Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD Y PWYLLGOR SAFONAU MEWN BYWYD CYHOEDDUS

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i hysbysu’r Pwyllgor o gynnwys yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad 2019 gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn adolygu safonau moesol llywodraeth leol yn Lloegr.

 

Er bod yr adolygiad yn berthnasol i weithredu'r drefn safonau yn Lloegr yn unig fe ddywedodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad a’i argymhellion yn rhoi cymhariaeth ddiddorol o'r systemau yng Nghymru a Lloegr.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr aelodau fod y Bwrdd Safonau (Lloegr) blaenorol wedi bod dan rwymedigaeth i archwilio’r holl gwynion a bod y system wedi colli pob parch cyn cael ei ddiddymu yn 2012. Cafodd y system hynod ganoledig ei newid am system hynod ddatganoledig yn Lloegr.

 

Yn wahanol i god ymddygiad enghreifftiol Cymru oedd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol Cymru, roedd y cynghorau yn Lloegr bellach yn gallu penderfynu ar gynnwys y codau eu hunain.  Y ddyletswydd statudol ar gyfer y codau, wrth edrych arnynt yn eu cyfanrwydd, oedd i fod yn gyson gyda saith egwyddor bywyd cyhoeddus (“Egwyddorion Nolan”) a chynnwys darpariaethau ar gyfer cofrestru a datgan cysylltiadau ariannol a heb fod yn ariannol. Y bwriad oedd nid trin y Saith Egwyddor fel cod hunangynhwysol ond yn hytrach bod yr egwyddorion yn cael eu defnyddio i danategu arweiniad ar ymddygiad oedd yn ymarferol, wedi’i ddrafftio’n dda ac yn berthnasol yn lleol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod system Lloegr wedi canolbwyntio ar ddatgelu diddordebau ariannol ond gyda diffyg prawf gwrthrychol ar yr hyn a welir fel cysylltiad sy'n rhagfarnu. Nid oedd gofyniad i gofrestru rhoddion neu letygarwch. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y diffyg cosbau yn system safonau Lloegr yn debygol o wneud swyddogaeth swyddogion monitro yn Lloegr yn anodd.

 

Cynghorwyd Aelodau bod y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wedi cymryd tystiolaeth o gyrff safonau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a bod llawer o’r arferion da a amlygir yn adlewyrchu’r arferion presennol yng Nghymru.

 

Roedd yr adolygiad wedi canfod o’r cynghorau yn Lloegr oedd wedi derbyn cwynion bod 83% yn mynegi bod cwynion wedi eu gwneud am ymddygiad amharchus, 63% am fwlio a 31% am ymddygiad trafferthus. Yn ymateb i gwestiwn fe ddywedodd y Swyddog Monitro yn anecdotaidd fod y mwyafrif o gwynion yng Nghymru ar gyfer ymddygiad ac anghwrteisi a'i fod yn debygol bod methiant i ddatgelu diddordebau wedi’i dan-riportio. Dyma faes sydd o bosib angen ei ddatblygu.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod y pwynt hwn yn cael ei ddadlau mewn mwy o fanylion yn y cyfarfod nesaf ar y cyd â chasgliad o'r cwynion a wnaed.   Gofynnodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes bod sylw hefyd yn cael ei roi i doriadau mewn Cod Ymddygiad a oedd yn debyg i’r enghreifftiau o fwlio a ddefnyddiwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn nhudalen 76 o’r adolygiad.

 

Trafododd y Pwyllgor yr achos o fwlio ac ymddygiad camdriniol tuag at ferched yn aml mewn cynghorau dan ddylanwad dynion. Cynghorodd y Swyddog Monitro ar y nifer o gamau gweithredu cydraddoldeb a ddefnyddiwyd i wella amrywiaeth a oedd yn cael eu defnyddio gan nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus. Dywedodd hefyd fod rôl y Pwyllgor Safonau yn berthnasol i’r Cod Ymddygiad a bod y rhan fwyaf o ymosodiadau ar gynghorwyr yn dod gan y cyhoedd yn hytrach na chyd-gynghorwyr, a bod llawer o’r rhain yn gysylltiedig â'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: