Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED BERSONOL - YMGEISYDD RHIF 535038
- Meeting of Is-Bwyllgor Trwyddedu, Dydd Llun, 1 Ebrill 2019 10.00 am (Item 3.)
- Gweld y cefndir i eitem 3.
Ystyried cais am
Drwydded Bersonol gan Ymgeisydd Rhif 535038 a gyflwynwyd yn unol â Rhan 6 Deddf
Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o’r cais a phapurau cysylltiol wedi eu hatodi).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Bersonol yn cael ei ganiatáu.
Cofnodion:
{0><}73{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) ar -<0}
(i)
{0><}100{>gais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd Rhif<0} {0><}98{>535038 am Drwydded
Bersonol newydd yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Atodiad B yr adroddiad);<0}
(ii)
{0><}82{>rhoi Trwydded Bersonol i unigolyn yn awdurdodi’r unigolyn
hwnnw i gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â thrwydded
eiddo ac sydd mewn grym am nifer digyfyngiad o flynyddoedd oni bai ei bod yn
cael ei hildio, ei diddymu, ei hatal neu ei fforffedu;<0}
(iii)
{0><}0{>y gofynion ar gyfer
Trwydded Bersonol ynghyd â manylion am y collfarnau heb
ddarfod a gyhoeddwyd gan yr Ymgeisydd fel rhan o’r broses ymgeisio (Atodiad C
yr adroddiad); <0}
(iv)
{0><}100{>Heddlu Gogledd Cymru wedi
mynegi gwrthwynebiadau i'r cais ar y sail y byddai caniatáu'r drwydded yn
tanseilio amcan atal troseddu Deddf Trwyddedu 2003 (Atodiad A i'r adroddiad);<0}
(v)
{0><}79{>yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus
i ddeddfwriaeth berthnasol a’r Canllaw a
gyhoeddwyd dan Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003; Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor ynghyd â’r sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac<0}
(vi)
{0><}100{>yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais.<0}
{0><}100{>Cafwyd crynodeb o’r
adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.<0}
{0><}100{>CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD<0}
{0><}0{>Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol o blaid ei chais ynghyd â’i chysylltai. <0}
{0><}0{>Roedd yr Ymgeisydd wedi
darparu tystlythyrau ysgrifenedig (a ddosbarthwyd cyn y gwrandawiad) a oedd yn
dyst o’i chymeriad da ynghyd â thystiolaeth o’r ffaith ei bod
wedi adsefydlu. <0}{0><}0{>Esboniodd yr Ymgeisydd ei hamgylchiadau personol,
mynegodd edifeirwch dros y troseddau, ac ymhelaethodd ar sut iddi wneud y
defnydd gorau o’i hamser, yn dilyn yr euogfarnau, i oresgyn ei gorffennol a
chwblhau’r broses adsefydlu. <0}
{0><}0{>Achubodd yr Aelodau ar gyfle i
ofyn cwestiynau i’r Ymgeisydd. <0} {0><}0{>Mewn ymateb, eglurodd yr
Ymgeisydd y rhesymeg y tu ôl i’w chais ac ymhelaethodd ar ei phrofiad a’i
chyflogaeth yn y maes trwyddedu, a’i huchelgeisiau a’i chynlluniau ar gyfer y
dyfodol yn hynny o beth.<0} {0><}0{>Ymhelaethodd ymhellach ar agweddau
o’r broses adsefydlu.<0}
{0><}100{>CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU<0}
{0><}0{>Roedd y Cwnstabl Simon
Keeting yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru. <0} {0><}0{>Ar ôl adolygu’r cais,
dywedodd bod hanes troseddol a throseddau perthnasol yr Ymgeisydd mor ddifrifol
y byddai caniatáu trwydded yn tanseilio amcan trwyddedu atal trosedd ac
anhrefn. <0} {0><}0{>Yn unol â hynny, nid oedd yr Heddlu yn ei ystyried yn
addas i ganiatáu trwydded i’r Ymgeisydd. <0}
{0><}0{> Ar gais yr Is-Bwyllgor,
darparodd y Cwnstabl Keeting wybodaeth bellach am y troseddau perthnasol ac fe
gadarnhaodd nad oedd unrhyw drosedd wedi’i nodi ers hynny. <0} {0><}0{>Mewn ymateb, esboniodd yr
Ymgeisydd i ba raddau yr oedd yn rhan o’r troseddau hynny ac yn ei datganiad
lliniarol darparodd fanylion am ei hamgylchiadau, cyn, yn ystod ac ar ôl cael
ei barnu’n euog o drosedd. <0}
{0><}0{>[Darparodd y Swyddog
Trwyddedu eglurder o ran y broses ymgeisio a’r gofynion trwyddedu ar gyfer
Deiliad Trwydded Bersonol a chyfrifoldebau o ran hynny.]<0}
{0><}100{>DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD<0}
{0><}0{>Siaradodd cysylltai’r Ymgeisydd o blaid yr Ymgeisydd, gan
ddarparu gwybodaeth gefndirol bellach a datganiad lliniarol ar gyfer y
collfarnau ynghyd â’r cyfnod adsefydlu wedi hynny. <0} {0><}0{>Tynnodd sylw hefyd at y Canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran
182 o Ddeddf Trwyddedu 2003, a oedd yn caniatáu ar gyfer adsefydlu, yn cynnwys
ar gyfer collfarnau heb ddarfod, a gofynnodd iddynt gymeradwyo’r cais yn yr
achos hwn. <0}
{0><}100{>GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS<0}
{0><}100{>Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.)<0} {0><}100{>gohiriwyd yr Is-bwyllgor
Trwyddedu i ystyried y cais.<0}
{0><}100{>Y PENDERFYNIAD A RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD<0}
{0><}100{>PENDERFYNWYD bod y cais
am Drwydded Bersonol yn cael ei ganiatáu.
<0}
{0><}88{>Cyfleodd y Cyfreithiwr
benderfyniad yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y rhesymau dros y
penderfyniad fel a ganlyn –<0}
{0><}90{>Roedd yr
Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn
ofalus.<0}
{0><}0{>Er bod y
troseddau yn rhai difrifol iawn na fyddent yn darfod, daeth yr Is-Bwyllgor i’r
casgliad bod yr Ymgeisydd wedi treulio ei hamser yn ddoeth ers hynny ac wedi
ymgymryd â chyfnod adsefydlu sylweddol ac yn wir wedi adsefydlu. <0} {0><}0{>Cefnogwyd y safbwynt
hwn gan y geirdaon a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd a oedd yn cadarnhau ei
chymeriad a’i gwaith da, gan ei chysylltai a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad
i siarad o’i phlaid a chyflwyniadau uniongyrchol gan yr Ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad. <0}
{0><}0{>Fel rhan o’u
hystyriaethau, bu i’r Is-Bwyllgor ystyried Deddf Trwyddedu 2003 a’r Canllawiau
a gyhoeddwyd dan Adran 182 o’r Ddeddf. <0} {0><}68{>Nid oedd yr
Is-Bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu Trwydded Bersonol i’r Ymgeisydd ar yr
achlysur hwn yn tanseilio'r amcan trosedd ac anhrefn.<0} {0><}0{>Cyfeiriodd yr Aelodau
yn benodol at Adran 4.24 o’r Canllawiau ac ystyriwyd bod y troseddau wedi’u
cyflawni amser maith yn ôl ac erbyn hyn nid oedd gan yr Ymgeisydd y tuedd i
droseddu. <0}
{0><}0{>O ganlyniad, bu
i’r Is-Bwyllgor ganiatáu’r Drwydded Bersonol gan ddymuno’n dda i’r Ymgeisydd yn
y dyfodol. <0}
{0><}100{>Daeth y
cyfarfod i ben am 11.10 a.m.<0}
Dogfennau ategol: