Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COMISIYNU GOFAL PLANT ADDYSG GYNNAR A DECHRAU’N DEG

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Strategaeth a Datblygu (copi wedi’i amgáu) er mwyn ceisio barn y Pwyllgor Craffu ar y penderfyniad dros ail gomisiynu elfennau gofal plant y Cynllun Addysg Gynnar a Dechrau’n Deg trwy brosesau ffurfiol paralel.

 

10.15 a.m. – 11.00 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Datblygu a Strategaeth yr adroddiad (a rannwyd eisoes) a oedd yn cyflwyno trosolwg o’r broses arfaethedig ar gyfer comisiynu elfennau gofal plant rhaglenni Addysg Gynnar a Dechrau’n Deg i Aelodau. Yn ystod y cyflwyniad, pwysleisiodd y swyddog bod y rhaglenni hyn wedi cael llwyddiant blaenorol ac yn cael eu gwerthfawrogi’n eang gan deuluoedd, ysgolion a budd-ddeiliaid eraill.  Esboniodd, fel rhan o waith y Cyngor i drechu tlodi, cafodd y rhaglenni hyn eu hadolygu gyda’r bwriad o gael yr effaith mwyaf posib i leihau tlodi ac amddifadedd yn Sir Ddinbych.

 

Fel rhan o’r cynnig gofal plant i’w gyflwyno ym mis Ionawr 2019, mae Addysg Blynyddoedd Gynnar yn darparu 10 awr o’r cynnig 30 awr. Mae’r ddarpariaeth hon y rhan o gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng 3 a 7 mlwydd oed yng Nghymru. Mae’n rhwymedigaeth statudol i’r ALl gynnig y ddarpariaeth ond nid yw’n ofynnol i rieni a gofalwyr ddefnyddio’r cynnig. Mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn noddi 10 awr o addysg yr wythnos i bob plentyn i hyd at ddau dymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Gall y cynnig hwn o addysg ei ddarparu mewn amryw leoliad gofal plant h.y. ysgol, cylch chwarae neu feithrinfa ddydd preifat.  I fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y nawdd, roedd yn ofynnol bod y lleoliad gofal plant yn cydymffurfio gyda’r Fframwaith Cyfnod Sylfaen, gan ddarparu’r amgylchedd priodol a hyfforddi staff i gyflwyno’r fframwaith. Mae pob plentyn yn y sir wedi gallu cael mynediad at Addysg y Blynyddoedd Cynnar ers cyflwyniad y fframwaith Cyfnod Sylfaen yn 2009. Mae’r cynnig gofal plant yn anelu i wella cefnogaeth i rieni sy’n gweithio a darparu’r ddarpariaeth gofal plant am 20 awr ychwanegol am ddim (yn amodol ar y cap enillion).  Roedd prosiect Dechrau’n Deg, ar y llaw arall, yn rhaglen a noddwyd gan LlC yn benodol ar gyfer plant dan 4 oed ac yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae hyn yn cynnwys Sir Ddinbych, ac mae ardaloedd y Rhyl, Prestatyn a Dinbych yn rhan ohono.  Yn Sir Ddinbych roedd Rhaglen Dechrau’n Deg yn ffurfio rhan o’r gwasanaethau Cymorth Cynnar a’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Yn ogystal â gofal plant, mae Dechrau’n Deg yn darparu rhaglenni rhianta, cymorth gydag iaith a lleferydd â gwasanaeth ymwelydd uwch. Roedd y rhaglen Dechrau’n Deg yn noddi dwy awr a hanner o ofal plant y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 2 oed, nes y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.  Roedd lleoliadau Gofal Plant sy’n gymwys i dderbyn y nawdd yn cael cymorth Athro Ymgynghorol a Chynorthwywyr Addysgu Dechrau’n Deg.

 

O ystyried y trefniadau presennol, Canllaw LlC a’i Blaenoriaethau Corfforaethol ei hun, roedd y Cyngor wedi adolygu eu mecanweithiau noddi ar gyfer gwasanaethau Addysg y Blynyddoedd Cynnar a dechrau’n Deg.  O ganlyniad, roeddent yn cynnig ail gomisiynu’r ddarpariaeth addysg blynyddoedd cynnar a’r rhaglen Dechrau’n Deg ar y sail o sicrhau:

·         gwasanaethau gofal o ansawdd da i blant

·         dewis i rieni a theuluoedd

·         mynediad agored a theg i gyllid a

·         gwerth am arian

 

Cytunwyd ar ddull ar y cyd rhwng Dechrau’n Deg ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a fyddai’n arwain at ail gomisiynu’r gwasanaethau gofal plant drwy ddwy broses ar wahân ond paralel, gyda phob gwasanaeth yn cael eu hail gomisiynu yn ystod 2019. Byddai cytundebau newydd ar waith erbyn mis Medi 2019, i gyd-fynd gyda’r flwyddyn ysgol a lleihau amhariad posib i blant.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau i’r Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ymatebodd y Swyddog Datblygu a Strategol, y Rheolwr Perfformiad a Busnes ac Arweinydd Addysg Dechrau’n Deg:

·         cael eu cynghori eu bod wedi cael eu hannog gan nifer o ddarparwyr newydd a gofrestrodd diddordeb i fod yn ddarparwr Gofal plant Addysg y Blynyddoedd Cynnar;

·         cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi bod yn gyfrifol am osod y cynllun gofal plant am ddim yn y sir, ond byddai unrhyw newidiadau gofynnol yn cael eu noddi gan LlC;

·         cael eu cynghori bod angen i’r awdurdod lleol barhau i noddi’r gofal plant Addysg y Blynyddoedd Cynnar 10 awr o’i gyllideb Addysg gyda’r 20 awr yn weddill yn cael ei noddi gan LlC;

·         cadarnhau bod gan yr awdurdod lleol 12 ysgol yn darparu’r elfen Addysg y Blynyddoedd Cynnar fel rhan hanfodol o’i ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen. Ymhob achos, roedd y nawdd ar gyfer y ddarpariaeth yn cael ei ddirprwyo i gyllideb yr ysgol;

·         cael eu cynghori bod Canllaw LlC yn eithaf penodol o ran y dylid darparu’r ddarpariaeth Addysg y Blynyddoedd Cynnar drwy gymysgedd o ddarparwyr preifat a darpariaeth Cyfnod Sylfaen awdurdod lleol;

·         cael eu cynghori bod rhai darparwyr yn cynnig y ddarpariaeth addysg statudol 10 awr yn unig. Roedd rhai teuluoedd eisiau cael mynediad at y ddarpariaeth 10 awr yn unig, ac nid oedd arnynt angen y ddarpariaeth 20 awr ychwanegol oedd ar gael;

·         sicrhau’r Pwyllgor bod y ddau gynllun wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers sawl blwyddyn. Os oedd plentyn yn symud lleoliad gofal plant, byddai’r nawdd yn dilyn y plentyn i’w lleoliad gofal plant newydd. Disgwyliwyd y byddai cyflwyniad y cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn cymwys yn cynyddu;

·         cafwyd eu cynghori bod cynlluniau peilot cynnar yn dangos bod rhieni a ddefnyddiodd lleoliad gofal plant i ddarparu’r elfen Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Cyfnod Sylfaen 10 awr ond nid i ddarparu’r gofal plant 20 awr ychwanegol yn annhebygol i ddefnyddio’r ail ac eithrio os oedd lleoliad gofal plant yn newid eu cofrestriad i ddarparu’r ddwy elfen. Roedd sawl rheswm am hyn, h.y. lleoliad y ddarpariaeth, cefnogaeth teulu estynedig, enillion rhieni ac ati. Er mwyn newid eu cofrestriad mewn pryd i pan roedd y cynllun gofal plant am ddim yn dechrau, roedd y lleoliad gofal plant yn fwy rhagweithiol i gofrestru i ddarparu’r ddwy elfen. Roedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor yn darparu cefnogaeth i ddarparwyr a rhieni o ran cofrestru fel darparwr a chael mynediad at y cynllun;

·         cafwyd eu cynghori, mewn ymgais i leihau’r perygl o unrhyw amhariad i ddarpariaeth y gwasanaeth, ac i rieni a phlant, a achoswyd gan y newidiadau, roedd y broses ymgeisio wedi cael ei ail ddylunio ar sail adborth a gafwyd yn y digwyddiadau budd-ddeiliad a gynhaliwyd. Mae hyn wedi cynnwys datblygu proses gofrestru i gyd-fynd â phrosesau comisiynu blaenorol ac oedi dyddiad cychwyn y broses ymgeisio er mwyn i leoliadau  gofrestru ar gyfer y cynnig gofal plant am ddim;

·         cadarnhawyd bod yr elfen Addysg y Blynyddoedd Cynnar / Cyfnod Sylfaen 10 awr ar gael am ddim i bob plentyn dros 3 mlwydd oed, nes eu bod yn derbyn addysg statudol llawn amser. Roedd y gofal plant 20 awr ychwanegol am ddim ar gael i blant gyda’u rhieni’n gweithio a’u henillion o dan drothwy penodol;

·         cafwyd eu cynghori bod y Cynllun Dechrau’n Deg yn noddi prosiectau penodol yn wardiau cyngor mwyaf difreintiedig y sir, yn Ninbych ac y Rhyl, ar gyfer plant 2 mlwydd oed nes roeddent yn 4 mlwydd oed neu’n mynd i’r ysgol.  Ar hyn o bryd, aeth mwy na 200 o blant o fewn y grŵp oedran i brosiectau a noddwyd gan Dechrau’n Deg yn y sir.  Roedd prosiectau Dechrau’n Deg yn strwythurol iawn, ac yn canolbwyntio ar wella a chynyddu nifer y sgiliau sylfaenol h.y. sgiliau mathemategol, cymdeithasol, rhianta, datblygiad lleferydd ac iaith ac ati, gyda’r nod o wella canlyniadau’r teulu cyfan, gan roi sylfaen gadarn i’r plentyn adeiladu arni yn ystod cyfnod eu haddysg statudol.

·         cafwyd eu cynghori nad oedd yn hysbys a fyddai cyflwyno’r cynnig gofal plant am ddim yn cael effaith negyddol ar brosiectau Dechrau’n Deg ai peidio. Serch hynny, nid oedd swyddogion yn disgwyl unrhyw effaith sylweddol gan mai prosiectau Dechrau’n Deg yw’r prif wasanaethau a ddarperir ar gyfer plant a theuluoedd gyda rhieni ddim mewn cyflogaeth, neu’n gweithio ychydig oriau’r wythnos yn unig, lle anelir y cynnig gofal plant at deuluoedd gyda’r rhieni’n gweithio 16 yr wythnos o leiaf.  Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd gan ardaloedd oedd wedi rhoi’r cynllun peilot newydd ar waith yn dangos effaith bach iawn ar y cynllun Dechrau’n Deg;

·         cafwyd trosolwg o’r broses monitro a rhoddwyd ar waith i werthuso effeithiolrwydd y prosiectau Dechrau’n Deg yn lleol a’r system meincnodi Cymru gyfan ar gyfer y Cynllun;

·         cafwyd eu cynghori bod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Deddf Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi cyflwyno gofyniad i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc o’u geni hyd at 25 mlwydd oed gydag anghenion dysgu ychwanegol (ALN).  Roedd gan Sir Ddinbych dîm anghenion dysgu ychwanegol rhagweithiol a wnaeth pob ymdrech i nodi unrhyw angen dysgu ychwanegol cyn gynted â phosib yn ystod addysg plentyn er mwyn asesu, cynllunio a hwyluso ymyraethau a chefnogaeth amserol ac effeithiol.  Roedd y Tîm anghenion dysgu ychwanegol yn cydweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd gyda’r bwriad i sicrhau’r llwybr gorau ar gyfer pob plentyn, os yw’n ardal Dechrau’n Deg yn y sir neu mewn ardaloedd eraill.  Roedd nifer uwch o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn ardaloedd mwy difreintiedig Sir Ddinbych yng ngogledd y Sir oherwydd niferoedd poblogaeth uwch. Mae’r dwysedd poblogaeth hwn wedi golygu bod gofyniad am lefel uwch o gefnogaeth, gan gynnwys cefnogaeth amlasiantaeth. Oherwydd hynny, dyna oedd y rheswm dargedodd LlC adnoddau ariannol ychwanegol ar ffurf nawdd Dechrau’n Deg ar gyfer yr ardaloedd hyn. Serch hynny, byddai plant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn rhannau eraill o’r sir yn derbyn yr un lefel o gefnogaeth ac ymyrraeth, ond mae nawdd ar eu cyfer yn cael ei ddarparu gan awdurdod lleol;

·         cafwyd cadarnhad bod y Tîm y Blynyddoedd Cynnar wedi gweithio gyda sawl Cylch/Meithrin/Cylch chwarae’n gweithredu yn ardaloedd o’r Sir nad ydynt yn ardaloedd Dechrau’n Deg ac o ganlyniad roeddent yn gallu briffio ysgolion cynradd ar bob plentyn cyn eu cofrestriad yn eu hysgol ddewisedig.  Roedd gwybodaeth a ddarparwyd i’r ysgolion cynradd gan y Tîm yn rhoi gwybodaeth gynnar o allu/potensial bob plentyn a/neu gefnogaeth ac anghenion ychwanegol;

·         cafwyd cadarnhad bod y Cyngor wedi derbyn nawdd Dechrau’n Deg ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar gan LlC ers nifer o flynyddoedd, ond gyda chyflwyniad 20 awr o ofal plant am ddim gan LlC i gyd-fynd â’r hawl 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar oedd eisoes ar gael, bu penderfyniad, gyda’r bwriad o brofi gwerth am arian a gwneud y mwyaf o fuddion cynlluniau ar gyfer plant a rhieni, i ehangu’r mynediad at y cynlluniau yn unol â’r Canllaw addysg statudol y blynyddoedd cynnar (2018) a meini prawf grant y Cyfnod Sylfaen drwy broses ymgeisio paralel ac ar y cyd, a phroses comisiynu os oes angen. Byddai’r dull hwn yn galluogi i’r ddogfennaeth gael ei alinio a’i rhannu pan fo’n bosib.  Byddai’n symleiddio’r broses ar gyfer rhieni a darparwyr;

·         cafwyd eu cynghori, tra na fyddai pob rhiant yn defnyddio’r gwasanaethau gofal plant 20 awr, amcan cynnig LlC oedd annog rhieni i weithio mwy nag 16 awr yr wythnos;

·         cafwyd eu cynghori bod Adroddiad Arolygu diweddar Estyn ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir Ddinbych wedi cyfeirio’n gadarnhaol ar ddull yr Awdurdod o gefnogi’r ddarpariaeth addysg ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed yn y sir; 

·         cafwyd cadarnhad bod y Cyngor yn bwriadu comisiynu ystod eang o ddarparwyr ar gyfer y Cynllun Dechrau’n Deg h.y. sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector/sefydliadau dielw i ddarparu’r Cynllun yn wardiau mwyaf difreintiedig y sir, gan fod plant ifanc yn ffynnu mewn amgylcheddau dysgu a chymdeithasol gwahanol, ni fyddai’r un math o ddarpariaeth yn gweddu pob plentyn;

·         cafwyd eu cynghori nad oedd darparwyr sector cyhoeddus wedi cael triniaeth ffafraethol dros ddarparwyr preifat yng nghontract y broses ymgeisio. Byddai disgwyl i bob darparwr gwblhau’r un ddogfennaeth wrth wneud cais am nawdd. Cyfrifoldeb pob darparwr unigol oedd amcangyfrif eu costau staffio a llety fel rhan o’u prosesau cynllunio busnes. Roedd yn siomedig fodd bynnag, nad oedd rhai busnesau annibynnol yn gallu darparu’r gwasanaethau roedd y Cyngor yn dymuno eu cyflenwi. Roedd gan y Cyngor 12 ysgol oedd yn darparu’r ddarpariaeth gofal plant Addysg y Blynyddoedd Cynnar, ac roedd y rhan fwyaf wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig lle nad oedd darpariaeth breifat ar gael, maent wedi comisiynu darpariaeth o 38 o ddarparwyr nad ydynt yn perthyn i’r awdurdod lleol hefyd.  Yn ychwanegol at hynny, daeth y ddeddfwriaeth newydd i rym a fyddai’n caniatáu darparwyr preifat i hawlio hyd at £12,000 mewn rhyddhad ardrethi busnes; a

·         chafwyd cadarnhad ni fyddai ‘gwiriadau credyd’ yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr sy’n dangos diddordeb mewn darparu’r gwasanaethau gan mai’r broses ffafriedig oedd proses ymgeisio yn hytrach na phroses dendro.

Oherwydd bod nifer o aelodau wedi gofyn a oedd darparwyr y sector cyhoeddus mewn safle mwy ffafriol wrth ymgeisio ar gyfer nawdd darpariaeth Dechrau’n Deg a/neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, gwnaeth y Pwyllgor gais bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei roi i aelodau’r Pwyllgor ar y broses i’w dilyn.

Ar ddiwedd y drafodaeth:

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod;

(i)           mae darpariaeth Adroddiad Wybodaeth sy’n amlinellu’r broses i’w dilyn gan ddarparwyr posib wrth wneud cais am nawdd Addysg y Blynyddoedd Cynnar a/neu ddarpariaeth Gofal Plant Dechrau’n Deg a’r diogelu o fewn y broses i sicrhau bod pob ymgeisydd, os ydynt yn sefydliadau cyhoeddus/preifat/y sector gwirfoddol, yn cael mynediad teg a chyfiawn i’r nawdd ac i liniaru yn erbyn darparwyr sector cyhoeddus i fod mewn safle manteisiol;

(ii)          cefnogi penderfyniad i ail gomisiynu elfennau gofal plant Rhaglenni Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg drwy brosesau paralel, ffurfiol

 

Dogfennau ategol: