Eitem ar yr agenda
YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AR BROSIECTAU CYFALAF Y BWRDD IECHYD
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 4 Ebrill 2019 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran cynnydd gyda
phrosiectau cyfalaf yn Sir Ddinbych sy’n ymwneud â Phrosiect Ysbyty Cymuned
Gogledd Sir Ddinbych, Canolfan Iechyd Corwen, Clinig Rhuthun a datblygu’r Timau
Adnoddau Cymunedol.
10.45 a.m. – 11.30 a.m.
Cofnodion:
Gwahoddwyd
cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar gynnydd prosiectau cyfalaf yn Sir
Ddinbych.
Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol – Therapïau gyflwyniad ar gynnydd y gwaith i
ddatblygu Campws Iechyd a Lles ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ar ac o gwmpas
safle’r hen Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. Dywedodd fod Llywodraeth
Cymru wedi cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol y Bwrdd Iechyd ar gyfer y campws
ym mis Ionawr 2019 a bod y Bwrdd bellach yn cymryd y camau terfynol i ddatblygu
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect. Mae hyn yn cynnwys gwirio cadernid a
threfniadau dylunio a thendro'r adeilad a’r modelau gwasanaeth; gyda'r bwriad o
gyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2020. Yn
ystod y cyflwyniad disgrifiodd y model arfaethedig ar gyfer gwasanaethau a’i
fudd i’r ardal a’i phreswylwyr, sef –
·
Gwaith
integredig rhwng gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi gofal brys / yr un
diwrnod, a fyddai’n lleihau’r galw ar Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd
·
Rhoi’r
gallu i bractisiau clwstwr reoli’r galw am ofal sylfaenol
·
Cynyddu’r
ddarpariaeth sydd ar gael ar ôl 5pm yn yr ardal
·
Gwella’r
cydweithio rhwng partneriaid iechyd, yr awdurdod lleol, y trydydd sector a’r
gymuned drwy wneud y mwyaf o’r adnoddau ac integreiddio a chydleoli timau
amlasiantaeth neu amlbroffesiwn a gwella’r broses o recriwtio a chadw staff
·
Campws
iechyd a lles ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy’n darparu ystod o lwybrau
gofal, o hunanreoli i wlâu gofal cleifion mewnol
·
Gwasanaethau
addysg, gwybodaeth ac atal
·
Ystod
o wasanaethau cleifion allanol symudol gyda phwyslais ar ofal yn agosach at y
cartref a darparu profiad gwell i'r cleifion a lleihau nifer y trosglwyddiadau
i'r ysbyty cyffredinol dosbarth
·
Dull
integredig i gwrdd ag anghenion corfforol ac iechyd meddwl pobl hŷn, gyda
golwg ar leihau’r effaith ar wardiau Ysbyty Glan Clwyd a phwyslais ar adferiad
ac ailalluogi i gynorthwyo annibyniaeth a lleihau’r angen am ofal mwy
sefydliadol
·
Cadw
ac ailwampio adeilad gwreiddiol Ysbyty Brenhinol Alexandra
Er bod hyn wedi
cynyddu costau’r prosiect ac yn gymhleth, roedd ei gynnwys yn y cynlluniau yn
cydnabod pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol yr adeilad i’r dref. O’r £40
miliwn sydd wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r campws
cyfan, bydd oddeutu £7 i £8 miliwn yn cael ei wario ar yr adeilad gwreiddiol i
osod systemau gwresogi a thrydanol newydd, i adfer y tu allan ac i ailwampio
rhywfaint o’r tu mewn i wneud lle i staff cymorth a thimau amlasiantaeth megis
y Gwasanaethau Un Pwynt Mynediad a’r Gwasanaethau Iechyd Meddal Plant a’r
Glasoed (CAMHS). Mae statws rhestredig yr adeilad yn cyfyngu ar y dewisiadau ar
gyfer gwaith ailwampio mawr i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd modern yn yr
adeilad.
Bydd y campws
newydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlynol –
·
Canolfan
ofal yr un diwrnod
·
Clinigau
cleifion allanol
·
Gwlâu
cleifion mewnol
·
Ystafell
therapi mewnwythiennol (ystafell IV)
·
Diagnosteg
·
Gwasanaethau
therapi
·
Gwasanaethau
Deintyddol Cymunedol
·
Gwasanaethau
Iechyd Rhywiol
·
Gwasanaeth
Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
·
Canolfan
gymunedol sy’n cynnwys caffi, darpariaeth trydydd sector ac ystafelloedd
cyfarfod i gefnogi’r gymuned leol
Cynigiwyd y
dylai’r Bwrdd Prosiect ailffurfio yn y dyfodol agos i fwrw ymlaen â’r achos
busnes terfynol a’i fireinio yn barod ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
fis Mawrth 2020, gyda’r gobaith y bydd yn cael ei gymeradwyo fis Mehefin 2020
er mwyn agor yr adeilad newydd fis Ebrill 2022 a gorffen ailwampio’r hen ysbyty
cyn diwedd 2022.
Dyma ymateb
cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau –
·
Bydd
yr achos busnes terfynol ar gyfer yr ysbyty yn cynnwys y gofynion o ran y
gweithlu a’r staffio
Gan nad
yw’r cyfleuster yn agor tan 2022 mae cyfle rŵan i’r Bwrdd Iechyd
gynllunio’r gweithlu yn effeithiol a sicrhau bod ganddo staff gyda’r
cymwysterau priodol ar y campws pan gaiff ei agor. Mae gwaith y Bwrdd Iechyd
wrth gynllunio’r gweithlu yn cyd-fynd â’r gwaith cynllunio gweithlu
cenedlaethol ar gyfer staff gwasanaeth iechyd. O’r 60 aelod o staff llawn amser
fydd ei angen i weithredu’r campws newydd, bydd 25% yn staff anfeddygol.
·
Rhagwelir
y bydd pobl leol yn llenwi nifer o swyddi’r campws, a staff sydd wedi’u
hadleoli i Ysbyty Cymuned Treffynnon ar ôl cau gwasanaethau cleifion mewnol
Ysbyty Brenhinol Alexandra yn llenwi’r swyddi eraill.
Yr her fydd
llenwi’r swyddi proffesiynol a chymwysedig. Fodd bynnag, dylai ymgyrchoedd
cynllunio gweithlu a recriwtio effeithiol sicrhau bod y swyddi hyn wedi’u
llenwi erbyn agor y cyfleuster. Bydd bodolaeth y prosiect i ddarparu’r
cyfleuster yn dylanwadu ar nifer y lleoedd hyfforddi fydd ar gael ar gyfer y
disgyblaethau amrywiol sydd eu hangen.
·
Mae
prinder staff cymwys mewn swyddi iechyd proffesiynol yn broblem genedlaethol a
rhyngwladol, nid un i ogledd Cymru yn unig.
Adolygir y
sefyllfa yn barhaus, gyda’r bwriad o farchnata’r amgylchedd a’r addysg leol yn
effeithiol er mwyn denu pobl gymwys i weithio yn yr ardal. Mae gwaith hefyd ar
y gweill gyda phartneriaid, gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig,
i geisio diogelu tai lleol i weithwyr iechyd allu cerdded/beicio i’w gwaith. Yn
ardal y Rhyl, rhagwelir y bydd y dull hwn yn cefnogi’r gwaith adfywio sy’n mynd
rhagddo.
·
Mae
gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag ysgolion meddygol gogledd orllewin Lloegr i
geisio denu myfyrwyr o’r sefydliadau hynny i ystyried ymarfer yng ngogledd
Cymru ar ôl iddynt gymhwyso.
·
Bydd
yr Achos Busnes Terfynol yn cynnwys cronfeydd wrth gefn i gwrdd â chostau
cynyddol posibl e.e. chwyddiant.
·
Mae
prosiectau cyfalaf mawr o’r fath yn destun proses cynllunio busnes estynedig
cyn y mae modd eu darparu.
Mae’n rhaid
iddynt ddilyn proses dri cham sydd wedi’i gosod gan Lywodraeth Cymru. Yn
ogystal, fel yn achos pob prosiect adeiladu arall mae’n rhaid iddynt hefyd
gydymffurfio â phroses yr awdurdod cynllunio lleol i dderbyn caniatâd cynllunio
ar gyfer adeiladau newydd ac ati. Cymhlethdod pellach yn yr achos penodol hwn
yw bodolaeth yr adeilad rhestredig gwreiddiol a’r angen i’w warchod. Mae hyn,
ynghyd â’r cyfnod ers gau’r wardiau, wedi golygu bod cost y prosiect wedi codi
o'r amcangyfrif gwreiddiol o £22 miliwn i £40 miliwn.
·
Cadarnhawyd
bod swm sylweddol o arian wedi’i fuddsoddi yn ystod y blynyddoedd diweddar i
ariannu cyfleodd addysgol a lleoedd gwaith ar gyfer myfyrwyr meddygol yng
ngogledd Cymru, fodd bynnag nid yw poblogaeth yr ardal yn ddigon mawr i gynnal
y datblygiad o ysgol feddygol yn yr ardal.
·
Cydnabuwyd
fod cyfleusterau parcio ceir yn broblem barhaol yn y rhan fwyaf o gyfleusterau
gofal iechyd.
I geisio
lleddfu’r pwysau ar gampws Gogledd Sir Ddinbych, mae’r Bwrdd Iechyd yn datblygu
cynllun ’cludiant gwyrdd’ ar gyfer y cyfleuster, mae’r safle hefyd yn cynnwys
cysylltiadau cludiant cyhoeddus da a cheir nifer o feysydd parcio o fewn
tafliad carreg a mannau parcio ar y stryd. Yn ogystal, fel rhan o’r broses i gyflwyno
cais cynllunio, bydd y Bwrdd yn edrych ar ddad-fabwysiadu Ffordd Alexandra
sydd, i bob pwrpas, yn rhannu’r safle’n ddwy ran. Os caniateir hyn byddai ardal
y ffordd yn cynyddu nifer y mannau parcio ar y safle.
·
Cadarnhawyd
y bydd y cyfleuster newydd yn adeilad neis, croesawus ac addas i’r diben, ond
na fyddai’n cynnwys unrhyw addurn na nodwedd ddiangen.
Bydd y Bwrdd
Iechyd yn cadw’r capel yn yr adeilad gwreiddiol, sy’n adeilad rhestredig.
Cafodd y Pwyllgor
gyflwyniad ar y cynnydd hyd yma o ran y prosiect cyfalaf arfaethedig i
ail-ddarparu gwasanaethau sydd ar hyn o bryd ar gael yn y clinig iechyd ar
Mount Street, Rhuthun.
Yn 2016 amlygodd
Adolygiad Stadau sylfaenol nad yw’r cyfleuster hwn yn addas i’r diben oherwydd
ei gyflwr gwael. Er bod ystyriaeth wedi’i rhoi i ymgymryd ag ychydig o waith
ailwampio, oherwydd cyflwr gwael a ffabrig cyfyngedig o ran amser yr adeilad,
penderfynwyd fod angen ateb tymor canolig i’r hirdymor i ddarparu’r
gwasanaethau sydd ar gael yno. Ddechrau 2017 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod
£1.7 miliwn ar gael tuag at drosglwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael yn y clinig
hwn i leoliad arall yn y dref, yn amodol ar ddatblygu achos busnes ar gyfer y
prosiect. Mae’r cynigion ar gyfer darparu’r gwasanaethau hyn yn Rhuthun yn
cyd-fynd â chyfeiriad strategol a gweledigaeth y Bwrdd Iechyd i ddarparu
gwasanaethau yn y gymuned, yn agosach at gartrefi cleifion.
Gan fod y
prosiect hwn yn llawer llai na’r rheiny yng ngogledd Sir Ddinbych a Dinbych,
byddai’n cynnwys proses achos busnes un cam i’r Bwrdd Iechyd gael mynediad at y
cyllid cyfalaf sydd ar gael. Y dewis a ffafrir gan y Bwrdd Iechyd a’i
bartneriaid ar gyfer darparu’r gwasanaethau sydd ar hyn o bryd ar gael yn y
clinig, yw symud y rhan fwyaf o’r gwasanaethau i Ysbyty Cymuned Rhuthun. Mae’r
gwasanaethau dan ystyriaeth yn cynnwys y meddyg teulu, ymwelwyr iechyd, nyrsys
ysgol a’r tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn
ystyried dau ddewis – symud i safle’r Ysbyty Cymuned neu ddefnyddio’r
cyfleusterau sydd ar gael iddynt yng Nghorwen a Dinbych yn ogystal â darparu
gwasanaeth teithiol ar gyfer ardal Rhuthun. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru yn edrych ar ddewisiadau i rannu cyfleuster yn y dref gyda
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, arfer sydd wedi’i mabwysiadu mewn mannau
eraill yn y gogledd. Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn ffafrio’r dewis hwn gan nad
yw’r mynediad o’r Ysbyty Cymuned yn ddigon addas pan fo angen ymateb i achos
brys. Byddai achos busnes y prosiect hwn hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer
defnyddio’r cyfleuster fel canolfan i ddarparu gweithgareddau gofal eilaidd a
chymunedol, gweithgareddau lles ac i gynnal hyfforddiant i feddygon teulu
gwledig.
Mae nifer o
ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithdai wedi’u cynnal fel rhan o
ddatblygiad y prosiect. Yn ogystal, mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd wedi’i
gynnal ac mae cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â’r Cyngor Iechyd Cymuned
i drafod a oes angen ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynigion. Mae timau
dylunio’r Stadau Iechyd wedi cwblhau eu dyluniadau llety a gwasanaeth, ac mae’r
rhain yn cael eu costio yn barod ar gyfer y broses dendro fis Ebrill 2019.
Dylai bod y costau cychwynnol ar gael fis Mai 2019, er mwyn llunio’r achos
busnes terfynol a’i gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd fis Gorffennaf 2019, cyn ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth ym mis Medi 2019. Os cedwir
at holl raddfeydd amser yr achos busnes ac os derbynnir cymeradwyaeth, yna
rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu ar safle’r ysbyty yn cychwyn yn ystod gaeaf
2019/20, gyda’r gwasanaethau yn cael eu trosglwyddo o’r clinig yn ystod gaeaf
2020.
Dyma ymateb
cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau –
·
Nod
Strategaeth Stadau arfaethedig y Bwrdd Iechyd, ‘Byw’n Iach, Aros yn Iach’, yw sicrhau
bod adeiladu’r Bwrdd Iechyd yn addas i’r diben ac yn darparu amgylchedd diogel
ac effeithiol i gwrdd ag anghenion clinigol a busnes.
Yn yr hirdymor byddai’r strategaeth yn rhoi cyfle i’r Bwrdd ddileu gwaith
cynnal a chadw sylweddol a chymedrol sy’n ôl-gronni.
·
Cadarnhawyd
y bydd safle’r clinig, ar ôl ei wagio a’i ddymchwel, yn ffurfio rhan o’r
cytundeb trosglwyddo asedau gyda’r Cyngor, a fydd hefyd yn cynnwys trosglwyddo
safle’r hen ysgol wrth ymyl yr Ysbyty Cymuned i’r Bwrdd Iechyd er mwyn estyn maes
parcio’r ysbyty.
·
Dywedwyd
y bydd yr achos busnes sy’n cael ei lunio yn un cadarn.
Byddai’n cynnwys
cost paratoi’r tir sy’n ffurfio rhan o safle’r hen ysgol i greu cyfleusterau
parcio yn ogystal â chost datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol ar safle’r
ysbyty.
Ar ddiwedd y
drafodaeth croesawodd y Pwyllgor y datblygiadau arfaethedig yn Rhuthun a –
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniadau a gofyn am ddiweddariadau ar
ddatblygiadau prosiectau cyfalaf Gogledd Sir Ddinbych a Rhuthun cyn diwedd y
flwyddyn galendr.
Yn y fan hon
(11.45 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.