Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 42/2018/0923/PF – TIR GER FFORDD GALLT MELYD, DYSERTH

Ystyried cais i godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl, newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Gallt Melyd, Dyserth (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cais i godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl, newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Gallt Melyd, Dyserth.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr. S. Andrew (o blaid) – eglurodd y bwriad i ddatblygu rhan o’r safle a ddyrannwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol a oedd yn cynnwys 10% o ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Nid oedd unrhyw effeithiau niweidiol ynghlwm â'r datblygiad o ran amwynder gweledol a phreswyl ac roedd telerau derbyniol o ran draenio a phriffyrdd.  Roedd y datblygiad arfaethedig hefyd yn cyd-fynd â Briff Datblygu’r Safle.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cadeirydd wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd David Williams (Aelod Lleol) a oedd wedi cyfarfod â’r Swyddog Priffyrdd i drafod materion priffyrdd. Roedd y Cynghorydd Williams hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Adeiladu, ac fe gadarnhaodd y swyddogion y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn nes ymlaen yn y broses gyda'r Aelod Lleol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Priffyrdd yr aelodau at yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am faterion yn ymwneud â phriffyrdd a mynediad i'r safle.  Cynigiwyd y dylid ffurfio ffordd fynediad newydd ar yr A547 Ffordd Gallt Melyd ac i’r llwybr cyswllt presennol i gerddwyr a beicwyr ffurfio rhan o'r ffordd fynediad.  Byddai’r terfyn cyflymder cyfredol o 40mya yn cael ei symud 40 metr i’r gogledd-orllewin oddi wrth y fynedfa arfaethedig a byddai lleiniau gwelededd yn cael eu darparu yn unol â TAN18.  Roedd Asesiad Cludiant Crynhöol wedi'i gynnal a oedd yn ystyried y datblygiad arfaethedig ynghyd â cheisiadau cynllunio wedi'u hymrwymo, wedi'u dyrannu neu rai cyfredol yn yr ardal, a dangosai hwnnw bod digon o le yn y rhwydwaith priffyrdd lleol i ymdopi â'r datblygiad.  O ganlyniad, nid oedd y swyddogion yn credu bod rheswm digonol i wrthod y cais ar sail priffyrdd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Evans at nifer y safleoedd o ddatblygiadau tai a oedd ar ddod i'r amlwg ger llaw a mynegodd ei bryderon ynglŷn â faint o draffig a fyddai ar yr A547 o ganlyniad, yn enwedig o ystyried y tagfeydd a oedd eisoes yng Ngallt Melyd ar yr adegau prysuraf.  Fel Aelod Arweiniol Priffyrdd, roedd y Cynghorydd Brian Jones yn rhannu’r pryderon hynny at y dyfodol, a phwysleisiodd fod angen cadw golwg fanwl ar y mater i sicrhau bod isadeiledd y priffyrdd yn ddigonol o ystyried y cynnydd disgwyliedig mewn traffig a ddisgwylid o ddatblygiadau tai yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, dywedodd y swyddogion –

 

·         bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol o ran darparu cyfuniad o fathau o anheddau ar gynlluniau’r farchnad agored

·         bod sylwadau Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE wedi’u hystyried yn rhan o’r broses asesu

·         bod terfyn cyflymder o 30mya ger mynedfa’r safle wedi’i ystyried ond roedd yr ardal wedi’i hasesu fel parth 40mya gan ystyried y datblygiad – pe bai’r sefyllfa’n newid, byddai’r terfyn cyflymder yn cael ei ailasesu

·         y gallai fod angen newid amseriad y goleuadau traffig er mwyn cyfrif am y datblygiad, a oedd wedi’i drafod gyda’r Aelod Lleol

·         ar ôl ymgynghori â Dŵr Cymru, cadarnhawyd nad oedd drewdod a sŵn yn cael eu hystyried yn broblem yn yr achos hwn.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Jones.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: