Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 23/2016/0557/PO – TIR GER DOLWAR, LLANRHAEADR, DINBYCH
Ystyried cais i ddatblygu 1.2 hectar o dir drwy godi
33 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad a gosodiad) ar dir ger Dolwar,
Llanrhaeadr, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Daeth yr
Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio’r eitem hon gan mai’r
Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch, oedd yr Aelod Lleol.
Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 1.2 hectar o dir trwy godi 33 annedd (cais amlinellol yn cynnwys
mynedfa a chynllun) ar dir ger Dolwar, Llanrhaeadr, Dinbych.
Siaradwyr Cyhoeddus –
Mr. E. Williams (yn erbyn) – gwrthwynebodd
y cais ar ran y Cyngor Cymuned ar sail pryderon ynglŷn â
draenio/llifogydd; diogelwch ar y priffyrdd; effaith negyddol ar y
Gymraeg; a diffyg lle yn yr ysgol leol. Cyflwynwyd y byddai’r cais yn cael effaith
negyddol ar y gymuned leol.
Ms. S. Edwards (o blaid) – ymatebodd i faterion a godwyd, gan gynnwys mesurau i
fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â phriffyrdd a phryderon
draenio/llifogydd heb unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion statudol. Roedd y safle wedi’i glustnodi yn y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer tai ac aseswyd yr effaith ar y Gymraeg
ar y pryd, ac ystyriwyd ei bod yn dderbyniol – byddai’r datblygiad yn darparu
tai y mae angen mawr amdanynt ac yn helpu i dyfu'r gymuned.
Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y
Cynghorydd Ann Davies am gyfarfod y Panel Archwilio Safleoedd ar 8 Chwefror
2019 a cheisiodd mwy o sicrwydd ynglŷn â diogelwch ar y priffyrdd a
phryderon lleol yn ymwneud â llifogydd/draenio.
Rhoddodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol)
rywfaint o gefndir i’r cais a nodwyd bod y safle gyferbyn yn cael ei ddatblygu
ar hyn o bryd i gynnwys 15 tŷ. Y niferoedd dangosol o anheddau yn y CDLl ar gyfer y safle gyferbyn oedd 10
tŷ a 23 ar gyfer safle’r cais hwn, felly byddai caniatáu'r cais yn arwain
at 15 a 33 o dai ar y ddau safle, a oedd yn gynnydd o bron i 50% ar y dyraniad
dangosol. Ers mabwysiadu’r CDLl, roedd TAN20 wedi'i gyhoeddi a ddwedai nad oedd
bellach raid i ymgeiswyr ddangos yr effaith ar y Gymraeg gan y byddai wedi’i
hasesu ar y cam dyrannu. Roedd y Cynghorydd Welch yn dadlau y dylid ystyried hynny o gofio –
(1)
bod
amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers mabwysiadu’r CDLl gyda bron i 50% yn
fwy o dai’n cael eu cynnig yn yr ardal
(2)
bod y
cais wedi’i gyflwyno yn 2016 cyn cyflwyno TAN20, a
(3)
bod yr
Asesiad Cymunedol ac Ieithyddol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn dangos y
byddai'r datblygiad yn arwain at ostyngiad yn nifer y siaradwr Cymraeg o 50.03%
i 49.1%, a fyddai’n golygu bod pentref â mwyafrif o siaradwyd Cymraeg yn dod yn
bentref lle'r oedd y siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif mewn ardal ieithyddol
sensitif.
Cyfeiriwyd hefyd at ddilysrwydd y sylwadau
cadarnhaol ynglŷn â’r Gymraeg o ystyried natur y cwestiynau a ofynnwyd yn
rhan o’r broses asesu.
Wrth gyflwyno ei ddadl dros wrthod, dywedodd y
Cynghorydd Welch y dylai Polisi RD5 yn y CDLl fod â dylanwad sylweddol mewn
perthynas â TAN20. Roedd Polisi RD5 yn
dweud y ‘gellid gwrthod datblygiad os bydd ei faint, graddfa neu leoliad yn
achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned'. Cytunodd y
Cynghorydd Welch hefyd gydag ystyriaethau eraill a godwyd, gan gynnwys diffyg
lle yn yr ysgol leol a'r pwysau mwy a fyddai’n debygol ar gludiant i ysgolion,
ynghyd â phryderon priffyrdd a llifogydd. Fodd bynnag, cynigiodd y dylid gwrthod y cais ar
sail niwed sylweddol i’r iaith Gymraeg, gan na chredai bod y niwed hwnnw wedi'i
liniaru'n addas a'i fod wedi gwaethygu ers cynnwys y safle yn y CDLl.
Cytunodd y Cynghorydd Emrys Wynne y byddai effaith
annerbyniol ar y Gymraeg gan bwysleisio bod angen gwarchod cymunedau, yn
enwedig o ystyried y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol. Roedd yn annog defnyddio'r mesurau
lliniaru arfaethedig ar gyfer yr iaith ynghlwm â phob datblygiad newydd.
Ymatebodd y swyddogion i’r materion a godwyd fel a
ganlyn –
Llifogydd/Draenio – roedd mesur draenio â ffos
gerrig yn cael ei ystyried yn ddull derbyniol o ymdrin â dŵr wyneb o’r
datblygiad o edrych ar amodau’r tir ac roedd strategaeth ddraenio glir wedi’i
chyflwyno gyda’r datblygiad. Nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru na Pheiriannydd Draenio’r Cyngor wedi
gwrthwynebu’r strategaeth honno. Roedd swyddogion wedi awgrymu amodau a fyddai'n gofyn am fwy o fanylion am
ddraenio mewn perthynas â'r priffyrdd a chynllun ffosydd cerrig cyffredinol y
safle.
Yr iaith Gymraeg – roedd yr Asesiad Cymunedol ac
Ieithyddol wedi’i fwriadu i roi darlun cyffredinol o effaith datblygiad ar y
gymuned, gan drafod nifer o elfennau, yn cynnwys yr iaith Gymraeg. Rhoddwyd trosolwg o’r broses asesu honno
a’r matrics sgorio, a oedd wedi’i seilio ar dempled y Cyngor yn ei Ganllawiau
Atodol. Canlyniad elfen yr iaith Gymraeg oedd y byddai effaith niweidiol, ond roedd
posib’ dehongli’r ystadegau mewn gwahanol ffyrdd. Pwynt y Cynghorydd Welch oedd
y byddai cyfran y siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â phoblogaeth Llanrhaeadr, yn
seiliedig ar ddamcaniaethau’r Asesiad, yn gostwng 1%, ond roedd y datblygiad yn
debygol o ddod â 21 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol, a gellid ystyried hynny’n
beth cadarnhaol. Roedd hefyd yn bwysig ystyried bod y safle wedi’i ddyrannu ar gyfer tai yn
y CDLl ar ôl ystyried effaith debygol y datblygiad ar y Gymraeg bryd hynny. Derbynnid y gallai’r datblygiad arwain at
newid, ond roedd yn rhaid ystyried a oedd y newid hwnnw mor sylweddol o ran
effaith ar yr iaith nes ei fod yn cyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio.
Priffyrdd – roedd pryderon wedi’u mynegi
ynglŷn â’r rhwydwaith priffyrdd lleol a sut y gellid darparu mynediad
diogel i'r safle. Roedd lleiniau gwelededd wedi’u cynnwys yn rhan o’r cais a byddai’r terfyn
cyflymder presennol o 30mya yn cael ei symud ynghyd â llwybr cerdded ar hyd
ymyl y ffordd gyda goleuadau stryd cysylltiedig a mesurau draenio a fyddai’n
cael eu rheoli trwy Gytundeb Cyfreithiol Priffyrdd. O ganlyniad, ystyrid bod y cynnig yn
dangos bod yr isadeiledd presennol yn ddigonol ar gyfer y datblygiad a bod
gwelliannau a mesurau lliniaru digonol wedi'u cynnwys i allu cael mynediad i'r
safle'n ddiogel, yn amodol ar osod yr amodau perthnasol. Nid ystyrid bod rhesymau yn ymwneud â
sŵn dros wrthod ar sail priffyrdd. Roedd data’n dangos un ddamwain draffig gydag anaf
yn ystod y cyfnod o fis Ionawr 2013 tan fis Rhagfyr 2017. Roedd mesurau draenio newydd yn cael eu
cynnig ar y safle, a fyddai’n gwella’r sefyllfa a byddent yn cael eu monitro
a'u rheoli'n ofalus drwy gytundeb cyfreithiol pe bai'r cais yn cael ei
gymeradwyo.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, gofynnodd yr
aelodau am eglurhad pellach ynglŷn â’r materion cynllunio a godwyd a bu
iddynt hefyd gwestiynu’r effaith ar addysg a’r sefyllfa o ran yr elfen tai
fforddiadwy. Ymatebodd y Swyddogion fel a ganlyn –
·
Addysg
– roedd pryderon wedi'u mynegi ynglŷn â lle yn yr ysgol leol a diffyg
cynllunio at y dyfodol yn hynny o beth, gyda phwysau ychwanegol tebygol ar
ddarpariaeth cludiant i’r ysgol. Cadarnhawyd y byddai’r cyfraniad addysg yn cael ei neilltuo ar gyfer yr
ardal gymunedol a chytunwyd y byddai’n ddefnyddiol i adrannau edrych tua’r
dyfodol a chyfrannu’n fwy tuag at y CDLl yn y cam datblygu er mwyn lliniaru
problemau yn y dyfodol
·
Draenio
– y datblygwr fyddai’n gyfrifol am fabwysiadu’r system ddraenio a chostau
cynnal a chadw yn y dyfodol
·
Tai
Fforddiadwy – roedd angen amlwg am dai fforddiadwy wedi’i nodi ar gyfer yr
ardal ac roedd y cais yn cyd-fynd â pholisi cyfredol y Cyngor o ran hynny, sef
darpariaeth o 10% ar hyn o bryd
·
Yr
iaith Gymraeg – roedd cyflwyno datblygiadau mewn camau wedi'i drafod wrth
ddyrannu safleoedd a gellid ei gyflwyno pe bai rhesymau dilys dros wneud hynny
·
Priffyrdd
– nid oedd maint a graddfa'r datblygiad yn golygu bod angen asesiad cludiant
(100 annedd oedd y trothwy i un fel arfer); gan ystyried datblygiadau eraill
gerllaw, ystyrid bod capasiti ar y priffyrdd i allu ymdopi.
Wrth gloi’r drafodaeth, cyfeiriodd y swyddogion at
yr ystyriaethau cynllunio sylweddol a drafodwyd gan yr aelodau gan holi a
oeddent yn credu bod digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod caniatâd
cynllunio yn yr achos hwn. Gan fod y safle wedi’i ddyrannu ar gyfer tai yn y CDLl ac o ystyried y
polisïau a'r canllawiau perthnasol, roedd swyddogion yn argymell yn gryf y
dylid cymeradwyo'r cais.
Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Joe Welch, ac
eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bob Murray, y dylid gwrthod y cais ar y sail
y byddai niwed sylweddol i gydbwysedd Cymraeg y gymuned.
Cynnig i’r Gwrthwyneb – Cynigiodd y
Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU - 11
GWRTHOD - 7
YMATAL - 1
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
Ar y pwynt hwn
(11.20am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- ITEM 9 - DOLWAR LLANRHAEADR, Eitem 8. PDF 6 KB
- ITEM 9 - DOLWAR LLANRAHEADR - APPENDIX, Eitem 8. PDF 934 KB