Eitem ar yr agenda
CAIS 15/2018/1076 - ERW GOED, LLANARMON YN IÂL, YR WYDDGRUG
Ystyried cais
i Amrywio amod rhif 4 y caniatâd cynllunio a roddwyd o dan god rhif 15/2016/0858 i alluogi ail leoli pwynt mynediad ar hyd blaen
y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd amlinellol ar gyfer
datblygu 0.60ha o dir i bwrpasau preswyl yn Erw Goed,
Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug
(copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 4 ar ganiatâd cynllunio 15/2016/0858
fel y gellid symud y fynedfa o flaen y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd
amlinellol ar gyfer datblygu 0.60 hectar o dir at ddibenion preswyl yn Erw
Goed, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug.
Siaradwr Cyhoeddus –
Peter Lloyd (O blaid) –
Esboniodd i’r Pwyllgor mai cais oedd hwn i amrywio caniatâd presennol ar gyfer
mynedfa i gerbydau. Y rheswm dros symud y fynedfa oedd lleoliad yr un a
gymeradwywyd mewn perthynas ag asedau Dŵr Cymru ar gyfer dŵr budr a
dŵr wyneb, a fyddai’n gwneud y datblygiad yn anymarferol. Byddai symud y
fynedfa’n rhagori’n sylweddol ar y cynlluniau gwreiddiol o ran gwella mannau
agored i’r cyhoedd a chadw coed a gwrychoedd. O ganlyniad i hynny, byddai
diwygio’r cynlluniau yn sicrhau tai a thai fforddiadwy ar y safle, yn gwneud
defnydd effeithlon o’r tir, yn cydymffurfio â’r safonau priffyrdd ac yn gwella
naws weledol y datblygiad o fewn y pentref a’r Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol.
Trafodaeth Gyffredinol
–
Rhoddodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland, rywfaint o gefndir byr i’r cais i’r
aelodau. Dywedodd bod cymuned Llanarmon yn Iâl wedi cefnogi datblygu’r safle yn
y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf. Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd y Cyngor
Cymuned yn gwrthwynebu amrywio’r amod, ond byddai’n dymuno cadw cymaint â
phosib o’r coed a’r gwrychoedd. Mynegodd y Cynghorydd Holland bryderon
ynglŷn â’r terfyn cyflymder ar y ffordd gerllaw’r cae chwarae presennol.
Roedd yn falch y byddai’r datblygiad yn ymestyn y parth 30mya, ond byddai’n
well ganddo ymestyn y parth y tu hwnt i’r cae chwarae ac adeiladu palmant er
diogelwch.
Hysbyswyd y
Pwyllgor y byddai creu palmant wrth ymyl y ffordd yn golygu torri rhai o’r coed
a’r gwrychoedd. Fodd bynnag, awgrymwyd y gellid creu llwybr troed y tu mewn i’r
datblygiad, yr ochr arall i’r coed a’r gwrychoedd, fel na fyddai’n rhaid eu
torri.
Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith ar y lôn, ond
byddai’r amrywiad a gynigiwyd yn cael llai o effaith ar y coed a’r gwrychoedd o
gymharu â’r fynedfa wreiddiol. Dywedodd y byddai’n ofynnol cyflwyno cais ar
gyfer y materion a gadwyd yn ôl ac y byddai hwnnw’n ymdrin â’r terfyn
cyflymder, felly gallai’r Pwyllgor drafod hynny pan gyflwynid y cynlluniau
manwl er cymeradwyaeth.
Cadarnhaodd yr
Uwch Beiriannydd – Priffyrdd y byddai’n siarad â’r ymgeisydd ynglŷn â
chytundeb priffyrdd addas, a gallai feithrin cyswllt â’r aelod lleol i holi ei
farn ynglŷn â hyd y parth 30mya.
Cytunodd y
Pwyllgor i roi nodyn i’r ymgeisydd er mwyn trafod mater y llwybr troed /
palmant cyn mynd ymlaen i gyflwyno cais manwl.
Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones dderbyn argymhellion y
swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirick Davies.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 17
GWRTHOD – 0
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog yn yr adroddiad, ynghyd â nodyn i’r ymgeisydd
ynglŷn â darparu llwybr troed / palmant.
Dogfennau ategol: