Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio
Preifat.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat
yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2
yr adroddiad.
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi ei gylchredeg yn flaenorol) ar -<0}
(i)
{0><}0{>gais a dderbyniwyd am Drwydded Cerbyd
Hurio Preifat;<0}
(ii)
{0><}0{>swyddogion wedi methu caniatáu’r cais
gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor mewn
perthynas a’r terfyn oed o bum mlynedd i
gerbydau oedd i’w trwyddedu dan gais newydd;
<0}
(iii)
{0><}0{>amodau ychwanegol perthnasol i drwyddedu mathau o
gerbydau arbenigol megis yr un dan sylw yn yr achos hwn ynghyd â ffotograffau o'r cerbyd oedd
yn sail ir cais, a <0}
(iv)
{0><}0{>yr Ymgeisydd â wahoddwyd i fod yn bresennol yn y
cyfarfod er mwyn cefnogi’r cais ac ateb cwestiynau'r aelodau.<0}
{0><}0{>Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad ynghyd â gweithdrefnau’r pwyllgor.<0}
{0><}0{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad
gan ddenu sylw’r pwyllgor at bolisi'r Cyngor oedd yn nodi fod rhaid i gerbydau
oedd yn sail i gais newydd fod yn iau na phum mlwydd oed.<0} {0><}0{>Gan fod y cerbyd dan sylw yn dair ar ddeg oed nid
oedd yn cydymffurfio â’r
gofynion presennol.<0} {0><}0{>Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i
wyro oddi wrth bolisi’r Cyngor a chaniatáu’r cais. <0}
{0><}0{>Nododd yr Ymgeisydd ei fwriad i amnewid cerbyd arall i’w drwyddedu ond ar
ôl ystyried y mater cadarnhaodd ei fwriad i fwrw ymlaen gyda'r cais gwreiddiol,
oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad i'r pwyllgor. <0} {0><}0{>Wrth gyflwyno ei achos nododd yr ymgeisydd
ei fod wedi hen ennill ei blwyf ac yn adnabyddus fel gweithredwr ceir limwsîn ar gyfer hurio preifat arbenigol. Roedd
yn darparu cerbydau ar gyfer achlysuron arbennig megis priodasau, bedyddiadau,
ayyb. <0} {0><}0{>Er ei fod yn derbyn fod rheswm dros
gyflwyno terfyn oedran ar gyfer trwyddedu cerbydau hacni cyffredinol a
cherbydau hurio preifat teimlai fod y cyfyngiadau’n cael effaith anghyfartal ar
ei fusnes a'i hyfywedd o ystyried y natur a'r math o waith a redai ynghyd â bod yn rwystr i uwchraddio trwyddedau
cerbydau presennol fel oedd wedi digwydd yn yr achos hwn.<0}{0><}0{>Ymhelaethodd ar rinweddau’r cerbyd a
gynigiwyd i’w drwyddedu a chyflwynodd dystiolaeth o waith cynnal a chadw a
manylion gwasanaeth a thriniaeth ynghyd a sicrhau’r aelodau fod y cerbyd o
safon uchel.<0} {0><}0{>Yn olaf gofynnodd am gael gwared o’r terfyn amser
ar gyfer cerbydau arbenigol, megis limwsînau estynedig, ym mholisi’r Cyngor. <0}
{0><}0{>Yn y man hwn, cafwyd gohiriad
er mwyn ystyried y cais. <0}
{0><}0{>PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded Cerbyd
Hurio Preifat gan osod yr amodau ychwanegol fel y nodir yn Atodlen 2 i’r
adroddiad. <0}
{0><}0{>Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - <0}
{0><}0{>Roedd yr aelodau wedi ystyried yr
achos a gyflwynwyd yn ofalus ac wedi nodi fod yr ymgeisydd yn weithredwr
cyfrifol oedd yn rhedeg y busnes ers amser hir, roedd ganddo gwmni cerbydau hurio preifat i bwrpas penodol
ac o safon uchel.<0} {0><}0{>Wedi ystyried y natur a'r math o
fusnes a redai’r ymgeisydd a’r gwasanaethau penodol a ddarperir, a gan dderbyn
fod y cerbyd dan sylw mewn cyflwr arbennig o dda, cytunodd yr aelodau fod achos
teilwng wedi ei gyflwyno i wyro oddi wrth eu polisi ar derfynau oedran cerbydau
yn yr achos hwn a chaniatáu’r cais fel y gwnaed ef, gan osod amodau penodol yn
berthnasol i'r math arbennig o gerbyd.<0} {0><}0{>Ynglŷn â'r cais i newid y polisi ar
derfyn oedran i gerbydau arbenigol, teimlai’r aelodau fod eu polisi presennol
yn gywir ac y dylai pob un cais gael ei ystyried yn unigol. <0}
{0><}0{>Felly cafodd penderfyniad y
Pwyllgor ynghyd â’r rhesymau eu cyfleu i’r Ymgeisydd. <0}
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./4 yn gyfyngedig