Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU AR REOLI GWASTRAFF YNG NGHYMRU
Ystyried
adroddiad SAC ar 'Reoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol’, i
graffu ar y casgliadau ac ymateb Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor i
fynd i'r afael â materion a godwyd yn yr adroddiad (copi ynghlwm).
11.45 – 12.20 p.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy
cyd-adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu a Phennaeth Priffyrdd a'r
Amgylchedd (a gylchredwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno
adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru, sef Rheoli Gwastraff yng
Nghymru: Ailgylchu Trefol (Atodiad 1). Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr
Aelod Arweiniol bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi disgwyl mwy o gydweithio rhwng
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o godi cyfraddau ailgylchu
ac, yn sgil hynny, lleihau’r gwastraff a gludir i safleoedd tirlenwi. Roedd
Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud pedwar argymhelliad, y rhan fwyaf at sylw
Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ystyried y pedwar
argymhelliad ac mae ei sylwadau a’i ymateb i bob un wedi’u cynnwys yn yr adroddiad
eglurhaol.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i gwestiynau’r aelodau fel a
ganlyn:
·
Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyfle
i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall y costau sy’n amrywio o un awdurdod lleol
i’r llall mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff
·
Mae argymhellion yr adroddiad yn cefnogi model ailgylchu
gwastraff arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet
·
Disgwylir i Lywodraeth y DU ymgynghori yn y dyfodol agos
ynghylch diwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr y DU o ran deunydd pacio.
Dan y system newydd arfaethedig byddai cost lawn rheoli
gwastraff deunyddiau pacio yn cael ei osod ar y busnesau hynny sydd wedi’u
defnyddio, gyda’r bwriad o roi pwysau arnynt i ddylanwadu ar ddyluniad deunydd
pacio
·
Mae’r llywodraeth yn archwilio a oes angen newid deunydd
pacio/labeli er mwyn egluro i’r cyhoedd pa ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu
a pha rai nad oes modd eu hailgylchu
·
Bydd trefniadau casgliadau â chymorth yn parhau yn ôl yr
arfer pan fydd model ailgylchu gwastraff newydd y Cyngor yn cael ei roi ar
waith.
Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn adolygu’r ddarpariaeth
hon yn y dyfodol agos i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio gan y trigolion
hynny sydd angen cymorth
·
Yn y gorffennol mae Sir Ddinbych wedi bod yn gyndyn o fabwysiadu
model glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu. Fodd bynnag, mae
pethau wedi newid dros amser a byddai symud at fodel glasbrint Llywodraeth
Cymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yn fuddiol i Sir Ddinbych a’i thrigolion
oherwydd goblygiadau ariannol peidio â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.
Er nad yw mabwysiadu model glasbrint Llywodraeth Cymru yn
ofyniad statudol mae’r cymhellion ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd yn gwneud
y model hwn yn fuddiol i’r Cyngor
·
Roedd y Cyngor yn cytuno ag argymhelliad Swyddfa
Archwilio Cymru mewn perthynas â gwella dulliau meincnodi cost a pherfformiad
er mwyn sicrhau dull cyson at ddibenion dadansoddi data a chymharu
·
Byddai’r model ailgylchu newydd arfaethedig yn fwy cadarn
yn erbyn grym y farchnad na’r system ailgylchu bresennol.
Tra bydd grym y farchnad wastad yn ffactor, bydd y model
newydd yn darparu cadernid ychwanegol i wasanaeth y Cyngor
·
I gychwyn, mae’r Cyngor yn cynnig
cynnal adolygiad o’i wasanaethau rheoli gwastraff o leiaf unwaith bob saith mlynedd,
sy’n cyd-fynd ag oes gyfartalog cerbydau gwastraff.
Fodd bynnag, mae strategaethau Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU o ran rheoli gwastraff yn newid yn rheolaidd h.y. bydd
ymgynghoriadau yn cael eu cynnal yn fuan ynghylch cynllun dychwelyd ernes a
diwygio cyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran deunydd pacio ac ati. Yn dibynnu ar
ganlyniadau’r ymgynghoriadau hyn, mae’n bosibl y bydd ffocws a blaenoriaethau
rheoli gwastraff yn newid
·
Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn edrych ar faterion
yn ymwneud â dyluniad y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff newydd, gan gynnwys y
strategaeth addysg a chyfathrebu arfaethedig sy’n cael ei llunio cyn cyflwyno’r
gwasanaeth newydd
·
Gwneuthurwyr a’r llywodraeth ganolog sydd â’r pwerau i
benderfynu ar y cynwysyddion a’r deunyddiau pacio sy’n cael eu cynhyrchu a’u
gwerthu, mae cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yn canolbwyntio ar reoli gwastraff a
gwaredu gwastraff yn foesegol.
Mae gwneuthurwyr a’r llywodraeth yn edrych ar y
deunyddiau a ddefnyddir i greu cynnyrch pacio, gyda’r bwriad o leihau’r
cynnyrch nad oes modd ei ailgylchu sy’n cael ei gynhyrchu. Un cynnig yw gosod
trethi uwch ar eitemau pacio nad oes modd eu hailgylchu
·
Mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu bin compost i drigolion
ar gais am bris â chymhorthdal
·
Mae staff Strydwedd a Chynnal a Chadw Tiroedd wedi
compostio’r holl wastraff gwyrdd a gasglwyd fel rhan o’u gwaith
·
Er bod defnyddio cerbydau disel mawr i gasglu gwastraff
ac ati yn effeithio ar ôl troed carbon y Cyngor, mae llosgi gwastraff a gwaredu
gwastraff mewn modd amhriodol hefyd yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd ac
ar berfformiad y Cyngor mewn perthynas â’r mynegai carbon
Ar ddiwedd y drafodaeth, roedd y Pwyllgor o’r farn bod y model ailgylchu
newydd arfaethedig yn gam ymlaen cadarnhaol i’r Cyngor a’r amgylchedd lleol.
Fodd bynnag, mae’n hollbwysig bod y Cynllun Busnes ar gyfer y gwasanaeth newydd
arfaethedig yn gadarn ac ymarferol.
Penderfynwyd: ar ôl ystyried canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Rheoli
Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol, cefnogi ymateb Gwasanaeth
Ailgylchu a Gwastraff y Cyngor i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr
adroddiad.
Dogfennau ategol:
- Waste Management Report 310119, Eitem 7. PDF 302 KB
- Waste Management Report 310119 - App 1E, Eitem 7. PDF 2 MB