Eitem ar yr agenda
SAFONAU’R GYMRAEG
Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) yn
diweddaru aelodau ar gynnydd a waned gyda Safonau’r Gymraeg.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Cyfathrebu a Rheoli
Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
aelodau ynglŷn â’r cynnydd o ran Safonau’r Gymraeg.
Cyflwynwyd y Safonau yn Sir Ddinbych yn 2015 fel rhan o’r
drefn o’u cyflwyno mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, ac roeddent yn
deillio’n uniongyrchol o greu Mesur y Gymraeg a swydd Comisiynydd y Gymraeg. Roedd yn ofynnol i Sir
Ddinbych gydymffurfio â 167 o Safonau mewn pum maes allweddol – Darparu
Gwasanaethau; Llunio Polisïau; Gweithrediadau; Cadw Cofnodion a Hyrwyddo. Y nod oedd sicrhau y câi’r
Gymraeg ei thrin â’r un tegwch â’r Saesneg er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau
posib i aelodau o’r cyhoedd yn yr iaith o’u dewis. Gwnaethpwyd llawer o waith cyn
cyflwyno’r Safonau, ac roedd y Cyngor yn cyflawni rhai ohonynt eisoes – cafwyd
ymateb da gan y Gwasanaethau o ran sicrhau cydymffurfiaeth, ac roedd y Cyngor
yn cydymffurfio â’r mwyafrif helaeth o’r Safonau. Serch hynny, roedd angen gwneud mwy o
waith ynglŷn â hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a
bod hawl gan bawb a wahoddid i gyfarfodydd i gyfrannu yn Gymraeg. Roedd rhai
aelodau o staff yn anghyfarwydd â’r gofynion hynny, ond gellid mynd i’r afael â
hynny yn yr wythnosau oedd i ddod drwy gyfathrebu’n rhagweithiol. Byddai’r Cyngor yn dal i
hyrwyddo negeseuon ynglŷn â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, i sicrhau
ei fod yn dal i gydymffurfio ar lefel uchel.
Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd –
·
roedd y Pwyllgor yn falch o weld lefel uchel o
gydymffurfiaeth â’r rhan helaeth o’r Safonau. Roedd hefyd yn cydnabod y camau a
gymerwyd i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth wrth iddynt
godi, gan gynnwys cynllun gweithredu wedi’i reoli a negeseuon rhagweithiol – cydnabuwyd
gwaith y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn hynny o beth, yn ogystal â chefnogaeth
Hyrwyddwyr y Gymraeg. Roedd y Swyddogion hefyd yn
cydnabod cefnogaeth yr Aelodau ac arweiniad pendant y Cyngor i gydymffurfio â
Safonau’r Gymraeg.
·
nodwyd anghysonder rhwng y fersiynau Cymraeg a
Saesneg o’r Safonau o ran eu rhifau, a bod yno Safon 29a yn y rhai Cymraeg ond
nid y rhai Saesneg, a oedd a wnelo â darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o
Saesneg i Gymraeg – cytunodd y swyddogion y byddent yn ymchwilio i’r anghysonder
hwn gyda’r nod o gadarnhau’r gofynion a sicrhau cysondeb rhwng y fersiynau
Cymraeg a Saesneg
·
soniodd yr aelodau am eu profiadau eu hunain o
gydymffurfiaeth/diffyg cydymffurfiaeth wrth ymwneud â’r Cyngor, a’r
trafferthion a gawsant wrth ddefnyddio cyfeiriadau e-bost Cymraeg
Anogwyd yr aelodau i adrodd ynghylch unrhyw achosion o ddiffyg
cydymffurfiaeth, a soniodd y swyddogion am y mesurau a gyflwynwyd eisoes er
mwyn hwyluso cydymffurfiaeth staff â safonau penodol, gan gynnwys dosbarthu
templedi, cardiau cyfarch dwyieithog ffonetig ac yn y blaen.
Fodd bynnag, derbyniwyd ei bod yn anochel y byddai rhai achosion
neilltuol yn codi ac os oedd staff yn gyndyn o gydymffurfio â’r Safonau dylid
eu hannog i wneud hynny; byddai dal i ddefnyddio’r Gymraeg fel mater o drefn yn
helpu i ddatblygu’r iaith ymhellach
·
cadarnhaodd y swyddogion y câi’r Comisiynydd
newydd wahoddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor ar ôl ei benodi
·
o ran hyrwyddo’r ffaith y gellid cynnal
cyfarfodydd yn Gymraeg, cadarnhaodd y swyddogion y dylid cynnig y dewis yn
rhagweithiol, a bod angen i staff feddwl ymlaen llaw wrth drefnu cyfarfodydd er
mwyn bodloni’r gofynion – cynigiwyd y dewis fel mater o drefn ar gyfer
cyfarfodydd cyhoeddus
·
nodwyd fod gwahanol awdurdodau lleol a chyrff
sector cyhoeddus yn destun gwahanol Safonau na fyddai’n newid ond pe byddai
Comisiynydd y Gymraeg yn cymryd golwg o’r newydd ar y safonau hynny, neu pe
byddai’r gyfraith yn newid
·
cadarnhaodd y swyddogion nad oedd Safonau’r
Gymraeg yn Sir Ddinbych yn cynnwys yr ysgolion, ac mai penderfyniad i bob Corff
Llywodraethu unigol oedd eu mabwysiadu neu beidio
·
byddai’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn adolygu
polisi’r Cyngor ar enwau a rhifau strydoedd ar 21 Mawrth 2019.
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo’r camau gweithredu a gynigiwyd i fynd i’r afael ag
unrhyw anawsterau.
Dogfennau ategol:
- WELSH LANGUAGE STANDARDS REPORT, Eitem 6. PDF 195 KB
- WELSH LANGUAGE STANDARDS REPORT - APPENDIX A, Eitem 6. PDF 425 KB