Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2017/18
Ystyried a
chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG 2017/18 (copi yn amgaeedig).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (USGY)
Adroddiad Blynyddol drafft o CYSAG Sir Ddinbych 2017/18 (dosbarthwyd yn
flaenorol) i’w gymeradwyo. Darparodd yr
adroddiad fanylion ar weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd
flaenorol gan gynnwys cyngor a roddwyd i'r awdurdod lleol ynghyd â materion
lleol a chenedlaethol eraill.
Cynghorwyd aelodau
nad oedd Mr Philip Lord bellach yn Gynghorydd AG i CYSAG a byddai’r awdurdod
lleol yn rhoi cefnogaeth broffesiynol i CYSAG yn y dyfodol. Byddai’r USGY
yn llenwi'r rôl dros dro tan fyddai rhywun ffurfiol yn cael ei benodi. Paratowyd yr Adroddiad Blynyddol drafft gan Mr. Lord gyda’r
USGY yn ei ddiweddaru er mwyn i CYSAG ei gymeradwyo.
Wrth gyflwyno’r adroddiad tynnwyd sylw’r aelodau at y
canlynol -
·
Maes Llafur y cytunwyd arno – dim newidiadau wedi eu
cynnig cyn cyhoeddi darganfyddiadau’r adolygiad o’r cwricwlwm
·
Canlyniadau Arholiadau - mae nifer y disgyblion yn
cyflawni arholiadau wedi lleihau yn unol â'r lleihad o ddisgyblion wedi'u
cofrestru gyda rhagolwg pellach o leihad mewn niferoedd disgyblion dros y tair
blynedd nesaf gyda chynnydd i ddilyn yn y grwpiau blynyddoedd 7 a 8 presennol;
roedd yn siomedig nodi gostyngiad mewn canlyniadau a thra bod y duedd heb ei
nodi, roedd canlyniadau AG yn dueddol o amrywio - gellir o bosib egluro’r
gostyngiad oherwydd bod ysgolion yn gorfod ymdrin â manylion TGAU newydd a byddai cymariaethau
gyda chanlyniadau’r flwyddyn nesaf yn rhoi gwell syniad i ni o ran hynny - os
bydd CYSAG yn ei ystyried fel maes o bryder bydd yr achos yn cael ei gyfeirio
at GwE am archwiliad pellach; nid oedd Canlyniadau Lefel A wedi eu cynnwys ym
mhecyn y rhaglen ac y byddant yn cael eu hanfon er e-bost i'r aelodau - 21 yn
llai o ddisgyblion wedi sefyll Lefel A mewn Astudiaethau Crefyddol na'r
flwyddyn flaenorol ac er bod y gyfradd A*-C wedi gostwng yn gyffredinol, roedd
nifer o raddau A* wedi cynyddu.
·
Dulliau o Ddysgu – dim newidiadau yn y dulliau o ddysgu.
·
Hyfforddiant Athrawon - ni fu’n bosibl yn ystod y
flwyddyn ymweld â, na chael ymweliad gan y Sefydliad Hyfforddiant Athrawon
Cychwynnol.
Roedd rhai newidiadau wedi digwydd i’r hyfforddiant
athrawon a bydd gwybodaeth bellach ar gael yn y cyfarfod CYSAG nesaf.
·
Adroddiadau Archwilio – roedd y proffil archwilio yn dda
heb achosion o ran Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Grefyddol neu Addoli Ar Y
Cyd dros y deuddeg mis diwethaf.
Yn ystod dadl fe fynegodd aelodau eu siomedigaeth bod
GwE, ac yn arbennig Mr Philip Lord, ddim yn rhan o CYSAG a thalwyd
teyrnged i Mr. Lord am ei broffesiynoldeb, arbenigedd a’i gymorth
gwerthfawr i CYSAG. Cytunodd yr
aelodau i'r pwyllgor anfon llythyr yn mynegi ein gwerthfawrogiad i Mr Lord gan
ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.
Cynghorodd yr USGY fod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol
Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi cynnal cyfarfodydd bob tymor a bod gan
CYSAG yr hawl i anfon cynrychiolwyr a nodwyd nad oedd cynrychiolaeth wedi bod o
Sir Ddinbych yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2018 yn
Llanilltud Fawr. Cytunwyd bod y
Cynghorydd Emrys Wynne yn cynrychioli SACRE Sir Ddinbych yn y cyfarfod nesaf
i'w gynnal ar 26 Mawrth 2019 yng Nghaerdydd ond os na fyddai'n gallu mynychu
byddai'r Cynghorydd Ellie Chard yn mynd yn ei le. Nodwyd nad oedd dyddiadau pellach wedi eu pennu ar
gyfer cyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol
Cymru yn y dyfodol er y byddai’r cyfarfod yn haf 2019 yn cael ei gynnal yng
Nghonwy. O ran p’un ai fod hi’n
bosib hawlio costau teithio am fynychu cyfarfodydd CCYSAGC fe gytunodd y
swyddogion i holi ac i adrodd yn ôl i’r aelodau.
PENDERFYNWYD –
(a) cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2017-2018 fel cofnod cywir o
waith CYSAG;
(b)
gofyn i’r Awdurdod Addysg
Lleol i drefnu cyfieithu, argraffu a dosbarthu’r adroddiad i holl ysgolion a
cholegau Sir Ddinbych, ac unrhyw sefydliad arall yn unol â’r gyfraith ac fel y
nodwyd yn yr adroddiad;
(c) anfon
llythyr yn mynegi ein gwerthfawrogiad i Mr Philip Lord, cyn gynghorwr AG ar ran
CYSAG, ac
(d) byddai’r Cynghorydd
Emrys Wynne yn mynd i’r cyfarfod CCYSAGC
nesaf ar 26 Mawrth 2019 yng Nghaerdydd gyda’r Cynghorydd Ellie Chard yn sefyll
i mewn pe na fyddai'n gallu.
Dogfennau ategol: