Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETHAU TAI

I ystyried canfyddiadau Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Safbwynt y Defnyddiwr Gwasanaeth (copi ynghlwm) a gynhaliwyd fis Awst 2018.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai, Adfywio a’r Amgylchedd adroddiad ar y cyd gan Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol a Swyddog Arweiniol Eiddo Corfforaethol a'r Stoc Dai (a gylchredwyd eisoes). Roedd yr adroddiad yn cyflwyno ymateb y Cyngor i ganfyddiadau Adolygiad Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd mis Awst 2018, o safbwynt Safon Ansawdd Tai Cymru, a gwaith yr Awdurdod gyda thenantiaid.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, diolchodd yr Aelod Arweiniol i'r Pwyllgor am y cyfle i ymateb i’r ddau gynnig am welliant gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn ei adolygiad. Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw aelodau at ganlyniadau Arolwg Tenantiaid a Thrigolion 2019 (Atodiad 3 yr adroddiad) lle nodwyd cyfradd fodlonrwydd o 90% yn ymateb i’r cwestiwn am safon cyffredinol eu cartref, sy'n hynod foddhaol.   

 

Atgoffodd Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol y Pwyllgor bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS), ond roedd gwaith cynnal a gwella stoc dai’r Cyngor yn parhau ar raddfa lai na’r hyn oedd ei angen i gyflawni'r WHQS.  Gan gyfeirio at Adolygiad Defnyddwyr Gwasanaeth Swyddfa Archwilio Cymru, dywedodd Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol fod y Swyddfa Archwilio wedi cynnal cyfweliadau stepen drws gyda 122 o denantiaid allan o gyfanswm o 3,385 o denantiaid tai’r Awdurdod.  Roedd yr arolwg wedi dod i’r casgliad y dylai’r Cyngor:

·         ddarparu help i’r rheiny oedd yn profi lleithder neu gartrefi nad oeddynt wedi eu gwresogi’n ddigonol, yn effeithiol o ran ynni, neu wedi eu hinswleiddio’n dda, ac

·         adolygu effaith hir dymor diwedd y gwasanaeth warden preswyl o’i gynlluniau tai gwarchod

 

O safbwynt lleithder ac effeithlonrwydd ynni'r cartrefi, dywedodd y Swyddog Arweiniol ei bod yn bwysig deall bod 23% o'r tenantiaid a arolygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud eu bod yn dioddef o broblemau “lleithder a chyddwysiad”, fodd bynnag nid oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud unrhyw ymchwiliadau pellach i broblemau tenantiaid na ffynonellau’r problemau hynny . 

 

Roedd arolwg tebyg wedi ei gynnal yn ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru, roedd y maint sampl yn Ynys Môn yn debyg i un Sir Ddinbych ac roedd 37% yno wedi nodi eu bod yn profi problemau tebyg. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod posibilrwydd fod problemau cyddwysiad yn cael eu hachosi gan nad oedd cartref yn cael ei gynhesu yn ddigonol, drwy ddefnydd aneffeithiol neu anrheolaidd o'r system wresogi, ac / neu fod y preswylydd ddim yn defnyddio mesurau awyru digonol. 

 

Er mwyn darparu cymorth a chyngor i denantiaid roedd y Cyngor wedi cynhyrchu taflen wybodaeth (Atodiad 2 i’r adroddiad) ar sut i osgoi cyddwysiad yn y cartref .  Roedd hefyd, mewn partneriaeth gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, wedi trefnu ymgynghorydd penodedig i gefnogi tenantiaid cyngor o ran problemau tlodi tanwydd, lleithder a chyddwysedd. 

 

Os oedd lleithder yn broblem, gellid gwneud gwaith strwythurol i fynd i’r afael â’r broblem.  Gan fod Sir Ddinbych wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru byddai digon o wres ym mhob un o’r tai a adnewyddwyd o dan y rhaglen, ac ni fyddai problemau lleithder ynddynt.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth ei bod yn arbennig o braf nodi bod yr arolwg Tenantiaid a Thrigolion wedi graddio Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych fel y prif awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer ‘ansawdd cyffredinol y cartref' ac ar gyfer y ffordd mae'r Gwasanaeth yn mynd i'r afael â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw.  

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau o safbwynt y cynnig gwelliant yn ymwneud â lleithder a gwresogi, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·         gadarnhau bod gwaith cynnal a chadw Safon Ansawdd Tai Cymru wedi ei ariannu yn bennaf drwy gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) a drwy incwm rhenti a dderbyniodd y Cyngor gan ei denantiaid.  Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, amcan Sir Ddinbych oedd sicrhau bod safon ei waith ailwampio o safon uwch na Safon Ansawdd Tai Cymru.

·         amlygu bod yr arolwg Tenantiaid a Thrigolion wedi nodi'r angen i sicrhau ei bod yn bwysig i denantiaid, yn ogystal â chael tai braf i fyw ynddynt, deimlo fod eu cymdogaeth yn lle braf i fyw.  Ar ôl cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd peth o'r gwaith oedd yn cael ei wneud o ran y stoc dai yn canolbwyntio ar waith amgylcheddol ac allanol, hynny yw, gwrychoedd, ffensio ac ati.  Er ei bod weithiau’n anodd sicrhau ffensys a ffiniau unffurf ar ystadau, yn arbennig pan oedd llawer o’r tai wedi eu gwerth a bellach o dan berchnogaeth breifat gan nad oedd pob perchennog preifat eisiau newid eu ffensio;

·         sicrhau bod y Cyngor bob amser yn gosod y systemau diweddaraf pan fyddent yn uwchraddio systemau gwresogi yn y cartrefi.  Ni fyddai cypyrddau cynhesu yn cael eu gwaredu os oeddynt eisoes yn bodoli, yn hytrach byddai gwresogydd cefndir newydd yn cael ei osod yn lle’r hen danc dŵr poeth ar gyfer awyru dillad ac ati. Fodd bynnag, doedd dim lle yn rhai o dai llai y Cyngor ar gyfer cwpwrdd cynhesu.  Byddai’r tai oedd yn perfformio waethaf o ran ynni yn cael eu clustnodi er mwyn derbyn systemau gwresogi newydd yn gyntaf gan mai’r tenantiaid yno fyddai'n elwa fwyaf o dderbyn uwchraddiad;

·         derbyn pe byddai tenantiaid yn gwrthod uwchraddio eu systemau gwresogi, a allai olygu y byddai’r Cyngor yn methu cyflawni'r targed roedd wedi ei osod i'w hun yn y Cynllun Corfforaethol, y gellid cael darpariaeth i gategoreiddio hyn fel 'methiant derbyniol' gan y byddai'r awdurdod wedi gwneud pob ymdrech i gyflawni'r targed.

·         disgwylir y byddai’r tai cyngor newydd arfaethedig sydd i’w hadeiladu yn y dyfodol agos mor effeithlon o ran ynni na fyddai angen gosod system wresogi annibynnol;

·         cadarnhau bod ffaniau echdynnu yn cael eu gosod fel arfer pan fyddai eiddo yn cael eu hailwampio;

·         cynghori bod y rhan fwyaf o dai y mae’r Cyngor yn eiddo arnynt wedi derbyn bwyler gwres canolog newydd o fewn yr 8 mlynedd diwethaf;

·         sicrhau bod Swyddogion Tai yn ymdrin â materion gorfodi, fel gwrychoedd wedi gordyfu, a gerddi blêr ac ati bob dydd fel rhan o’u dyletswyddau dyddiol; a

·         cynghori y byddai rôl y Swyddogion Tai yn newid o Ebrill 2019, mewn ymgais i wrando yn well ar denantiaid a gweithredu ar eu pryderon. O'r dyddiad hwn ymlaen byddai tenantiaid yn cysylltu ag un swyddog ar gyfer pob ymholiad tai a thenantiaid.  Byddai Swyddogion Tai yn ymweld â chanolfannau cymunedol yn rheolaidd er mwyn cwrdd tenantiaid, ac os na fyddai canolfannau cymunedol ar gael byddent yn ymweld â’r ystadau mewn fan i gwrdd trigolion ac ateb ymholiadau.  Maes o law byddai Cynghorwyr yn cael gwybod pwy yw’r Swyddog(ion) Tai ar gyfer eu hardal  

 

Llongyfarchodd aelodau’r Pwyllgor y Gwasanaeth Tai am y daflen gyngor ar osgoi cyddwysedd, roeddynt yn teimlo y byddai’r daflen yn ddefnyddiol i bob aelwyd yn y sir.  Yn ddiweddar roedd nifer o aelodau wedi ymweld â’r tai Cyngor oedd wedi eu hailwampio yn eu wardiau a nodwyd eu bod yn edmygu safon y gwaith ailwampio a wnaed.  

 

O safbwynt ail gynnig Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer gwelliant, sef adolygu effaith hirdymor dwyn y gwasanaeth warden i drigolion yn ei gynlluniau llety gwarchod i ben, pwysleisiodd Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol bod y Cyngor yn llwyr  ddeall bod y wardeiniaid yn cael eu gwerthfawrogi gan y tenantiaid a'u bod yn hoff iawn o'r wardeiniaid, fodd bynnag yn y blynyddoedd diweddar roedd eu presenoldeb wedi bod yn fwy o dawelwch meddwl nag unrhyw beth arall. 

 

Gyda’r newid ffocws o ran darpariaeth gofal cymdeithasol i fod ar ail-alluogi a hyrwyddo annibyniaeth, roedd y potensial gan bresenoldeb wardeiniaid mewn llety i wneud i rhai drigolion fod yn fwy ynysig ac yn llai tebygol o geisio rhyngweithiad cymdeithasol.  O dan y Rhaglen Byw’n Annibynnol (SIL) gallai darpariaeth gymdeithasol wedi’i dargedu gael ei rannu ar draws y sir, ymysg trigolion yn byw mewn llety Cyngor, llety rhent preifat neu yn eu heiddo eu hunain, a gallent oll gael mynediad cyfartal i’r gwasanaethau roeddynt eu hangen.  O dan y Rhaglen Byw’n annibynnol mae rhai trigolion o’r cyn adeiladau tai gwarchod yn trefnu eu digwyddiadau cymdeithasol eu hunain yn y canolfannau cymunedol ger yr eiddo, roedd hyn yn lleihau'r risg o arwahanrwydd cymdeithasol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth:  Ardaloedd (Gwasanaethau Cymorth Cymunedol) y broses trawsnewid a ddilynwyd ar gyfer y tenantiaid tai gwarchod hynny oedd wedi nodi ‘anghenion’, a amlinellir yn Atodiad 4 yr adroddiad.  Dywedodd o'r 66 o drigolion oedd wedi derbyn cymorth drwy'r gwasanaeth SIL, dim ond dau oedd wedi cwyno, roedd un angen cymorth ychwanegol ac fe ddarparwyd y cymorth hwnnw maes o law. 

 

Roedd y gwasanaeth SIL yn dal i gefnogi tua 15 o denantiaid, ond roedd y mwyafrif o denantiaid mewn cyn lety gwarchod bellach yn niwtral o ran deiliadaeth.  Yn y dyfodol agos byddai’r Gwasanaeth SIL yn cael ei alinio gyda’r Gwasanaeth Ail-alluogi. 

 

Byddai’r rôl newydd ar gyfer y Swyddogion Tai o Ebrill 2019 yn cynnwys penodi un hanner diwrnod yr wythnos yn gweithio yn un o'r cyn adeiladau tai gwarchod yn eu hardal er mwyn cefnogi, helpu a chynghori’r tenantiaid.  Byddai'r holl denantiaid mewn cyn gynlluniau tai gwarchod yn cael ymweliad gan Swyddog Tai o leiaf unwaith y flwyddyn.  Yn ogystal, roedd gwaith yn mynd rhagddo i archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth ‘gofalwr symudol’ er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ysgafn yn y canolfannau cymunedol ar safleoedd yng nghyn adeiladau’r llety gwarchod.    Byddai’r ddarpariaeth cynnal a chadw, y byddai tâl gwasanaeth yn cael ei godi amdano fel rhan o’r rhent, yn bresenoldeb ar y safle ar sail cylchdro er mwyn cysylltu gyda thrigolion a'u cynorthwyo gyda mân dasgau cynnal a chadw.  Pe byddai hynny yn bosib byddai angen ymgynghori gyda thenantiaid ar y cynnig cyn ei gyflwyno.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:

·         mai un o’r heriau mwyaf i swyddogion o’r Gwasanaeth Tai a’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol oedd perswadio pobl i fynychu digwyddiadau cymdeithasol ac ati a gweld hynny fel ffordd o wella eu lles ac ansawdd eu bywyd;

·         bod perthynas weithio’r Cyngor gydag Age Connect yn hynod lwyddiannus, roedd yn cynnal y gwasanaeth Hwylusydd Cymunedol, gwasanaeth oedd yn cael ei ariannu gan y Gronfa Gofal Integredig.  Roedd yn braf bod arian y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer y Gwasanaeth wedi ei gadarnhau yn ddiweddar ar gyfer 2019/20

 

Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           derbyn y wybodaeth a gyflwynwyd a chefnogi ymdrechion y Gwasanaeth Tai a’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i fynd i’r afael â’r ddau gynnig o ran gwelliant sy’n ymwneud â thenantiaid y Cyngor yn codi o Adolygiad Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth Swyddfa Archwilio Cymru - Safon Ansawdd Tai Cymru; a

(ii)           bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor yn haf 2020 wedi ‘Adolygu effeithiolrwydd y model gweithio newydd ar gyfer Swyddogion Tai'.

 

Dogfennau ategol: