Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HUNANASESIAD SGILIAU IAITH

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd (copi ynghlwm) sy’n manylu ar y dull i gynnal hunanasesiad o sgiliau iaith Gymraeg staff.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) ynglŷn â’r dull o hunanasesu sgiliau Cymraeg y staff.

 

Wrth ymateb i Safonau’r Iaith Gymraeg roedd disgwyl i’r Cyngor gynnal hunanasesiad yn flynyddol, ac roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol yn ymdrin â hynny.  Roedd arolygon yn y gorffennol wedi rhoi braslun o’r sgiliau, ond roedd rhywfaint o ansicrwydd a oedd y canlyniadau’n rhoi gwir ddarlun o’r sefyllfa oedd ohoni, a nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi dweud nad oedd eu sgiliau cystal ag yr oeddent mewn gwirionedd. Gallai fod amryw resymau am hynny, gan gynnwys diffyg hyder neu er mwyn lleihau disgwyliadau i feithrin cyswllt â phobl yn Gymraeg.  Credwyd y byddai gwybodaeth fanylach ynglŷn â’r lefelau hunanasesu’n helpu staff i gwblhau asesiadau mwy cywir a darparu data mwy cynhwysfawr ac ystyrlon fel y gallai gwasanaethau gynllunio eu darpariaeth ddwyieithog.  Y bwriad oedd cyflwyno’r un system â Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a soniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg fwy am y lefelau o 0 i 5. Roedd disgwyl i bob staff gyflawni lefel 1 yn effeithiol, a oedd yn cynnwys cyfarch pobl yn ddwyieithog yn unol â Safonau’r Gymraeg.  Câi rhywfaint o waith ei wneud hefyd er mwyn nodi’r ddarpariaeth o ran dysgu Cymraeg, a bwriedid dod ag adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ynglŷn â’r cynnydd gyda hyfforddiant.

 

Bu’r Aelodau’n trafod amryw agweddau ar yr adroddiad, a chawsant yr wybodaeth ganlynol gan y swyddogion:

 

·         cyfrifoldeb pob gwasanaeth unigol oedd talu am gyrsiau dysgu Cymraeg – roedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu rhai cyrsiau am ddim ac anogwyd staff i gofrestru ar eu cyfer

·         yn ôl yr arolwg blaenorol roedd oddeutu 29% o’r staff yn siarad Cymraeg, a oedd yn gyson â’r ganran o boblogaeth Sir Ddinbych oedd yn medru’r iaith – fodd bynnag, ni chredwyd fod hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa mewn gwirionedd gan y nodwyd fod rhai aelodau o staff wedi tanddatgan eu gallu; roedd angen gweithio gyda’r staff i adnabod rhwystrau rhag asesu lefelau sgiliau’n iawn, a byddai’r system newydd yn hwyluso hynny

·         Cynigiwyd cyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau o ran gallu er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posib ar gyfer yr aelodau hynny o staff oedd yn dysgu – Coleg Cambria a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd yn darparu’r cyrsiau

·         roedd oddeutu deugain o aelodau o staff yn dilyn cyrsiau oedd yn addas i’w sgiliau iaith, a’r bwriad oedd gweithio â’r Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol wrth lunio llyfryn i’r staff am y cyrsiau ffurfiol oedd ar gael, ynghyd â dulliau eraill anffurfiol o feithrin sgiliau iaith fel mentora, darparu cyfleoedd i sgwrsio yn Gymraeg, defnyddio llinynnau gwddf i ddynodi siaradwyr Cymraeg ac yn y blaen

·         cydnabuwyd hefyd fod rhai aelodau o staff yn dysgu Cymraeg yn eu hamser hamdden, ar ben y ddarpariaeth a gynigiai’r Cyngor, ac nid oedd y data presennol yn adlewyrchu hynny. Hefyd, roedd rhai aelodau o staff yn defnyddio ap i ddysgu Cymraeg – roedd y Tîm Cyswllt Adnoddau Dynol wrthi’n ceisio canfod pwy oedd y rhain, fel y gellid gwneud cofnod ac adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yn well

·         nodwyd yr amrywiaeth o ran faint o Gymraeg a gâi ei siarad ym mhrif swyddfeydd y Cyngor, a chytunodd yr aelodau ei bod yn gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar siarad Cymraeg a hybu sgiliau iaith i ddechrau, cyn mynd ymlaen i weithio ar Gymraeg ysgrifenedig.

 

Roedd y pwyllgor yn croesawu’r dulliau oedd ar waith, ac yn cytuno y dylai esbonio’r amryw lefelau sgiliau helpu’r staff i roi darlun mwy cywir o’u gallu.  Roedd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed y câi staff eu hannog i fanteisio ar wahanol gyfleoedd hyfforddiant, a bod amrywiaeth o gynlluniau eraill ar waith i hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso ei datblygiad. Edrychai’r Cadeirydd ymlaen at dderbyn canlyniadau’r hunanasesiad yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r dull o hunanasesu sgiliau Cymraeg y staff a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: