Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO PRESENNOL – MRH RHUTHUN, FFORDD Y PARC, RHUTHUN, LL15 1NB
Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD ar y canlynol mewn perthynas â’r amrywiadau y gwnaed
cais amdanynt –
i.
Darpariaeth Lluniaeth Hwyr y
Nos 23:00 - 05:00 dydd Llun - dydd Sul - WEDI’I GANIATÁU AR GYFER DIODYDD POETH
YN UNIG (dim darpariaeth bwyd poeth)
ii.
Cyflenwi alcohol 24 awr y
dydd o ddydd Llun i ddydd Sul (i’w yfed oddi ar yr eiddo) - GWRTHODWYD
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar -
(i)
gais a dderbyniwyd gan Malthurst Retail Limited i amrywio
Trwydded Eiddo mewn perthynas â MRH Rhuthun, Ffordd y Parc, Rhuthun i amrywio
eu horiau i fod ar agor 24 awr i werthu alcohol fel siop drwyddedig ynghyd â
darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos (Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
roedd yr eiddo yn gweithredu fel gorsaf betrol sydd ar
agor 24 awr y dydd ynghyd â siop fechan gydag oriau trwyddedig i werthu alcohol
yn awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul
o 06:00 tan 23:00;
(iii)
bod yr ymgeisydd wedi ceisio awdurdodiad i ddarparu'r
canlynol-
GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY |
DYDDIAU PERTHNASOL |
O |
TAN |
Darparu Alcohol (i’w yfed oddi ar safle’r eiddo) |
Dydd Llun – ddydd Sul |
24 awr |
|
Darparu lluniaeth hwyr (ar ac oddi ar safle’r eiddo) |
Dydd Llun – ddydd Sul |
23:00 |
05:00 |
Oriau Agor yr Eiddo |
Dydd Llun – ddydd Sul |
24 awr |
(iv)
mae naw o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon
â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn
ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol;
(v)
nid oedd cyfryngu yn opsiwn yn yr achos hwn oherwydd
nifer y sylwadau a dderbyniwyd;
(vi)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y
cais, yn ogystal â nifer o amodau arfaethedig, a gytunwyd gyda’r Ymgeisydd, ac
a fyddai’n cael eu hymgorffori o fewn atodlen weithredu’r eiddo, pe bai’r
amrywiadau’n cael eu cymeradwyo (Atodiad C yr adroddiad).
(vii)
bod Atodlen Weithredu arfaethedig yr eiddo wedi’i
chynnwys fel rhan o’r cais gan nodi nifer o amodau ychwanegol;
(viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus
i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol
arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac yr
(ix)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais.
Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan
y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Mr. Robert Botkai –
Cyfreithiwr, Mr. Keith Dissamayake –
Rheolwr Safle a Goruchwylydd Safle Dynodedig a Mr. Paul Masher –Rheolwr Ardal Motor Fuel Group
yn bresennol ar ran yr ymgeisydd (Malthurst Retail Limited).
Darparodd Mr. Botkai
rywfaint o gefndir yn egluro newid ym mherchnogaeth y safle’n ddiweddar ond
cadarnhaodd bod y cais yn parhau i fod yn gywir. Roedd y Drwydded Eiddo presennol yn caniatáu
gwerthu alcohol rhwng 06.00 a 23.00 yn unol â’r oriau agor blaenorol. Ers mis Chwefror 2018 roedd yr eiddo wedi
bod yn gweithredu 24 awr y dydd a gwnaed cais i adlewyrchu’r newid i’r oriau
masnachu presennol. Cyfeiriwyd at y
Canllawiau a gyflwynwyd o dan Adran 182 o'r Ddeddf Trwyddedu mewn perthynas ag
oriau masnachu a oedd yn nodi y dylai siopau, storfeydd ac archfarchnadoedd
allu gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo i gyd-fynd â'u horiau agor oni
bai bod rheswm da dros gyfyngu'r oriau hynny.
Roedd Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor hefyd wedi’i ddyfynnu gan ei
fod yn ymwneud â chaniatâd cyffredinol ar gyfer siopau ac archfarchnadoedd i
werthu alcohol yn ystod oriau agor arferol oni bai eu bod yn ganolbwynt ar
gyfer anrhefn ac aflonyddwch.
Adroddodd Mr. Botkai ar
ddwy elfen ar wahân o'r cais fel a ganlyn-
·
Lluniaeth yn hwyr yn y nos – roedd yr eiddo eisoes yn
gwerthu diodydd poeth ac roedd cynnig bwyd poeth cyfyngedig.
Y bwriad oedd gwerthu
diodydd poeth yn unig rhwng 23.00 a 06.00 ac roedd yr Ymgeisydd yn fodlon
derbyn amod ar y drwydded yn gwahardd gwerthu bwyd poeth rhwng yr amseroedd
hynny. Gobeithiwyd y byddai’r consesiwn
hwn yn gymorth i fynd i’r afael â phryderon rhai o’r preswylwyr.
·
Gwerthu Alcohol am 24 awr – cyflwynwyd bod yr Heddlu yn
arbenigwyr ar drosedd ac anrhefn.
Roedd yr Heddlu wedi
ymweld â’r safle ac roedd nifer o amodau wedi’u cytuno rhwng yr Heddlu a’r
Ymgeisydd i’w cyflwyno ar y drwydded pe bai’n cael ei chymeradwyo ac roedd yr
amodau wedi’u cyflwyno yn Atodiad C yr adroddiad. Roedd yr Heddlu’n fodlon â’r cais ar y
seiliau hynny. Cyflwynwyd y cais i’r
holl ymgyngoreion statudol ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan unrhyw un
o’r awdurdodau cyfrifol.
Roedd Mr Botkai yn falch
o’r cyfle i fynd i’r afael â phryderon y preswylwyr a oedd yn berthnasol i’r
cais ac roedd yn cydnabod y byddai materion yn codi o bryd i’w gilydd pan fo
preswylwyr yn byw’n agos at orsaf betrol.
Roedd hefyd yn fodlon ystyried pryderon eraill nad ydynt yn gysylltiedig
â’r cais y tu allan i’r gwrandawiad.
Wrth gyflwyno achos ei gleient ac wrth fynd i’r afael â’r materion a
godwyd ymatebodd Mr. Botkai fel a ganlyn
–
·
roedd pryderon penodol wedi’u codi o ran nos Sadwrn yn
benodol oherwydd bod pobl yn gadael eiddo trwyddedig cyfagos yn yr oriau mân
- byddai hyn yn fater i'w gleient ei
fonitro ac nid oedd yn credu y byddai'n creu problem oherwydd y modd yr oedd
pobl fel arfer yn ymddwyn
·
cyfeiriodd at ei brofiad blaenorol ynglŷn â
phryderon a godwyd gan breswylwyr mewn perthynas â safleoedd 24 awr mewn
gwrandawiadau trwyddedu yn cynghori nad oedd pryderon preswylwyr yn dod yn wir
yn y mwyafrif o achosion; pe bai unrhyw broblemau'n codi anogwyd y preswylwyr i
roi gwybod amdanynt a darparodd sicrwydd y byddai camau'n cael eu cymryd i'w
datrys
·
nid oedd ei gleient yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad
gwrthgymdeithasol ar y safle
·
roedd gwydr wedi’i falu wedi’i gyflwyno fel pryder ond
nid oedd o reidrwydd wedi'i gaffael o'r eiddo ac roedd yn debygol o ddod o
dafarndai yn yr ardal
·
nid oedd y sylwadau am yfed a gyrru yn berthnasol i’r
cais gan nad oedd cysylltiad rhwng y ddau na thystiolaeth o hynny
·
roedd y maes parcio ger yr eiddo wedi bod yn bryder i
breswylwyr ers blynyddoedd gyda phroblemau yn ymwneud â ‘rebels rasio’ ac ati,
ac roedd y Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hynny.
Nid
cyfrifoldeb yr eiddo oedd y maes parcio a phe bai problemau'n parhau o ran
hynny ni ddylid beio'r Ymgeisydd.
·
nid oedd y damweiniau traffig y cyfeiriwyd atynt yn
berthnasol i’r cais
·
Nid oedd seiliau i’r pryderon am y bwth bwyd poeth gan fod cynnig cyfyngedig o
fwyd poeth ar hyn o bryd a’r bwriad oedd gwerthu diodydd poeth yn unig fel lluniaeth
yn hwyr yn y nos a oedd hefyd yn datrys y pryderon o ran sbwriel bwyd.
·
byddai un ariannwr yn gweithredu drwy ffenestr nos rhwng
23.00 a 05.00 a fyddai’n unol â sut y mae mwyafrif y siopau’n gweithredu ac
roedd yr Heddlu’n fodlon gyda’r ymagwedd honno ac nid oeddent wedi cyflwyno
unrhyw wrthwynebiad o ran hynny.
·
cyfeiriodd at sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd gan
Mr. K. Bennett ac ymddiheurodd nad oedd
wedi derbyn ymateb ysgrifenedig i'w lythyr a anfonwyd at Reolwr y Siop ym mis
Medi 2018- roedd y llythyr wedi'i anfon ymlaen at Bencadlys MRH ond digwyddodd
ar yr un pryd â gwerthiant y cwmni ac ni anfonwyd ymateb. Fodd bynnag, cymerwyd
camau mewn ymateb gan gynnwys rhwystro mynediad i’r peiriant chwistrellu ceir
dros nos, ac ar ôl tynnu’r conau roedd peiriant sy’n cael ei weithredu gyda
thocynnau wedi’i gyflwyno gan gyfyngu ei weithrediad i ddim hwyrach na 21:00;
ni chaniateir defnyddio sugnwr llwch yn y nos, ac roedd rhai arwyddion ar y
safle yn gofyn i bobl adael yn dawel, gellir gosod rhagor o arwyddion.
·
nid oedd y pwynt am yrwyr lori yn diffodd yr injan yn
eglur ond roedd yn fodlon trafod y mater ymhellach gyda'r nod o ganfod
datrysiad.
·
cytuno i beidio â chynnal unrhyw waith glanhau yn ystod y
nos
·
egluro y byddai rhifau cyswllt ar gyfer y Rheolwr Safle
yn cael ei ddosbarthu er mwyn hwyluso gwell cyfathrebu gyda’r preswylwyr
·
roedd camau wedi’u cymryd i sicrhau na fyddai unrhyw
ddosbarthiadau rhwng 22.00 a 07.00 i fynd i’r afael â phryderon ac er nad
oeddent yn berthnasol i'r cais, roedd yn dangos parodrwydd i wrando a mynd i'r
afael â phryderon.
I gloi cyfeiriodd
Mr. Botkai at y pwerau i adolygu
trwydded pe bai gwir dystiolaeth o broblemau - ychwanegodd ei fod wedi
cynrychioli MRH ers pymtheg mlynedd ac nid oedd yn ymwybodol o unrhyw adolygiadau
a gynhaliwyd, ac yn ei brofiad diweddar gyda Motor Fuel Group nid oedd yn
ymwybodol o unrhyw adolygiadau trwydded.
Roedd Mr. Botkai yn hyderus pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, na
fyddai adolygiad trwydded yn ofynnol a byddai unrhyw faterion sy’n peri pryder,
bod yn ymwneud â’r Drwydded Eiddo ai peidio, yn cael eu datrys.
Holodd yr Aelodau Mr.
Botkai ac fe ymatebodd fel a ganlyn –
·
nid oedd gofyniad yn y Ddeddf Trwyddedu i ddangos bod
galw am drwydded
·
y bwriad oedd gweithredu o 23.00 tan 05.00
drwy ffenestr dalu'r nos a byddai’r drysau wedi’u cloi ac ni fyddai cwsmeriaid
yn cael mynediad i’r siop yn ystod yr amseroedd hyn.
Cadarnhaodd y
Goruchwylydd Eiddo Dynodedig nad oedd
ciwiau o bobl yn y nos ar hyn o bryd ac ni ddisgwylir i hyn newid.
·
roedd profiad mewn mannau eraill yn dangos bod pobl yn
ymddwyn mewn ffyrdd penodol mewn amgylchiadau tebyg – ni chredir y byddai pobl
yn gadael y tafarndai yn yr ardal i brynu alcohol o’r garej.
Fodd bynnag, byddai’r
sefyllfa’n cael ei monitro, a phe bai hyn yn broblem, fel trwyddedai cyfrifol,
byddai'r eiddo yn rhoi'r gorau i werthu alcohol. Cyfeiriwyd at achosion blaenorol lle bo’r
Heddlu wedi pryderu y byddai’r eiddo yn dod yn ganolbwynt ond yn dilyn cyfnod
prawf nid oedd yr ofnau hynny wedi'u gwireddu ac roedd y drwydded eiddo dros
dro wedi dod yn un parhaol - yn yr achos hwn nid oedd tystiolaeth o hynny ac
nid oedd yr Heddlu wedi gwrthwynebu'r cais.
Er bod pryderon y preswylwyr yn ddealladwy nid oeddent yn digwydd yn ei
brofiad ef.
·
roedd yr eiddo eisoes yn gweithredu am 24 awr – yr unig
newid fyddai gwerthu diodydd poeth rhwng 23.00 a 05.00 ac ymestyn oriau
trwyddedig gwerthu alcohol (06.00 i 23.00) i 24 awr yn unol ag oriau masnachu
presennol yr eiddo.
·
roedd y staff wedi’u hyfforddi’n llawn ac nid oedd
ganddynt hawl i werthu alcohol i unrhyw un a oedd eisoes yn feddw.
·
pwysleisiodd y cynigiwyd y byddai'r oriau trwyddedu
newydd yn cael eu monitro a phe bai unrhyw broblemau, fel deiliaid trwydded cyfrifol, byddai'r
arfer yn dod i ben. Nid oedd yr Heddlu wedi gofyn am unrhyw gyfyngiad o ran
oriau na monitro ac nid oedd tystiolaeth i gefnogi cyfyngu’r drwydded tan
02.00. Er ei fod yn nodi pryderon y preswylwyr nid oedd yn credu y byddai’r
problemau hynny’n dod yn wirionedd.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Yn absenoldeb
cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru, derbyniwyd eu sylwadau fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Roedd yr amodau a gyflwynwyd
gan yr Heddlu wedi’u cytuno gyda’r Ymgeisydd er mwyn hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo fel y'i cyflwynwyd.
SYLWADAU CYHOEDDUS GAN RAI Â DIDDORDEB
Roedd naw o sylwadau
ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon â diddordeb (Atodiad B i'r adroddiad) yn
ymwneud ag aflonyddwch o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd y partïon â diddordeb a oedd yn
bresennol yn y gwrandawiad yn cynnwys (1) Ms.
C. Williams, (2) Ms. A. Lapage, (3) Mr. K. Simmons, a (4) Mr. K. Bennett
– oll yn breswylwyr neu’n bresennol ar ran preswylwyr / busnesau Ffordd y Parc,
Rhuthun.
Roedd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts wedi’i benodi gan ddau barti â diddordeb i siarad ar eu rhan-
(1) Ms. C. Williams a Mrs. A. Jones (nad
oedd yn bresennol). Roedd (2) Mrs. A.
Lapage, (3) Mr. K. Simmons, a (4) Mr. K. Bennett wedi egluro eu bod yn bwriadu
siarad drostynt eu hunain.
Eglurodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y
garej wedi’i leoli mewn tref farchnad wledig, mewn ardal breswyl, yn agos at
dri tŷ tafarn a oedd yn defnyddio staff drws ar adegau penodol er mwyn
rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac roedd y siopau prydau poeth parod yn cau
30 munud cyn y tafarndai fel modd o fynd i'r afael ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Roedd y preswylwyr yn pryderu bod y garej yn hygyrch o
bob tŷ tafarn yn y dref gan arwain at fwy o ymwelwyr a sŵn gan greu
canolbwynt, yn enwedig gan fod y dref yn gwagio’n araf yn aml, a byddai’n
ganolbwynt i rai ifanc ymgynnull gyda chiwiau ar blaengwrt y garej. Roedd yr Ymgeisydd wedi nodi na fyddai bwyd
poeth yn cael ei werthu ond pe bai’r drwydded yn cael eu chymeradwyo fel y'i
cyflwynwyd ni fyddai cyfyngiad. Roedd
gan eiddo trwyddedig eraill yn y dref reolyddion a chyfyngiadau i gynorthwyo i
fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddai caniatáu trwydded 24 awr
yn gosod cynsail. Roedd pryderon y
preswylwyr yn eglur gyda throsedd ac anrhefn yn fater posibl; pryderon am
ddiogelwch y cyhoedd a niwsans sŵn gyda’r preswylwyr cyfagos yn y
cyfleuster gofal yn gorfod ymdopi â’r problemau hynny. Byddai absenoldeb materion trosedd ac anrhefn yn newid pe
bai trwydded i werthu alcohol 24 awr y dydd yn cael ei chymeradwyo. Mewn ymateb i safbwynt yr Ymgeisydd y gellir ymdrin â
phroblemau drwy adolygiad, dadleuodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y byddai’n
anoddach diddymu trwydded ar ôl eich chymeradwyo, ac er lles y preswylwyr, a’r
gwaith da a wnaed eisoes yn y dref i fynd i'r afael â phroblemau, gofynnodd bod
y cais yn cael ei wrthod.
Eglurodd Mrs. A. Lapage –
bod yr Ymgeisydd wedi gwrthod y pwyntiau a godwyd gan y preswylwyr ond roeddent
yn broblemau gwirioneddol – roedd y preswylwyr yn byw ar stryd brysur lle bo
ceir yn gyrru ar gyflymder ac roedd yfed a gyrru yn drosedd na ddylid ei
hyrwyddo. Cyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig
a dadleuodd er lles y preswylwyr dylid gwrthod y cais gan fod materion yn
ymwneud â throsedd ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd eisoes yn bodoli yn y
dref. Fel rhan o’i chyflwyniad
cyfeiriodd Mrs. Lapage at ddamweiniau
traffig diweddar ac ymddygiad gyrru gwael ac roedd yn credu y byddai gwerthu
alcohol am 24 awr yn ategu at y problemau hyn.
O ran niwsans cyhoeddus nododd broblemau presennol yn y maes parcio ger
y garej a’r ffordd y tu allan gyda cheir yn gwneud sŵn yn ystod y
nos. Adroddodd am gyfarfod gyda’r
Heddlu a’r Cyngor i fynd i’r afael â phryderon ac er bod y niwsans wedi lleihau
nid oedd wedi'i waredu a byddai cymeradwyo’r cais yn cynyddu'r broblem. Yn olaf cyflwynodd bryderon ynglŷn â gwydr
wedi malu yn yr ardal a’r cysylltiadau rhwng alcohol a cham-drin plant. Anogodd yr Aelodau i bleidleisio’n erbyn y
cais.
Roedd Mr. K. Simmons – yn
gwrthwynebu’r cais gan ei fod yn credu y byddai'n cael effaith andwyol ar y
gymuned. Pwysleisiodd y pwyntiau a wnaed
yn ei sylwadau ysgrifenedig a chanfyddiadau’r British Medical Journal (2016)
ynglŷn â pholisïau trwyddedu; ffeithlen a gyhoeddwyd gan Sefydliad
Astudiaethau Alcohol a'r rôl rhwng alcohol a gweithgarwch troseddol; Datganiad
Polisi Trwyddedu'r Cyngor, yn enwedig o ran trosedd ac anrhefn a hyrwyddo'r
amcanion trwyddedu, ac effaith gronnol: gan ddadlau bod yr ardal ger y garej yn
gallu cael ei ystyried yn ardal breswyl o dan bwysau. Eglurodd Mr. Simmons nad oedd yr Ymgeisydd
wedi arddangos sut na fyddai gweithrediad yr eiddo yn ychwanegu at yr effaith
gronnol a brofir eisoes ac anogodd y dylid gwrthod y cais.
Tynnodd Mr. K. Bennett
sylw at nifer o bwyntiau yn ei gyflwyniad ysgrifenedig a chanolbwyntio ar
iechyd a lles y preswylwyr, yn enwedig o ran niwsans sŵn yn gysylltiedig
â’r eiddo yn y nos, gan gynnwys gweithgareddau glanhau a chynnal a chadw yr
oedd yr Ymgeisydd wedi nodi eu bod wedi’u datrys. Ni ymgynghorwyd na hysbyswyd y preswylwyr
cyn y newid mewn oriau agor ac roedd y problemau a brofwyd yn ymwneud â
materion yn y nos ers i'r eiddo agor am 24 awr ac yn ymwneud â niwsans
cyhoeddus, trosedd ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd. Ymhelaethodd ar nifer o faterion a nodwyd yn
ei sylwadau ysgrifenedig ac fe gyfeiriodd hefyd at si y byddai stondin Costa
neu Greggs a fyddai’n creu atyniad ac yn effeithio ar ymddygiad
gwrthgymdeithasol sydd eisoes yn bresennol; 'rebels rasio’ yn gyrru i’r garej
mewn grwpiau o ddau /dri, yn swnllyd ac yn gweiddi; heriodd y defnydd o
ffenestr nos; loriau yn parcio y tu allan; a thynnu sylw fod ei bryderon yn
ymwneud â phob noson o'r wythnos, nid nos Sadwrn yn unig. Nid oedd gan Mr. Bennett hyder yn y sicrwydd a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd
gan nad oedd yn credu bod mwyafrif y materion yn ei lythyr at Reolwr y Siop
wedi'u datrys, ac nad oedd unrhyw adolygiad na gwaith monitro wedi'i gyflawni
ers i'r eiddo ddechrau gweithredu am 24 awr. Yn hytrach na delio
gyda’r materion yn ôl weithredol drwy adolygiad, teimla Mr. Bennett y dylid gwrthod y cais ar y cam hwn.
Ar ddiwedd
gwrthwynebiadau’r preswylwyr crynhodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y materion
a godwyd a dadlau, o ystyried lleoliad y garej mewn ardal breswyl o fewn
pellter cerdded byr i eiddo trwyddedig arall, byddai cymeradwyo’r cais yn creu
canolbwynt yn y dref i bobl ymgynnull yn yr oriau mân heb unrhyw reoliadau ar
waith gan arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans sŵn
a diogelwch y cyhoedd sy'n anodd ei reoli.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Wrth wneud ei ddatganiad
terfynol gofynnodd Mr. Botkai i’r aelodau ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd
ac a oedd yn debygol y byddai cynnydd mewn trosedd ac anrhefn a diogelwch y
cyhoedd yn cael ei beryglu. Wrth
ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd eglurodd Mr. Botkai-
·
roedd gan yr eiddo drwydded i werthu alcohol rhwng 06.00
a 23.00. Eglurodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts nad oedd trosedd ac anrhefn yn
y garej ar hyn o bryd ac roedd yn pryderu am y potensial y byddai trosedd ac
anrhefn pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo - nid oedd yr Ymgeisydd yn credu y
byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at drosedd ac anrhefn ac nid oedd yr
Heddlu'n credu hynny ar ôl cyfarfod gyda'r gweithredwr i drafod y cais
·
Trafodwyd
bod y garej yn mynd i ddod yn ganolbwynt - nid oedd unrhyw broblem ar hyn o
bryd gydag ieuenctid yn ymgynnull ac nid oedd rheswm i gredu y byddai'r
sefyllfa'n newid pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu
·
nid oedd yr eiddo erioed wedi wynebu problemau o ran
ciwio yn y ffenestr nos ac ni ddisgwylir i’r sefyllfa newid pe cymeradwyir y
drwydded
·
er ei fod yn deall pryderon y preswylwyr roeddent yn
annhebygol o ddigwydd
·
o ran cyflwyno adolygiad, roedd y broses yn syml pe bai
trosedd ac anrhefn o ganlyniad i werthu alcohol, a byddai’n hawdd tynnu’r oriau
hyn pe bai angen tystiolaeth i wneud hynny.
·
o ran damweiniau traffig, nid oedd cyswllt gyda’r eiddo
na’r cais ac ni ellir ei ddwyn yn erbyn yr Ymgeisydd, yn yr un modd nid oedd
cysylltiad gyda’r eiddo o ran y cyfeiriadau at gam-drin plant na pherthnasedd
i'r cais o ran pryderon yn ymwneud â pharcio'r cludwr defaid.
·
nid oedd unrhyw seiliau i wrthod y cais ar sail yr
erthyglau y cyfeiriwyd atynt gan Mr. Simmons yn ei sylwadau, gan gynnwys yr
effaith gronnol.
·
nid oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer stondin Greggs yn y
siop ac roedd yr Ymgeisydd eisoes wedi cynnig amod i beidio â gweini bwyd poeth
rhwng 23.00 a 05.00.
·
roedd mesurau eisoes wedi'u cymryd i fynd i'r afael â
materion a godwyd gan gynnwys TCC a oedd yn arf ataliol ac yn ddefnyddiol i'r
Heddlu i gynorthwyo gyda'u hymholiadau - roedd nifer o fesurau wedi'u cyflawni
nad oedd wedi'u nodi o reidrwydd yn yr Atodlen
Weithredu ac roedd y cwmni yn llunio ei bolisïau a gweithdrefnau
statudol eu hunain o ran rheoli a materion gweithredol.
·
cynnig amod i gau drws y siop i gwsmeriaid rhwng 23.00 a
5.00 gydag unrhyw werthiant yn ystod yr oriau hynny drwy ffenestr nos y siop
I gloi gofynnodd Mr. Botkai i’r Is-Bwyllgor ystyried y cais yn
seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd – roedd yn ymwybodol iawn pe bai
pryderon y preswylwyr yn digwydd byddent yn wynebu adolygiad o’u trwydded. Gofynnodd am y cyfle i fynd i’r afael ag
unrhyw bryderon sy’n weddill a fyddai’n eu hatal rhag cymeradwyo'r drwydded.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (12.50
p.m.) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD
bod yr amrywiadau fel
yr ymgeisiwyd amdanynt yn cael eu penderfynu fel a ganlyn-
i.
Darparu
Lluniaeth yn Hwyr yn y Nos 23:00-05:00 dydd Llun i ddydd Sul – CYMERADWYO AR GYFER
DIODYDD POETH YN UNIG (dim darpariaeth bwyd poeth)
ii.
Cyflenwi
alcohol am 24 awr dydd Llun i ddydd Sul (i’w yfed oddi ar yr eiddo) - GWRTHOD
Cyfleodd y
Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y
Cyfreithiwr y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -
Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos
hwn yn ofalus.
Wrth ystyried y cais yn ei gyd-destun nododd yr Is-Bwyllgor bod Rhuthun yn
dref farchnad wledig a bach a bod y garej wedi'i leoli yn agos iawn at
breswylwyr lleol, yng nghanol ardal breswyl gyda chyfleuster cartref
gofal. Canfu’r Is-Bwyllgor bod strwythur
a lleoliad yr eiddo yn tueddu i fwyhau sŵn mewn ardal fechan – a byddai
unrhyw beth sy’n digwydd yn yr ardal honno yn cael ei gario ar draws y lle, yn
enwedig yn y nos. Roedd yr eiddo hefyd
wedi’i leoli yn agos at eiddo trwyddedig eraill yn y dref, oll o fewn pellter
cerdded. Roedd yr eiddo trwyddedig
eraill yn cael eu rheoli’n llym, gyda staff drws ac oriau gweithredu
cyfyngedig, yn enwedig gan fod materion eisoes yn y dref o ran ymddygiad
gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n ymwneud ag alcohol.
Canfu’r Is-Bwyllgor bod cael eiddo o’r fath a oedd yn hygyrch am 24 awr o’r
dydd, o fewn pellter cerdded o sefydliadau trwyddedig eraill, yn creu
canolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol – roedd hyn yn anochel oherwydd
ei leoliad. Byddai darparu bwyd poeth
hefyd yn atyniad ac yn creu niwsans cyhoeddus gydag ymddygiad cysylltiol, megis
gollwng sbwriel a sŵn.
Er nad oedd y defnydd o’r maes parcio gerllaw o dan reolaeth y garej, roedd
yn creu canolbwynt naturiol i ymgynnull gyda thuedd i ymgysylltu ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol a niwsans cyhoeddus.
Byddai atyniad y garej sy’n gweini
bwyd poeth ac alcohol yn fagned ar gyfer yr unigolion hynny.
Er bod yr Ymgeisydd wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd am fesurau rheoli, roedd
yr Is-Bwyllgor wedi clywed sylwadau nad oeddent wedi’u profi’n anghywir nad
oedd y ciosg nos yn cael ei ddefnyddio, a oedd yn peri pryder.
Diystyrodd yr Aelodau faterion amherthnasol megis parcio y tu allan i’r
garej (loris yn cludo defaid); damweiniau traffig y tu allan i'r dref; y
cysylltiad gydag yfed a gyrru, a sylwadau am alcohol yn arwain at gynnydd mewn
cam-drin plant.
Gan gymryd yr holl ystyriaethau perthnasol i gyfrif roedd yr Is-Bwyllgor yn
parhau i fod yn sicr y byddai cyflwyno gwerthiant alcohol a bwyd dros gyfnod o
24 awr yn gwrthdaro â’r amcanion trwyddedu.
Roedd gan yr holl bartïon yr hawl i
apelio yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu i’r Llys Ynadon o fewn un
diwrnod ar hugain.
Daeth y
cyfarfod i ben am 1.30pm
Dogfennau ategol: