Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 44/2018/0855/ PR – TIR I’R DWYRAIN O TIRIONFA, RHUDDLAN, Y RHYL

Ystyried cais ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, gosodiad a maint 99 anheddau a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075 (cais materion a gadwyd yn ôl); ar dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cais mater a gadwyd yn ôl ar gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa’r 99 annedd a gyflwynir yn unol ag amod rhif 1 yng nghaniatâd amlinellol cod 44/2015/1075, ar dir i’r dwyrain o Tirionfa, Rhuddlan.

 

Cynigodd aelod lleol, y Cynghorydd Ann Davies i’r cais gael ei ohirio, ar y sail nad oedd digon o dystiolaeth gan Dŵr Cymru o ran carthffos gyhoeddus yn croesi’r safle. Cafodd y cynnig i ohirio ei eilio gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

Hysbysodd y swyddogion yr aelodau bod y safle yn safle a neilltuwyd, gyda chaniatâd cynllunio amlinellol. Roedd y cais i asesu’r Caniatâd Amlinellol, nid oes y swyddogion wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau gan Dŵr Cymru, corff arbenigol ar systemau draenio. Argymhellodd y swyddogion i beidio â gohirio’r cais.

 

PLEIDLAIS:

GOHIRIO - 5

PEIDIO Â GOHIRIO - 10

YMATAL - 0

 

Penderfynodd y pwyllgor i beidio â gohirio'r cais a pharhaodd y drafodaeth.

 

SIARADWYR CYHOEDDUS -

 

Pauline Evans (YN ERBYN) – Datganodd nad all isadeiledd Rhuddlan ymdopi â datblygiad o’r maint hwn, yn arbennig y systemau draenio.

 

Roedd diffyg eglurder ar y cynlluniau o ran mesuriadau o bellter yr anheddau arfaethedig o’r eiddo ar Pentre Lane.

 

O dan y CDU a’r CDLl mae nifer sylweddol o dai a datblygiadau eraill wedi eu hadeiladu'n Rhuddlan, sy'n mynd yn erbyn anghenion y Sir. Mae Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif mudo net yn y Sir ac nid oes angen datblygiad o’r graddfa hwn.

 

Mae problem traffig difrifol yn Rhuddlan o’r holl drefi yn yr ardal, a byddai'r tai ychwanegol arfaethedig yn cael effaith negyddol ar y broblem traffig presennol. Mae lleoedd mewn ysgolion yn brin.

 

Stuart Andrew (O BLAID) – Eglurodd bod y cais yn gais mater a gadwyd yn ôl, a bod y safle wedi derbyn caniatâd cynllunio yn y gorffennol, a gwerthwyd y tir gan y Cyngor er mwyn datblygu tai.

 

O’r 99 annedd arfaethedig, bydd 10 annedd yn fforddiadwy; bydd chwe dwy ystafell wely; a phedwar eiddo pedair ystafell wely. Bydd ardal chwarae, ynghyd â hanner erw o fan agored wedi’i dirlunio ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a gaiff ei gytuno gan y Cyngor. Byddai cyfraniad ariannol tuag at ysgolion lleol o £384,000, a £77,000 ychwanegol i wella mannau gwyrdd agored presennol. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad gan gyrff arbenigol.

 

Trafodaeth GyffredinolCanmolodd y Cynghorydd Christine Marston yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, eglurwyd bod unrhyw bryderon o ran y bibell carthffosiaeth wedi'u cywiro yn dilyn yr ymweliad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) yn erbyn y cais mater a gadwyd yn ôl gan ddatgan bod gan y trigolion lleol broblemau hir dymor yn erbyn y datblygiad. Mae’r ysgolion lleol ar hyn o bryd yn llawn ac yn methu â derbyn mwy o blant, ac ni ellir datblygu'r ysgol gan ei fod ar dir CADW.

 

Roedd gan y Cyng. Davies bryderon hefyd o ran y traffig ychwanegol y byddai'r datblygiad yn ei achosi, gan fod problem fawr yn barod o ran traffig yn Rhuddlan. Byddai’r system garthffosiaeth presennol angen ei uwchraddio i reoli’r tai ychwanegol yn Rhuddlan. Amlygwyd maint y tai arfaethedig, gan nad oedd y rhestr dai ar gyfer trigolion yn Rhuddlan yn dangos yr angen am 58 4 ystafell wely.

 

Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) yn erbyn y cais hefyd. Byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar hunaniaeth y dref, ac effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal. Pwysleisiwyd y pryderon o ran traffig.

 

Codwyd pryderon gan aelodau am y 58 4 ystafell wely arfaethedig. Cwestiynwyd os byddai cerbydau'n gallu defnyddio'r mynediad argyfwng a ddangoswyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, dywedodd y swyddogion

 

·         Bod yr amrywiaeth o anheddau arfaethedig yn cynnwys tai 1, 2, 3 a 4 ystafell wely ac yn bodloni'r cytundeb tai fforddiadwy bod angen i 10% o’r tai fod yn dai fforddiadwy.

·          Hysbyswyd yr aelodau y byddai’r datblygwr yn adeiladu 10 annedd yn hytrach na 9, a fydd yn mynd tu hwnt i’r 10% sy’n ofynnol yn y CDLl. Mae’r system ddraenio yn fater i Ddŵr Cymru, y corff sy’n gyfrifol am gapasiti, cysylltiad, rheolaeth a chynnal a chadw isadeiledd draenio  Ni chododd Dŵr Cymru unrhyw bryderon na gwrthwynebiad, yn y cam dyrannu safle, yn y cam caniatâd cynllunio amlinellol nac fel rhan o’r cynnig materion a gadwyd yn ôl.

·         Bydd mynediad newydd i’r safle, bydd y llwybr beiciau yn croesi’r mynediad newydd. Bydd yr arwydd 30mya hefyd yn cael ei symud i gyd-fynd â’r mynediad newydd i’r safle.

·         Ni fyddai'r allanfa argyfwng ar gael i gerbydau.

 

CynnigCynigodd y Cynghorydd Ann Davies, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Thomas y dylid gwrthod y cais ar sail y byddai’r cais yn cael effaith andwyol ar amwynderau, a lles trigolion, a nad all y gwaith carthffosiaeth a draenio presennol ddelio â’r datblygiad arfaethedig.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: