Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH GORFODI AMGYLCHEDDOL

Ystyried adroddiad gan Reolwr Gwarchod Y Cyhoedd a’r Amgylchedd Adeiledig (copi ynghlwm) er mwyn ymgynghori gydag aelodau ar y fanyleb ddrafft ar gyfer y contract er mwyn darparu contract gorfodi troseddau amgylcheddol.  Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu darparu a rheoli'r contract gorfodi amgylcheddol newydd.

 

10.05am – 10.50am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd adroddiad Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r ymgynghoriad ynghylch manyleb ddrafft y contract i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn y sir. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybodaeth gefndir i’r Aelodau ac egluro pam bod y Cyngor yn chwilio am ddarparwr newydd i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol, yn dilyn penderfyniad Kingdom Security Limited i ddod â’u contract gyda’r Cyngor i ben ym mis Awst 2018. Cyn penderfyniad Kingdom i ddod â’r contract i ben, roedd yn amlwg bod rhai trigolion yn anhapus gyda dull y cwmni tuag at orfodaeth troseddau amgylcheddol. Yn dilyn ymadawiad Kingdom roedd aelodau etholedig wedi ei gwneud yn glir y dylai ffocws unrhyw gontract yn y dyfodol fod ar weithgareddau gorfodaeth baw cŵn, gyda phwyslais ar addysgu troseddwyr a thrigolion am beryglon baw ci a phwysigrwydd cadw at Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli cŵn. Tra bod y fanyleb ddrafft a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei hystyried yn canolbwyntio ar droseddau yn ymwneud â chŵn, mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i benodi contractwr i orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol eraill fel taflu sbwriel, begera ac ati. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol nad yw gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol erioed wedi eu darparu’n fewnol gan y Cyngor, ac felly mae cost sefydlu gwasanaeth mewnol, Sef oddeutu £200,000 a £250,000, yn afresymol. Cynghorodd hefyd bod ymholiadau wedi eu gwneud o ran y posibilrwydd o gydweithio’n rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol. Fodd bynnag nid yw hyn yn hyfyw yn y dyfodol agos ond mae’n bosibl y bydd cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gaffael gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn ddewis yn y dyfodol. Mae manyleb ddrafft Sir Ddinbych wedi ei rhannu gyda CBSC er mwyn archwilio hyfywedd tendro am wasanaethau gyda’n gilydd yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y dull newydd arfaethedig ar gyfer delio â throseddau amgylcheddol yn cynnwys tair elfen ar wahân, sef:

·         Cyfathrebu gyda’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb personol, gyda’r bwriad o gael ymrwymiad cymunedau i nodau ac amcanion y strategaeth baw cŵn a’r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol

·         Strydoedd glân a thaclus, gwaith y tîm Gwasanaethau Stryd a’u dull rhagweithiol at roi gwybod i’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd am fannau problemus er mwyn i’r gwasanaeth dargedu’r ardal a gosod posteri a dosbarthu taflenni

·         Camau gorfodi (gan gynnwys sesiynau mewn ysgolion ac ar gyfer grwpiau cymunedol ac ati)

 

 Dywedodd Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd y bu i Kingdom ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol am bum mlynedd bron. Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd contract y cwmni gyda’r Cyngor ei reoli a’i fonitro’n effeithiol gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd: Diogelwch Cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd y canlynol:

·         Mae’r penderfyniad i roi’r gwaith allan ar dendr a chaffael gwasanaethau gan ddarparwr allanol eisoes wedi ei wneud gan y Cabinet ym mis Medi 2018, pwrpas yr adroddiad i'r Pwyllgor yw ymgynghori ynghylch manyleb y contract

·         Mae Gwasanaeth Addysg y Cyngor o’r farn bod bwlch yn y math hwn o addysg o fewn ysgolion y sir ac y byddai disgyblion yn cael budd o ddysgu am droseddau amgylcheddol a deall eu cyfrifoldebau nhw a’u teulu

·         Tra’r oedd Kingdom yn gweithio yn Sir Ddinbych roedd y sir yn sgorio’n uchel ar y mynegai strydoedd glân

·         Bydd y cwmni llwyddiannus yn cael ei reoli a’i fonitro gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd:

Diogelwch Cymunedol yn yr un modd â Kingdom

·         Roedd y costau ac ati ar gyfer nifer o ddewisiadau posibl ar gyfer darparu’r gwasanaeth wedi eu darparu mewn adroddiad i'r Cabinet ym mis Medi 2018. Gofynnodd yr Aelodau am gopi o’r adroddiad hwnnw

·         Oherwydd natur y gwasanaeth nid yw ei ddarparu yn hawdd, nid yw ychwaith yn wasanaeth poblogaidd i’w ddarparu.

Os yw’r Cyngor yn penderfynu darparu’r gwasanaeth ei hun, byddai ei enw da yn dioddef. Fodd bynnag, mae yna gwmnïau preifat sy’n darparu’r mathau hyn o wasanaethau. Mae profion sydyn wedi eu cynnal ar y farchnad ac mae pedwar neu bump o gwmnïau wedi dangos diddordeb mewn cyflwyno cais i ddarparu'r gwasanaeth

·         Mae manyleb ddrafft y contract yn nodi y byddai swyddogion sy’n darparu’r gwasanaeth yn gwisgo iwnifform nodedig ac amlwg (dim du) sy’n cyflwyno ymddangosiad clir a chyfeillgar i bob aelod o’r gymdeithas

·Unwaith y bydd y contract wedi ei lofnodi bydd swyddogion a chynrychiolwyr o’r cwmni llwyddiannus yn ymweld â phob Grŵp Ardal yr Aelodau er mwyn cyflwyno eu hunain a rhyngweithio gydag aelodau lleol a dysgu mwy am y wardiau

·         Fel rhan o’r elfen i gynhyrchu incwm yn y fanyleb arfaethedig, mae’r Cyngor wedi ystyried costau penodol y model darparu a rhannu'r cosbau.

Er mwyn cael gwasanaeth sy’n bosibl ei ddarparu, un dewis posibl yw caniatáu i’r darparwr gwasanaeth gadw 95% o’r Rhybudd Cosb Benodedig, gyda’r Cyngor yn cael 5% ohono. Ffigyrau dangosol yw’r rhain ar hyn o bryd

·         Hefyd, yn y dyfodol, mae’n bosibl y bydd trigolion yn gallu helpu'r Cyngor i dargedu mannau lle mae baw cŵn yn broblem drwy ddefnyddio ap ffôn symudol a fyddai’n caniatáu iddynt dynnu llun a’i anfon at y Cyngor yn syth bin gyda manylion y lleoliad

Byddai derbyn y math yma o wybodaeth 'fyw' yn galluogi'r Cyngor i ddosbarthu adnoddau priodol i'r ardaloedd hynny yn gynt na’r arfer

·         Bydd y Cyngor yn gallu gweithredu pan fo perchnogion cŵn yn methu cydymffurfio â gorchmynion rheoli cŵn mewn ardaloedd Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Mewn ardaloedd eraill efallai byddai modd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac ati i gyfathrebu gyda thrigolion a rhoi gwybod iddynt beth yw eu cyfrifoldebau nhw fel perchnogion cŵn

·         Wrth dendro am y contract bydd disgwyl i ddarpar ddarparwyr lunio cynllun busnes hyfyw a chadarn a fyddai’n sicrhau bod modd iddynt ddarparu’r gwasanaeth yn unol â manyleb y contract.

Dylai’r cynllun busnes hefyd nodi sut y byddant yn cwrdd â’u gorbenion a’u dyledion ac yn cynhyrchu elw

·         Byddai dod â’r contract i ben yn golygu rhoi mis o rybudd i’r Cyngor

·         Maent yn hyderus y bydd nifer o gwmnïau yn gwneud cais am y contract unwaith y mae wedi ei hysbysebu.

Fodd bynnag, os na dderbynnir cais byddwn yn ailedrych ar fanyleb y contract

 

Awgrymodd yr Aelodau y gall rhyngweithio â disgyblion ysgolion y sir gynnwys trefnu cystadlaethau creu posteri fel ffordd i atgyfnerthu eu dysgu a chyfleu hynny i’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn bwysig addysgu plant, yn enwedig disgyblion uwchradd, ar sut i waredu gwahanol fathau o sbwriel yn briodol, gan gynnwys deunydd pacio bwydydd brys. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod cydweithio a chysylltiad agos rhwng swyddogion gorfodaeth troseddau amgylcheddol ac aelodau etholedig lleol yn hollbwysig i sicrhau gwasanaeth gorfodi amgylcheddol effeithiol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, ar ôl ystyried yr adroddiad a’i gynnwys ynghyd ag atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd, cafwyd pleidlais gyda 7 o blaid a 3 yn erbyn:

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           Cefnogi’r fanyleb ddrafft a nodir yn Atodiad A a B yr adroddiad i alluogi swyddogion i barhau â’r cam tendro i gaffael darparwr allanol i ddarparu gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol yn y sir; a

(ii)          Bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r Grwpiau Ardal Aelodau ar weithgareddau gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn eu hardaloedd.

 

 

Dogfennau ategol: