Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIADAU ALLANOL A WIRIWYD AC ASESIADAU ATHRAWON

Derbyn gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych yn arholiadau allanol 2018 (copi ynghlwm).

 

10.05 – 10.50 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn cynnwys gwybodaeth a wiriwyd ar berfformiad disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac ôl 16 ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn ystod arholiadau haf 2018.

 

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y canlyniadau dros dro yng nghyfarfod mis Tachwedd 2018, roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru yn mynegi pryderon yr aelodau ynghylch y cynnydd sylweddol yn y trothwy i gyrraedd gradd ‘C’ yn arholiadau TGAU haf 2018, yn arbennig yr arholiadau Saesneg, ac effaith andwyol hynny ar fyfyrwyr. Dosbarthwyd copi o’r ymateb a dderbyniwyd gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru i’r aelodau. Yn ei lythyr mae’r Prif Weithredwr yn mynegi bod pryderon tebyg wedi'u codi gan GwE ac, o ganlyniad, bod adolygiad o’r graddio wedi'i gynnal. Daeth yr adolygiad hwn i’r casgliad bod y trothwy wedi’i newid yn briodol ac felly nad oes angen unrhyw gam gweithredu pellach. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod swyddogion addysg a deiliaid portffolio addysg wedi derbyn ymateb tebyg gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru, ac o ganlyniad, mae cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer canol mis Chwefror rhwng Cyfarwyddwyr Addysg Gogledd Cymru, deiliaid portffolio addysg, GwE a Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru i drafod dull graddio arholiadau allanol yn y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd myfyrwyr yn y dyfodol yn dioddef chwit-chwatrwydd mewn ffiniau graddau. Mae ymarferwyr addysg yn derbyn y ffaith na fydd Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad pellach o raddau 2018, ac felly maent yn benderfynol na fydd arholiadau’r dyfodol yn destun cyfnewidioldeb o’r fath yn y ffiniau graddio. Cytunodd yr Aelod Arweiniol gyda barn aelodau’r Pwyllgor o ran nad yw Cymwysterau Cymru yn cydnabod effaith ei benderfyniad i weithredu cynnydd o’r fath yn y ffin ar gyfer gradd ‘C’ ar fywydau a rhagolygon gyrfa nifer o fyfyrwyr.

 

Bu i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE wneud y sylwadau canlynol:

·         Bu iddynt bwysleisio pa mor siomedig yw swyddogion ac aelodau etholedig yn y ffaith nad yw canlyniadau 2018 a wiriwyd wedi newid er ymdrechion y rhanbarth i drafod y pryderon uchod gyda chynrychiolwyr Cymwysterau Cymru, Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Llywodraeth Cymru ac ati (mae copi o lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at yr Aelod Arweiniol wedi’i gylchredeg i’r aelodau er gwybodaeth).

Tra bod cynrychiolwyr CBAC wedi cwrdd â swyddogion addysg, swyddogion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a deiliaid portffolio yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru (rhanbarth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg) i drafod pryderon tebyg, mae’r her yn cael ei harwain gan arweinwyr addysg gogledd Cymru (rhanbarth GwE).

·         Bu iddynt gynghori, oherwydd eu pryderon, eu bod yn archwilio darpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 mewn perthynas â monopoli CBAC dros arholiadau allanol yng Nghymru i weld a oes modd i ysgolion y sir gofrestru myfyrwyr i sefyll arholiadau a weinyddir gan fyrddau arholi cyfrifol eraill.

Cydnabuwyd mai dim ond CBAC sy’n gweinyddu arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Cadarnhawyd, pe bai ffin gradd 'C' arholiadau Saesneg haf 2018 wedi'i osod ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol y byddai 107 o ddisgyblion eraill yn Sir Ddinbych, neu 700 ar draws Cymru, wedi cyrraedd gradd 'C'.  

 

Ymatebodd Aelod Arweiniol Addysg a swyddogion GwE fel a ganlyn i gwestiynau’r aelodau:

·         Bu iddynt gadarnhau bod y bwlch ym mherfformiad bechgyn a merched wedi cynyddu yn 2018, gyda mwy o ferched yn ennill Lefel 2 na bechgyn.

Nid yw cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall yn ystyrlon ar hyn o bryd oherwydd y newidiadau i ffiniau graddau a nifer y pynciau sy’n cael eu harholi.

·         Dywedwyd bod arholiadau CBAC yn cael eu graddio o ‘A’ i 'E’ tra bod byrddau arholi Lloegr yn graddio mewn rhif.

Serch hynny, mae’n ddyletswydd foesol ar benaethiaid i ddewis yr arholiadau gorau ar gyfer eu disgyblion, a dyna pam bod y gwasanaeth yn edrych ar ddarpariaethau Deddf 2015 i weld a oes modd i ddisgyblion y sir sefyll arholiadau a weinyddir gan fyrddau arholi eraill. Maent o’r farn bod angen rhoi pwysau ar CBAC i osod arholiadau sy’n diwallu anghenion disgyblion.

·         Cadarnhawyd bod cytundeb ar draws y Deyrnas Unedig y bydd arholiadau Saesneg a mathemateg yn cael eu cynnal yr un pryd ar yr un diwrnod, ac felly nid yw’n bosibl cofrestru ddwywaith ar gyfer yr arholiadau hyn.

·         Bu iddynt gynghori bod lefel sylweddol o ansicrwydd yn ysgolion uwchradd y sir o ganlyniad i godi ffiniau graddau arholiadau haf 2018.

Mae wedi ysgwyd hyder penaethiaid adran ac athrawon yn eu gallu i ddarparu ar gyfer eu myfyrwyr. Tra bod gan swyddogion y Gwasanaeth Addysg pob hyder yn eu gallu mae eu hyder yn CBAC a Chymwysterau Cymru wedi lleihau yn aruthrol. Mae swyddogion addysg bellach yn chwilio am sicrwydd ar gyfer y dyfodol, yn arbennig o ran y newidiadau i’r arholiadau gwyddoniaeth a diwygiadau pellach i’r cwricwlwm.

·         Bu iddynt gadarnhau bod pob athro yn ymwybodol o’r hyn y mae’r Cyngor a GwE yn ceisio ei wneud i’w cefnogi o ganlyniad i’r siom a gafwyd gyda rhai canlyniadau TGAU yn 2018.

Mae pob pennaeth yn gweithio’n galed i gefnogi staff a disgyblion siomedig ac yn gwneud pob ymdrech i fagu eu hyder, tra bod GwE yn trefnu digwyddiadau hyfforddiant i’w cefnogi.

·         Mae pryderon GwE yn adlewyrchu pryderon staff y Gwasanaeth Addysg, ac maent o’r farn na ddylai ffiniau graddau fod yn destun y lefel o gyfnewidioldeb a welwyd yn 2018. Mae GwE yn tracio perfformiad disgyblion ar draws y rhanbarth ac ar hyn o bryd yn tracio ac yn monitro perfformiad 677 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych yn erbyn perfformiad disgyblion mewn awdurdodau lleol eraill. 

·         Dywedwyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi proffil uchel i’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, nad oedd pob myfyriwr yn ei ystyried yn flaenoriaeth gan nad yw pob prifysgol yn ei gydnabod fel cymhwyster, ac felly mae rhai myfyrwyr yn dewis astudio 3 neu 4 pwnc Safon Uwch er mwyn derbyn lle yn eu dewis brifysgol.

·         Cadarnhawyd bod gan yr Awdurdod bellach fwy o ddealltwriaeth o anghenion cyfannol disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

O ganlyniad, mae gwelliant wedi bod ym mherfformiad cynhwysol Lefel 2 yn erbyn y dangosydd hwn yn 2018.

·         Cadarnhawyd bod y Cyngor yn ymwybodol o gyfradd uchel y gwaharddiadau tymor byr yn ysgolion uwchradd y sir (gweler Atodiad 3 i’r adroddiad).

Mae’r Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda phob ysgol i fonitro’r sefyllfa, i gynnig gwasanaethau ymyrraeth priodol ac i sicrhau bod y polisi yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson ymhob ysgol. Mae swyddogion yn hyderus bod ysgolion yn gweithredu’r polisi yn gywir ac, o ganlyniad, yn gwybod ymhle mae pob disgybl yn ystod y diwrnod ysgol. Mae nifer sylweddol o’r disgyblion sydd wedi’u gwahardd dros dro o ysgolion y sir yn ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol neu arbennig. Mae’r cyfnod gwahardd tymor byr hwn yn rhoi amser i drefnu cefnogaeth ac ymyrraeth briodol i gefnogi addysg y disgybl. Nod gwaharddiadau tymor byr yw lleihau nifer y gwaharddiadau parhaol drwy ddarparu gwasanaethau ymyrraeth priodol ar gam cynnar iawn. Mae’n ymddangos bod nifer isel y gwaharddiadau parhaol yn dangos bod y dull hwn yn effeithiol.

·         Bu iddynt sicrhau aelodau bod y Cyngor yn pwysleisio bod yn rhaid i ddata ar waharddiadau gynnwys y rhesymau dros wahardd er mwyn trefnu’r gefnogaeth a’r ymyrraeth briodol.  

Mae gan nifer o’r disgyblion sydd wedi’u gwahardd broblemau ymddygiad difrifol. Mae gwaith yn cael ei wneud i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio cyllid TRAC i sefydlu darpariaeth a chefnogaeth i ddisgyblion wedi’u gwahardd ar y safle.

·         Rhoddwyd gwybod i’r aelodau bod data gwaharddiadau o'r ysgol yn cael eu casglu yn fisol a'i fod ar gael i bob ysgol at ddibenion cymharu.

·         Pwysleisiwyd bod proffiliau ysgolion yn newid. 

Tra cydnabyddir bod cyfraddau gwahardd tymor byr yn rhy uchel, materion cymhleth iawn fel rheol sy’n arwain at y penderfyniad i wahardd. 

·         Mae’n bwysig bod polisïau a data ymddygiad ysgolion yn gywir, ac nad oes disgyblion yn cael eu gwahardd yn anghyfreithlon.  

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar safoni polisïau gwahardd ar draws Cymru.

·         Dywedwyd bod cydberthyniad rhwng ffigyrau presenoldeb/absenoliaeth (gweler Atodiad 4) a ffigyrau prydau ysgol am ddim.

Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones sydd â’r nifer mwyaf o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yng ngogledd Cymru, oherwydd bod y rhan fwyaf o’r disgyblion yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel. Serch y lefelau uchel o gefnogaeth gan Wasanaeth Addysg y Cyngor, mae problemau o ran arweinyddiaeth yn yr ysgol, ac mae’r Esgobaeth yn ymwybodol ohonynt, sydd wedi arwain at fethu herio a mynd i’r afael ag absenoliaeth a pherfformiad. Nid oes problemau o’r fath yn ei phrif ysgol fwydo, sef Ysgol Mair, ac felly'r gobaith yw y bydd yr ysgol pob oed newydd, Crist y Gair, a fydd yn disodli Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ym mis Medi 2019, yn mynd i’r afael â’r problemau yn yr ysgol uwchradd ac yn arwain at welliant parhaus. Mae pennaeth yr ysgol newydd wedi’i benodi’n ddiweddar, a fydd o bosibl yn dechrau ei swydd newydd yn y Pasg, a’r gobaith yw y bydd hynny’n helpu i ddarparu’r gwelliannau disgwyliedig. Mae staff y Gwasanaeth Addysg yn hyderus y bydd pob agwedd ar berfformiad a bywyd yr ysgol yn gwella unwaith y mae’r ysgol newydd wedi’i hagor, gan fod hyn wedi digwydd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn dilyn cwblhau’r ysgol newydd. Mae’r ddwy ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd uchel ac wedi profi problemau tebyg.

·         Sicrhawyd y Pwyllgor, gan fod y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn cael eu rheoli gan un Pennaeth Gwasanaeth, bod gwaith y ddau wasanaeth yn integreiddio’n dda. 

O ganlyniad, mae swyddogion y ddau wasanaeth yn gwybod yn union pa blant a theuluoedd sydd angen eu hymyrraeth a'u cefnogaeth.

·         Dywedwyd bod rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgol yn eang a chadarnhawyd eu bod yn pryderu nad oes gan bob llywodraethwr y sgiliau priodol i ymgymryd â’r swydd. 

Ychydig iawn o bwerau sydd gan y Cyngor mewn perthynas â chyrff llywodraethu ysgol er gwaethaf y ffaith bod y corff llywodraethu yn ei hanfod yn gyfrifol am redeg yr ysgol a herio perfformiad ac ati. Dan Fframwaith Safonau Ysgol mae pwerau’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) o ran ymyrraeth yn gyfyngedig. Nid oes gan yr AALl unrhyw bŵer mewn perthynas â chadeirydd y corff llywodraethu; mae ei bwerau wedi’u cyfyngu i gynrychiolwyr yr AALl ar y corff llywodraethu. Mae gan Sir Ddinbych Gymdeithas Llywodraethwyr Ysgol sy’n cwrdd bob chwarter, ond nid yw lefelau presenoldeb y cyfarfodydd hyn yn uchel iawn. Fodd bynnag, mae yna lywodraethwyr ysgol ardderchog ar gyrff llywodraethu sy’n herio ysgolion yn effeithiol ac adeiladol. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi diddordeb mewn adolygu cyrff llywodraethu ysgol, ond nid oes cynigion wedi dod i law hyd yma. Mae Cyfarwyddwyr Addysg yn teimlo y dylai adolygiad o’r fath fod yn radical.

·         Eglurwyd y gwahaniaeth rhwng gosod targedau lleol, sy’n cael ei wneud gan ysgolion ar lefel leol, a thracio disgyblion sy’n cael ei wneud ar lefel sirol a rhanbarthol.

·         Dywedwyd bod Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi mabwysiadu dull tebyg i’r un yn Ysgol Brynhyfryd er mwyn gwella perfformiad.

Mae’r system hon, sy’n cynnwys arweinyddiaeth gref a chadarn, herio effeithiol a thracio perfformiad disgyblion yn barhaus, wedi bod yn effeithiol iawn yn Ysgol Brynhyfryd ac, er gwaethaf proffil prydau ysgol am ddim gwahanol Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae’r swyddogion yn hyderus y bydd gwelliannau tebyg yn cael eu cyflawni.

·         Cadarnhawyd bod perfformiad disgyblion mewn arholiadau TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf wedi aros yn gyson uchel, gyda mwy o ddisgyblion yn Sir Ddinbych, ar gyfartaledd, yn sefyll arholiad iaith gyntaf nag yn unrhyw le arall yng Nghymru.

·         Er bod rhai mathau o gyrsiau galwedigaethol yn cael eu darparu yn ysgolion y sir, sy’n galluogi disgyblion i ennill cymwysterau galwedigaethol, nid yw’r cyrsiau hyn yn cael eu darparu fel yr oeddynt rai blynyddoedd yn ôl oherwydd y gofyniad ar ysgolion i ganolbwyntio mwy ar bynciau academaidd.

Ar y cyfan, mae mwy o fudd mewn cynnig cyrsiau galwedigaethol mewn sefydliadau addysg bellach oherwydd argaeledd cyfarpar arbenigol. Cadarnhawyd bod gan y Cyngor berthynas gref gyda cholegau addysg bellach lleol o ran darparu addysg alwedigaethol.

 

Wrth grynhoi’r drafodaeth bu i’r Cadeirydd longyfarch yr ysgolion am eu perfformiad da yn ystod arholiadau allanol 2018, gan dynnu sylw at y ffaith bod nifer o ddisgyblion ysgol uwchradd wedi derbyn ‘rhagoriaeth’ mewn arholiadau galwedigaethol. Bu iddo hefyd fynegi ei siom o ran ymateb Cymwysterau Cymru a sefydliadau eraill i’r pryderon a godwyd mewn perthynas â’r cynnydd sylweddol yn y trothwy i ennill gradd ‘C’ yn Saesneg ac arholiadau TGAU eraill yn ystod haf 2018. Cytunodd y Cadeirydd i gynnal trafodaeth gyda Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu o ran a ddylai materion yn ymwneud â rheolaeth cyrff llywodraethu ysgolion gael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu perthnasol.  

 

Cyn cloi’r drafodaeth, bu i aelod cyfetholedig craffu addysg yr Eglwys Gatholig ofyn bod ei diolchgarwch i swyddogion Cyngor Sir Ddinbych am eu cymorth i ddarparu prosiect Ysgol Crist y Gair a phenodi'r pennaeth newydd yn cael ei gofnodi.

 

 

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)                 cydnabod perfformiad ysgolion y sir yn arholiadau allanol 2018 a llongyfarch y disgyblion am eu llwyddiannau;

(ii)               derbyn a chytuno ar feysydd i’w gwella, fel y nodir yn yr adroddiad;

(iii)             bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru i bwysleisio pryderon parhaus yr aelodau o ran y cynnydd sylweddol i’r trothwy ar gyfer ennill gradd ‘C’ yn arholiadau TGAU haf 2018 ac effaith canlyniadol hynny ar ddisgyblion, eu rhagolygon gyrfa, ac ar staff y Gwasanaeth Addysg ac ysgolion, ac ar ysgolion yn gyffredinol; a

(iv)              bod copi o’r llythyr uchod yn cael ei anfon at holl Aelodau Cynulliad sy’n gwasanaethu gogledd Cymru, a’r wasg a’r cyfryngau lleol.

 

 

Dogfennau ategol: