Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DRAFFT NEWYDD O'R STRATEGAETH RHEOLI FFLYD

I ystyried drafft newydd o’r Strategaeth Rheoli Fflyd (copi ynghlwm), gan gynnwys y gwerthusiad o’r ffynonellau tanwydd amgen posibl.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad ar y cyd gan Brif Reolwr: Gwella Gwasanaethau a Fflyd  a'r Rheolwr Fflyd oedd yn cyflwyno i’r Pwyllgor ddrafft diwygiedig o Strategaeth Cerbydau fflyd y Cyngor.  Roedd copïau o’r adroddiad a’r strategaeth ddrafft wedi eu cyhoeddi a'u cylchredeg o flaen y cyfarfod.  Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol yr angen i’r Cyngor leihau ei allyriadau carbon, ond o wneud hynny yr oedd yn bwysig bod y fflyd yn addas at bwrpas, sef darparu gwasanaethau hanfodol.

 

Dywedodd Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd mai'r sefyllfa ddiofyn fyddai peidio cael cerbydau diesel newydd yn awtomatig pan fydd yn bryd cael cerbydau newydd yn lle hen rai.  Pan fydd angen i Wasanaeth newid cerbyd byddai angen yn gyntaf ystyried cael cerbyd trydan neu danwydd amgen yn ei le.  Os oedd y Gwasanaeth o’r farn na fyddai cerbydau o’r fath yn addas at yr hyn oedd ei angen ohonynt, yna byddai’n rhaid iddynt dystio pam mai cerbyd diesel fyddai’r unig un i wneud y tro yn ei le.  Pwysleisiodd bod y Strategaeth yn berthnasol i sut mae’r Awdurdod yn prynu ac yn gwaredu ei gerbydau a sut mae’r broses honno yn ffitio ac yn cyfrannu tuag at y Cynllun Corfforaethol, yn benodol i'r ffrwd waith sy'n ymwneud â gostwng allyriadau carbon yr Awdurdod.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Prif Reolwr : Gwella Gwasanaethau a Fflyd, a’r Rheolwr Fflyd:

·         gadarnhau, bod dwy fan drydan eisoes wedi eu prynu fel prosiect peilot, at ddefnydd Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes y Cyngor.  Byddai’r rhain yn cael ei dwyn i'r gwasanaeth unwaith y byddai pwyntiau gwefru trydan wedi eu gosod yn y brif swyddfa ac mewn lleoliadau depot;

·         cynghori mai dim ond ar gyfer gwefru cerbydau'r Cyngor y byddai’r pwyntiau gwefru ar eiddo'r Cyngor yn cael eu defnyddio am y tro;

·         pwysleisio bod gwaith yn mynd rhagddo yn rhanbarthol gyda phartneriaid i archwilio pwy oedd â diddordeb gweithio gydag awdurdodau lleol o safbwynt sefydlu isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar draws Gogledd Cymru;

·         cadarnhau bod y Cyngor ar hyn o bryd yn prynu ei danwydd gwresogi a cherbydau drwy’r fframwaith tanwydd genedlaethol.  Roedd y contract ar gyfer ei ddarparu wedi mynd allan i dendr yn ddiweddar;

·         cadarnhau bod technegau gyrru pob cerbyd yn cael mwy o effaith ar yr agenda lleihau carbon, na phrynu cerbydau trydan, er y byddai hynny hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon o fflyd y Cyngor.

·         sicrhau bod gofyniad cyfreithiol bod Tachograph ym mhob un o gerbydau'r Cyngor er mwyn monitro gweithgarwch gyrwyr.  O 400 o gerbydau’r Awdurdod, roedd systemau telematic ym mhob un ond 15 ohonynt, ac roedd y rhan fwyaf o'r rheiny yn fysiau mini ysgolion.  Cynghorwyd ysgolion i sicrhau bod systemau telematic wedi eu gosod eisoes pan fyddent yn gwneud ymholiadau ynglŷn â bysiau mini newydd.

·         cytuno y byddai pob cerbyd newydd yn y dyfodol wedi eu ffitio â systemau gwybodaeth mwy manwl, a fyddai'n rhoi manylder ar ddata technegau gyrru a'u heffaith ar ddefnydd o danwydd ac allyriadau carbon ac ati;

·         pwysleisio bod yn rhaid i’r holl gerbydau ar hyn o bryd fodloni safonau allyriadau Ewropeaidd, ac nad ydy diesel mor ddrwg ag y mae'r cyfryngau wedi ei bortreadu;

·         cynghori bod technoleg pŵer batri yn datblygu yn sydyn iawn ar hyn o bryd;

·         egluro'r rhesymau pam nad oedd cerbydau sy’n defnyddio Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG) yn cael eu hystyried ar gyfer fflyd y Cyngor ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o gerbydau LPG unai yn hybrid neu yn gerbydau wedi eu trosi gan nad yw gwneuthurwyr yn cynhyrchu cerbydau LPG yn unig;

·         cynghori bod y Cyngor yn caffael ei gerbydau drwy gytundeb fframwaith, yn debyg i'r ffordd mae'n prynu tanwydd;

·         cadarnhau eu bod yn glanhau ceir yn broffesiynol pan fyddant yn eu gwaredu, a bod pob arwydd o enw neu logo yn cael ei waredu’n iawn cyn eu gwerthu;

·         cytuno bod gan y Cyngor lawer o gerbydau ar y ffordd ar yr un pryd, ac er bod risg y byddai hyn yn cael ei weld gan rai fel gwastraffu adnoddau'r Cyngor, roedd yr holl gerbydau oedd yn teithio ar yr un pryd yn darparu gwasanaethau penodol i drigolion a busnesau o amrywiaeth eang iawn o wasanaethau h.y. Priffyrdd, Gofal Cymdeithasol, casgliadau gwastraff ac ati;

·         cynghori bod tua 90% o'r gwaith o gomisiynu cerbydau at ddefnydd y Cyngor yn cael ei wneud gan Adran Fflyd yr Awdurdod ei hun; 

·         egluro bod ystyriaeth wedi ei roi i adael i staff a’r cyhoedd defnyddio’r 20 o bwyntiau gwefru trydan newydd fydd wedi eu lleoli yn amrywiol leoliadau’r Cyngor erbyn diwedd 2020/21, fodd bynnag penderfynwyd peidio caniatáu hyn ar gyfer y dyfodol agos.  Y rheswm dros hyn yw pe byddai fflyd y Cyngor ei hun o gerbydau trydan yn cynyddu yn ystod y cyfnod hwn byddai’n rhaid i’r Awdurdod dynnu caniatâd i staff a’r cyhoedd ddefnyddio’r pwyntiau gwefru yn ôl, a fyddai’n gwneud niwed i enw da’r Awdurdod yn yr hir dymor;

·         cadarnhau bod darparu pwyntiau gwefru cerbydau at ddefnydd y cyhoedd yn cael ei ystyried fel rhan o ddrafft Cynllun Teithio Cynaliadwy’r Cyngor oedd yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd.  Bwriedir cyflwyno’r cynllun drafft i’r Pwyllgor ei ystyried yn gynnar yn 2020.  Byddai pwyntiau gwefru cerbydau ar gael at ddefnydd y cyhoedd yn y maes parcio a fyddai’n cael ei ddatblygu ar safle’r hen Swyddfa Bost yn Y Rhyl;

·         eglurwyd rôl yr Adnodd Desg Hurio Gorfforaethol;

·         eglurwyd na allai’r Cyngor rannu lorïau ac ati 'sbâr' gydag awdurdodau cyfagos gan fod yn rhaid cael Trwydded Gweithredwr ar gyfer pob Cerbyd Nwyddau Trwm (HGV) yr oedd yn ei weithredu.  Hefyd, roedd yn debygol y byddai angen cerbydau arbenigol fel lorïau graeanu gan yr holl awdurdodau ar yr un pryd, oherwydd y math o wasanaethau roeddynt yn eu darparu.  Fodd bynnag roedd yn dda gallu adrodd bod LlC yn ddiweddar wedi prynu dau gerbyd graeanu yn benodol ar gyfer cadw llwybr teithio allweddol yr A55 yn agored ar ac o amgylch Allt Rhuallt; a

·         chynghorwyd ei bod yn edrych yn annhebygol ar hyn o bryd y byddai cerbydau trydan yn addas i gasglu gwastraff, hyd yn oed o dan y model gwastraff ac ailgylchu newydd.  Tra bod cerbydau trydan yn cael eu datblygu ar gyfer pob math o ddibenion, ar hyn o bryd roedd yn ymddangos yn fwy tebygol y byddai cerbydau mwy o faint yn cael eu pweru yn y dyfodol gan hydrogen.

 

Dywedodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y byddai’n trafod gyda’r Tîm Caffael a oedd unrhyw anghenion penodol o dan y broses gaffael – ar wahân i ystyriaethau’r Cynllun Corfforaethol – yn gofyn am ystyried cerbydau trydan yna cerbydau tanwydd amgen o flaen cerbydau tanwyddau ffosil wrth sefydlu proses dendro ar gyfer cael cerbydau newydd.

 

Croesawodd Aelodau’r strategaeth newydd arfaethedig a’i nodau a’i hamcanion.  Fe wnaethant hefyd longyfarch swyddogion am gynhyrchu dogfen ddealladwy, eglur, gryno, wedi ei hysgrifennu yn dda.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cytunodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion, mewn ymateb i gais y Pwyllgor, i gynnwys cyfeiriad yn y Strategaeth at y ffaith y byddai offer tracio / telematic yn cael ei osod yn yr holl gerbydau at bwrpas monitro er mwyn sicrhau bod yr holl gerbydau yn cael eu gyrru'n effeithiol.  Felly;

 

Penderfynwyd: - cytuno ar fabwysiadu’r Strategaeth, yn ddibynnol ar y sylwadau uchod a chynnwys yr adran ar osod offer tracio cerbydau ac offer telematic yng ngherbydau’r Cyngor er mwyn cynorthwyo arferion gyrru effeithiol.

 

 

Ar y pwynt hwn doedd dim cworwm gan y Pwyllgor bellach, ond parhaodd i gynnal ei fusnes yn anffurfiol.

 

Dogfennau ategol: