Eitem ar yr agenda
DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio
a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig), yn diweddaru'r Cabinet ar yr ymarfer
ymgynghori cyn cynllunio o ran darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a
sefydlog, a chyflwyno’r dewisiadau ar gyfer bwrw ymlaen â’r prosiect.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi
dadansoddiad o’r ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gwblhawyd mewn perthynas â
safleoedd preswyl a thramwy arfaethedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar safle
Fferm Greengates (Dwyrain) yn Llanelwy
fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.
(b) yn nodi argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth
2019 fel y nodwyd ym mharagraff 8.4 yr adroddiad;
(c) wrth ymateb i’r
pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn cynllunio ynglŷn ag
agosrwydd y safleoedd i’w gilydd, diffyg ymgynghoriad arwyddocaol gyda’r Gymuned Deithiol gan
gydnabod yr angen blaenoriaethol ar gyfer y teulu preswyl, bod y Cabinet yn
cytuno i beidio â symud ymlaen gyda'r safle tramwy Sipsiwn a Theithwyr ar Fferm
Greengates (Dwyrain) trwy gais cynllunio ffurfiol, a bod lleoliad y safle
datblygu arfaethedig hwn yn cael ei benderfynu trwy broses ddyrannu safle
ffurfiol fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol newydd;
(d) wedi ystyried yr
opsiynau ar gyfer y safle preswyl i Sipsiwn a Theithwyr, cytuno i symud ymlaen
â datblygiad safle preswyl Sipsiwn a Theithwyr Fferm Greengates (Dwyrain)
drwy’r broses cais cynllunio ffurfiol yn y lleoliad a nodir yn Atodiad 3 yr
adroddiad, ac y dylai’r cais cynllunio ffurfiol gynnwys fel cefndir wybodaeth
gefnogol yr holl wybodaeth statudol yn ogystal ag asesiadau effaith busnes a
phreswyl a mesurau addas ar gyfer lliniaru lle bo hynny'n angenrheidiol;
(e) pa bynnag
opsiynau sy’n cael eu dewis i bennu lleoliad ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy, na chaiff y safleoedd hynny eu datblygu yn agos
i’w gilydd;
(f) nad yw’r Cabinet
yn argymell dyrannu safle tramwy yn Fferm Greengates (Dwyrain) fel rhan o
broses y Cynllun Datblygu Lleol, a
(g) yn cadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad
5 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet
yn dilyn yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gynhaliwyd mewn perthynas â
darparu safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac amlinellu’r
opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r prosiect ac argymhellion mewn perthynas â
cham nesaf y prosiect. Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i'r swyddogion am eu
gwaith caled yn hynny o beth.
Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir yn yr adroddiad, gan gynnwys gofyniad statudol y
Cyngor i gynnal asesiad o anghenion llety preswyl a thramwy ar gyfer sipsiwn a
theithwyr a gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd pan nodwyd angen. Roedd yr
asesiad wedi nodi'r angen am un safle preswyl ac un safle tramwy ac yn dilyn
proses gynhwysfawr o ddewis safleoedd, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cynnal
ymgynghoriad cyn-gynllunio ar y cynnig i leoli'r ddau safle ar Greengates
Farm East, Llanelwy. Darparwyd manylion yr ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys
dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd, yn yr adroddiad ynghyd ag
argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ôl ystyried yr ymarfer ymgynghori
cyn cynllunio a dadansoddiad o ymatebion.
Argymhellodd yr
adroddiad fod y Cabinet yn cytuno i beidio â symud ymlaen â'r safle tramwy yn Greengates
Farm East a bod y lleoliad yn cael ei benderfynu drwy'r broses ffurfiol o
ddyrannu safleoedd fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd.
Argymhellwyd hefyd y dylai'r Cabinet ystyried a ddylid datblygu safle preswyl
yn Greengates Farm East trwy gais cynllunio ffurfiol neu drwy
broses y CDLl. Mewn unrhyw achos, argymhellwyd na ddylid lleoli'r safleoedd
tramwy a phreswyl yn agos at ei gilydd.
Trwy gyflwyniad
power point, gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y pwyntiau canlynol –
·
ail-bwysleisiwyd dyletswyddau statudol a
deddfwriaeth berthnasol y Cyngor yn hynny o beth
·
darparwyd trosolwg o'r cynigion ar wahân ar gyfer
safleoedd preswyl a thramwy
·
rhoddwyd trosolwg o'r broses ymgynghori cyn
cynllunio
·
rhoddwyd crynodeb o weithgarwch lleol o amgylch yr
ymgynghoriad
·
amlygwyd y pryderon Cydraddoldeb a godwyd fel rhan
o'r ymgynghoriad
·
darparwyd trosolwg a dadansoddiad o'r ymatebion a
dderbyniwyd a'r materion a godwyd.
Wrth gloi dywedodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai barn y swyddogion oedd y gellid lliniaru'r
materion cynllunio perthnasol yn foddhaol a bod ymchwil yn awgrymu nad oedd yr
effeithiau canfyddedig yn debygol o ddigwydd.
Cadarnhaodd yr
Arweinydd fod cyfrifoldebau statudol y Cyngor yn glir o ran darparu llety i
Sipsiwn a Theithwyr a rhaid i'r Cabinet fod yn fodlon mai'r lleoliad
arfaethedig oedd yr un cywir ar gyfer y safleoedd hynny. Ychwanegodd na fyddai
dadl ar sefyllfa teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y datblygiadau posibl.
Rhoddodd y Cynghorydd
Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, drosolwg o'r ddadl graffu
ar yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio ac adborth yn ystod y cyfarfod ar 14
Mawrth 2019 ac ymhelaethodd ar y rhesymeg y tu ôl i'w hargymhellion i'r Cabinet
“(i) nad yw’r safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu datblygu yn agos at ei gilydd, ble
bynnag y meant yn cael eu lleoli, a (ii) bod lleoliad y safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu penderfynu drwy broses barhaus y Cynllun
Datblygu Lleol”. Fel pwynt o eglurhad cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones
y byddai'r CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu yn 2021 ar gyfer y cyfnod hyd at
2033. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r Cabinet yn ystyried safbwynt y
pwyllgor craffu yn ofalus a’i fod yn gwerthfawrogi eu mewnbwn i'r broses gwneud
penderfyniadau.
Roedd y prif
feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –
·
Adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y broses
ymgynghori gynhwysfawr ac ymhelaethodd ar bryderon y gymuned fusnes, gan nodi
tystiolaeth o gost yn hynny o beth, hyd yn oed yn ystod y cam cynnar hwn o'r
broses. Teimlai fod y dull a ddefnyddiwyd i ymgynghori ar y ddau safle
arfaethedig ar yr un pryd wedi creu'r argraff y byddai'r ddau safle yn creu
problemau tebyg. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a sylwadau’r
pwyllgor craffu, a chyda datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
ynghylch y mater i gyrraedd adeg y Pasg, roedd yn cefnogi argymhelliad y
pwyllgor craffu i benderfynu ar y ddau safle drwy broses y CDLl, yn unol â'r
dull a gymerwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, i alluogi trafodaeth
lawn gyda'r holl wybodaeth sydd ar gael. Teimlai hefyd y byddai bwrw ymlaen â'r
cynigion yn rhoi'r argraff nad oedd y Cyngor wedi gwrando ar farn y cyhoedd
na'r gymuned fusnes.
·
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y pryderon a godwyd gan
y gymuned fusnes a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Parth y
Cyhoedd am ei safbwynt o. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol o'r farn bod
effaith bosibl y safleoedd tramwy a phreswyl ar y gymuned fusnes leol yn
wahanol - byddai natur y safle tramwy yn ddeiliadaeth tymor byr gan bobl sy'n
annhebygol o fod yn gyfarwydd â'r ardal nac ag unrhyw gysylltiad â'r gymuned;
byddai'r safle preswyl yn darparu llety ar gyfer teulu estynedig sy'n byw yn Sir
Ddinbych ac sydd eisoes wedi buddsoddi yn y gymuned. O ganlyniad, roedd o'r
farn bod yr ofnau a'r pryderon a godwyd wedi'u cysylltu'n bennaf â'r safle
tramwy o ystyried y risg uwch o faterion negyddol ac roedd yn anodd deall beth
fyddai'r gwrthwynebiadau busnes i'r safle preswyl. Roedd profiad wedi dangos
nad oedd pryderon ac ofnau a godwyd yn y cyfnod cyn cynllunio yn aml yn digwydd
mewn gwirionedd. Petai cais cynllunio yn cael ei wneud, byddai asesiad o
effaith ar fusnes yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses honno. Wrth ymateb i
bwynt cynharach dywedodd fod ymholiadau diweddar wedi dod i law am fuddsoddiad
newydd posibl yn y Parc Busnes.
·
Darparodd y Cynghorydd Brian Jones rywfaint o wybodaeth
ystadegol gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod safleoedd heb awdurdod hyd at fis
Gorffennaf 2018 wedi cynyddu 32% ac roedd safleoedd awdurdodedig wedi cynyddu
6% gan amlygu fod y galw am safleoedd efallai wedi cynyddu ers i'r Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr gael ei gynnal. Dywedodd hefyd, ar ôl
siarad â'i gymheiriaid mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, bod y ffordd
gyffredinol ymlaen yn cynnwys dyrannu safleoedd fel rhan o broses y CDLl a
chydweithio ag awdurdodau cyfagos ac roedd hefyd yn argymell y dull hwnnw.
·
Cydnabu'r Cynghorydd Richard Mainon ddyletswyddau
statudol y Cyngor a'r gwaith caled a wnaed hyd yn hyn er mwyn bodloni'r
gofynion hynny. Ar ôl ystyried y broses bresennol a chanlyniad yr ymarfer
ymgynghori cyn cynllunio, teimlai y dylid trin y ddau safle yn gyfartal a
chefnogodd argymhelliad y pwyllgor craffu y dylid pennu'r ddau safle drwy
broses y CDLl. Roedd o'r farn y byddai'r opsiwn hwn yn darparu proses fwy
cadarn, agored a thryloyw ac yn galluogi ymgynghori effeithiol ac ystyrlon er
mwyn gwneud penderfyniad cwbl wybodus gyda chyfranogiad pob cynghorydd sir yn y
broses gwneud penderfyniadau yn hytrach na nifer fach ar y weithrediaeth. O ran
yr Asesiadau Effaith ar Les teimlai y dylai fod mwy o wahaniaethu rhwng y ddau safle
datblygu arfaethedig gwahanol iawn.
·
Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn teimlo,
waeth beth fo'r broses, o ystyried natur y datblygiad arfaethedig, y byddai'n
denu gwrthwynebiadau ble bynnag y byddai. Roedd yn falch o nodi faint o
ymgysylltu â'r cyhoedd a fu yn y broses ymgynghori cyn cynllunio a nifer yr
ymatebion a dderbyniwyd er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau. Roedd
o’r farn bod y rhan fwyaf o'r ymatebion yn ymwneud â'r safle tramwy ac wrth
gydnabod y pryderon hynny teimlai na fyddai'n lleoliad priodol ar gyfer safle
tramwy o gofio'r achos a wnaed o ran effaith, yn enwedig ar y gymuned fusnes.
Fodd bynnag, teimlai nad oedd achos wedi'i wneud mewn perthynas â'r safle
preswyl heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi effaith negyddol ar yr economi fusnes.
Roedd hefyd o'r farn y dylid ystyried yr angen cynyddol am ddarpariaeth dros
dro fel y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd Brian Jones wrth fynd â'r prosiect yn
ei flaen.
·
Pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley y rhesymeg y
tu ôl i'r adroddiad i'r Cabinet o gofio dyletswydd statudol y Cyngor i asesu
anghenion llety sipsiwn a theithwyr a gwneud darpariaeth i ddiwallu'r anghenion
hynny a chydnabu'r broses gynhwysfawr a ddilynir yn hynny o beth. Roedd hefyd
o'r farn bod y broses wedi bod yn drwyadl (er ei bod yn teimlo y dylai'r
canfyddiad na ddylid datblygu'r ddau safle yn agos at ei gilydd fod wedi cael
ei wneud yn gynharach) a chanmolodd waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau o ran
galw’r penderfyniad i mewn yn y lle cyntaf a dadansoddi'r ymatebion i'r
ymgynghoriad.
Eglurodd y
swyddogion nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth ac ymatebwyd hefyd i
gwestiynau fel a ganlyn –
·
nid oedd swyddogion yn ymwybodol o ddatganiad
arfaethedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr ond roedd yn annhebygol o gael effaith ar y dyletswyddau cyfreithiol
cyfredol oni bai bod newid yn y gyfraith.
·
amlygwyd darpariaethau deddfwriaethol sy'n
llywodraethu cyfarfodydd ac achosion sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth, gan
gynnwys y rhesymeg y tu ôl i gynnal rhai cyfarfodydd mewn sesiynau caeedig
(roedd gan bob cynghorydd sir fynediad at bapurau a ystyriwyd mewn sesiwn
gaeedig); cyhoeddwyd rhaglenni yn darparu manylion yr eitemau ac roedd
gwybodaeth wedi'i golygu'n addas wedi'i chyhoeddi i sicrhau bod y cyhoedd yn
gweld y meini prawf a'r broses a ddefnyddiwyd ar gyfer asesu safleoedd.
·
pan dderbyniodd y Cabinet yr Asesiad Llety Sipsiwn
a Theithwyr ym mis Ionawr 2017 argymhelliad y Cabinet bryd hynny oedd
blaenoriaethu'r safle preswyl dros y safle tramwy.
·
ar ôl i'r asesiad o anghenion llety gael ei
gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, roedd dyletswydd ar y Cyngor i ddarparu'r
llety hwnnw; er nad oedd unrhyw amserlen wedi'i phennu, bob dydd nad oedd llety
wedi'i ddarparu, roedd y Cyngor o bosibl yn torri ei ddyletswydd statudol - po
hiraf yr oedd yn ei gymryd i gyflawni'r ddyletswydd honno, y mwyaf tebygol oedd
hi y byddai her gyfreithiol yn cael ei gwneud pe bai rhywun yn ddig oherwydd
bod y Cyngor yn torri'r ddyletswydd statudol honno.
·
pe nodwyd angen nas diwallwyd yn dilyn asesiad o
anghenion llety, yna byddai angen i'r Cyngor ddyrannu safleoedd penodol yn y
CDLl oni bai bod y safleoedd hynny eisoes wedi cael eu darparu drwy'r broses
gynllunio - ar adeg cymeradwyo'r CDLl presennol nid oedd asesiad o angen
cymeradwy ac felly ni fu unrhyw ofyniad i ddyrannu safleoedd bryd hynny
·
esboniwyd y broses ar gyfer y CDLl newydd (a oedd
yn mynd rhagddi ar hyn o bryd) gyda'r bwriad o gyflwyno strategaeth lefel uchel
i'r Cyngor ym mis Mai i'w chymeradwyo, wedi hynny byddai gwahanol safleoedd yn
cael eu nodi a’u dyrannu ynghyd â phroses ymgynghori gyda’r bwriad o
fabwysiadu’r CDLl newydd yn 2021; darparwyd manylion yr amserlenni o ran
datblygu'r datblygiad drwy’r ddau opsiwn, proses y CDLl a'r broses gynllunio
ffurfiol.
Ailadroddodd y
Cynghorydd Peter Scott (Aelod Lleol Gorllewin Llanelwy) ei bryderon ynghylch y
diffyg ymgynghori a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y broses o ddewis safleoedd.
Adroddodd am bryderon difrifol y gymuned ynghylch lleoliad arfaethedig y
safleoedd a fyddai'n debygol o ddifrodi’r ardal, gan gynnwys risg i gydlyniant
cymunedol, colli amwynder, effaith ar fusnesau a'r economi. Roedd y gymuned
fusnes wedi lleisio pryderon difrifol a dilys gan ddyfynnu difrod anadferadwy a
pharhaol a fyddai'n dylanwadu ar ddatblygiad yn y dyfodol ac ychydig iawn o
ymgysylltu a gafwyd â busnesau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Tynnwyd sylw hefyd
at yr effaith ddinistriol ar un teulu penodol sy'n byw yn y cyffiniau. Roedd
hawliau ac anghenion teithwyr yn cael eu cymryd o ddifrif - fodd bynnag roedd y
dewis safle yn wael ac ni ddylai diwallu'r anghenion hynny arwain at leoli
datblygiadau mewn lleoliad amhriodol. Wrth ymateb i sylwadau swyddogion,
dywedodd fod llawer o'u hymchwil wedi bod yn ddibynnol ar hen wybodaeth; Sefydlwyd ‘Business and Residents Against Indiscriminate
Development in St. Asaph – BRAIDS’ i rannu gwybodaeth a threfnwyd sesiwn galw
heibio i roi cymorth i ymatebwyr, ac atebwyd gwrthwynebiadau gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan Gyngor Dinas Llanelwy. Roedd y Cynghorydd
Scott o'r farn bod y cyfoeth o wrthwynebiadau wedi cael eu gwawdio a'u diystyru
fel rhwystr i'w oresgyn. Gofynnodd am roi ystyriaeth briodol i farn y trigolion
ac anogodd y Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â'r datblygiadau ar Greengates
Farm East ond yn hytrach eu cyfeirio trwy broses y CDLl i sicrhau bod safleoedd
addas yn cael eu nodi ar gyfer teithwyr a thrigolion. Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Cabinet, roedd y Cynghorydd Scott o'r farn pe byddai ymgynghoriadau ar wahân
ar bob cynnig wedi eu gwneud, y byddai'r effaith ganfyddedig ar y gymuned yr un
fath. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiadau, dim ond i'r lleoliad a
gynigiwyd yn Llanelwy.
Cyfeiriodd yr
Arweinydd at gyfeiriadau ynghylch y broses o ddewis safleoedd a ystyriwyd yn y
pwyllgor craffu ac a brofwyd yn flaenorol gyda swyddogion. Roedd y Cabinet wedi
cytuno eu bod yn gyfforddus â'r broses honno, ar wahân i'r Cynghorydd Richard
Mainon. Er mwyn rhoi sicrwydd pellach, ail-bwysleisiodd y Swyddog Arweiniol -
Eiddo Corfforaethol a’r Stoc Tai y broses gynhwysfawr a hir o ddewis ac asesu
safleoedd a'r rhesymau pam y dewiswyd Greengates Farm East yn hytrach na
safleoedd posibl eraill a nodwyd ac a ddiystyrwyd fel rhan o'r broses honno.
Dywedodd y Cynghorydd Scott fod safle addas arall wedi'i nodi ond nad oedd y
Cyngor am golli gwerth y safle hwnnw. Cyfeiriodd swyddogion at ddyletswydd y
Cyngor i ddangos gwerth gorau a bod yr angen i ystyried cost cyfle o ddarparu
safleoedd wedi cael ei ystyried yn ystod y broses asesu.
Ar ôl ystyried
canlyniadau'r ymgynghoriad cyn cynllunio a'r sylwadau a dderbyniwyd a'r
opsiynau ar gyfer symud y prosiect yn ei flaen, ystyriodd y Cabinet yr
argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad a chytunwyd y dylid pleidleisio
arnynt ar wahân er eglurder. Yn dilyn pleidleisiau ar argymhellion 3.1 - 3.3 yn
yr adroddiad, cafwyd seibiant byr. Ar ôl ailymgynnull cafwyd trafodaeth bellach
ar argymhelliad 3.4 yn ymwneud â'r opsiynau ar gyfer y safle preswyl. Dywedodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, pe na bai'r datblygiad ar gyfer safle
preswyl yn Greengates Farm East yn cael ei gymeradwyo, roedd potensial o hyd
i'r safle tramwy gael ei leoli yno fel rhan o broses y CDLl. O ystyried yr
ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cynllunio, roedd y Cynghorydd Hilditch-Roberts
o'r farn bod y lleoliad yn anaddas ar gyfer safle tramwy ac, o ystyried bod
penderfynu ar ddyraniadau safleoedd yn y CDLl yn benderfyniad i'r Cyngor llawn,
cynigiodd nad oedd y Cabinet yn argymell y dyraniad safle tramwy yn East Farm
Farm East fel rhan o broses y CDLl. Wedyn ystyriodd a phleidleisiodd y Cabinet
ar yr argymhellion sy'n weddill a'r cynnig newydd.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) nodi'r
dadansoddiad o'r ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gynhaliwyd mewn perthynas â
safleoedd preswyl a thramwy arfaethedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar safle
Greengates Farm (East) yn Llanelwy fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad;
(b) nodi
argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 14 Mawrth 2019 fel y nodir ym
mharagraff 8.4 o'r adroddiad;
(c) mewn
ymateb i bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn-gynllunio ynghylch
agosrwydd y safleoedd at ei gilydd, diffyg ymgynghori ystyrlon â'r Gymuned
Deithiol ac i gydnabod yr angen blaenoriaethol ar gyfer y teulu preswyl, bod y
Cabinet yn cytuno i beidio â symud ymlaen â safle tramwy Sipsiwn a Theithwyr yn
Greengates Farm (East) trwy gais cynllunio ffurfiol, a bod lleoliad y safle
datblygu arfaethedig hwn yn cael ei benderfynu drwy'r broses ffurfiol o
ddyrannu safleoedd fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol newydd;
(d) yn
dilyn ystyried yr opsiynau ar gyfer y safle preswyl Sipsiwn a Theithwyr, cytuno
i ddatblygu datblygiad y safle preswyl Sipsiwn a Theithwyr yn Greengates Farm
(East) drwy'r broses cais cynllunio ffurfiol yn y lleoliad a nodir yn Atodiad 3
i'r adroddiad ac y dylai'r cais cynllunio ffurfiol gynnwys fel gwybodaeth
ategol gefndir yr holl wybodaeth statudol ynghyd ag asesiadau effaith ar fusnes
a phreswyl a mesurau lliniaru addas lle tybir bod angen;
(e) pa
bynnag opsiynau a ddewisir ar gyfer nodi lleoliad y safleoedd preswyl a thramwy
ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, nad yw'r safleoedd yn cael eu datblygu yn agos at
ei gilydd;
(f) na
fydd y Cabinet yn argymell dyrannu safle tramwy yn Greengates Farm East fel
rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol, a
(g) Bod y
Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth yr
Asesiadau Effaith ar Les (Atodiad 5 i'r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Pleidleisiodd y
Cynghorydd Richard Mainon yn erbyn penderfyniadau (a) ac (c) uchod.
Mewn perthynas â
phenderfyniad (d) o ran y safle preswyl, ystyriodd y Cabinet ddau opsiwn y
manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Opsiwn A - symud y datblygiad yn ei flaen
trwy'r broses ffurfiol o wneud cais cynllunio yn y lleoliad a nodwyd, ac Opsiwn
B - i beidio â symud ymlaen ag Opsiwn A a phenderfynu ar leoliad y safle
datblygu drwy broses y CDLl. Pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn: Opsiwn A -
Y Cynghorwyr Hugh Evans, Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts a Mark Young; Opsiwn
B - Y Cynghorwyr Brian Jones, Richard Mainon, Tony Thomas a Julian
Thompson-Hill. O ystyried y bleidlais rwym defnyddiodd yr Arweinydd / Cadeirydd
y Cynghorydd Hugh Evans ei bleidlais fwrw ar gyfer Opsiwn A i gario’r
penderfyniad (d) uchod.
Dogfennau ategol:
- GYPSY AND TRAVELLER REPORTv1, Eitem 5. PDF 225 KB
- G&T APPENDIX 1 & 2, Eitem 5. PDF 2 MB
- G&T APPENDIX 3, Eitem 5. PDF 1 MB
- G&T APPENDIX 4, Eitem 5. PDF 124 KB
- WBIA ASSESSMENT - TRANSIT SITE - APP 5, Eitem 5. PDF 123 KB
- WBIA ASSESSMENT - RESIDENTIAL SITE, Eitem 5. PDF 130 KB
- G&T PRESENTATION TO CABINET, Eitem 5. PDF 2 MB