Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – RHYL SPICE, 64-66 HEOL Y FRENHINES, Y RHYL
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran Rhyl Spice, 64-66 Heol y Frenhines, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais, fel y’i diwygiwyd, yn destun amodau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) a oedd yn ymwneud â’r materion isod –
(i)
cais gan gwmni Cyfreithwyr
Gamlins Law ar ran yr Ymgeisydd, Md Muhim Uddin (Atodiad A yr adroddiad) ar
gyfer Trwydded Safle newydd ar gyfer Rhyl Spice, 64 – 66 Heol y Frenhines, Y
Rhyl, yn cynnig gweithredu fel bwyty a
siop tecawê gyda darpariaeth danfon archebion dros y ffôn, ac yn yr holl
achosion byddai alcohol yn cael ei werthu neu ei ddanfon dim ond pan fyddai’r
cwsmer yn prynu pryd o fwyd;
(ii) cais gan yr ymgeisydd am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy
a ganlyn –
GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU Y BYDD YN GYMWYS |
O’R AMSER ISOD |
TAN YR AMSER ISOD |
Lluniaeth ar y safle ac oddi arno yn hwyr y nos |
Dydd Llun – Dydd Sul |
23:00 |
02:00 |
Cyflenwi Alcohol (ar gyfer ei yfed ar y safle neu oddi arno) |
Dydd Llun – Dydd Sul |
11:00 |
02:00 |
Yr oriau y byddai’r safle ar agor i’r cyhoedd |
Dydd Llun – Dydd Sul |
11.00 |
02.00 |
Mynediad olaf i’r bwyty a’r cyfleuster tecawê am 01.00. Gwasanaeth danfon dros y ffôn tan
02.00. (Alcohol i’w werthu ar y cyd â
bwyd) |
(iii) sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru a chynnig ar gyfer nifer o amodau (a
gytunwyd gan yr Ymgeisydd) i’w gosod ar y drwydded, petai’n cael ei chaniatáu,
yn ymwneud â danfon alcohol er mwyn helpu i hybu’r amcanion trwyddedu a ganlyn:
atal trosedd ac anhrefn ac amddiffyn plant rhag niwed (Atodiad B yr adroddiad);
(iv) dau sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb (Atodiad C yr
adroddiad) mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud ag aflonyddu posibl
oherwydd sŵn a llygredd aer;
(v) y ffaith bod y swyddogion wedi cynnig gwasanaeth cyfryngu rhwng yr
Ymgeisydd a’r Partïon â Diddordeb ond nad oedd unrhyw ddatrysiad hyd yma;
(vi) yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i Ddatganiad Polisi
Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Gwladol;
deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a hefyd
(vii) y dewisiadau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth ddod i benderfyniad ar y cais.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad ac amlinelliad o
ffeithiau’r achos.
CAIS YR YMGEISYDD
Roedd yr Ymgeisydd Md Muhim Uddin a’i gynrychiolydd cyfreithiol, Mr. P.
Williams o gwmni Cyfreithwyr Gamlins Law yn bresennol i gefnogi’r cais.
Esboniodd Mr. Williams y cynigion ar gyfer gweithredu’r drwydded gan
gynghori y byddai alcohol yn cael ei werthu ar y cyd â phrydau bwyd mawr. Ni
fyddai alcohol ar werth ar ôl 01.00 o’r gloch yn y bwyty a’r siop tecawê yn
unol ag amseroedd mynediad olaf, ac ar ôl 02.00 o’r gloch yn achos prydau
tecawê y gwasanaeth archebu a danfon dros y ffôn.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau yn ymwneud ag amodau
ychwanegol posibl i’w cynnwys yn yr Amserlen Weithredu o ran danfon alcohol ac
roedd yr Ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau hyn. O ran y ddau sylw ysgrifenedig a
dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus
angenrheidiol, dywedodd Mr. Williams fod y ddau yn cyfeirio at sŵn gan
gwsmeriaid yn gadael y safle ar ôl 23.00 o’r gloch ac yn ymgynnull yn yr ardal
ysmygu ynghyd â phroblemau yn ymwneud ag arogleuon. Dywedodd fod y pryderon hynny wedi bod yn
seiliedig ar ymddygiad y deiliaid blaenorol a bod y safle wedi cael ei gau rai
misoedd ynghynt oherwydd problemau rheoli. Roedd yr Ymgeisydd wedi bod yn
gweithredu ar y safle ers 9 Ebrill 2019 yn unig ar sail gyfyngedig ac nid oedd
wedi bod ar agor yn hwyrach na 23.00 o’r gloch. Felly, mae’n rhaid bod y
pryderon a godwyd yn gysylltiedig â’r deiliaid blaenorol. Byddai’r Ymgeisydd yn
gweithredu yn unol â’r amodau caeth a nodwyd yn y cais er mwyn hybu amcanion
trwyddedu, a thynnwyd sylw penodol at y mesurau i’w rhoi ar waith er mwyn atal
niwsans cyhoeddus ac unrhyw aflonyddwch o ran sŵn i’r eiddo cyfagos o
ystyried pryderon y Partïon â Diddordeb. O ran problemau yn ymwneud ag
arogleuon, roedd y system echdynnu wedi cael ei hadnewyddu a’r system awyru
wedi cael ei hymestyn a dylai hyn, ynghyd â rheolaeth dda o’r hidlyddion aer,
fynd i’r afael â’r pryderon hynny. Tynnwyd sylw’r Aelodau hefyd at y Canllawiau
a gyhoeddwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 o safbwynt rôl awdurdodau â
chyfrifoldeb i gyflwyno sylwadau a nodwyd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan
Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o ran problemau sŵn na llygredd ac ni
ddarparwyd unrhyw dystiolaeth o gwynion am y materion hyn.
Cyfeiriodd Mr. Williams ymhellach at y sylwadau a dderbyniwyd gan y Partïon
â Diddordeb. Dywedodd iddynt gael eu cyflwyno ar yr un diwrnod, eu bod wedi’u
gosod ar ffurf debyg a’u bod yn tynnu sylw at yr un niwsans. Nid oedd y ddau
Barti â Diddordeb wedi bod yn fodlon ystyried cyfryngu ar y mater er gwaethaf
sawl ymgais i wneud hynny a gan nad oeddynt wedi dod i’r gwrandawiad nid oedd
yn bosibl ystyried eu sylwadau yn llawn a chanfod pam nad oeddynt wedi cwyno
wrth Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn y gorffennol a pham nad oedd unrhyw
drigolion eraill yn yr ardal wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad. Dywedwyd bod
nifer o safleoedd eraill yn gwerthu bwyd yn yr ardal ac nid oedd yn glir a oedd
gan y Partïon â Diddordeb fuddiant neu gysylltiad â busnesau tebyg – yn enwedig
gan fod un o’r Partïon â Diddordeb wedi bod yn gweithredu busnes tebyg iawn tan
yn ddiweddar. Yng ngoleuni’r amodau caeth a gynigiwyd, ac yn unol â pharagraff
9.6 y Canllawiau a gyhoeddwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003, cynigiwyd y
dylid ystyried bod y sylwadau hyn yn ddisylwedd a’u bod yn ymwneud â mân
broblemau ar y mwyaf ac na fyddai unrhyw gamau lliniarol yn gymesur ac na ellid
eu cyfiawnhau.
Yn olaf, cyfeiriwyd at y broses adolygu a oedd yn cynnig amddiffyniad
allweddol i’r gymuned pan fyddai problemau’n codi ar ôl caniatáu’r drwydded gan
olygu bod modd gofyn i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded.
Gofynnodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu am fwy o eglurder ynghylch yr amseroedd
y gofynnwyd amdanynt ar gyfer yr oriau trwyddedu o ystyried bod y cais yn nodi
y byddai alcohol yn cael ei werthu ar y safle ac oddi arno tan 02.00 o’r gloch.
Cadarnhaodd Mr. Williams mai’r bwriad oedd gwerthu alcohol tan 01.00 o’r gloch
yn y bwyty a’r siop tecawê i gyfateb â’r amseroedd mynediad olaf. Byddai
alcohol yn cael ei werthu gyda bwyd yn unig fel rhan o’r gwasanaeth archebu a
danfon dros y ffôn tan 02.00 o’r gloch.
Rhoddodd yr Ymgeisydd a’i gynrychiolydd yr atebion a ganlyn i gwestiynau’r
aelodau –
·
ymhelaethwyd ar y gwaith o
adnewyddu’r system echdynnu arogleuon a dywedwyd y gellid ei haddasu/newid
ymhellach os derbynnir cwyn yn y dyfodol
·
esboniwyd bod yr amodau a gynigiwyd
gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer danfon alcohol yn cynnig y dylid gwario o
leiaf £5 ar fwyd ac roedd yr Ymgeisydd wedi cytuno i hyn – rhoddwyd sicrwydd na
fyddai alcohol yn cael ei werthu os na fyddai’n ategol i bryd tecawê mawr
·
eglurwyd y gallai’r
gwerthiant/amser y gwerthiant ddigwydd dros y ffôn petai cardiau credyd neu
daliadau dros y ffôn yn cael eu derbyn, neu gydag arian parod ar ôl danfon y
bwyd – byddai’n rhaid i’r gyrrwr benderfynu a oedd y cwsmer yn feddw ai peidio
a gwirio pwy oedd y cwsmer ar garreg y drws
·
roedd y bwriad i gadw cofnod o
eiddo wedi’u gwahardd lle gwrthodwyd danfon bwyd/alcohol yn estyniad ar y
system bresennol sy’n cael ei gweithredu gan safleoedd trwyddedig lle cedwir
cofnodion o unigolion y gwrthodwyd eu gweini ac/neu a oedd wedi’u gwahardd o’r
safle.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD
CYMRU
Yn absenoldeb cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru cymerwyd bod y sylwadau
a nodwyd yn yr adroddiad yn gywir. Roedd yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd gan
yr Heddlu mewn perthynas â danfon alcohol wedi cael eu cytuno gyda’r Ymgeisydd
i hybu’r amcanion trwyddedu petai’r cais yn cael ei ganiatáu yn ei ffurf
wreiddiol.
CYFLWYNIAD Y PARTÏON Â
DIDDORDEB
Derbyniwyd dau sylw ysgrifenedig (Atodiad C yr adroddiad) gan Bartïon â
Diddordeb yn ardal y safle a oedd yn ymwneud ag achosion posibl o aflonyddu
oherwydd sŵn a llygredd aer. Yn absenoldeb y ddau Barti â Diddordeb
cymerwyd bod eu sylwadau yn gywir.
DATGANIAD OLAF YR YMGEISYDD
Cadarnhaodd Mr. Williams nad oedd ganddo ddim byd pellach i’w ychwanegu at
ei gyflwyniad.
TORRI I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (10.05 a.m.) torrodd
yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS
Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr amodau a nodir isod, y caniateir Trwydded Safle fel a
ganlyn –
GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU Y BYDD YN GYMWYS |
O’R AMSER ISOD |
TAN YR AMSER ISOD |
Lluniaeth ar y Safle ac oddi
ar y Safle yn Hwyr y Nos |
Dydd Llun – Dydd Sul |
23:00 |
02:00 |
Cyflenwi Alcohol – 3.1
i’w yfed ar y safle ac oddi arno yn y bwyta a thrwy’r cyfleusterau tecawê i’w yfed oddi ar y safle yn
unig fel rhan o’r gwasanaeth archebu a danfon
dros y ffôn |
Dydd Llun – Dydd Sul Dydd Llun – Dydd Sul |
11:00 11.00 |
01:00 02:00 |
Oriau y byddai’r safle ar
agor i’r cyhoedd |
Dydd Llun – Dydd Sul |
11.00 |
02.00 |
Mynediad olaf i’r bwyty a’r
cyfleuster tecawê am 01.00. Y
gwasanaeth archebu a danfon dros y ffôn tan 02.00. (Alcohol i’w werthu yn ategol i’r bwyd) |
AMODAU
Fel
y’u cynigiwyd gan Heddlu Gogledd Cymru –
AR GYFER DANFON ALCOHOL
YN UNIG:
1. Rhoddir gwybod i’r holl gwsmeriaid pan fyddant yn
prynu os yw’r gyrrwr o’r farn eu bod eisoes wedi meddwi, yna ni fydd alcohol yn
cael ei ddanfon a rhoddir ad-daliad llawn.
Ni dderbynnir unrhyw archebion gan gwsmeriaid y credir eu bod yn feddw
ar adeg y gwerthiant.
2. Rhoddir gwybod i gwsmeriaid pa fyddant yn archebu
bod y cwmni yn gweithredu polisi 25 oed. Os gofynnir iddynt, rhaid i gwsmeriaid
ddangos prawf o’u hoedran/hunaniaeth pan ddanfonir y nwyddau.
3. Gellir cludo sawl archeb yn y cerbyd danfon ar yr
un pryd.
4. Danfonir eitemau i gyfeiriadau preswyl neu fusnes
dilys yn unig. Cedwir cofnod o’r holl gyfeiriadau lle danfonir eitemau a bydd
hwn ar gael i’r Heddlu a Swyddogion yr Awdurdod Lleol os gofynnir amdano.
5. Bydd unrhyw gyfeiriad lle ceisiwyd danfon eitemau
ond gwrthodwyd eu danfon yn cael ei roi ar restr waharddedig ac ni dderbynnir
archebion pellach o’r cyfeiriad hwnnw. Cedwir cofnod o’r holl gyfeiriadau ar y
rhestr o eiddo gwaharddedig a bydd hwn ar gael i’r Heddlu a Swyddogion yr
Awdurdod Lleol os gofynnir amdano.
6. Gwerthir alcohol ar y cyd â bwyd yn unig. Rhaid gwario o leiaf £5 ar fwyd.
Cafodd
penderfyniad yr Is-bwyllgor ei gyflwyno i’r Ymgeisydd gan y Cadeirydd ac
esboniodd y Cyfreithiwr beth oedd y rhesymau dros y penderfyniad, fel a ganlyn
–
Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau yn yr achos hwn yn
ofalus ac roeddynt yn fodlon bod yr amodau arfaethedig a gytunwyd gyda Heddlu
Gogledd Cymru yn gymesur ac y byddent yn darparu amddiffyniad pellach ac o
gymorth i hybu’r amcanion trwyddedu. O ran y sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd
gan y Partïon â Diddordeb, roedd yr Aelodau o’r farn nad oedd unrhyw gwynion
wedi cael eu gwneud i’r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd mewn cysylltiad â’r
safle o dan y rheolwyr presennol ac nid oedd y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd
wedi cyflwyno unrhyw sylwadau er eu bod yn awdurdod â chyfrifoldeb. Roedd y
ffaith nad oedd y gwrthwynebwyr wedi dod i’r cyfarfod i fynegi eu pryderon yn
golygu bod yn rhaid i’r Is-bwyllgor ystyried eu sylwadau ysgrifenedig fel
ffaith ac nid oeddynt wedi cael cyfle i holi’r gwrthwynebwyr ymhellach. O ganlyniad, daeth yr Is-bwyllgor i’r
casgliad bod y cwynion yn ymwneud â deiliaid blaenorol y safle. Er nad oedd yr
Is-bwyllgor wedi mynd mor bell â datgan bod y gwrthwynebiadau yn ddisylwedd, ni
roddwyd llawer o bwys arnynt ac ym marn yr Aelodau nid oedd unrhyw bryderon ar
hyn o bryd. Fel rhagofal, roedd gan y gwrthwynebwyr yr hawl i ofyn am adolygu’r
cais petai’r safle yn cael ei weithredu yn groes i’r amcanion trwyddedu. Fodd
bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau manwl a nodwyd yn y cais
ac a fyddai’n cael eu gosod ar y safle yn ddigonol i hybu’r amcanion trwyddedu.
Gwnaed mân newid i’r oriau trwyddedu yn dilyn esboniad o’r oriau caniataol y
gofynnwyd amdanynt gan yr Ymgeisydd a’i gynrychiolydd cyfreithiol.
Roedd hawl gan yr holl bartïon i apelio yn erbyn penderfyniad yr
Is-bwyllgor Trwyddedu i’r Llys Ynadon cyn pen 21 diwrnod.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.20 a.m.
Dogfennau ategol: