Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD AELODAU

I ystyried adroddiad gan y Rheowr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio safbwyntiau'r Pwyllgor ar gynnwys a chyfeiriad y Rhaglen Hyfforddiant a Datblygu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar hyfforddiant a datblygiad aelodau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), oedd yn ceisio barn y Pwyllgor am gynnwys a chyfeiriad y rhaglen hyfforddi a datblygu.

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi cytuno ar ei ofynion hyfforddiant gorfodol ar gyfer aelodau ym mis Medi 2018, sef:

 

·         Cod Ymddygiad – unwaith y tymor, ac roedd pob aelod wedi mynychu’r hyfforddiant hwn.

·         Cynllunio – dau ddigwyddiad hyfforddi y flwyddyn (ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio)

·         Trwyddedu – dau ddigwyddiad hyfforddi y flwyddyn (ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu)

·         Diogelu Data a GDPR – hyfforddiant blynyddol

·         Cyllid Llywodraeth Leol – unwaith y tymor

·         Diogelu – unwaith y tymor

·         Rhianta Corfforaethol – unwaith y tymor.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod yr hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr ar ddiogelu data a materion GDPR yn fwy na’r hyn sy’n ofynnol i swyddogion y Cyngor. Adroddodd fod swyddogion diogelu data’r Cyngor o’r farn nad oedd angen hyfforddiant mor aml â hyn ar yr aelodau, ac y byddai cynnal hyfforddiant blynyddol ar gyfer yr holl aelodau yn dargyfeirio eu hadnoddau.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylai hyfforddiant diogelu data barhau’n hyfforddiant gorfodol, ond y dylid ei gyflawni unwaith ym mhob tymor y Cyngor yn hytrach na bob blwyddyn.

 

Cododd yr aelodau’r pwyntiau canlynol hefyd mewn perthynas â hyfforddiant:

 

·         Byddai cynnig sesiynau hanner diwrnod gyda phob adran i gynghorwyr newydd yn eu helpu i ddysgu am wasanaethau’r Cyngor a’u rôl hwy o ran eu llunio a'u cefnogi.

·         Arferwyd cynnig hyfforddiant ar flaenoriaethu llwythi gwaith, a gallai hynny fod yn ychwanegiad buddiol a phoblogaidd i’r rhaglen hyfforddi.

·         Byddai hyfforddiant i aelodau newydd ar reolau sefydlog y Cyngor ac ymgyfarwyddo â chymryd rhan mewn cyfarfodydd gweddarlledu yn cael ei groesawu.

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y gwahoddwyd pob aelod i sesiwn hyfforddi fis Rhagfyr diwethaf oedd yn ymwneud â bod yn effeithiol yn eu rolau, a bod hyn wedi cynnwys prosesau a rheolau sefydlog y Cyngor.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod angen mwy o hyfforddiant i aelodau ar gyfarpar TGCh, yn enwedig i aelodau newydd. Roedd y Cynghorydd Timms wedi canfod nad oedd iPads yn ddyfeisiau priodol ar gyfer ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau a ddisgwyliwyd gan gynghorwyr, gan nodi y byddai wedi croesawu hyfforddiant ar ddefnyddio iPads i drefnu gwybodaeth a chofnodion.

 

Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y Pwyllgor am y broses a ddefnyddiwyd i ddewis y cyfarpar TGCh ar gyfer y Cyngor newydd ar ôl etholiadau 2017. Dywedodd y bu grŵp o aelodau’n treialu amrywiaeth o ddyfeisiau ychydig cyn yr etholiadau. iPads oedd y Cyngor wedi’u defnyddio’n flaenorol, ac roedd y ffaith fod yr aelodau presennol yn gyfarwydd â’r rhain yn rhan o’u hapêl. Ond yn ychwanegol at hyn, roedd y grŵp treialu wedi canfod fod cysylltedd symudol 4G ac oes batri hirach yr iPads (o’u cymharu â’r dyfeisiau eraill a dreialwyd) wedi eu harwain i argymell iPads ar gyfer tymor newydd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at rwymedigaeth statudol y Cyngor i gynnig Adolygiad Datblygiad Personol i’r aelodau. Mae'r Adolygiadau’n ffordd i’r aelod a'r Cyngor fynd ati ar y cyd i asesu anghenion datblygiad personol yr aelod.  Byddai'r adolygiad yn cael ei osod yng nghyd-destun rôl yr aelod, eu dyheadau ar gyfer yr hyn yr hoffent ei gyflawni, diben a dyheadau'r Awdurdod ac anghenion y gymuned. Nid arfarniad perfformiad oedd y rhain.

 

Adroddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y gwahoddwyd aelodau i gymryd rhan mewn Adolygiad y llynedd, ond na ddangoswyd fawr o ddiddordeb ar y pryd, ac y byddai'r wybodaeth yn cael ei dosbarthu unwaith eto eleni.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn:

 

(i)        argymell i’r Cyngor mai unwaith yn nhymor y Cyngor, yn hytrach nac unwaith y flwyddyn, y byddai angen cyflawni’r hyfforddiant Diogelu Data a GDPR gorfodol; ac yn

 

(ii)       rhannu gwybodaeth am Adolygiadau Datblygiad Personol ymysg y grwpiau gwleidyddol.

 

 

Dogfennau ategol: