Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMERADWYO CYLLIDEB Y CYNGOR 2019/20 (CYNIGION TERFYNOL)

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a chymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2019/20, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad y Gyllideb 2019-20 – adroddiad Cynigion Terfynol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Derbyniwyd Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2019/20 ar 19 Rhagfyr 2018 a arweiniodd at sefyllfa gyllido arian gwastad (cyfartaledd Cymru oedd +0.2%).  Roedd y Setliad Dros Dro a dderbyniwyd ym mis Hydref  2018 yn nodi gostyngiad o -0.5% (cyfartaledd Cymru yw –0.3%). Er mwyn dod at sefyllfa gyllidol niwtral o safbwynt isafswm y pwysau ariannu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC), byddai’n rhaid i’r Setliad fod wedi bod yn nes at +5%.

 

Roedd y newid rhwng y ddau swm setliad yn adlewyrchu £14.2 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i lywodraeth leol fel rhan o gynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2018 a chyfrifoldeb newydd, a gaiff ei ariannu â £7 miliwn ar draws Cymru.   Roedd hyn er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfyn cyfalaf i’r rheiny sy’n talu am ofal preswyl i £50,000. Y dyraniad i Sir Ddinbych oedd £250,000.

 

Roedd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2019/20 i’w gweld yn y detholiad o Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn Atodiad 1 o'r adroddiad.  Roedd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

·         Setliad arian gwastad

·         Pwysau o ran cyflogau, pensiynau a’r Cyflog Byw Cenedlaethol (£1.9 miliwn) wedi’u hariannu

·         Chwyddiant prisiau ac ynni (£250,000)

·         Ardoll y Gwasanaeth Tân (£237,000)

·         Lle ar gyfer cynnydd i gostau’r Cynllun Gostyngiadau i Dreth y Cyngor, gostyngiad i Grant Gweinyddu'r Adran Gwaith a Phensiynau a  chronfeydd wrth gefn canolog (£537,000).

 

Yn ychwanegol, roedd y cyngor wedi parhau i gefnogi ysgolion drwy ariannu tâl a chwyddiant cysylltiedig ag unrhyw newid mewn perthynas â nifer y disgyblion. Cyfanswm hyn oedd £3.7 miliwn (5.4%) yn 2019/20.

 

Roedd y gyllideb arfaethedig hefyd yn cydnabod pwysau ar feysydd blaenoriaeth eraill, ac er mwyn ariannu’r pwysau a nodir, rhaid dod o hyd i £5.7 miliwn o arbedion.  Roedd y rhain yn cynnwys:

·         Arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn)

·         Arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth (£1.3 miliwn

·         Arbedion gwasanaethau (£2.6 miliwn), ac

·         Arbedion ysgolion o 2% (£13miliwn).

 

Roedd proses gyllideb newydd ar gyfer 2019/20 wedi’i sefydlu drwy greu Bwrdd Cyngor strategol a oedd yn cynnwys aelodau o’r Tîm Gweithredol Corfforaethol, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol. Cynghorwyd y Bwrdd hefyd gan swyddogion Cyllid, AD a Chyfathrebu.

 

Craffwyd y cyllidebau gan y Bwrdd ac roedd gofyn i wasanaethau ganfod ystod o opsiynau arbedion.  Asesodd y Bwrdd y rhain a chyfarwyddwyd gwasanaethau i ddatblygu cynigion yn unol â blaenoriaethau strategol.

 

Roedd manylion y cynigion arbedion wedi’u dosbarthu i aelodau etholedig ym mis Rhagfyr 2018.

 

Adolygwyd rhagdybiaethau Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn rheolaidd ac ailaseswyd y pwysau o ran costau.

 

Nid oedd yn gynaliadwy rheoli’r pwysau heb gynyddu sail gyllid y Cyngor yn barhaol.  Gan fod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru’n gostwng bob blwyddyn, mewn termau real, roedd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn lleol.  Felly, cynigiwyd cynnydd uwch i Dreth y Cyngor na'r hyn a gynigiwyd i ddechrau.

 

Byddai'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 6.35% yn codi £797,000 ychwanegol i'w ddefnyddio'n rhan o’r pecyn cyffredinol, a oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol i ofal cymdeithasol o £2.0 miliwn.

 

Roedd cynigion y gyllideb yn parhau i gynnwys elfen o gyllid i gefnogi’r sefyllfa gyffredinol. Nododd yr Aelod Arweiniol nad oedd hon yn sefyllfa ddelfrydol ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd a pharhaus sy’n wynebu’r cyngor.  

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Cadarnhawyd y gellir cynnig cyllid grant yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn dilyn dileu’r cymhorthdal.

·         Diolchodd y Cynghorydd  Swingler, aelod o Grŵp Plaid, i'r Pennaeth Cyllid am fynychu eu grŵp i egluro’r broses gyllideb. Aeth ymlaen i fynegi ei anghytundeb â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor gan y byddai hyn yn rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y gweithwyr tlawd. Nododd hefyd bod gwasanaethau wedi'u torri o fewn y Tîm Atal Digartrefedd yn ogystal â'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB).  Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oeddent wedi gwneud toriadau i’r tîm Atal Digartrefedd, ond yn hytrach wedi aildrefnu’r tîm. Nid oedd y contract CAB wedi’i dorri ychwaith, ond roedd ganddynt gontract hirach bellach.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley nad oeddent wedi gwneud toriadau o fewn y Tîm Atal Digartrefedd ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ychwanegu £100 miliwn i wasanaethau atal digartrefedd.

·         Roedd proses fanwl ar waith i helpu i gyflawni’r arbedion. Dylai’r arbedion hyn fod o fewn rhagamcanion tair blynedd ysgolion.

 

 

·         Awgrymwyd y dylid cael cyflwyniad briffio gan Gwasanaethau Plant o ran sut y maent yn defnyddio eu cyllideb. Mae cyflwyniadau briffio fel hyn wedi’u cynnal yn y gorffennol ac roeddent yn hynod o ddefnyddiol i aelodau.

·         Cadarnhawyd bod y polisi cludiant ysgol eisoes. wedi'i gymeradwyo gan gynghorwyr.  Roedd cludiant ysgol yn wasanaeth statudol a sicrhaodd Sir Ddinbych bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn effeithiol.

·         Mewn perthynas â'r cwestiwn am dryloywder y wybodaeth gyllidebol, cadarnhawyd bod gwahoddiad agored wedi'i anfon at aelodau i drafod y broses gyllidebol â swyddogion.  Hefyd, roedd llyfr y gyllideb wedi'i ddosbarthu i aelodau er gwybodaeth ar o leiaf dau achlysur i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

 

Eglurodd yr Arweinydd ei fod wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog a'i fod wedi gofyn am gynllun tair blynedd, i helpu i ddarparu'r gyllideb.  Sicrhaodd yr aelodau eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnig gwerth am arian o fewn y gyllideb.

 

Diolchodd aelodau a'r Prif Weithredwr i'r Aelod Arweiniol a'r holl swyddogion am eu gwaith i ddarparu cyllideb anodd iawn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)            Nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2019/20

(ii)          Cymeradwyo’r gyllideb a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n unol â’r cynigion a gyflwynwyd yn y gweithdy cyllideb i’r aelodau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019.

(iii)         Cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o 6.35% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cydnabod ystod o bwysau sylweddol, gan gynnwys y pwysau cynyddol o ran costau ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o £2.0 miliwn o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth. 

(iv)         Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

 

Dogfennau ategol: