Eitem ar yr agenda
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD SIR DDINBYCH - STRATEGAETH A FFEFRIR DDRAFFT
- Meeting of (Annual Meeting), Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 14 Mai 2019 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio
Strategol a Thai (copi ynghlwm) yn cyflwyno argymhellion gan y Grŵp
Cynllunio Strategol a’r Cabinet ynglŷn â Strategaeth Ddrafft a Ffefrir y
CDLl Newydd a cheisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft a
Ffefrir.
Cofnodion:
Datganodd y Cyng.
Tina Jones gysylltiad personol gan ei bod yn berchen ar ddarn o dir ym
Mhrestatyn.
Datganodd y Cyng. Paul Penlington gysylltiad personol gan fod ei
fam-yng-nghyfraith yn berchen ar ddarn o dir o fewn y CDLl.
Cyflwynodd y
Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy,
yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n cyflwyno argymhellion y Grŵp
Cynllunio Strategol a’r Cabinet ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd
a cheisiodd dderbyn cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft.
Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Holodd
y Cyng. Tony Flynn pam nad yw Cynghorwyr Tref wedi eu hysbysu.
Eglurwyd fod tair sesiwn alw heibio wedi ei chynnal ar gyfer Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned er mwyn iddynt gael cyfle i fod yn rhan o’r broses ar
gam cynnar. Os yw’r Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion bydd rhagor o
ymgysylltu â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ystod y broses ymgynghori.
·
Cadarnhaodd
y Cyng. Graham Timms bod yr holl Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Dinas, Tref a
Chymuned wedi cael gwybod am y cyfarfodydd a bod Cynghorwyr Sir wedi derbyn
dogfennau drwy gydol y broses.
Mynegodd y Cyng. Timms bryder nad oedd yr Aelod Arweiniol, y Cyng. Brian
Jones, wedi cefnogi’r proses na’r CDLl ac nad oedd wedi cynnig yr argymhelliad
yn ystod cyfarfod y Cabinet.
·
Yn
ystod y cyfarfod Cabinet hwn roedd y gweddarlledu wedi stopio oherwydd problem
gyda’r ffrwd rhyngrwyd allanol; roedd y broblem hon y tu hwnt i reolaeth y
Cyngor ac wedi effeithio ar ardal eang.
·
Cyfeiriwyd
at dir at ddibenion diwydiannol a chadarnhawyd y bydd y manylion yn cael eu
hystyried mewn mwy o fanylder yn dilyn y cyfnod ymgynghori.
Unwaith eto, eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad a gyflwynir i’r Aelodau yw
derbyn cymeradwyaeth y Cyngor i ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft.
·
Soniwyd
am yr elfennau a fyddai’n cael eu heffeithio arnynt gan y CDLl:
Ø
Y
Gymraeg – ceir polisi iaith a bydd digon o gyfleoedd i graffu ar yr elfen
iaith.
Ø
Tai
fforddiadwy – ceir diffiniad o dai fforddiadwy ym mharagraffau 8-10. Bydd angen
edrych ar bob ardal benodol o fewn y sir er mwyn cael cydbwysedd.
Byddwn yn edrych yn fanylach
ar hyn yn ystod cam nesaf y cynllun.
Ø
Cyflogaeth
– ceir gofyniad i ganfod beth fyddai’n briodol ymhob lleoliad ac unwaith eto,
byddai hynny’n cael sylw ar gam nesaf y cynllun.
·
Siaradodd
y Cyng. Richard Mainon am y CDLl blaenorol o gymharu â’r CDLl arfaethedig o ran
Bodelwyddan.
Mynegodd ei anfodlonrwydd â’r CDLl arfaethedig.
·
Tai Cymdeithasol
– Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod tai cymdeithasol y tu allan i’w
harbenigedd, ond y byddai’n dibynnu ar gyllid gan y Llywodraeth Ganolog a
Llywodraeth Cymru.
·
Fel
rhan o’r paratoadau i lunio CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd, byddai fframwaith
monitro effeithiol a phriodol yn cael ei ddatblygu a’i gynnwys o fewn y cynllun
a byddai’n ffurfio sail ar gyfer llunio’r Adroddiad Monitro Blynyddol.
Yr Adroddiad Monitro Blynyddol fyddai’r prif ddull ar gyfer mesur ac
asesu'r cynnydd wrth weithredu polisïau a chynigion y CDLl Newydd.
·
Mae’r
cynllun yn destun gwerthusiadau cynaliadwyedd a rheoliadau cynefinoedd i
sicrhau bod yr effaith amgylcheddol cyn lleied â phosibl.
Yn y fan hon,
gofynnodd y Cyng. Joan Butterfield am bleidlais wedi ei chofnodi.
Dywedodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod yn rhaid i o leiaf un rhan o
chwech o’r aelodau sy’n bresennol gytuno i gael pleidlais wedi ei chofnodi. Bu
i fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi ei chofnodi.
Cyn cynnal y
bleidlais, gofynnodd y Cyng. Anton Sampson am egwyl fer i’r grwpiau gwleidyddol
drafod. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Ann Davies, ac roedd pawb yn gytûn.
Yn y fan hon (11.45 a.m.) cafwyd egwyl o ddeg
munud.
Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.55 a.m.
Gofynnodd y Cyng.
Sampson am sicrwydd y bydd y mater yn cael ei graffu arno ymhellach.
Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, yn dilyn yr
ymgynghoriad wyth wythnos, y bydd yr ymatebion yn cael eu cyflwyno, eu
dadansoddi a'u hadrodd wrth y Grŵp Cynllunio Strategol. Bydd yr ymatebion
wedyn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn.
Cafwyd pleidlais
wedi ei chofnodi, fel a ganlyn:
O blaid yr
argymhellion a geir yn yr adroddiad – y Cynghr. Mabon ap Gwynfor, Brian
Blakeley, Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Ann
Davies, Meirick Lloyd Davies, Hugh Evans, Huw Hilditch-Roberts, Hugh Irving,
Alan James, Tina Jones, Huw Jones, Gwyneth Kensler, Geraint Lloyd-Williams,
Barry Mellor, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Paul Penlington, Peter
Prendergast, Arwel Roberts, Anton Sampson, Glenn Swingler, Tony Thomas, Rhys
Thomas, Graham Timms, Joe Welch, David Williams, Huw Williams, Emrys Wynne, a
Mark Young.
Yn erbyn yr
argymhellion a gwir yn yr adroddiad – y Cynghr. Tony Flynn, Rachel Flynn,
Richard Mainon, Christine Marston, Peter Scott, ac Andrew Thomas.
Ymatal – Y Cyng.
Brian Jones.
O blaid – 32
Yn erbyn – 6
Ymatal – 1
Felly:
PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn:
(i)
Cymeradwyo Strategaeth a Ffefrir Ddrafft y
CDLl Newydd (Atodiad 2) ar gyfer ymgynghori;
(ii)
Awdurdodi’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd i wneud newidiadau gramadegol a mân newidiadau i eiriad Strategaeth a
Ffefrir Ddrafft y CDLl a all fod angen eu gwneud cyn yr ymgynghoriad i sicrhau
cysondeb gyda sail dystiolaeth y CDLl a Pholisi Cynllunio Cymru (10fed
Argraffiad, Rhagfyr 2018);
(iii)
Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 3) fel rhan o’i ystyriaethau.
Dogfennau ategol:
- LDP Council Report May 19 WELSH, Eitem 7. PDF 277 KB
- Appendix 1 LDP Timetable, Eitem 7. PDF 136 KB
- Appendix 2 LDP Preferred Strategy, Eitem 7. PDF 1 MB
- Appendix 3 WBIA, Eitem 7. PDF 127 KB
- Appendix 4 Terms of reference SPG, Eitem 7. PDF 140 KB