Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYLUNIAD GWASANAETH AILGYLCHU A GWASTRAFF NEWYDD ARFAETHEDIG A GOFYNION ISADEILEDD CYSYLLTIEDIG (DEPO)

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig), sy’n manylu ynghylch canlyniad y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, a cheisio penderfyniad aelodau ar addasrwydd y dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad III, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad,

 

 (b)      yn nodi bod yr arbedion refeniw y rhagwelir (yn Adran 9 o’r adroddiad) y gellid eu cyflawni drwy weithredu dewis B o ran dyluniad y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a’r depo, yn fwy nag unrhyw rai eraill o’r dulliau gwasanaeth yr oedd WRAP wedi’u modelu (Atodiad IV).

 

 (c)       yn nodi bod y manteision cymdeithasol a'r goblygiadau ariannol (Adran 9.7 o'r adroddiad) o ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer casglu tecstilau ac Offer Trydanol ac Electronig, ac yn argymell y dylid  parhau ac ehangu’r trefniant gyda Menter Gymdeithasol yn Sir Ddinbych ar gyfer casglu'r deunyddiau hyn, eu hailddefnyddio a’u hailgylchu.

 

 (ch)    yn cymeradwyo dyluniad newydd y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fel y nodir yn Atodiad II (A), gan weithredu glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff, ar yr amod y bydd yr arbedion refeniw a ddisgwylir (am y saith blynedd gyntaf) rhwng £500,000 a £750,000 o leiaf. Bydd tîm cyllid y Cyngor yn archwilio’r arbedion refeniw a ddisgwylir cyn cyflawni unrhyw gam arwyddocaol o’r prosiect, fel prynu tir, er enghraifft.

 

 (d)      yn cymeradwyo’r Polisi Casglu Gwastraff Cartrefi drafft yn Atodiad II (B) a luniwyd i gefnogi gweithredu'r gwasanaeth arfaethedig a’i reoleiddio er mwyn cyflawni arbedion refeniw a thargedau amgylcheddol.

 

 (dd)    yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £900,000 o gyllid cyfalaf yn 2018/19, £4 miliwn yn 2019/20 a £3 miliwn arall yn 2020/21 ar gyfer gweithredu trefn casglu deunydd ailgylchu gan ddidoli ar garreg y drws, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ymrwymo i wario £900,000 yn 2018/19 yn unol ag amodau a thelerau’r grant, fel y gellir hawlio’r arian yn llawn.  Dylai’r Aelodau nodi’r risg sydd wedi’i amlygu ym mharagraff 13.3 o'r adroddiad,

 

 (e)      yn cefnogi Dewis B (depo canolog) ar gyfer gweithredu’r drefn newydd, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol feithrin cyswllt â’r Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai wrth fynd ati i brynu’r tir sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu’r depo canolog, ar yr amod fod y pris yn rhesymol ac yn adlewyrchu gwerth presennol tir o’r fath ar y farchnad,

 

 (f)        yn rhoi caniatâd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyno achos busnes ffurfiol, drwy Bartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu elfen ychwanegol o Ddewis B (depo canolog), a fyddai’n gostwng y swm o fenthyca darbodus sydd ei angen fel y nodwyd yn Adran 9.3 o'r adroddiad, ac

 

 (g)      yn cymeradwyo Dewis A (dau safle) fel cynllun wrth gefn, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ddal ati i ddatblygu’r costau a’r ffynonellau cyllid gyda’r nod o droi at Ddewis A pe na fyddai’r Cyngor yn medru prynu’r tir sy’n angenrheidiol ar gyfer Dewis B (y dewis a ffefrir).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, yn manylu ynghylch canlyniad y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, ac yn ceisio penderfyniad aelodau ar addasrwydd y dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig a’r gofynion depo cysylltiedig.

 

Nododd y Cynghorydd Jones fod y cynnig yn canoli ar welliant amgylcheddol ac roedd manteision yn cynnwys lleihad yn ôl troed carbon y gwasanaeth, creu mwy o ailgylchu, a gwella ansawdd deunydd ailgylchadwy.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ailgylchu o 70% erbyn 2025, gyda’r disgwyl y byddai’r targed yn codi i 80% yn y dyfodol; ac roeddent wedi ymrwymo £7.9m tuag at y gwasanaeth arfaethedig a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r isadeiledd angenrheidiol i alluogi’r newidiadau i’r gwasanaeth.  Byddai’r cynnig hefyd yn golygu arbedion o £500k o leiaf ac yn creu oddeutu 20 o swyddi.  Pe cymeradwyid dyluniad newydd y gwasanaeth, rhagwelid na fyddai unrhyw newidiadau yn digwydd nes 2020 ar y cynharaf.

 

Byddai’r dyluniad gwasanaeth newydd yn golygu y byddai’r mwyafrif o breswylwyr yn newid i wasanaeth ailgylchu didoli ar garreg y drws wythnosol, a gwasanaeth bob pedair wythnos ar gyfer gweddill y gwastraff nas gellir ei ailgylchu.  Byddai gwasanaeth wythnosol am ddim ar gyfer casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (cewynnau a gwastraff anymataliaeth) yn cael ei gyflwyno ynghyd â gwasanaeth bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychain.  Roedd y datrysiad mwyaf manteisiol yn economaidd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad mewn isadeiledd depo, ac amlinellai'r adroddiad y datrysiad depo a ffafrid – Opsiwn B (depo canolog) gydag Opsiwn A (opsiwn dwy safle) fel cynllun wrth gefn – ac yn cynnig sut y gellid ariannu’r gofynion hynny.

 

Croesawai’r Cabinet effaith gadarnhaol y cynigion ar yr amgylchedd, ac roedd yn falch o nodi ehangiad y gwasanaeth ailgylchu i annog arferion ecogyfeillgar.  Yng ngoleuni’r gallu ailgylchu uwch a fyddai’n cael ei gynnig i breswylwyr, ystyriwyd fod y cynnig i newid i wasanaeth bob pedair wythnos ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ddigonol ond nodwyd y gellid darparu biniau mwy pe bai hynny yn briodol.  Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a oedd wedi rhoi gwell eglurder o ran y gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys y gost i dai/aelwydydd newydd; y gwasanaeth casglu wythnosol newydd ar gyfer cewynnau; delio a gwastraff anifeiliaid anwes a thrafodaethau ag aelwydydd unigol fesul achos.  O ganlyniad i’r adolygiad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, roedd y ffioedd arfaethedig am gynhwysyddion bellach wedi cael eu tynnu o’r polisi drafft a byddid yn parhau i ddarparu pob cynhwysydd i aelwydydd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys tai yn cael eu hadeiladu o’r newydd.  Ystyriai'r Cabinet fod ymgysylltu â’r cyhoedd a strategaeth gyfathrebu effeithiol ac amserol i addysgu a hysbysu preswylwyr ynghylch rhoi’r gwasanaeth newydd ar waith o’r pwys mwyaf, a chafwyd sicrwydd i’r perwyl hwnnw gan y Cynghorydd Brian Jones a’r swyddogion.  Nodwyd fod rhai ardaloedd a oedd yn profi’n anodd ymgysylltu â hwy, ond roedd swyddogion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â'r problemau yn yr ardaloedd hynny cyn rhoi’r prosiect ar waith er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor wrth fynd ati i weithredu’r newidiadau. Cydnabuwyd fod rhai achosion penodol lle y byddai gofyn i breswylwyr barhau i ddefnyddio sachau neu lle y byddai angen casgliadau mwy mynych, a bod materion eto i fynd i’r afael â hwy yn nhermau mynediad a thipio anghyfreithlon ayyb.  Cafwyd trafodaeth hefyd ar oblygiadau ariannol, a chyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at waith modelu ariannol cadarn a chraffu trwyadl a wnaed ar yr achos busnes gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a oedd wedi cefnogi’r cynigion.  Yn ogystal, trafododd y Cabinet y gofynion o ran isadeiledd, a chytuno mai Opsiwn B oedd y dewis a ffafriwyd a’i fod yn cynnig rheolaeth uniongyrchol i’r Cyngor a buddsoddiad yn y sir.

 

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn awyddus i’r Cyngor lobïo archfarchnadoedd gyda golwg at fabwysiadu arferion pecynnu mwy ecogyfeillgar. Nododd swyddogion fod hyn yn fater cenedlaethol yr oedd WRAP Cymru – a allai bwyso’n drymach ar yr archfarchnadoedd hynny – yn delio ag o. Fodd bynnag, gellid ystyried y mater hefyd fel rhan o raglen ehangach y Cyngor ar y defnydd o blastigion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am i’w siomedigaeth ynghylch y ffaith mai tri aelod yn unig nad oeddent yn aelodau Cabinet a fu’n bresennol ar gyfer y drafodaeth hon gael ei nodi yn y cofnodion, o ystyried mai dyma un o’r newidiadau mwyaf i Sir Ddinbych ei weld.  Ystyriai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y diffyg arsylwyr a oedd yn bresennol yn dyst i waith y swyddogion yn esbonio’r holl faterion mewn fforymau aelodau amrywiol cyn y cymal hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad III, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad,

 

 (b)      yn nodi bod yr arbedion refeniw y rhagwelir (yn Adran 9 o’r adroddiad) y gellid eu cyflawni drwy weithredu dewis B o ran dyluniad y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a’r depo, yn fwy nag unrhyw rai eraill o’r dulliau gwasanaeth yr oedd WRAP wedi’u modelu (Atodiad IV).

 

 (c)       yn nodi bod y manteision cymdeithasol a'r goblygiadau ariannol (Adran 9.7 o'r adroddiad) o ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer casglu tecstilau ac Offer Trydanol ac Electronig, ac yn argymell y dylid  parhau ac ehangu’r trefniant gyda Menter Gymdeithasol yn Sir Ddinbych ar gyfer casglu'r deunyddiau hyn, eu hailddefnyddio a’u hailgylchu.

 

 (ch)    yn cymeradwyo dyluniad newydd y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fel y nodir yn Atodiad II (A), gan weithredu glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff, ar yr amod y bydd yr arbedion refeniw a ddisgwylir (am y saith blynedd gyntaf) rhwng £500,000 a £750,000 o leiaf. Bydd tîm cyllid y Cyngor yn archwilio’r arbedion refeniw a ddisgwylir cyn cyflawni unrhyw gam arwyddocaol o’r prosiect, fel prynu tir, er enghraifft.

 

 (d)      yn cymeradwyo’r Polisi Casglu Gwastraff Cartrefi drafft yn Atodiad II (B) a luniwyd i gefnogi gweithredu'r gwasanaeth arfaethedig a’i reoleiddio er mwyn cyflawni arbedion refeniw a thargedau amgylcheddol.

 

 (dd)    yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £900,000 o gyllid cyfalaf yn 2018/19, £4 miliwn yn 2019/20 a £3 miliwn arall yn 2020/21 ar gyfer gweithredu trefn casglu deunydd ailgylchu gan ddidoli ar garreg y drws, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ymrwymo i wario £900,000 yn 2018/19 yn unol ag amodau a thelerau’r grant, fel y gellir hawlio’r arian yn llawn.  Dylai’r Aelodau nodi’r risg sydd wedi’i amlygu ym mharagraff 13.3 o'r adroddiad,

 

 (e)      yn cefnogi Dewis B (depo canolog) ar gyfer gweithredu’r drefn newydd, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol feithrin cyswllt â’r Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai wrth fynd ati i brynu’r tir sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu’r depo canolog, ar yr amod fod y pris yn rhesymol ac yn adlewyrchu gwerth presennol tir o’r fath ar y farchnad,

 

 (f)        yn rhoi caniatâd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyno achos busnes ffurfiol, drwy Bartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu elfen ychwanegol o Ddewis B (depo canolog), a fyddai’n gostwng y swm o fenthyca darbodus sydd ei angen fel y nodwyd yn Adran 9.3 o'r adroddiad, ac

 

 (g)      yn cymeradwyo Dewis A (dau safle) fel cynllun wrth gefn, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ddal ati i ddatblygu’r costau a’r ffynonellau cyllid gyda’r nod o droi at Ddewis A pe na fyddai’r Cyngor yn medru prynu’r tir sy’n angenrheidiol ar gyfer Dewis B (y dewis a ffefrir).

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 pm.

 

 

Dogfennau ategol: