Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SAFONAU LLYFRGELL

Ystyried perfformiad y Cyngor ar ddechrau 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 a’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol (copi ynghlwm).

 

10.50 – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol adroddiad y Prif Lyfrgellydd ar berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (a gylchredwyd ymlaen llaw). Hefyd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad mae cynnydd y gwasanaeth o ran datblygu llyfrgelloedd ar draws y sir yn ganolfannau cymunedol. 

 

Bu i’r Cadeirydd a’r aelodau longyfarch y gwasanaeth am eu perfformiad rhagorol wrth ddarparu yn erbyn y rhan fwyaf o'r Hawliau Craidd a’r Dangosyddion Ansawdd (DA), fel y manylir arnynt yn adroddiad Asesiad Blynyddol yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4 i’r adroddiad). Bu iddynt hefyd ganmol y Cyngor ar yr ystod o wasanaethau a digwyddiadau a gynigir yn llyfrgelloedd y sir ar gyfer pobl o bob oed, a werthfawrogir yn fawr iawn gan drigolion.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, darparodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata a’r Prif Lyfrgellydd y sylwadau canlynol:

·         Cadarnhawyd bod, yn debyg i wasanaethau eraill, cyllideb y Gwasanaeth Llyfrgell wedi ei lleihau ac, o ganlyniad, nad yw wedi bodloni DA19 (gwariant fesul 1,000 o’r boblogaeth ar ddeunyddiau darllen) o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

·         Dywedwyd bod DA13 wedi ei fodloni’n rhannol (lefelau staff a chymwysterau) oherwydd bod staff llyfrgelloedd y sir yn darparu ystod o wasanaethau llyfrgell a Siopau Un Alwad. 

Er nad yw'r holl aelodau o staff hyn yn llyfrgellwyr cymwys, mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir yn llyfrgelloedd y sir yn gofyn am ystod eang o sgiliau ac mae swyddogion yn hyderus bod staff y gwasanaeth yn meddu ar y sgiliau priodol i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod yn edrych ar ddewisiadau i ddatblygu cymhwyster ar gyfer staff y Gwasanaeth Llyfrgell a fyddai’n cefnogi datblygiad gyrfa o fewn y gwasanaeth. Dywedwyd hefyd bod mwy o ddynion wedi ymgeisio am swyddi gyda’r gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n groes i’r duedd hanesyddol.

·         Cadarnhawyd bod staff llyfrgell yn derbyn hyfforddiant ac yn mynychu sesiynau gloywi sgiliau yn rheolaidd.

Yn y dyfodol agos bydd staff yn derbyn hyfforddiant ar y System Rheoli Llyfrgell a’r system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid. Cynhaliwyd dwy gynhadledd staff yn ystod flwyddyn, a bu i bob aelod o staff y Gwasanaeth Llyfrgell eu mynychu. 

·         Ceir pum swydd llyfrgellydd proffesiynol yn y gwasanaeth yn Sir Ddinbych.

·         Mae Coleg Llandrillo yn darparu cyrsiau lefel 3 a 7 mewn sgiliau llyfrgell yn ystod y flwyddyn academaidd.

·         Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor wedi defnyddio gwirfoddolwyr ifanc ers sawl blwyddyn bellach, a nod y cynllun hwn yw datblygu sgiliau pobl ifanc. 

Defnyddir gwirfoddolwyr i ategu a chefnogi’r ddarpariaeth, nid yn lle staff llyfrgell cyflogedig. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod ar bobl o bob oed eisiau rhoi o’u hamser i wirfoddoli, gyda nifer yn dymuno darparu gwasanaethau gwirfoddol mewn llyfrgelloedd. O ganlyniad mae’r Cyngor yn datblygu Strategaeth Wirfoddoli a Strategaeth Datblygu'r Gweithlu, gyda’r bwriad o gefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a pheidio â chyfaddawdu rôl staff hyfforddedig cyflogedig. Nod y Strategaeth Wirfoddoli fydd ychwanegu gwerth at wasanaethau, nid arbed arian.

·         Mae’r mater o osod cosbau ariannol am fethu dychwelyd llyfrau ar amser yn cael ei archwilio. 

Pe byddai’r arfer yn dod i ben yna byddai hynny’n cael effaith ar incwm y gwasanaeth, felly byddai angen edrych ar gynlluniau cynhyrchu incwm newydd. Yn ogystal, er mwyn sicrhau bod deunyddiau darllen ar fenthyg yn cael eu dychwelyd byddai angen amnest o ryw fath.

·         Cadarnhawyd bod gan y gwasanaeth ymgyrch farchnata ar waith ar nifer o lwyfannau’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

·         Mae gan bob aelod a phreswyliwr rôl bwysig i’w chwarae o ran diogelu cynaliadwyedd tymor hir llyfrgelloedd y sir, drwy sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n rheolaidd a hyrwyddo’r gwasanaethau i drigolion.

·         Oherwydd y costau ynghlwm wrth adfer hen lyfrau a sicrhau eu bod mewn cyflwr addas i’w gwerthu i drigolion am gost ostyngol, mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei wneud gan gwmni preifat gan ei fod yn rhoi cyfle i’r gwasanaeth gynhyrchu ychydig o incwm.  

Cynhaliwyd arwerthiant yn ddiweddar o ddeunyddiau darllen dros ben yn Llyfrgell y Rhyl; mae buddion ariannol yr arwerthiant hwn yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. 

·         Mae Strategaeth Llyfrgell newydd yn cael ei llunio ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar gefnogi cadernid cymunedol.  

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y berthynas waith dda sy’n bodoli rhwng Cyngor Tref Rhuddlan a staff Llyfrgell Rhuddlan, sy’n darparu gwasanaethau gwerthfawr yn y llyfrgell leol sy’n ganolfan fywiog i’r gymuned; a thynnwyd sylw penodol at y gweithgareddau dementia a gynigir yno. Holwyd a fyddai modd cynnig mwy o wasanaethau gwybodaeth i dwristiaid yn llyfrgell y dref a gofynnwyd i’r aelod lleol siarad efo Arweinydd Tîm Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau’r Cyngor.  

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)                 canmol y Gwasanaeth Llyfrgell am ei berfformiad yn erbyn Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru; a

(ii)               cyflwyno adroddiad ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2018-19 i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2019

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: