Eitem ar yr agenda
POLISI ENWAU A RHIFAU STRYDOEDD
I adolygu Polisi Enwau a Rhifau Strydoedd y
Cyngor (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio adroddiad y Swyddog Enwi
a Rhifo Strydoedd (a gylchredwyd eisoes) oedd yn cyflwyno’r Polisi Enwau a
Rhifau Strydoedd cyfredol i’r Pwyllgor. Nod yr adroddiad oedd i aelodau
adolygu’r polisi a phenderfynu a oedd unrhyw newidiadau i’r polisi yn
angenrheidiol.
Dywedodd y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd bod y polisi wedi ei fabwysiadu
yn 2014, gyda’r newidiadau diweddaraf iddo wedi eu cymeradwyo drwy Benderfyniad
Dirprwyedig Aelod Arweiniol, ym mis Awst 2018. Roedd y polisi yn ei gwneud yn
ofynnol i bob enw stryd newydd yn Sir Ddinbych fod yn Gymraeg neu’n
ddwyieithog. Roedd yn bwysig
bod enwau strydoedd yn gyson gyda threftadaeth leol yr ardal, ac yn eglur at
bwrpas lleoli eiddo ar gyfer derbyn cyflenwadau a dibenion y gwasanaethau brys. O’r 20 enw stryd a
gymeradwywyd yn y blynyddoedd diwethaf roedd enw Cymraeg yn unig ar 18 ohonynt,
ac enwau dwyieithog ar y 2 arall.
Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, fe wnaeth y
swyddogion:
·
gynghori, lle mai enwau
strydoedd / ffyrdd Saesneg yn unig oedd yn cael eu dangos ar arwyddion ar hyn o
bryd, ni fyddai arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod yn eu lle hyd nes
byddai'r arwyddion wedi eu torri neu y byddai angen rhai newydd, oherwydd y
costau ychwanegol.
Os oedd cynghorau tref a chymuned yn fodlon talu am
arwyddion newydd, byddai’r Cyngor yn gosod arwyddion dwyieithog yn lle rhai
Saesneg yn unig;
·
cadarnhau lle'r oedd enwau
dwyieithog yn bodoli, polisi Y Post Brenhinol oedd cyhoeddi’r fersiwn Saesneg
o’r cyfeiriad a chadw’r fersiwn Gymraeg yn y cefndir;
·
egluro, tra nad oedd y
polisi yn annog yr arfer o enwi strydoedd ar ôl unigolion penodol, boed yn fyw
neu’n farw, roedd yr Awdurdod wedi caniatáu enwi chwe stryd newydd yn Y Rhyl ar
ôl aelodau lleol o’r lluoedd arfog a laddwyd mewn brwydr. Roedd Cyngor y Dref wedi
cyflwyno enwau wyth milwr lleol a laddwyd mewn brwydr, byddai’r ddwy stryd
nesaf sydd i'w hadeiladu yn cael eu henwi ar ôl y ddau filwr arall.
·
cadarnhau mai’r
ychwanegiad diweddaraf at y rhestr o enwau a gymeradwywyd y gellid eu defnyddio
oedd ‘Cae’;
·
nodi tra bo codau post yn
ddefnyddiol wrth geisio dod o hyd i gyfeiriad, gan eu bod yn cynnwys ardal
eithaf eang roedd cael enwau stryd hawdd eu hadnabod o gymorth wrth chwilio am
eiddo penodol, yn arbennig o felly o safbwynt y gwasanaethau brys ac at
ddibenion dosbarthu.
·
cadarnhau mai’r awdurdod
lleol oedd â'r penderfyniad terfynol ar enwi stryd neu ffordd; a
·
chytuno y dylai pob enw
stryd gael ei arddangos mewn fformat safonol ac mewn ffont o faint safonol. Pe bai rhywun yn mynd yn groes i hyn dylai aelodau godi'r mater gyda
Gwasanaeth Priffyrdd y Cyngor.
Gofynnodd Aelodau ynghylch nifer o anghysondebau o fewn y Polisi. Roedd yr ymholiadau yn
cynnwys y canlynol:
·
Fersiwn Saesneg – Adran B: Paragraff 2 dylai 'mead’ ddarllen ‘mede’;
·
dim cyfieithiad
uniongyrchol o ‘cae’ wedi ei gynnwys yn y fersiwn Saesneg;
·
Fersiwn Gymraeg – Adran B: Paragraff 2 dylid cynnwys ‘heol’ gan ei fod eisoes yn bodoli mewn enwau
strydoedd
·
Adran B: Paragraff 2.2. – y gwaharddiad rhag defnyddio y fannod 'The' yn Saesneg ac
'Y/Yr' yn Saesneg yn achosi problem yn Gymraeg gan bod y fannod yn
angenrheidiol yn y Gymraeg fel rhagddodiad i enwau penodol;
·
Adran B: Paragraff 2.4 – angen ailedrych ar y defnydd o Gogledd/Dwyrain/ De a
Gorllewin gan ei bod yn bosib nad yw'r ystyr bob amser yn glir yn y fersiwn
Gymraeg;
·
Adran D: Paragraff 3.3 angen diweddaru/dileu y cyfeiriad at “rhwng 2013 a 2016” yn
y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg; a
·
Adran D: paragraff 4.1 yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg - angen newid
enwau’r sefydliadau partner er mwyn adlewyrchu teitlau swyddogol cyfredol e.e.
Dylai Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ddarllen Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru a dylid rhoi Hafren Dyfrdwy yn lle Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.
Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai’n syniad da adolygu’r polisi yn drylwyr
er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac nad oedd unrhyw anghysondebau ynddo.
Felly penderfynodd yr Aelodau:
Argymell: - bod swyddogion, gan
ystyried y sylwadau uchod -
(i)
yn cynnal adolygiad
trylwyr o’r Polisi Enwau a Rhifau Strydoedd
(ii)
y dylid ymgynghori
â Phwyllgor Llywio Iaith Gymraeg y Cyngor ynglŷn â chynnwys a chywirdeb y
polisi drafft, fel rhan o’r adolygiad; ac
(iii)
y dylid cyflwyno'r
Polisi drafft wedi ei ddiwygio i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn ystod hydref
2019 er mwyn ymgynghori cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo a'i
fabwysiadu
Dogfennau ategol:
- Street Naming and Numbering Policy Report 210319, Eitem 7. PDF 197 KB
- Street Naming and Numbering Policy Report 210319 - App 1, Eitem 7. PDF 7 MB