Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2018/2019 BGC CONWY A SIR DDINBYCH
Derbyn a
chymeradwyo’r adroddiad blynyddol drafft i’w ystyried yn y cydbwyllgor craffu
BGC agoriadol ym mis Mai 2019. Bydd yr eitem hon hefyd yn cynnwys diweddariad
ar y blaenoriaethau, adolygiad o aelodaeth BGC a thrafodaeth o flaenoriaethau’r
dyfodol.
Fran Lewis a
Hannah Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
2.40 p.m. – 3.10 p.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd Fran
Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr adroddiad
blynyddol drafft (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Lluniwyd yr adroddiad
i roi trosolwg bras o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi cynllun lles y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018. Roedd rhaid sicrhau bod y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu adlewyrchu ar y
meysydd yr oedd yn gwneud gwahaniaeth ynddynt yn unol â’r pum ffordd o weithio,
ynghyd ag amlinellu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.
Eglurwyd y byddai’r adroddiad blynyddol drafft yn cael ei gyflwyno i’r
Cydbwyllgor Craffu ym mis Mai cyn cael ei ail gyflwyno ger bron y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mehefin er mwyn cael ei gymeradwyo’n derfynol.
Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Ystyriwyd
aelodaeth y Bwrdd fel rhan o’r gwaith wrth symud ymlaen. Awgrymwyd y dylid gwahodd
cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Eryri i ymuno â’r Bwrdd, yn ogystal â
chynrychiolwyr o’r Adran Tai ac Adfywio. Nodwyd, pe bai cynrychiolydd o'r Parc
Cenedlaethol yn cael ei wahodd, byddai’n rhaid cynnwys cynrychiolydd o AHNE.
Hysbyswyd y Bwrdd bod Cynghorau Tref a Chymuned hefyd wedi gofyn i gael
cynrychiolydd ar y Bwrdd. Mynegwyd pryder y gallai aelodaeth gynyddu’n ormodol
ac felly ni fyddai gan y Bwrdd fodel darparu effeithiol. Cytunodd yr aelodau i adolygu aelodaeth yn
ffurfiol yn ystod y cyfarfod nesaf.
·
Newid
y rolau arweiniol ar gyfer y meysydd blaenoriaeth – roedd rhai aelodau o’r farn
y byddai’n amser delfrydol i aelodau’r Bwrdd, sy’n arbenigwyr o fewn eu
meysydd, gyflawni’r blaenoriaethau priodol.
Cytunwyd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar flaenoriaeth yr
amgylchedd a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru / Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn arwain ar y flaenoriaeth lles meddyliol. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i arwain y
flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned gyda chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy.
·
Nodwyd
nad oedd y ffaith ein bod yn Fwrdd agored ar gyfer y cyhoedd wedi’i chyfleu yn
ddigon amlwg yn yr adroddiad.
·
Awgrymwyd
y dylid cynnwys y cyfeiriad ar gyfer y 12 mis nesaf o fewn yr adroddiad.
·
Gofynnodd
Helen Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) i gael golygu’r
elfen ddementia yn y flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned.
- Mewn perthynas â’r elfen ddigartrefedd yn y
flaenoriaeth ymrymuso'r gymuned, gofynnodd y Bwrdd i gael mwy o wybodaeth
am y sefyllfa yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
·
Tynnu’r
cyfeiriad at flaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
·
Er
mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwahaniaeth yr oedd y Bwrdd yn ei
wneud, awgrymwyd y dylid cynnwys diagram i ddangos i ble yr oedd y llwybr yn
arwain ac yr hyn yr oeddem eisiau ei gyflawni (os yn bosib yn y cylch hwn o
adroddiadau).
Ar y pwynt hwn,
dywedodd Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wrth yr aelodau eu bod yn dilyn
dull rhanbarthol o ran Newid Hinsawdd. Bydd y dull hwn yn ddefnyddiol i ddysgu
oddi wrth ein gilydd ac i sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Trwy’r
dull hwn bydd hefyd cyfle i gymharu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill. Cadarnhaodd y byddai’n cyflwyno’r cynlluniau,
y syniadau a’r wybodaeth ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar newid hinsawdd ar
hyn o bryd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai’r newidiadau a geisiwyd yn cael eu gwneud i’r adroddiad
blynyddol drafft a byddai’r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i
Aelodau’r Bwrdd er mwyn iddynt roi eu sylwadau.
Oherwydd terfynau amser, byddai dyddiad cau yn cael ei osod ar gyfer
unrhyw ddiwygiad gan y Bwrdd, cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgorau Craffu.
PENDERFYNWYD
(i) diwygio Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/2019 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych cyn ei ddosbarthu i Aelodau’r Bwrdd a’i gyflwyno i’r
Pwyllgor Craffu.
(ii) adolygu aelodaeth yn ffurfiol yn ystod y
cyfarfod nesaf.
(iii) y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar flaenoriaeth yr amgylchedd a
bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru / Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain
ar y flaenoriaeth lles meddyliol.
(iv) y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am
ddigartrefedd yn cael ei darparu mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: