Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2019/20 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2019/20;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad sy’n cyd-fynd â’r cynigion a gyflwynwyd yn y gweithdy cyllideb i’r aelodau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019, ac felly’n eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2019/20;

 

(c)        cymeradwyo’r arbedion sy’n dod i £223k wedi'u rhestru yn Atodiad 2 fel rhan o’r pecyn cyllideb;

 

(ch)     argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 6.35% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cydnabod pwysau cynyddol amrywiol, gan gynnwys cynnydd o ran costau ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o £2.0m o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth, a 

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2019/20 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2019/20, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Roedd y setliad terfynol wedi arwain at sefyllfa ariannu niwtral, ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral o safbwynt y pwysau ariannu isafswm, byddai angen i’r setliad fod yn nes at +5%.  Roedd y pwysau’n cynnwys tâl, pensiwn, Cyflog Byw Cenedlaethol, chwyddiant pris/ ynni, ardoll y gwasanaeth tân, lwfansau ar gyfer cynnydd yn y cynllun gostyngiad Treth y Cyngor, gostyngiad yng Ngrant Gweinyddu’r Adran Gwaith a Phensiynau ac arian wrth gefn canolog.  Mae pwysau ar y gyllideb mewn meysydd blaenoriaeth hefyd wedi ei gydnabod gan gynnwys gofal cymdeithasol, ysgolion a chludiant.  Mae cynnydd o 6.35% mewn Treth y Cyngor wedi ei gynnig er mwyn codi £797,000 yn ychwanegol o’i gymharu â'r cynnydd mewn Treth y Cyngor yn 2018/19, i’w ddefnyddio fel rhan o’r pecyn cyffredinol i fynd i’r afael â’r diffyg ar y gyllideb – roedd hyn yn cynnwys £2 filiwn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i aelodau’r Cabinet a swyddogion am roi pecyn o arbedion at ei gilydd a oedd yn diogelu gwasanaethau rheng flaen am gyhyd â phosibl a hefyd yn cydnabod pwysau o ran galw.  Roedd y pecyn wedi ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a datblygu modelau darparu amgen.  Cydnabuwyd fod penderfyniadau anodd wedi eu gwneud, gan gynnwys o ran lefel Treth y Cyngor, a chydnabuwyd y byddai’r blynyddoedd i ddod yr un mor heriol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd aelodau’r Cabinet y cynigion yn fanwl, ynghyd â swyddogion, ac ymatebwyd i gwestiynau amrywiol a oedd yn ymwneud â meysydd penodol o fewn eu portffolios gan gynnwys ystod eang o wahanol faterion.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·        y rhesymeg tu ôl i gyfran y dyraniad cyllid ychwanegol arfaethedig i Wasanaethau Cymorth Cymunedol (CCC) a thrafodwyd Addysg a Gwasanaethau Plant (AGP) o ystyried y gwahaniaethiad yn y cyllidebau sail. 

Nodwyd fod cynigion cyllid wedi eu trafod yn seiliedig ar amcanestyniadau galw ar gyfer y gwasanaethau unigol er mwyn mynd i'r afael yn briodol â materion uniongyrchol ym mhob maes gwasanaeth.  Roedd y strategaeth ar gyfer ymdrin â CCC hefyd yn cynnwys defnydd o gronfa wrth gefn benodol i reoli’r pwysau ac roedd argaeledd tebygol cymorth grant ychwanegol ar gyfer 2019/20 wedi ei ystyried hefyd.  Roedd CCC ac AGP yn wasanaethau statudol ond, er fod y mwyafrif o wasanaethau i oedolion yn gallu cael eu darparu o fewn y sir, roedd yn rhaid diwallu anghenion rhai plant y tu allan i’r sir mewn darpariaeth arbenigol am gost sylweddol.  Roedd £750,000 ychwanegol wedi ei neilltuo i CCC yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac roedd £1.5 miliwn yn ychwanegol wedi ei gynnig ar gyfer 2019/20 – gobeithiwyd fod y dull o godi’r gyllideb sail yn mynd i’r afael â’r mater yn y tymor hir.

·        mae’r cyngor yn parhau i gefnogi ysgolion drwy ariannu tâl a chwyddiant cysylltiedig ac unrhyw newid mewn perthynas â nifer y disgyblion. 

Gofynnwyd i ysgolion nodi arbedion gwerth 2% ac er bod hynny’n anodd, cafwyd ymateb cadarnhaol gan benaethiaid drwy’r Fforwm Cyllidebau Ysgolion ac roedd hyder y byddai modd cyflawni arbedion.  Mater i ysgolion unigol fyddai asesu effaith yr arbedion a'u gweithredu, a fyddai'n wahanol ar gyfer pob ysgol

·        o safbwynt yr arbediad arfaethedig o £23,000 yn ymwneud â chostau rhedeg Neuadd y Dref Dinbych, eglurwyd fod yr adeilad wedi ei ystyried i’w waredu cyn oedd arian dros ben i ofynion y Cyngor. 

O ystyried ei fod yn ased pwysig i Sir Ddinbych a bod Cyngor Tref Dinbych yn gweithredu oddi yno, cysylltwyd â'r Cyngor Tref a gwnaethant gadarnhau y byddai diddordeb ganddynt mewn cymryd y rhydd-ddaliad yn ddarostyngedig i’w fforddiadwyedd ac roedd ymchwiliadau yn parhau ar hyn o bryd i’r perwyl hwnnw.  Fel mesur dros dro roedd y Cyngor Tref wedi cytuno i gyfrannu ar y costau cynnal ar sail pro rata yn ddibynnol ar drafodaeth.  Ar y sail hwnnw, roedd modd cyflawni’r cynnig i arbed £23,000 yn 2019/20 ac nid oedd yn ddibynnol ar benderfyniad y Cyngor Tref i gymryd y rhydd-ddaliad.  Pe na bai’r Cyngor Tref yn cymryd y rhydd-ddaliad, yna byddai’r Cyngor yn ystyried dewisiadau eraill ar gyfer yr adeilad.  Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler bryderon ynghylch y posibilrwydd o golli ased cymunedol pwysig i arbed £23,000, yn arbennig pan roedd buddsoddiad yn cael ei wneud mewn cyfleusterau tebyg mewn rhan arall o’r sir.  Mewn ymateb, cyfeiriwyd at drosglwyddo Neuadd y Dref Llangollen i Gyngor Tref Llangollen dan amgylchiadau tebyg a’r buddsoddiad yn llyfrgell a chanolfan hamdden Dinbych

·        mynegwyd pryderon ynghylch ansicrwydd o ran argaeledd a swm y cyllid grant yn y dyfodol a oedd yn creu anawsterau ar gyfer cynllunio ariannol a gosod y gyllideb yn y dyfodol. 

O safbwynt y sefyllfa ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, nid oedd disgwyl gostyngiadau o’r lefelau a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac roedd disgwyl arian grant cyfalaf ychwanegol ar gyfer cynnal priffyrdd a hefyd grantiau refeniw ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.  Fodd bynnag, y consensws gan lywodraeth leol oedd y byddai’n fwy o gymorth i gynllunio ariannol pe bai mwy o gyllid grant ar gael yn barhaol heb ei neilltuo er mwyn galluogi gwariant i gael ei bennu’n lleol

·        Nododd y Cynghorydd Meirick Davies fod Ardoll lawn y Gwasanaeth Tân (£237k) wedi ei nodi fel pwysau ac nid oedd yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn y setliad ariannol tuag at yr ardoll wedi cael ei ystyried. 

Eglurwyd, er bod yr elfen o gyllid ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân wedi ei gynnwys yn lefel gyffredinol y setliad, nid oedd unrhyw beth penodol yn cael ei basportio er mwyn cyllido cynnydd yn y praesept tân ar y raddfa hon, o ganlyniad roedd yn rhaid i gost ychwanegol y praesept syrthio fel pwysau i gael ei ariannu’n lleol.  Amlygwyd fod elfen lefel Tân y setliad wedi cynyddu o ganran llawer yn is na'r swm y newidiodd yr ardoll

·        o safbwynt y gostyngiad arfaethedig o £200,000 yn y gyllideb refeniw ar gyfer Strydwedd, y bwriad oedd lliniaru’r effaith drwy ddisodli rhywfaint o’r elfen honno gyda dyraniad cyfalaf yn y gyllideb i gefnogi gwaith cynnal priffyrdd a fyddai hefyd yn cynnig rhagor o sicrwydd i’r gwasanaeth ac roedd yn aros am gadarnhad ar y posibilrwydd o gyllid grant ychwanegol ar gyfer priffyrdd.

·        cytunodd y Pennaeth Cyllid/ Swyddog A. 151 i ddarparu ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies ynghylch Treth y Cyngor ar eiddo gwag a’r Cynghorydd Gwyneth Kensler ynghylch y cynnydd canrannol mewn costau ynni gwahanol.

 

Nododd y Cabinet y setliad heriol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a’r pwysau acíwt sy’n wynebu’r awdurdod.  Derbyniwyd y byddai angen cynnydd uwch mewn Treth y Cyngor i ddarparu cyllid ar gyfer yr holl bwysau a nodwyd ac yn parhau gyda lefel effeithiol a rhesymol o wasanaeth i drigolion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2019/20;

 

 (b)      cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, sy’n cyd-fynd â’r cynigion a gyflwynwyd yn y gweithdy cyllideb i’r aelodau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019, ac felly’n eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2019/20;

 

 (c)       cymeradwyo’r arbedion sy’n dod i gyfanswm o £223,000 wedi'u rhestru yn Atodiad 2 fel rhan o’r pecyn cyllideb;

 

 (d)      argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 6.35% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cydnabod pwysau cynyddol amrywiol, gan gynnwys cynnydd o ran costau ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o £2.0 filiwn o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth, a 

 

 (e)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

 

Dogfennau ategol: