Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y CYFANSODDIAD GAN GYNNWYS Y CYLCH GORCHWYL

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad i aelodau am Gyfansoddiad y Cyngor ac adolygiad o’i ddarpariaethau, yn benodol, gweithredu cydbwysedd gwleidyddol ar gyfansoddiad y Cabinet.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r Adroddiad Blynyddol ar y Cyfansoddiad gan gynnwys y cylch gorchwyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu adolygiad i aelodau o’i ddarpariaethau, yn arbennig, gweithredu cydbwysedd gwleidyddol i gyfansoddiad y Cabinet.

 

 Cadarnhaodd MO fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn rhan o’i gylch gorchwyl sydd ei angen i fonitro ac adolygu Cyfansoddiad y Cyngor. Roedd yr adroddiad a ddarparwyd i aelodau'n cyfeirio at ddiweddariadau i’w gwneud i’r Cyfansoddiad i ystyried penderfyniadau’r Cyngor a’r Cabinet ac unrhyw newidiadau a oedd wedi digwydd ers yr adolygiad diwethaf.

Amlygwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar gynnig ar 23 Hydref 2018 i ofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried dewisiadau ar sut y gellid newid y Cyfansoddiad i ddileu'r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet ac adrodd ei gasgliadau i’r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019.

 

Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 4 yr adroddiad, a oedd yn amlygu’r newidiadau arfaethedig i’r cyfansoddiad.

Sylwodd aelodau bod adroddiad cwynion wedi ei gyflwyno’n rheolaidd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a derbyniwyd trosolwg flynyddol o’r weithdrefn gwyno. 

Roedd aelodau’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol dderbyn adroddiad blynyddol yn monitro’r weithdrefn gwyno ac yn nodi unrhyw dueddiadau y gallai fod angen eu hystyried. Nodwyd y gellid cyfeirio unrhyw faterion yn codi o adroddiad o’r fath i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu bennu a oedd angen unrhyw graffu pellach...

 

Cadarnhaodd Aelodau a’r Cadeirydd eu bod yn cytuno gyda’r diwygiadau arfaethedig.

 

Tywysodd yr MO aelodau drwy Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu ffurf a chyfansoddiad y Cabinet. Y model a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych ar hyn o bryd oedd y ‘model arweinydd cadarn’ lle mae gan yr arweinydd yr awdurdod i benodi aelodau’r Cabinet.

 

Cadarnhawyd mai Cyngor Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru lle’r oedd gofyniad i gael Cabinet gyda chydbwysedd gwleidyddol. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar y Cabinet i gynnal cydbwysedd gwleidyddol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn rhagor o fanylder:

·         Roedd aelodau’n cytuno mai’r Model Arweinydd Cryf oedd y model mwyaf priodol i ethol aelodau’r Cabinet.

·         Roedd pob plaid wleidyddol yn cyfrannu at y broses benderfynu.

Gwahoddwyd arsylwyr i sgwrsio a thrafod materion yn y Cabinet. Mynegodd Aelodau bryder mai Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i fod â’r gofyniad i gael cydbwysedd gwleidyddol.

·         Cytunwyd fod y newid wedi bod er gwell.

Os cytunwyd ar y newid, byddai’n rhaid i’r canlyniad gynnig gwell canlyniadau i drigolion Sir Ddinbych.

Teimlai mwyafrif yr aelodau y byddai diddymu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet yn caniatáu cwmpas ehangach i’r unigolion benodi ar y Cabinet a chynnig rhagor o wybodaeth ac arbenigedd.  Nododd aelodau fod rhan gan bawb mewn penderfyniadau.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a'r gwaith a gyflwynwyd. Roedd aelodau’n gwerthfawrogi cymhlethdod y testun.

 

Cynigiodd Aelodau argymell i’r Cyngor y dylid diddymu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol a pharhau â’r model Arweinydd Cryf a fabwysiadwyd. Pleidleisiodd yr Aelodau chymeradwywyd y cynnig. Felly;

 

PENDERFYNWYD bod aelodau’n

i.              Argymell bod y Cyngor yn dileu Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cabinet ac yn mabwysiadu’r model “Arweinydd Cryf”;

ii.            cytuno i’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: