Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Dywedodd yr
aelod annibynnol Anne
Mellor ei bod wedi mynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru yn
yr Wyddgrug ar 24 Mehefin 2019. Hysbysodd y pwyllgor fod Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi mynychu a rhoi cyflwyniad.
Roedd cyflwyniad
Mr Bennett yn cynnwys:
• Pwerau deddfwriaethol newydd yr Ombwdsmon
oedd yn ymwneud
â:
o Gweithredu ar ei fenter
ei hun heb
dderbyn cwyn
o Pwerau i ystyried cwynion ar lafar
o Ystyried cwynion iechyd preifat
o Yr henoed, cartrefi gofal a phobl ddiamddiffyn.
• Y gwahaniaeth
rhwng trafod cyfeillgar a bwlio gydag arweiniad ar hyn i'w
ddosbarthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
• Pwysigrwydd arweinyddiaeth dda a chyfryngu.
• Barn yr Ombwdsmon bod trefn y Safonau yn gwella.
Trafododd y Fforwm
y posibilrwydd o Gydbwyllgor
Safonau, gan weld hyn fel posibilrwydd
ond y byddai angen manylion pellach.
Byddai’r Fforwm
ei hun yn
cael ei ailenwi
yn Fforwm Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru.
O safbwynt cydbwyllgor
safonau, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai uno dau
bwyllgor safonau fod yn ddewis
hyfyw ond y byddai uno mwy
na dau
angen newidiadau i’r rheoliadau aelodaeth i’w gwneud
yn dderbyniol. Roedd yn meddwl y byddai
yna werth mewn cydweithio rhwng pwyllgorau safonau hyd yn
oed os nad oedd pwyllgorau yn cael
eu huno’n ffurfiol. Er enghraifft, atgyfeirio achos i bwyllgor safonau arall a oedd
yn fwy addas
i dderbyn yr achos.
Cafodd adroddiad
2019 gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd
Cyhoeddus oedd yn adolygu safonau
moesegol llywodraeth leol yng Nghymru
ei godi, o safbwynt defnydd Sir y Fflint o’r adroddiad
i wella safonau yno. Cytunodd y Swyddog Monitro i edrych ar waith Sir y Fflint ar gyfer
enghreifftiau a allai fod yn
ddefnyddiol yn Sir Ddinbych.
Roedd aelodau’r
Pwyllgor Anne Mellor a Julia Hughes wedi mynychu cyfarfod
Cyngor Cymuned Llanelidan a gynhaliwyd ar 2 Mai 2019 a rhoddodd adroddiad ar lafar
manwl i’r pwyllgor ar y trafodion.
Cyfeiriodd y Swyddog
Monitro at wybodaeth ar ollyngiadau a ddosbarthwyd yn flaenorol i glercod cyngor dinas,
tref a chymuned a byddai’n ailddosbarthu iddynt.
Dywedodd y Cadeirydd
ei fod wedi
ymweld â Chyngor Cymuned Llandegla ar 4 Chwefror 2019.
Trafododd yr
Aelodau rôl bwysig y clerc ac awgrym Llywodraeth Cymru y gall clercod gael eu cyflogi gan y prif
gynghorau. Awgrymodd y Cadeirydd fod rhai
cynghorau dinas,
tref a chymuned yn ymddangos yn
ei chael hi’n anodd o ganlyniad
i wrthwynebiad gorbwerus gan unigolion lleol
ar faterion unwaith yn unig.
Roedd y pwyllgor
wedi penderfynu yn flaenorol i geisio ymweld â phob cyngor dinas,
tref a chymuned yn Sir Ddinbych unwaith bob 3 neu 4 blynedd ac roedd yr aelodau wedi
nodi’r cynghorau nesaf yr oeddent
yn bwriadu ymweld â nhw.
Cytunodd y Swyddog
Monitro i holi (wrth ddosbarthu’r cyngor ar ollyngiadau)
am y dewis iaith mewn cyfarfodydd i gynorthwyo aelodau'r pwyllgor wrth ddewis
eu hymweliadau.
Dywedodd y Swyddog
Monitro fod Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal cyfarfod
blynyddol gyda’r cynghorau dinas,
tref a chymuned yn fuan a gallai
roi cyflwyniad byr ar safonau
allweddol. Hefyd cytunodd y gall prif sylwadau’r pwyllgor yn dilyn
ymweliad gael
eu hanfon at y clerc perthnasol ac y byddai’n holi am argaeledd unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir gan Sir Ddinbych ar gyfer
cynghorau dinas, tref a chymuned.
PENDERFYNIWYD bod y pwyntiau uchod yn cael
eu nodi.