Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2019/20

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); ac

 

(b)       Cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu o ddydd Llun 1 Ebrill 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Soniodd y Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau am ffigurau’r gyllideb a rhagdybiaethau lefel yr incwm a oedd wedi’u cyfrifo gan ystyried Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai mewn perthynas â thai cymdeithasol a’i dull ar gyfer cynyddu rhenti.  Y cynnydd ar gyfer 2019/20 oedd 2.4% a byddai’n gadael 40% o gartrefi ar lefelau rhent targed.  Daeth y polisi presennol i ben yn 2018/19 ac roedd y cynnydd ar gyfer 2019/20 yn bolisi dros dro am flwyddyn ac mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi rhent yn y dyfodol ym mis Ebrill 2019. Dangosodd yr adolygiad blynyddol o’r Cynllun Busnes Stoc Dai ei fod yn parhau’n gadarn ac yn hyfyw’n ariannol ac roedd digon o adnoddau i gefnogi rheolaeth a goruchwyliaeth o’r gwasanaeth tai a’r angen am fuddsoddiad yn y stoc.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·         eglurwyd y gofyniad i gynnwys darpariaeth dyledion drwg ynghyd ag effaith Credyd Cynhwysol a dull rhagweithiol y Cyngor i’r perwyl hwnnw a darparu cyngor ariannol a chymorth i denantiaid – nodwyd fod cyfraddau casglu rhent yn parhau’n uchel ac roedd yr ôl-ddyledion ymhlith y rhai isaf yng Nghymru.

·         o safbwynt colli incwm ar Dai Gwag, cydnabuwyd ei bod wedi cymryd amser i gwblhau gwaith i sicrhau fod eiddo gwag o safon uchel - roedd y bendithion yn cynnwys cyn lleied o amhariad â phosibl i denantiaid yn y dyfodol a chartref o ansawdd uchel gyda llai o gostau atgyweirio yn y dyfodol, rhywbeth roedd tenantiaid yn ei werthfawrogi.

·         nodwyd nad oedd yr adroddiad yn ymdrin â garejys gan nad oedd yn destun Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei adolygu gan y Pennaeth Gwasanaeth dan awdurdod dirprwyedig - yn hanesyddol, roedd rhenti garejys yn dueddol o gael eu cynyddu yn unol â rhenti tai. 

Teimlai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai rhinwedd i’r Cabinet osod lefelau rhenti garejys wrth osod lefelau rhent ar gyfer tai.  Roedd yr adolygiad o garejys yn tynnu at ei derfyn, a gofynnodd yr Arweinydd i aelodau gael eu hysbysu ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, a fyddai hefyd yn amser priodol i ystyried y pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts

·         derbyniwyd y gallai Ffederasiwn Tenantiaid a Thrigolion Sir Ddinbych fod yn fwy cynrychioliadol, fodd bynnag roedd perthynas dda’n bodoli gyda thenantiaid ac roedd cynllun cyswllt manwl i gael adborth a llywio cynlluniau yn y dyfodol

·         gwerthfawrogwyd y gallai unrhyw gynnydd rhent gael effaith ar allu rhai tenantiaid i gyflawni eu hymrwymiadau ariannol a byddai swyddogion yn parhau i helpu cwsmeriaid i reoli eu cyllid yn effeithiol a chynyddu eu hincwm. 

Cydnabuwyd yr angen i sicrhau fforddiadwyedd a gwerth am arian, a dangosodd adborth cychwynnol gan yr arolwg STAR diweddaraf fod 89% o denantiaid yn ystyried fod eu cartref yn cynnig gwerth am arian.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a

 

 (b)      cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu o ddydd Llun 1 Ebrill 2019.

 

 

Dogfennau ategol: