Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL YN Y CABINET

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi'n amgaeedig) am gymhwysiad cydbwysedd gwleidyddol i gyfansoddiad y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barry Mellor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yng nghyfansoddiad y Cabinet.

 

Ar 23 Hydref 2018 cymeradwyodd y Cyngor gynnig i ofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried dewisiadau a chyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019. Diben yr adroddiad yw amlinellu sut y gellid newid y cyfansoddiad i ddileu'r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet.

 

Ar 23 Ionawr 2019 ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y dewisiadau ar gyfer cyfansoddiad y Cabinet. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dileu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet a mabwysiadu model “arweinydd cryf” sy’n caniatáu i’r Arweinydd benodi a diswyddo aelodau’r Cabinet.

 

Yn y fan hon, gofynnodd y Cyng. Joan Butterfield am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd bod yn rhaid i un rhan o chwech o’r aelodau sy’n bresennol gytuno i gael pleidlais wedi’i chofnodi. Bu i fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dywedwyd mai Cabinet Sir Ddinbych yw’r unig gabinet yng Nghymru gyda chydbwysedd gwleidyddol.

Mae’r system yn gweithio’n dda a Chyngor Sir Ddinbych yw’r cyngor gorau ers pedair blynedd ac, os nad y cyngor gorau, yn y chwartel uchaf.

·         Ar hyn o bryd mae pob plaid wleidyddol yn gallu bod yn rhan o’r Cabinet ond, os cytunir ar y cynnig, gellir eithrio rhai grwpiau o’r Cabinet.

·         Nid yw aelodau dwy blaid wleidyddol yn rhan o'r Cabinet gan nad yw eu gwleidyddiaeth genedlaethol yn cymeradwyo hynny

·         Soniwyd am nifer yr aelodau sydd wedi bod yn bresennol yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

Er bod gan y Pwyllgor gworwm, mae’r niferoedd yn lleihau.

·         Pwysleisiwyd bod ansawdd yr arweinyddiaeth ar y Cabinet yn hollbwysig a bod gan Sir Ddinbych Arweinydd cryf.

·         Mae’r aelodau yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych.

·         Dod â Sir Ddinbych yn unol â chynghorau eraill Cymru oedd nod yr Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a chadarnhawyd y byddai’r Grŵp Llafur yn parhau i wrthod seddi ar y Cabinet os tynnir y cydbwysedd gwleidyddol.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y Cabinet wedi gweithio’n dda ers 10/11 o flynyddoedd, ac nad oes unrhyw reswm i newid pethau i gyd-fynd â’r 21 Awdurdodau Lleol arall. Mae’r ffordd y mae’r Cabinet yn gweithio yn beth da i’r holl gynghorwyr, nid i aelodau'r Cabinet yn unig. Ceir risgiau posibl pe byddai’r cydbwysedd gwleidyddol yn diflannu oherwydd byddai modd i rai grwpiau gymryd yr awenau, gan leihau’r angen am weithdai a gweithgorau, yn hytrach na chydweithio. Byddai ofn y byddai gwleidyddiaeth genedlaethol yn bwysicach na gwleidyddiaeth leol, a all ddifrodi’r cyngor lleol gyda ffocws cymunedol yn dod yn ffocws cenedlaethol.

 

Mae pob unigolyn o fewn y cyngor presennol yn gallu gwneud penderfyniadau. Mae Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol sy’n darparu gwasanaethau lleol i’r gymuned leol. Ceir diwylliant o fewn Sir Ddinbych sy’n canolbwyntio ar atebolrwydd, tryloywder a gonestrwydd. Os yw grŵp yn cael ei ddylanwadu gan wleidyddiaeth genedlaethol, byddai’r diwylliant yn newid. Mae’n rhaid canolbwyntio ar y gymuned.

 

Meddai’r Arweinydd:-

·         Nid oedd yn gallu cefnogi eithrio grwpiau gwleidyddol

·         Ni ddylai’r cyngor golli’r ffocws ar ein cymunedau

·         Nid yw’n gweld hyn fel newid er gwell

 

Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud er mwyn i grwpiau gwleidyddol drafod y bleidlais.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m.

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:

 

O blaid dileu cydbwysedd gwleidyddol y Cabinet – y Cynghr. Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Meirick Lloyd Davies, Alan James, Huw Jones, Pat Jones, Gwyneth Kensler, Geraint Lloyd-Williams, Barry Mellor, Bob Murray, Paul Penlington, Peter Prendergast, Arwel Roberts, Glenn Swingler, Rhys Thomas, Graham Timms, Cheryl Williams, Eryl Williams, ac Emrys Wynne

 

Yn erbyn dileu cydbwysedd gwleidyddol y Cabinet p y Cynghr. Ann Davies, Gareth Davies, Hugh Evans, Peter Evans, Bobby Feeley, Rachel Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Brian Jones, Richard Mainon, Christine Marston, Melvyn Mile, Merfyn Parry, Peter Scott, Tony Thomas, Andrew Thomas, Julian Thompson-Hill, Joe Welch, David Williams, Huw Williams, a Mark Young.

 

O blaid – 22

Yn erbyn – 21

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ddileu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol o gyfansoddiad y Cyngor a'i newid fel bod y Cabinet yn cael ei benodi gan Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

Dogfennau ategol: