Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2019 / 2020

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i gynghori ynghylch penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2019 / 20 mewn perthynas â thaliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn ymwneud ag adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2019/20.

 

Hysbyswyd yr Aelodau yr arferwyd mynd ag adroddiadau blynyddol yr IRPW at y Cyngor llawn, ond bod yr IRPW wedi cadarnhau’n ddiweddar nad oedd angen gwneud hynny, gan mai’r Panel ei hun sy’n gwneud y penderfyniadau yn hytrach na’r awdurdodau lleol.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd gylch gwaith yr IRPW o ran gosod lefelau tâl aelodau prif gynghorau, fel Sir Ddinbych, yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, am gyflawni amrywiol ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Dywedodd bod rhaid i'r IRPW gynhyrchu adroddiad blynyddol, a’i fod, ar gyfer 2019/2020, yn darparu £268, neu 1.97%, o gynyddran i gyflogau sylfaenol yr aelodau yn ogystal â £532 o gynyddran i uwch gyflogau aelodau’r Cabinet, a bod crynodeb lawn o'r newidiadau i'w gweld yn adroddiad y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Graham Timms at lythyr yr IRPW i Gyngor Sir Ddinbych mewn perthynas â chynnig i godi cyflog un o brif swyddogion y Cyngor. Disodlwyd y llythyr a atodwyd wrth adroddiad blynyddol yr IRPW gan lythyr dilynol gan yr IRPW ond, gan ei fod yn rhan o’r adroddiad blynyddol, y llythyr gwreiddiol oedd y fersiwn oedd yn dal i fod ar led yn gyhoeddus.

 

Trafododd y Pwyllgor rôl yr IRPW mewn perthynas â chyflogau prif swyddogion. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu materion cyflogau prif weithredwyr a phrif swyddogion at swyddogaethau IRPW. Felly gallai’r IRPW ystyried a gwneud argymhellion ar newidiadau arfaethedig i’r cyflogau hynny (oni bai fod y newidiadau’n gymwys i swyddogion eraill yr awdurdod hefyd). Roedd rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r argymhellion a wnaed gan yr IRPW yn ôl y gyfraith, ond nid oedd rhaid iddo eu rhoi ar waith.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder fod llythyrau sy’n ymwneud â mater parhaus yn cael eu hatodi wrth yr adroddiadau blynyddol, a chytunodd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cael gwared â rôl yr IRPW mewn perthynas â chyflogau swyddogion.

 

Trafododd y Pwyllgor nod yr IRPW o ran annog amrywiaeth yn siambrau cynghorau llywodraeth leol, sef nod yr oedd yn ei chefnogi. Croesawyd y defnydd o gyflogau aelodau a chost lwfansau gofal i helpu’r unigolion hynny na allai fforddio eu rhoi eu hunain ymlaen, ond cydnabuwyd y gallai’r taliadau effeithio’n negyddol ar ganfyddiad y cyhoedd o aelodau etholedig.

 

Trafododd yr aelodau benderfyniadau blaenorol yr IRPW i adael i awdurdodau lleol benderfynu rhwng cyfres o ddewisiadau lefelau cyflog ar gyfer swyddi penodol. Cefnogodd y Pwyllgor yr egwyddor o gymryd y penderfyniadau am lwfansau aelodau allan o ddwylo’r awdurdodau lleol, gan argymell i’r IRPW na ddylid rhoi dewisiadau ar lefelau cyflog. Nododd y Pwyllgor fod yr IRPW wedi ymateb i adborth tebyg gan gynghorau drwy dynnu’r dewisiadau hynny o’r adroddiad blynyddol newydd.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn:

 

(i)        cefnogi nodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i sicrhau lefelau derbyniol a fforddiadwy o gyflogau aelodau, fydd yn cyfrannu at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol;

 

(ii)       mynegi ei bryder i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fod llythyrau sy’n ymwneud â materion parhaus mewn perthynas â chyflogau swyddogion yn cael eu hatodi wrth yr adroddiadau blynyddol;

 

(iii)      argymell i Lywodraeth Cymru y dylai ailystyried rôl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â chyflogau swyddogion; ac yn

 

(iv)      cefnogi Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i dynnu penderfyniadau ar lefelau cyflog swyddi penodol oddi ar yr awdurdodau lleol yn Adroddiad Blynyddol 2019/2020.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: