Eitem ar yr agenda
PERFFORMIAD AC EFFEITHIOLRWYDD CYDYMFFURFEDD CYNLLUNIO
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Datblygu a’r Swyddog Cynllunio (copi wedi’i amgáu),
sydd yn darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd a pherfformiad y swyddogaeth
cydymffurfedd cynllunio.
11.15 a.m. – 12.00 p.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd yr adroddiad
a'r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o
effeithiolrwydd a pherfformiad swyddogaeth cydymffurfedd cynllunio’r Cyngor. Yn ei gyflwyniad, fe bwysleisiodd mai pwrpas y
gyfundrefn gynllunio oedd rheoleiddio datblygiad a defnyddio’r tir er budd y
cyhoedd. Felly roedd
hi’n bwysig bod gan awdurdodau cynllunio lleol swyddogaeth cydymffurfedd
effeithiol oedd yn gallu ymchwilio’n amserol i honiadau honedig o dorri
rheolau, a defnyddio polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol i unioni
effeithiau niweidiol datblygiadau anawdurdodedig. Er mwyn i’r gwasanaeth cydymffurfedd wella’n barhaol a pherfformio’n well,
byddai angen i arferion gweithio gael eu mireinio a byddai angen cryfhau
cydweithio gyda budd-ddeiliaid eraill, er gwaethaf toriadau i gyllideb
llywodraeth leol.
Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd a’r Rheolwr Datblygu (Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd)
amlinelliad i’r Pwyllgor o waith y Gwasanaeth Cydymffurfedd o ddydd i ddydd, ei
berfformiad cyffredinol a throsolwg o sut roedd dangosyddion perfformiad yn
esblygu’n genedlaethol. Fe wnaethant
dynnu sylw at yr angen wrth symud ymlaen am fabwysiadu dull cyson ar y cyd â
budd-ddeiliaid lleol er mwyn parhau â gwaith monitro rhagweithiol a oedd yn
darparu gwelliannau sylweddol, gan mai dim ond un Swyddog Cydymffurfiaeth
Cynllunio penodol oedd yn ymchwilio i achosion honedig o dorri rheolau oedd gan
y Gwasanaeth. Ar gyfartaledd,
roedd y swyddog hwn yn ymchwilio i tua 240 o gwynion y flwyddyn. Yn sgil diffyg adnoddau i allu ymchwilio i achosion
honedig o dorri rheolau, roedd angen blaenoriaethu achosion ar sail maint y
niwed, felly ar y cyfan byddai achosion honedig o dorri rheolau oedd yn
effeithio ar adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol y Sir, coed gwarchodedig yn ogystal â'r rhai oedd yn groes i flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol
y Sir, yn cael blaenoriaeth dros achosion honedig eraill o dorri rheolau. Roedd Swyddog Prosiect Cydymffurfedd Cynllunio
rhan-amser dros dro wedi cael ei benodi’n ddiweddar gyda’r bwriad o sicrhau bod
Prif Gynllun Canol Tref y Rhyl yn cael ei gyflawni trwy fynd i’r afael yn
rhagweithiol â’r nifer helaeth presennol o reolau cynllunio oedd yn cael eu
torri yn y dref. Rhagwelir y
byddai mabwysiadu’r dull yma’n rhoi hwb i’r ymdrechion i adfywio canol y dref a
lleihau lefelau amddifadedd yn yr ardal. Roedd y Swyddog Prosiect yn awyddus fel rhan o’r rhaglen Ardal Gwella
Busnes, i weithio gyda busnesau lleol yn y dref i dynnu eu sylw at eu rôl wrth
sicrhau bod pob busnes yn cydymffurfio â gofynion cynllunio a’u bod yn ymwneud
â’r gwaith gwella amgylcheddol i wella ymddangosiad cyffredinol y dref.
Roedd y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill y Cyngor,
e.e. Trwyddedu, Gwasanaethau Tai, Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a
gwasanaethau cyhoeddus eraill e.e. Yr Heddlu, a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn
perthynas â materion o beidio â chydymffurfio, gan fod ymchwiliadau i un achos
honedig o dorri rheolau fel arfer yn dod â materion eraill o beidio â
chydymffurfio i’r amlwg. Felly fe allai
pob gwasanaeth gefnogi ac ategu ymdrechion ei gilydd mewn cysylltiad â pheidio
â chydymffurfio ac unrhyw waith unioni/trwsio cysylltiedig. Roedd gweithio mewn
partneriaeth yn effeithiol gyda phob gwasanaeth ac asiantaeth, a mabwysiadu
dull rhagweithiol yn hytrach nac ymatebol i waith cydymffurfedd, yn golygu’r
posibilrwydd o sicrhau elw ariannol ac amgylcheddol i’r Cyngor ac i breswylwyr
o fewn y lefelau ariannol ac adnoddau dynol presennol. Dull
posibl arall o wella'r dull rhagweithiol fyddai drwy lunio siarter rhwng y
Cyngor Sir a chynghorau dinas, tref a chymuned y Sir, gan geisio eu caniatâd i
roi gwybod i Wasanaeth Cydymffurfedd Cynllunio'r Cyngor am unrhyw achosion
posibl o dorri rheolau cynllunio neu
faterion o bryder o fewn eu cymunedau cyn gynted ag roeddynt yn cael gwybod amdanynt. Petai modd llunio
siarter o’r fath a bod yr holl gynghorau’n cytuno i’w fabwysiadu, roedd
posibilrwydd y gallai weithredu fel 'system rhybuddio cynnar' i Wasanaeth
Cydymffurfedd Cynllunio'r Cyngor Sir, gan alluogi iddo ymgysylltu'n
rhagweithiol gyda'r unigolion/busnesau/sefydliadau a oedd mewn perygl o dorri
amodau cynllunio yn ystod y camau cynnar, gyda'r bwriad o unioni unrhyw
doriadau a'u hatal rhag gwaethygu i faterion costus o beidio â chydymffurfio a
phroses gorfodaeth hirfaith.
Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, Tai,
Rheoleiddio a’r Amgylchedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Rheolwr Datblygu
(Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a’r Swyddog Cydymffurfedd Cynllunio:
·
ddweud nad oedd y nifer o
achosion honedig o dorri rheolau cynllunio yn cynyddu’n sylweddol. Serch hynny, os oedd angen ymchwiliad manwl i’r achosion neu eu bod yn
ymwneud â thoriadau cymhleth, byddai angen cryn amser i’w datrys, a chydag adnoddau
cyfyngedig, roedd hyn yn golygu nad oedd achosion eraill yn cael eu hymchwilio. Felly’r rheswm pam y byddai dull rhagweithiol a cheisio cydweithrediad
traws-wasanaethol a rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol yw y gallai alluogi’r
Gwasanaeth Cydymffurfedd Cynllunio i ymgysylltu â’r rhai oedd mewn perygl o
dorri amodau yn gynt, ac argymell unrhyw gamau unioni angenrheidiol. Ar y cyfan, roedd y dull 'meddal’ yma tuag at orfodaeth yn well i bawb;
·
cadarnhau bod y Gwasanaeth
Cydymffurfedd Cynllunio yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Rheoli Adeiladu'r
Cyngor. Roedd y ddau wasanaeth wedi’u cyd-leoli, yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd,
ac yn dibynnu’n drwm ar wybodaeth eu gilydd;
·
dweud bod swyddogion
wrthi’n edrych ar y ffioedd oedd yn gysylltiedig â chyngor cynllunio a
cheisiadau gan fod costau gweithredu’r Gwasanaeth yn fwy nag unrhyw incwm a
dderbynnir o ffioedd a thâl. Y rheswm cyffredinol am
golli’r incwm yma oedd gostyngiad mewn ceisiadau cynllunio dros y blynyddoedd
diwethaf;
·
cadarnhau mai’r data cymharol
ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) oedd y data perfformiad
oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad;
·
dweud bod angen mwy o
waith ymyrraeth ragweithiol mewn ardaloedd penodol o'r sir nag mewn ardaloedd
eraill. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, lle mae
dyheadau a chanfyddiadau preswylwyr lleol o’u hamgylchedd lleol yn dueddol o
fod yn is na phobl mewn ardaloedd mwy cefnog. Dyna’r
rheswm dros benderfynu canolbwyntio ar Ganol Tref y Rhyl gyda’r bwriad o roi
hwb i'r gwaith adfywio yn yr ardal trwy dargedu adeiladau hanesyddol pwysig i
sicrhau nad ydynt yn cael eu colli am byth. Yn nhrefi a
phentrefi mwy cefnog y sir, roedd preswylwyr yn llawer mwy tebygol o godi
pryderon yn fuan gyda'r Cyngor am adeiladau hyll, cyn iddynt ddirywio
ymhellach, fel y gwelir yn yr enghraifft yn Atodiad 1 yr adroddiad;
·
cadarnhau bod y
Dangosyddion Perfformiad cyfredol oedd yn gysylltiedig â’r nifer o hysbysiadau
gorfodaeth a roddwyd ac a gydymffurfiwyd â nhw, wedi’u hanelu ar hyn o bryd
tuag at gofnodi’r nifer o ymchwiliadau a gwblhawyd gyda datrysiad ffurfiol. Fodd bynnag, roedd hyn ar fin newid gan fod llythyr agored diweddar gan LlC
i Brif Swyddogion Cynllunio wedi dynodi na fyddai “camau gorfodi ffurfiol”
bellach yn cael eu hystyried yn ddewis olaf ac na fyddai datrys achosion o
dorri rheolau bellach yn cael ei fonitro'n llawn. Roedd
gan awdurdodau cynllunio lleol bellach hawl i benderfynu pryd roedd ymchwiliad
wedi cael ei gwblhau ac wedi cyrraedd datrysiad, gallai fod ar unrhyw adeg pan
fyddai canlyniad ‘cadarnhaol’ wedi cael ei gyflawni;
·
dweud tra byddai cyflogi
staff ychwanegol i ymgymryd â gwaith Cydymffurfedd Cynllunio yn fanteisiol mewn
byd delfrydol, roedd cyfyngiadau cyllidebol presennol y gwasanaethau cyhoeddus
yn golygu nad oedd hyn yn ddewis hyfyw oni bai bod Gwasanaeth arall yn cael ei
thorri neu ei thynnu nôl i dalu am gost staff ychwanegol;
·
dweud y byddai’n ddoeth yn
y dyfodol i’r gwasanaeth ofyn bod honiadau o dorri amodau cynllunio yn cael eu
cefnogi gan dystiolaeth, e.e. lluniau ac ati
cyn i’r ymchwiliad gael ei ddechrau gan y dylai hyn helpu i gyflymu’r
gwaith ymchwilio;
·
amlinellu i ba raddau y
gallai Siarter Cydymffurfio Cynllunio gael ei lunio rhwng y Cyngor Sir a’r
cynghorau dinas, tref a chymuned lleol. O bosib, fe allai’r
Siarter roi pwerau i gynghorau i ymgymryd ag ymchwiliadau cychwynnol mewn i
achosion honedig o dorri materion cynllunio, hyfforddi ac
addysgu swyddogion i wneud y gwaith yma ac ati;
·
cadarnhau bod Deddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac
Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a deddfwriaeth ategol eraill yn rhoi pwerau a
dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn cysylltiad â gwaith cydymffurfedd
cynllunio;
·
bod rôl swyddogaeth
Cydymffurfedd Cynllunio i gefnogi gwaith y Cyngor i gyflawni ei Gynllun
Corfforaethol yn ymwneud yn benodol â blaenoriaethau corfforaethol tai, yr
amgylchedd a chymunedau gwydn; a
·
dweud bod newid y Cynllun
Dirprwyo i ganiatáu swyddogion i roi hysbysiadau o ddiffyg cydymffurfio heb
orfod cael caniatâd y Pwyllgor Cynllunio yn gyntaf wedi bod yn effeithiol. Er nad oedd cyflwyno hysbysiad o dorri rheolau ynddo’i hun yn datrys y
mater yn syth, roedd yn sbardun ar gyfer deialog
rhwng perchennog/rheolwr yr eiddo a allai arwain at ddatrysiad boddhaol maes o
law.
Cytunodd aelodau’r pwyllgor bod diwygio’r Cynllun Dirprwyo wedi helpu i
symleiddio’r broses a chyflymu datrysiadau ar gyfer materion o ddiffyg
cydymffurfio. Fodd bynnag,
roeddynt yn teimlo nad oedd aelodau bellach yn cael gwybod am gynnydd mewn
cysylltiad â materion o ddiffyg cydymffurfio o fewn eu wardiau. Er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau am gynnydd gyda
materion o ddiffyg cydymffurfio, cytunodd y Rheolwr Datblygu i roi adroddiad
cynnydd i’r cynghorwyr bob chwe mis.
Canmolodd y cynghorwyr oedd yn cynrychioli’r Rhyl y gwaith oedd yn cael ei
wneud gan y Gwasanaeth Cydymffurfedd Cynllunio mewn cysylltiad â materion o
ddiffyg cydymffurfio yng nghanol tref y Rhyl, ac roeddynt yn cefnogi’r dull
arfaethedig yn y dyfodol er mwyn ceisio cyflymu adfywiad y dref.
Ar ddiwedd y drafodaeth fanwl:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau
uchod
(i)
derbyn yr adroddiad
ar berfformiad ac effeithiolrwydd y swyddogaeth Cydymffurfedd Cynllunio;
(ii)
cydnabod gwerth a
phwysigrwydd y Gwasanaeth i’r sir a’i phreswylwyr ac argymell y gwneir pob
ymdrech i amddiffyn y swyddogaeth tra’n gosod cyllidebau’r cyngor yn y dyfodol;
(iii)
bod Siarter
Cydymffurfedd Cynllunio yn cael ei llunio rhwng Cyngor Sir Ddinbych a’i chynghorau
sir, tref a chymuned er mwyn cefnogi gwaith cydymffurfedd trwy waith atal ac
ymyrryd yn fuan; a
(iv)
bod y Siarter
drafft yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn ymgynghori cyn cael ei roi i
gynghorau dinas, tref a chymuned er mwyn ymgynghori.
Dogfennau ategol:
- Planning Compliance Report 131218, Eitem 6. PDF 373 KB
- Planning Compliance Report 131218 - App, Eitem 6. PDF 532 KB