŵp Ardal Aelodau Elwy
diweddar a ganolbwyntiodd ar y gofyniad tai ym Modelwyddan a phryderon mewn
perthynas â’r 26ha potensial o dir at ddefnydd diwydiannol ac a ystyriwyd
safleoedd eraill yn ardal Grŵp Ardal Aelodau Elwy. Esboniodd y swyddogion
fod gan Fodelwyddan ganiatâd amlinellol ar hyn o bryd hyd at fis Mawrth 2021 at
ddefnyddiau amrywiol gan gynnwys 26ha o dir cyflogaeth a argymhellwyd i’w gario
ymlaen i’r CDLl nesaf; cafwyd caniatâd am 1715 o gartrefi ym Modelwyddan oedd
heb ddirwyn i ben eto. Wrth fodloni anghenion tai, ystyriwyd caniatâd cynllunio
amlinellol a allai ddod gerbron ac yn hynny o beth, ystyriwyd bod caniatáu 400
o unedau yn asesiad rhesymol o ran yr hyn y gellid ei gyflwyno erbyn 2033.
·
Cadarnhaodd y Cynghorydd
Graham Timms, Cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Dyffryn Dyfrdwy ar y Grŵp
Cynllunio Strategol fod y Grŵp Cynllunio Strategol wedi ystyried swm
helaeth a chymhleth o wybodaeth a chytunodd gyda’r Cynghorydd Brian Jones mewn
perthynas â phwysigrwydd busnesau bach a’r angen am fuddsoddiad yn y maes hwnnw
ar draws Sir Ddinbych, gan gynnwys Dyffryn Dyfrdwy. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Economi a Thir y Cyhoedd fod potensial am gyllid i’r dyfodol yn
codi o Fargen Twf y Gogledd i ariannu safleoedd cyflogaeth yn ardal Dyffryn
Dyfrdwy ac ailadroddodd sicrwydd y byddai cyfle i ddwyn ymlaen safleoedd fel
rhan o gam i’r dyfodol yn y broses o alluogi i’r buddsoddiad hwnnw ddigwydd
·
Holodd y Cynghorydd Martyn
Holland am y potensial i Lywodraeth Cymru ymyrryd o gofio’u rhan nhw yn y
broses CDLl diwethaf. Cadarnhaodd y swyddogion
bod ganddynt hyder yn y ffigurau a ddarparwyd a fu’n seiliedig ar y
wybodaeth orau oedd ar gael. Roedd pwyslais presennol Llywodraeth Cymru yn
seiliedig ar gyflawniadwyedd a byddai adborth Llywodraeth Cymru’n cael ei ofyn
amdano fel rhan o’r broses ymgynghori.
Ystyriodd
y Cabinet argymhellion y Grŵp
Cynllunio Strategol fel y manylir arnynt yn yr adroddiad a ph’un ai i’w
hargymell i’r Cyngor. Cytunwyd pleidleisio o blaid pob argymhelliad ar wahân o
ran eglurder ac yn dilyn hynny –
PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn argymell argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol i’r Cyngor mewn perthynas â’r Strategaeth a Ffafrir
yr CDLl Newydd Drafft fel a ganlyn –
(a) Lefelau Twf Arfaethedig Drafft:
68ha o dir cyflogaeth i ddarparu ar
gyfer gofyniad tir amcanol o 47.6ha
Tir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd i ddiwallu gofyniad tai o 3,275 o
gartrefi
(b) Dull Gofodol Arfaethedig Drafft:
Ar sail Opsiwn 3 – canolbwyntio datblygiad yn Safle Strategol Bodelwyddan
ac aneddiadau a wasanaethir: y tair haen uchaf yn yr hierarchaeth aneddiadau
(prif ganolfannau, canolfannau lleol a phentrefi) gyda thwf mwy cyfyngedig mewn
aneddiadau eraill nad oeddent yn cael eu gwasanaethu (safleoedd mewnlenwi a
bach mewn ffiniau datblygu), sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fodloni anghenion
lleol
(c) argymell y Strategaeth a
Ffafrir Ddrafft (Atodiad 2 i’r adroddiad) yn ei chyfanrwydd i’r Cyngor, a
(d) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr
Adroddiad) fel rhan o’i ystyriaeth.
Cofnodwyd
y pleidleisiau ar gyfer pob un o’r argymhellion uchod fel a ganlyn –
(a) Y Cynghorwyr Hugh Evans, Bobby Feeley, Brian Jones, Julian
Thompson-Hill a Mark Young – O BLAID
Y Cynghorydd Richard Mainon – YN ERBYN
Y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Tony Thomas – DIM
PLEIDLAIS
(b) Y Cynghorwyr Hugh Evans,
Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts, Julian Thompson-Hill a Mark Young – O BLAID
Y Cynghorydd Richard Mainon – YN ERBYN
Y Cynghorwyr Brian Jones a Tony Thomas – DIM PLEIDLAIS
(c) Y Cynghorwyr Hugh Evans, Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts,
Brian Jones, Tony Thomas, Julian Thompson-Hill a Mark Young – O BLAID
Y Cynghorydd Richard Mainon – YN ERBYN
(d) PAWB O BLAID.
Gohiriwyd
y cyfarfod yn y fan hon (11.30 a.m.) am egwyl lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- LDP REPORT, Eitem 5. PDF 309 KB
- LDP REPORT - APP 1, Eitem 5. PDF 132 KB
- LDP REPORT - APP 2, Eitem 5. PDF 1 MB
- LDP REPORT - APP 3, Eitem 5. PDF 127 KB