Eitem ar yr agenda
YMATEB DRAFFT I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR WELLA CLUDIANT CYHOEDDUS
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno ymateb drafft y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella cludiant cyhoeddus.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n -
(a) nodi a chefnogi cynnwys yr adroddiad a’r ymateb arfaethedig, a
(b) yn unol a safbwyntiau aelodau, awdurdodi Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd i gyflwyno’r drafft terfynol fel ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru ar Wella Cludiant Cyhoeddus, gan ei fod yn berthnasol i drwyddedu tacsi a
hurio preifat.
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (wedi ei rannu yn barod) yn cyflwyno ymateb
ddrafft y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella trafnidiaeth
gyhoeddus<0}
{0><}0{>Hysbyswyd yr Aelodau am Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
gynigion i ddeddfu ar ddiwygio cynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol a
thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru. <0}{0><}0{>Ystyriai’r adroddiad agwedd y
tacsis a hurio’n breifat yn unig a roedd y swyddogion wedi drafftio ymateb i’r
cwestiynau a ofynnwyd gan Llywodraeth Cymru i’w hystyried gan yr aelodau. <0} {0><}0{>Bwriad yr ymateb oedd cyflwyno
gwybodaeth i’r Briff Cabinet er mwyn galluogi ymateb benodol ar holl agweddau'r
ymgynghoriad cyn cyflwyno’r ymateb swyddogol cyn y dyddiad cau ar 27 Mawrth
2019. Roedd pedwar prif faes trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat wedi eu
nodi ar gyfer ystyriaeth. Roedd y rhain yn cynnwys cynigion i osod safonau
cenedlaethol; caniatáu awdurdod trwyddedu i gymryd camau gorfodi yn erbyn
unrhyw gerbyd oedd yn weithredol yn ei hardal; creu mecanwaith ar gyfer rhannu
gwybodaeth berthnasol ar gyfer pwrpasau diogelu, a chynigion i ail-gyfeirio
swyddogaethau trwyddedu tacsis a hurio preifat i awdurdod drwyddedu
genedlaethol – Awdurdod Drafnidiaeth ar y Cyd (ADC)<0}
{0><}0{>Trafodwyd goblygiadau’r
cynigion gyda’r swyddogion a chadarnhawyd fod y Panel Trwyddedu Technegol (yn
cynrychioli holl awdurdodau lleol Cymru) wedi cytuno gyda ymateb ar y cyd, gyda
phob awdurdod lleol yn cael y cyfle i gynnwys sylwadau ychwanegol wedi eu
teilwra i’w anghenion lleol fel yn briodol. <0} {0><}0{>Adroddodd y swyddogion hefyd ar gwmpas
yr ymgynghoriad i roi gwybod i gyfarfod Briffio'r Cabinet. Cadarnhaodd Y
Cynghorydd Brian Jones fod Fforwm Ymgynghori Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi
ystyried y cynigion hefyd ac y byddant yn cynnig mewnbwn er mwyn galluogi’r
Cyfarfod Briffio i ystyried sefyllfa Sir Ddinbych. <0} {0><}0{>Nododd aelodau fod rhai
nodweddion positif wedi codi o’r cynigion gan gynnwys safoni polisïau a
gweithdrefnau ar draws Cymru er mwyn sicrhau ymdriniaeth gytbwys, mwy o bwerau
gorfodi i awdurdodau lleol, rhannu gwybodaeth ar gyfer pwrpas diogelu, a
moderneiddio prosesau. <0} {0><}0{>Er hyn, nododd aelodau
bwysigrwydd rheolaeth leol ynghyd â manteision gwybodaeth ac atebolrwydd leol.
Credant yn gryf y dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn gyfrifol am drwyddedu
tacsis a hurio preifat o fewn eu hardaloedd, gan deimlo eu bod yn y lle gorau i
ddelio’n effeithiol â materion lleol a dylanwadu ar ganlyniadau lleol, gan
sicrhau rheolaeth well dros dacsis a’r diwydiant hurio preifat yn y sir.<0} {0><}0{>Nodwyd y gwaith caled a wnaed gan
aelodau a swyddogion wrth godi safonau a gweithredu gwelliannau o fewn y
diwydiant hurio preifat a thacsis trwyddedig ynghyd â phwysigrwydd cario ymlaen
gyda'r gwaith. Nodwyd pwysigrwydd cadw safonau.<0} {0><}0{>O ganlyniad, nid oedd cefnogaeth i'r
cynnig i ail-gyfeirio'r swyddogaethau i ffwrdd o'r awdurdodau lleol i awdurdod
drwyddedu genedlaethol. <0}{0><}0{>Er bod y drafodaeth wedi
canolbwyntio'n bennaf ar dacsis a thrwyddedu hurio preifat cafwyd cyfeiriad
tuag at bwysigrwydd darparu gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o’r broses hon
ynghyd â chludiant yn y cymunedau gwledig; un o flaenoriaethau’r Cyngor. <0}
{0><}0{>PENDEFYNWYD fod aelodau yn- <0}
{0><}100{>(a)<0} {0><}0{>nodi a chefnogi cynnwys yr adroddiad a’r ymateb a gynigiwyd , ac<0}
{0><}100{>(b)<0} {0><}0{>yn ddibynnol ar farn yr aelodau, awdurdodi Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd i gyflwyno'r drafft orffenedig fel ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus, cyn belled â'i fod yn
ymwneud â thrwyddedu hurio preifat a thacsis.
Dogfennau ategol:
- WG CONSULTATION - IMPROVING TRANSPORT, Eitem 8. PDF 213 KB
- WG CONSULTATION - APPENDIX A, Eitem 8. PDF 1 MB
- WG CONSULTATION - IMPROVING TRANSPORT APPENDIX B, Eitem 8. PDF 332 KB