Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 41/2019/0089/PF FFERM NANT GWILYM, TREMEIRCHION LL17 0UG

Ystyried cais i drawsnewid adeiladau allanol i ffurfio 4 o unedau llety gwyliau i’w gosod, codi llofft ystlumod, gosod tanc septig, addasiadau i drefniadau presennol y fynedfa i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn yr adeiladau allanol yn Fferm Nant Gwilym, Tremeirchion, LL17 0UG (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i drosi tai allan i greu pedair uned llety gwyliau, codi llofft ystlumod, gosod tanc septig, newid trefn bresennol y fynedfa i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar fferm Nant Gwilym, Tremeirchion.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Jamie Bradshaw (o blaid) – dywedodd y byddai’r cynllun arfaethedig o ansawdd uchel, ar sail dyluniad da i drosi tai allan yn bedair o unedau llety gwyliau.  Derbyniwyd nad oedd y lefelau gwelededd yn bodloni safonau NCT18 ar gyfer y terfyn cyflymder ar y ffordd i’r safle, ond byddai’r datblygiad yn gwella mynediad ac yn rhoi gwelededd digonol o’r briffordd.  Byddai’r cynllun hefyd yn cynnwys digon o leoedd i barcio, gyda mwy o le ar y buarth pe byddai angen.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi mynegi pryderon ynglŷn â llygredd golau, ond roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyd-bwyllgor Ymgynghorol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn fodlon y gellid cynnwys amod cynllunio a fyddai’n gofyn am gyflwyno manylion unrhyw olau allanol er cymeradwyaeth cyn gosod unrhyw olau o’r fath y tu allan.

 

Dadl Gyffredinol – cynhaliwyd ymweliad safle am 9.00 a.m. ddydd Gwener 12 Ebrill 2019. 

 

Cadarnhaodd Aelod y Ward, y Cynghorydd Christine Marston, y bu’n bresennol yn ystod yr ymweliad, lle canolbwyntiwyd ar y problemau gwelededd ac addasrwydd y fynedfa.

 

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

 

·         Mynegodd y Cynghorydd Merfyn Parry bryderon ynghylch y datblygiad oherwydd y briffordd.  Nid oedd mynedfa’r datblygiad yn bodloni safonau NCT18, a gofynnwyd a fyddai’r ail fynedfa (yn nes at Fodfari) yn cau.  Holodd y Cynghorydd Parry hefyd a wnaethpwyd arolwg o gyflymder symudiadau traffig, neu a oedd angen cynnal un.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd fod y cynnig yn cynnwys adleoli rhan o’r wal derfyn bresennol wrth y fynedfa er mwyn gwella gwelededd.  Roedd mynedfa’r safle eisoes yn fynedfa, ac roedd y swyddogion wedi ystyried hynny.  Yn ôl NCT18, pan gyflwynid ceisiadau ar gyfer safle oedd eisoes wedi’i datblygu lle’r oedd y fynedfa bresennol islaw’r safon, dylai fod lle ar gyfer rhywfaint o ailddatblygu os oedd hynny’n cynnwys gwella’r fynedfa, hyd yn oed pe byddai’r fynedfa honno’n dal islaw’r safon. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Parry ynglŷn â chyflymder traffig, cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd na fyddai symudiadau a chyflymder y traffig ar y ffordd yn newid gan fod mynedfa i’r datblygiad eisoes.  Byddai’r safonau’n berthnasol i unrhyw fynedfa newydd yn yr ardal, ond nid yr un bresennol.  Cadarnhaodd, wedi ystyried popeth, nad oedd modd cyfiawnhau gwrthod y cais am resymau priffyrdd.

 

·         Soniwyd am fynediad i lwybr cyhoeddus 28 a oedd yn ffinio ag ardal y cais, a holwyd a fyddai’r datblygiad yn effeithio ar y llwybr hwnnw.  Cadarnhawyd na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar y llwybr cyhoeddus.

 

·         Soniwyd am y pant yn y ffordd a fedrai achosi problemau gan na fyddai modd gweld cerbydau o bell pe byddent yn y pant. 

 

·         Roedd Aelod y Ward, y Cynghorydd Christine Marston, yn cytuno â’r pryderon a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Bodfari a’r Cynghorydd Merfyn Parry.  Pe caniateid y cais, fodd bynnag, gofynnodd am gynnwys amod ychwanegol i gau’r ail fynedfa (yn nes at Fodfari) yn barhaol er diogelwch.

 

Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

Cynnig – cyflwynodd y Cynghorydd Merfyn Parry gynnig, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Mark Young, i wrthod y cais gan nad oedd yn cydymffurfio â NCT18.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

YMATAL – 0

GWRTHOD – 3

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Dogfennau ategol: