Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 16/2018/1137/PF – TIR GER YR HEN REITHORDY, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN

Ystyried cais i godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a’r gwaith cysylltiedig ar dir ger Yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a gwneud gwaith cysylltiedig ar dir ger yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Mr. B. Barton (yn erbyn) – cyflwynodd fod yr adroddiad yn gamarweiniol o ystyried bod yr ardal a neilltuwyd fel man agored cyhoeddus y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref; dadleuodd nad oedd y swm gohiriedig, a oedd i'w dalu i ddarparu cyfarpar yn yr ardal chwarae wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a oedd heb fynedfa ar hyn o bryd, yn ddigon, a gofynnodd am ohirio'r cais.

 

Mr. P. Lloyd (o blaid) – tynnodd sylw at yr angen dirfawr am dai fforddiadwy ac at rinweddau’r cais o ran darparu datblygiad cynaliadwy o safon uchel.  Roedd y cynllun wedi bod yn destun trafodaethau helaeth ac amryw ddyluniadau cyn y cam hwn.  Nid oedd yn gwrthdaro â’r Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys darparu'r elfen mannau agored cyhoeddus a oedd yn gysylltiedig â'r safle a chynnig am swm gohiriedig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Swyddog Cynllunio bod yr elfen dai wedi’i chynnwys o fewn ffin yr ardal a oedd wedi'i neilltuo ond bod safle'r man agored cyhoeddus y tu allan i'r ffin.  Pe bai nifer yr anheddau’n cael ei leihau i ganiatáu man agored ychwanegol ar y safle, roedd perygl na fyddai’r cynllun yn cael ei gyflawni.  Yn seiliedig ar hynny a gan nad oedd unrhyw ddatblygiad y tu hwnt i'r ffin ddatblygu, daethpwyd i gytundeb o ran darparu man agored ac nid oedd unrhyw wrthdaro â pholisïau mannau agored y Cynllun Datblygu Lleol.  Mae’r swm gohiriedig sydd i’w dalu wedi’i gyfrifo gan y Cyngor a byddai’n cael ei ddarparu tuag at gost ardal chwarae gyda chyfarpar y gallai safleoedd eraill sydd wedi’u dyrannu yn y gymuned hefyd fod yn cyfrannu ati er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chwblhau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) o blaid y datblygiad a fyddai’n helpu i sicrhau bod y pentref yn parhau i ffynnu trwy ddiwallu anghenion lleol a rhoi hwb i’r ysgol a’r economi leol.  Bu iddo hefyd gefnogi’r cynnig i ardal chwarae gael ei lleoli wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a fyddai'n darparu cyswllt â chanol y pentref, ac roedd y mater ynglŷn â mynediad yn cael ei drin a'i drafod ar hyn o bryd.

 

Croesawodd yr Aelodau dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol ac a fyddai hefyd yn helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol.  Cydnabuwyd hefyd yr effaith gadarnhaol o ran cynaliadwyedd yn y dyfodol a manteision i'r ardal.  Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Merfyn Parry yn ymwneud ag amod rhif 5 a gwelededd ar y briffordd, dywedodd y swyddogion y byddai’r elfen hon yn cael ei hystyried yn rhan o Ddatganiad y Dull Adeiladu ac y byddent y sicrhau bod mynediad diogel i'r briffordd yn gynnar yn y broses.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

                

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 19

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: