Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFNODION

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar:

 

(i)            29 Ionawr 2019 (copi ynghlwm);

(ii)          19 Chwefror 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 ac 19 Chwefror 2019.

 

Cywirdeb:

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylai ddarllen “Awdurdod Tân” ac nid “Bwrdd yr Awdurdod Tân” ar dudalen 12 (Eitem 8).

 

Datganodd y Cynghorydd Davies hefyd fod anghysondeb rhwng fersiwn Cymraeg a Saesneg y cofnodion. Ar dudalen 11, roedd pwynt bwled y fersiwn Saesneg yn dweud “Schools to find 2% cuts was raised....”. Nid oedd y paragraff wedi’i gyfieithu’n llawn yn y fersiwn Gymraeg.

 

Roedd anghysondeb hefyd ar dudalen 10 gan fod pwynt bwled y fersiwn Saesneg “Schools savings of 2% (£1.3 million) yn gywir ond roedd yn datgan (£13miliwn) yn y Gymraeg  a oedd yn anghywir.

 

Materion yn Codi:

 

 

Tudalen 9 (Eitem 6) – Holodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ynghylch a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru? Holodd hefyd petai gan rai adrannau tanwariant, a fyddai’r arian hynny’n cael ei gario ymlaen?

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddai’r papur Alldro Refeniw blynyddol yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ym mis Mehefin 2019 ac y byddai’n delio ag unrhyw danwariant mewn gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Cadarnhaodd hefyd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol sylweddol wedi dod i law.

 

Ar hyn o bryd, datganodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, eu bod wedi gwneud cais am gyllid ychwanegol o fewn ei bortffolio ond iddynt fod yn aflwyddiannus yn y cais.

 

Tudalen 10 – y Cynghorydd Rhys Thomas – ychwanegu £100miliwn i’r gwasanaethau atal digartrefedd – faint ohono fydd yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych? Datganodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn iawn.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth fod y £100miliwn i Gymru gyfan ac y byddai Sir Ddinbych yn cael dyraniad pro rata trwy’r Grŵp Cefnogi Pobl.

 

Datganodd y Cynghorydd Glenn Swingler fudd personol gan ei fod yn llywodraethwr ysgol.

Tudalen 11 (Eitem 6) – Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler bryder mewn perthynas â’r toriad o 2% yr oedd disgwyl i ysgolion ei ganfod. Esboniodd y trafferthion y byddai’r ysgolion yn eu cael yn gwneud yr arbediad hwn. Mynegodd ofid hefyd am safon yr addysg i blant petai toriadau pellach yn parhau i gael eu gwneud.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod addysg wedi’i gwarchod, er gwaetha’r toriadau gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd cyfathrebiadau gyda Chadeiryddion y Llywodraethwyr a’r Penaethiaid oedd wedi ymroi i ganfod yr arbedion o 2%. Rhoddwyd sicrwydd na fyddai’r toriadau’n andwyol i addysg plant.

 

Tudalen 12 (Eitem 7) – Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas i ddata gael ei ddarparu iddo mewn perthynas ag ymadawyr gofal oedd yn atebol i dalu’r dreth gyngor. Roedd pump ymadawr gofal, dau ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych. Gofynnodd y Cynghorydd Thomas a gafwyd unrhyw symudiadau ar raddfa genedlaethol i sicrhau bod ymadawyr gofal yn cael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor. Cadarnhaodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn ddigonol.

 

Tudalen 13 (Eitem 9) – Cododd y Cyngorydd Gwyneth Kensler mater effaith botensial Brexit ar economi leol Sir Ddinbych oherwydd y materion yn San Steffan ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts wybod i’r Cyngor y byddai cyllid mewn perthynas ag urddas adeg mislif yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ond ni wyddai ar hyn o bryd faint o ddyraniad fyddai ar gael i Sir Ddinbych.

 

Tudalen 17 (Etiem 3) – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei ddiolchgarwch i Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, am anfon ymateb ysgrifenedig at Mrs Pauline Wheeler. Mynegodd ofid y dylai’r wybodaeth gael ei gwneud yn gliriach i rieni. Aeth ati i gadarnhau iddo gyflwyno’r peth i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a byddai’r mater yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Craffu.

 

Tudalen 19 (Eitem 3) – Diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am ei ymateb cynhwysfawr mewn perthynas â thlodi mislif. Aeth y Cynghorydd Wynne ymlaen i ofyn a oedd unrhyw ymatebion pellach wedi dod i law.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod rhai ysgolion heb ymateb eto ond unwaith y byddai’r holl ymatebion wedi dod i law, bydden nhw’n cael eu coladu a’u dosbarthu.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 ac 19 Chwefror 2019 yn cael eu cadarnhau fel gwir gofnod ac yn cael eu harwyddo gan y Cadeirydd.

 

 

Dogfennau ategol: