Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 01/2018/0705 PARC GLYN LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH
Ystyried cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi
24 cabanau llety a gwaith cysylltiol ar dir The Glyn Lleweni Parc, Yr Wyddgrug,
Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i ddatblygu 1.3 hectar o dir drwy godi 24 llety aros a gwaith cysylltiedig ym Mharc Glyn Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus –
Nerys Edwards (YN ERBYN) - Datganodd bod y cais yn gwrth-ddweud polisi cynllun datblygu lleol PSE12 a’r CDLl presennol, na fyddai’n caniatáu cymeradwyo unrhyw ddatblygiad o’r fath. Mae’r diffyg manylion yn y cynllun busnes yn golygu nad all y pwyllgor wneud penderfyniad gwybodus o ran yr effaith ar yr economi lleol.
Mae hygyrchedd y safle i gludiant cyhoeddus yn parhau i fod yn broblem, a bydd trigolion lleol yn cael eu heffeithio gan y datblygiad a’r cynnydd mewn traffig ar y ffordd fynediad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth wedi’i wneud i les a diogelwch ymwelwyr i’r safle.
Mae’r diffyg manylion o ran darpariaeth gwasanaethau cyfleustodau yn golygu nad all y Pwyllgor Cynllunio wneud penderfyniad gwybodus ar effaith yr isadeiledd a’r dyfrhawn. Mae pryderon hefyd o ran Iechyd a Diogelwch y safle oherwydd bod y mynediad yn mynd drwy faes glanio gweithredol. Bydd angen i’r Cyngor gynyddu'r monitro er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn preswylio'n barhaol ar y safle arfaethedig.
Rodney Witter (O BLAID) – Datganodd bod gan y pwyllgor a’r fenter nod gyffredin o ran datblygiadau sy'n cyd-fynd â natur a thai cynaliadwy.
Mae’r parc wedi ei drawsnewid yn dilyn caniatâd i sawl cais cynllunio yn y gorffennol. Yn 1990 caniatâd ar gyfer gleiderau gwynt a achosodd yr RAF i chwilio am safle arall. Bu cais arall i ganiatáu adfer yr hen lwyni Lleweni, i sefydlu parc bychan ar gyfer carafanau. Caniatawyd cais i adfer hen adeiladau i greu pentrefan gydag 17 annedd.
Thema’r cais yw amrywiaeth yr economi lleol, sy’n unol â pholisi’r Sir. Bydd y datblygiad hwn yn caniatáu i’r economi gwledig dyfu, fel y rhai sydd wedi’u cyflawni yn y siroedd cyfagos. Derbyniwyd cefnogaeth gan 56 ymwelydd o blaid y cais. Gall y Cyngor weithredu cyfyngiad deiliadaeth 28 niwrnod i sicrhau nad oes neb yn preswylio’n barhaol ar y safle.
Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Mark Young bryder gyda diffyg manylder o ran yr hyn fydd yn cael ei ddatblygu gan nad oes achos busnes, a chodwyd y mater nad yw'r cais yn glynu ar y polisi cynllun datblygu lleol PSE12. Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Thomas nad oedd yn gweld rheswm i fynd yn erbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais.
Eglurwyd bod y Polisi CDLl sydd wedi’i fabwysiadu yn ceisio gwrthwynebu parciau carafanau statig newydd yn y Sir, p’un ai’n ddatblygiadau gwledig neu arfordirol, ac mae’r lletyau aros arfaethedig yn disgyn o fewn diffiniad cyfreithiol o garafán.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU - 0
GWRTHOD - 16
YMATAL - 0
PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: