Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH CYSYLLTEDD DIGIDOL GOGLEDD CYMRU A RHAGLEN RHWYDWAITH FFIBR LLAWN LLEOL

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig), yn diweddaru’r Cabinet ar y gwaith digidol a wnaed hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer awdurdodi wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn mabwysiadu Strategaeth Cysylltedd Gogledd Cymru,

 

 (b)      yn cymeradwyo swyddogaeth Cyngor Sir Ddinbych fel Corff Arweiniol y Prosiect Rhwydweithiau Ffeibr Cyflawn ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac yn cydsynio i’r Cyngor sefydlu Cytundeb Rhwng Awdurdodau addas â’r cyrff eraill sy’n bartneriaid ar y Prosiect, ac

 

 (c)       yn rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a’r Arweinydd, i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Hugh Evans, cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynghylch gwaith digidol a gwblhawyd hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ac yn gofyn am gymeradwyo awdurdodiadau ar gyfer y gwaith sy’n mynd rhagddo.

 

Roedd BUEGC wedi cymeradwyo Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y Rhanbarth ac roedd y rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol yn brosiect pwysig tuag at gyflawni’r strategaeth honno.  Roedd y Bwrdd wedi cytuno i ddatblygu a chyflwyno cais rhanbarthol i Gronfa Her Rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol Llywodraeth y DU ac mai Cyngor Sir Ddinbych fyddai’r awdurdod arweiniol ar gyfer y prosiect.  Roedd y cais Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol wedi ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth y DU, ac fel y safai pethau ar y pryd roedd y cynnig yn cynnwys buddsoddiad o oddeutu £9 miliwn yn y rhanbarth.  Byddai’r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at wella cysylltedd ar draws y sector cyhoeddus gan arwain at welliant ehangach y rhwydweithiau sy’n gwasanaethu cymunedau.  Gofynnwyd i’r Cabinet fabwysiadu’r Strategaeth Cysylltedd Digidol yn ffurfiol a chymeradwyo rôl y Cyngor wrth gyflenwi’r prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol.

 

Amlygodd y Cynghorydd Mainon fanteision y prosiect fyddai’n gosod rhwydwaith ffibr llawn ledled Gogledd Cymru gan gysylltu hyd at 400 o adeiladau cyhoeddus yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd llywodraeth leol ac a oedd hefyd yn cynnwys y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd teulu.  Roedd y prosiect yn dangos cam cadarnhaol yn nhermau gosod isadeiledd ddigidol y mae dirfawr angen amdano yn y rhanbarth, ac roedd Sir Ddinbych yn benodol mewn lle da i fanteisio ar hynny gyda 95 o'r lleoliadau a fyddai’n cael eu diweddaru wedi eu lleoli o fewn y sir.  Roedd potensial mawr hefyd am fanteision ychwanegol i leoliadau eraill fel rhan o’r broses honno.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar wella cysylltedd y sector cyhoeddus, ac roedd rhaglenni digidol eraill yn gweithio ochr yn ochr â’r rhaglen hon i fynd i’r afael â gofynion digidol o fewn sectorau eraill.  Ychwanegodd y Swyddog Datblygu’r Economi a Busnes mai’r bwriad oedd cychwyn ar y prosiect ym Mawrth 2019 i’w gwblhau ym Mawrth 2021. Roedd hon yn amserlen heriol, ond o ystyried y llwybr caffael a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd hyder y cyflawnid hyn.

 

Croesawai’r Cabinet y prosiect, a nododd y manteision cadarnhaol ar draws y rhanbarth.  Mewn ymateb i gwestiynau hysbyswyd y Cabinet –

 

·        fod cwmpas posib diweddariadau i adeiladau sector cyhoeddus wedi cael ei fanylu arno yn y Strategaeth. Fodd bynnag, roedd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi gofyn yn ddiweddar am i safleoedd pellach gael eu cynnig gyda golwg at ymestyn ffibr llawn ymhellach i ardaloedd gwledig, ac fe fyddai arolwg yn cael ei gynnal i’r perwyl hwnnw.

·        yn nhermau partneriaid iechyd, y byddai’r dechnoleg yn eu galluogi i foderneiddio eu gwasanaethau a magu gwytnwch pellach. Tra y byddai modd iddynt ddewis cynnig Wi-Fi mewn ardaloedd aros, ni fyddent dan orfod i wneud hynny.  Byddai manteision enfawr hefyd i adeiladau cyhoeddus eraill megis ysgolion a llyfrgelloedd.

·        y byddai trefniadau craffu yn cael eu cynnal yn lleol yn ystod y cymal hwn ac y gallai’r prosiect gael ei alw o flaen y Cyngor i’w graffu. Roedd potensial ar gyfer craffu rhanbarthol ar brosiectau rhanbarthol yn ystod ail gyfnod y Bargen Twf.

 

Gwahoddwyd cwestiynau hefyd gan aelodau nad oeddent yn rhan o’r Cabinet, ac ymatebodd y Cynghorydd Mainon a Swyddog Datblygu’r Economi a Busnes iddynt fel a ganlyn –

 

·        mewn perthynas â galwadau am i adeiladau cymunedol eraill weld budd gan y prosiect, cadarnhawyd y gallai dosbarthiad adeiladau cymunedol/trefol llai eraill ar draws y rhanbarth fod yn gyfrwng i osod ffibr llawn ymhellach i ardaloedd mwy gwledig. Byddai’r holl waith a nodwyd gan y prosiect yn destun gwaith arolygu chwarterol gan Openreach a fyddai’n adnabod hyd a lled a lleoliad yr effaith ar gymunedau.  Tra bod mwyafrif y gwaith band eang yng Nghymru wedi cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru, byddai gan y Cyngor fwy o reolaeth i raddau ar waith yn y sir fel rhan o’r prosiect hwn.

·        mewn perthynas â chyfraniadau partneriaid, y byddai pob sefydliad cyfrannog yn buddsoddi mewn caledwedd ar y safle ei hun er mwyn galluogi eu hunain i gysylltu. Roedd hyn yn cynnwys y Bwrdd Iechyd a Meddygfeydd Teulu a gyfrifai am gyfran fawr o’r 400 o safleoedd a gawsai eu hadnabod.

·        fod cwmpas y prosiect a gwaith adnewyddu ar adeiladau yn cynnwys ffigyrau yn ymwneud â safleoedd sydd wedi eu pasio ar 50m a 200m, sef model effaith arfaethedig Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, roedd nifer y lleoliadau a allai gael mynediad at yr isadeiledd yn ddibynnol ar ddyluniad y rhwydwaith leol nad oedd yn unffurf. Unwaith y byddai Openreach wedi cynnal y gwaith arolygu byddai eglurder gwell o ran y ffigyrau hynny a allai fod yn uwch neu yn is na’r ffigyrau o fewn yr adroddiad.

 

Mynegwyd pryderon hefyd gan rai aelodau ynghylch cysylltedd digidol gwael a brofir gan breswylwyr a busnesau yn eu hardaloedd ward penodol.  Ailadroddodd y Cynghorydd Mainon mai canolbwyntio ar wella cysylltedd y sector cyhoeddus a wnâi pwnc yr adroddiad hwn, a bod cynlluniau eraill yn y broses o gael eu datblygu a fyddai’n ffocysu ar ofynion digidol eraill.  Roedd cydymdeimlad mawr â’r rhai hynny â ddioddefai felltith cysylltedd gwael, ac roedd y mater wedi cael ei adnabod a’i nodi fel blaenoriaeth o fewn Cynllun Corfforaethol y Cyngor, gyda gwaith yn mynd rhagddo er mwyn ceisio dod o hyd i ddatrysiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn mabwysiadu Strategaeth Cysylltedd Gogledd Cymru,

 

 (b)      yn cymeradwyo swyddogaeth Cyngor Sir Ddinbych fel Corff Arweiniol y Prosiect Rhwydweithiau Ffibr Cyflawn ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac yn cydsynio i’r Cyngor sefydlu Cytundeb Rhwng Awdurdodau addas â’r cyrff eraill sy’n bartneriaid ar y Prosiect, ac

 

 (ch)    yn rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a’r Arweinydd, i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

 

Dogfennau ategol: