Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH TELEDU CYLCH CYFYNG SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar y Bartneriaeth, ei threfniadau llywodraethu, a'i heffeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaeth.  Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth ac yn ceisio cymeradwyaeth yr aelodau ar gyfer ei ddatblygiad parhaus.

 

10.50am – 11.30am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol adroddiad Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn darparu diweddariad ar y Bartneriaeth TCC, y trefniadau llywodraethu, ynghyd ag asesiad o’i effeithiolrwydd wrth ddarparu’r gwasanaeth, a gwybodaeth am y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer i ddarparu’r gwasanaeth a gwaith ar y gweill i ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth. Ynghlwm wrth yr adroddiad mae adolygiad archwilio mewnol diweddar o’r gwasanaeth (Atodiad 2) ac adroddiad gweithrediadol cyfrinachol gan Gyngor Gorllewin Caer a Chaer ar y gwasanaeth.

 

Darparodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wybodaeth i’r Pwyllgor am sefydliad y bartneriaeth. Oherwydd cyfyngiadau ariannol nid oedd y Cyngor yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth TCC, sy’n wasanaeth anstatudol. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi gan gymunedau a Heddlu Gogledd Cymru ac, o ganlyniad, lluniwyd trefniadau amgen ar gyfer ei ddarparu. Felly, dyma sefydlu partneriaeth gyda chynghorau tref Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd y bartneriaeth yn darparu gwasanaeth TCC nad oedd yn cael ei fonitro 24/7, fodd bynnag roedd y partneriaid yn awyddus i archwilio dewisiadau posibl ar gyfer datblygu dyfodol mwy cynaliadwy a chadarn ar gyfer y gwasanaeth. Yn dilyn ystyried nifer o ddewisiadau penderfynwyd ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth 3 blynedd gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer. Arweiniodd hyn at drosglwyddo lluniau pob camera ym meddiant y bartneriaeth i Gyngor Gorllewin Caer a Chaer at ddibenion monitro ymatebol 24 awr y dydd. Mae gan Gyngor Gorllewin Caer a Chaer sianeli cyfathrebu uniongyrchol gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd yn eu galluogi i roi gwybod iddynt yn syth bin am unrhyw ddigwyddiad sy’n datblygu. I hwyluso pethau wrth ddarlledu’r lluniau’n uniongyrchol i Gyngor Gorllewin Caer a Chaer buddsoddwyd mewn gweinydd newydd. Ar gyfer y dyfodol, mae yna gynlluniau i gysylltu â chynghorau tref a dinas eraill i weld a oes diddordeb ganddynt mewn ymuno â’r bartneriaeth er mwyn cael budd o wasanaeth monitro ymatebol. Byddai’n rhaid i bob cyngor tref a dinas benderfynu pa fudd sydd o dderbyn y gwasanaeth am gost gychwynnol a chyfraniad blynyddol yn seiliedig ar nifer y camerâu yn eu hardal. Oherwydd bod y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn drefniant newydd mae swyddogion wedi gofyn i Adain Archwilio Mewnol y Cyngor gynnal adolygiad o’r trefniant er mwyn cael sicrwydd bod gan y Cyngor drefn lywodraethu a gweithdrefnau rheoli contract cadarn i reoli risgiau a monitro perfformiad ac ati. Mae’r adolygiad hwnnw wedi rhoi sgôr sicrwydd canolig, ac wedi nodi mân wendidau o ran rheoli risgiau a/neu reolaethau, ond dim risg i gyflawni amcanion. Mae’r tair risg a nodwyd yn sgil yr adolygiad wedi ei datrys.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fel a ganlyn i gwestiynau’r Aelodau:

·         Mae’r gwasanaeth a ddarperir dan y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn gost-effeithiol ac yn cael ei lywodraethu’n dda

·         Mae pob cyngor tref yn y bartneriaeth yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y gwasanaeth yn seiliedig ar nifer y camerâu sydd yn eu hardal.

Hefyd, mae gwasanaethau Cyngor sydd â chamerâu TCC hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol, yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru sy’n defnyddio’r delweddau fel tystiolaeth ar gyfer erlyn

·         Mae’r bartneriaeth yn gweithredu oddeutu 80 o gamerâu ar draws tair tref.

Yn dilyn rhaglen ad-drefnu/blaenoriaethu mae 32 o gamerâu wedi eu dynodi’n gamerâu blaenoriaeth yn seiliedig ar eu pwysigrwydd cymunedol ac i fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn. Mae’r 48 camera arall wedi eu categoreiddio’n flaenoriaeth is

·         Mae camerâu newydd, sy’n fwy modern, yn hynod o ddefnyddiol gan eu bod yn helpu’r heddlu i adnabod wynebau

Mae’r camerâu hyn yn andros o ddrud ac angen mynediad sydyn i’r rhyngrwyd

·         Mae gwaith ar fin dechrau ar farchnata manteision y bartneriaeth i bartneriaid posibl, a fydd yn cynnwys darparu amcangyfrif o gost ymuno â’r bartneriaeth

·         Mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu diweddariadau chwarterol i’r Bwrdd Partneriaeth ar drosedd ac ati yn yr ardal.

Mae’r adroddiadau hyn yn amlygu mannau problemus o ran troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati

·         Mae perthynas waith gadarn yn bodoli rhwng y bartneriaeth a Chyngor Gorllewin Caer a Chaer

·         Ni cheir tystiolaeth ar hyn o bryd o’r angen i fonitro’r camerâu 24 awr y dydd gan fod y trefniadau monitro ymatebol presennol yn effeithiol

·         Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ychydig o gamerâu TCC symudol y mae modd eu gosod mewn ardaloedd lle ceir pryderon ynghylch troseddau ac ati. Dylai cynghorau tref a chymuned sy’n pryderu ynghylch troseddau yn eu hardaloedd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i ofyn am gymorth ac i drafod a yw’n briodol iddynt osod y camerâu yn eu hardaloedd dros dro

·         Cadarnhawyd, er bod tueddiadau cenedlaethol yn dangos cynnydd mewn lefelau troseddau mawr ar draws y Deyrnas Unedig, bod Heddlu Gogledd Cymru ond yn adrodd ar droseddau bach o fewn ardal y TCC.

Mae’r dulliau ar gyfer cofnodi troseddau hefyd wedi newid

 

Gofynnwyd cwestiynau am ddogfen gyfrinachol Atodiad 1. Yn y rhan hon o'r cyfarfod:

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD: gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 18 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau’r Pwyllgor.

 

RHAN I – Ar ôl cwblhau’r busnes uchod agorwyd y cyfarfod unwaith eto.

 

 

Dywedodd Aelodau ardal y Rhyl bod y bartneriaeth yn darparu gwasanaeth effeithiol a gwerth am arian yn eu hardal.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:-

 

(i)           Yn amodol ar y sylwadau uchod, parhau i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth TCC; ac

(ii)          Annog swyddogion ac Aelodau i hyrwyddo manteision gwasanaeth y bartneriaeth i fudd-ddeiliaid/sefydliadau sydd â diddordeb.

 

 

Dogfennau ategol: