Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYLLID
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a
(b) chyhoeddi
datganiad i alw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gydnabod anawsterau darparu
gwasanaethau statudol yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofyn iddynt
weithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cyllido fel eu
bod yn gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn -
·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418 miliwn (£189.252miliwn yn
2017/18)
·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.774 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol
·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6 miliwm a gytunwyd arnynt
gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y
byddai pob arbediad effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai
unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo’r angen
·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a
·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).
Codwyd y materion canlynol gan y Cabinet wrth drafod
–
·
Cludiant i’r Ysgol - cyfeiriwyd at y
gorwariant a ragwelir yng nghyllideb cludiant ysgol ac at y trafodaethau
blaenorol a ddylid gosod y gyllideb yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
(HES) neu Wasanaethau Addysg a Phlant (ECS).
Eglurwyd
y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad i osod y gyllideb gyda HES o ystyried fod
ECS yn cynnal y broses o asesu i bennu a oedd plentyn yn gymwys i dderbyn
cludiant i'r ysgol, ond roedd y trefniant comisiynu ar gyfer y rhai hynny a
oedd yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnal gan HES oherwydd
yr arbenigedd a’r sgiliau oedd eu hangen ar gyfer trafod y contractau ysgolion. Roedd HES hefyd yn darparu
gwasanaeth tebyg ar gyfer darpariaeth cludiant mewn meysydd gwasanaeth eraill
gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Cydnabuwyd bod cludiant i’r
ysgol yn bwysau ar y gyllideb a oedd angen ei ddatrys lle bynnag y caiff ei
leoli ac fe gytunwyd y dylai unrhyw adolygiad neu drafodaeth bellach am hynny
gael ei gyflawni gyda’r swyddogion y tu allan i’r cyfarfod hwn.
·
Cyllid y Cyngor–- cyfeiriodd
yr Arweinydd at y pwysau gwasanaeth parhaus y mae awdurdodau lleol yn eu
hwynebu ac adroddodd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn parhau i
lobïo
Llywodraeth Cymru gyda’r nod o fuddsoddi mewn gwasanaethau craidd a darparu
cynllun ariannol hir dymor i gynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Er bod
y Cyngor yn falch o’i gofnod o ran buddsoddi mewn gwasanaethau megis addysg a
gofal cymdeithasol ac mewn trawsnewid gwasanaethau a datblygu gwydnwch, roedd
hyfywedd a chynaliadwyedd y gwasanaethau lleol mewn perygl oherwydd y toriadau
parhaus a chyson i gyllid llywodraeth leol. Cydnabuwyd y gwaith a wnaed
gan CLlLC ar ran yr awdurdodau lleol yng Nghymru ond roedd y Cabinet yn teimlo
y byddai'n ddefnyddiol cyflwyno datganiad yn tynnu sylw at yr anawsterau
ariannol ac i alw am ddarpariaeth cyllid digonol i sicrhau cynaliadwyedd
gwasanaethau hanfodol yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at adolygiad
o wariant Llywodraeth y DU sydd i ddod, i benderfynu ar y setliad ar gyfer
Cymru ac yn dilyn hynny byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ddyraniadau
cyllid ar gyfer y swyddogaethau datganoledig hynny, gan gynnwys llywodraeth
leol, a bryd hynny efallai y byddai cyfle pellach i ddylanwadu ar benderfyniadau
cyllidebol a lobïo
ar ran y preswylwyr.
Mewn
ymateb i gwestiynau gan aelodau nad ydynt yn aelodau Cabinet ynglŷn â
gorwariant amrywiol mewn adrannau gwasanaeth, eglurodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill-
·
y byddai disgwyl i’r holl wasanaethau gydbwyso
eu cyllidebau'n fewnol lle bynnag y bo modd ac roedd mesurau i fynd i'r afael â
gorwariant yn ymwneud â phrosiect SC2 wedi'u nodi yn yr adroddiad - roedd
prosiect SC2 yn rhan o brosiect Glan y Môr a Pharc Dŵr y Rhyl gyda gwerth
dros £20 miliwn ac yng nghyd-destun hynny roedd y gorwariant yn eithaf bychan.
·
roedd £750,000 ychwanegol
wedi'i ddyrannu i Wasanaethau Cymorth Cymunedol ar gyfer 2018/19 a chydag
£366,000 o Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a'r defnydd a gynlluniwyd
o'r cronfeydd wrth gefn, rhagwelwyd sefyllfa o gydbwyso'r gyllideb.
·
ni ellir delio â’r gorwariant
a ragwelwyd yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn fewnol yn y gwasanaeth ac
felly byddai tanwariant corfforaethol yn cael ei ddefnyddio yn y flwyddyn ariannol
bresennol - roedd dyraniad cyllideb sylfaenol ychwanegol o £1.5miliwn wedi'i
gymeradwyo ar gyfer 2019/20 i fynd i'r afael â'r pwysau hynny yn y dyfodol.
·
cadarnhawyd bod pwysau tomenni hanesyddol a
phwysau gwastraff yn ymwneud â throsglwyddo i gontractau gwastraff newydd yn
gostau untro; eglurodd y Cynghorydd Brian Jones bod biniau yn y Rhyl wedi'u
gwagio yn amlach o ganlyniad i faterion a godwyd gan y cyhoedd/aelodau yn ystod
y tywydd poeth yr haf diwethaf.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a
(b) chyhoeddi datganiad i alw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gydnabod
anawsterau darparu gwasanaethau statudol yn yr hinsawdd ariannol bresennol a
gofyn iddynt weithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu
cyllido fel eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r
dyfodol.
Dogfennau ategol:
- ADRODDIAD CYLLID, Eitem 6. PDF 372 KB
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 6. PDF 29 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 6. PDF 30 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 6. PDF 53 KB