Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN COMISIYNU ATAL DIGARTREFEDD / CEFNOGI POBL 2019-22

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth (copi’n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth ymlaen llaw i Gynllun Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019 - 22 drafft, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ac i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo drafft Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd Sir Ddinbych ar gyfer 2019-22, cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru fis Ionawr 2019, ac

 

 (c)       yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad 2, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feely yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019-22 Sir Ddinbych cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

 

Roedd gofyn i'r Cyngor gyflwyno Cynllun Comisiynu bob tair blynedd a diweddariad blynyddol i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr bob blwyddyn.  Darparai’r Cynllun Comisiynu drosolwg o gynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer 2019 – 22, yn ymwneud yn bennaf â datblygiad gwasanaeth wedi’i gomisiynu ar gyfer Cefnogi Pobl.  Roedd y Cynllun yn rhan allweddol o ddarparu yn erbyn y Strategaeth Digartrefedd, gyda ffocws ar ddatblygu gwasanaeth wedi’i gomisiynu a phum blaenoriaeth eang.  Roedd Comisiynu yn rhan bwysig o’r cynllun ac fe fyddai contractau yn cael eu ailfodelu a’u datblygu yn barhaus er mwyn eu gwneud yn fwy hyblyg ac wedi eu teilwra at yr angen gyda ffocws ar atal.  Mae manylion llawn y datblygiad Cefnogi Pobl wedi’i gyllido wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun.  Roedd y Cynllun wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio Partneriaethau pan gafodd ei argymell er cymeradwyaeth.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd yr angen am dai cymdeithasol digonol, ac amlygwyd achosion yn ymwneud â thai/digartrefedd er mwyn esbonio pwyntiau a phroblemau a wynebir o'r cyfeiriad hwnnw.  Wrth ymateb i’r materion a godwyd a chwestiynau pellach a gododd o’r adroddiad, nododd y Cynghorydd Bobby Feely a swyddogion –

 

·        fod gan y cyngor gyfundrefn orfodi gadarn yn ei lle o ran tai, yn ogystal â phwerau i fynd i’r afael â materion yn y sector rhentu preifat, ac y dylai unrhyw bryderon yn y meysydd hynny gael eu cyfeirio at y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd er mwyn i’w dîm ddelio â hwy;

·        fod y Tîm Atal Digartrefedd yn gweithio â’r Tîm Gorfodi Tai er mwyn sicrhau mai landlordiaid cofrestredig yn unig a ddefnyddir ac i adrodd ar faterion sy’n peri pryder. Roedd cysylltiadau hefyd yn cael eu magu rhwng prosiectau Cefnogi Pobl wedi’u comisiynu a’r Tîm Gorfodi Tai er mwyn sicrhau fod tai o safon dda.

·        Ehangwyd ar fentrau a gwaith cyfredol i ymgysylltu â landlordiaid ag enw da o fewn y sector breifat er mwyn eu cefnogi i ddarparu cartrefi i unigolion y mae angen llety brys, dros dro neu barhaol arnynt.

·        fod digartrefedd yn fater corfforaethol a bod nifer o wasanaethau’r cyngor yn rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â’r mater yn ogystal â’r Tîm Atal Digartrefedd

·        Rhoddwyd cydnabyddiaeth i effaith polisïau cenedlaethol megis Diwygio'r Gyfundrefn Les, ac adroddwyd ar fesurau i leihau’r effeithiau hynny ynghyd â mentrau sy’n derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru megis Prosiect Tai Yn Gyntaf Sir Ddinbych / Conwy.  Roedd Cymorth Cymru yn cynrychioli’r sector ac yn ymgyrchu ar eu rhan.

·        fod sicrwydd wedi ei ddarparu na fyddai dyraniad cyllid y flwyddyn nesaf yn cael ei dorri, ond gyda rhybudd bychan y dylid ymdrechu at arbed arian os oedd modd gwneud hynny. Fodd bynnag, roedd posib y byddai materion yn codi ynglŷn â newidiadau i ddosbarthiad grantiau yn y dyfodol ac effaith hynny wedyn ar y rhanbarthau amrywiol.

·        fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi ei glustnodi o gyllid ehangach y cyngor er mwyn ei wario ym maes darparu gwasanaeth ar gyfer tenantiaid.  Roedd prosiect cyfredol ar waith er mwyn cyfeirio rhywfaint o’r cyllid hwnnw tuag at ddarparu gwasanaeth ar gyfer llety dros dro ar frys a fyddai’n cael ei berchnogi a’i reoli gan y Cyngor i gynorthwyo wrth fynd i’r afael â phroblem ehangach digartrefedd.  Yn ogystal â hyn, roedd y Tîm Atal Digartrefedd yn prydlesu nifer o eiddo gan Dai Cymunedol er mwyn darparu llety i unigolion sy’n datgan eu bod yn ddigartref ond nad oes modd eu lletya yn y sector breifat ar hyn o bryd.

·        Darparwyd sicrwydd fod iechyd meddwl – yn ogystal ag adran benodol ar faterion iechyd meddwl – yn thema gyffredin ac yn linyn cyswllt trwy'r Cynllun cyfan. Roedd cefnogaeth i unigolion â phroblemau iechyd meddwl wedi ei nodi fel maes blaenoriaeth dros y ddwy flynedd nesaf, ac fe fyddai’n derbyn ystyriaeth yn ystod pob datblygiad i’r gwasanaeth.

·        Cafwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith ei bod yn anos o lawer cael mynediad at lety dros dro ar frys mewn ardaloedd gwledig, ac yn aml roedd y sawl a ddatganai eu bod yn ddigartref â’r opsiwn o lety gwely a brecwast nid nepell o’u cymuned neu lety mwy addas mewn mannau eraill. Ar gyfer y teuluoedd hynny, gallai tai gyda chefnogaeth fod yn opsiwn neu yn garreg gamu yn ôl i gyfeiriad llety annibynnol, ac roedd llawer o waith wedi bod yn digwydd i ehangu ar y cynnig tai gyda chefnogaeth i deuluoedd, yn enwedig yn ne’r sir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo drafft Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd Sir Ddinbych ar gyfer 2019-22, cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019, ac

 

 (c)       yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad 2 yr adroddiad, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: