Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER 2017-2018
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) i roi gwybod i
aelodau am weithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd (CSP) yn
2017-2018 a’r cynllun gweithredu Lleol/Rhanbarthol ar gyfer 2018/19.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Sian Taylor (Rheolwr Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol) i'r cyfarfod.
Mae’r Aelod Arweiniol dros Safonau
Corfforaethol wedi cyflwyno adroddiad ac atodiadau'r Rheolwr Diogelwch
Cymunedol (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) oedd wedi cyflwyno’r Pwyllgor gyda
Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i 2017-2018. Yn ystod ei
gyflwyniad fe ddywedodd yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor fod y Bwrdd
Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru yn gyfrifol am gytuno’r blaenoriaethau i’r
rhanbarth a llunio cynllun gweithredu i bob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ei
gyflawni. Mae cyflawni’r
cynlluniau hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd gan Bwrdd Diogelu Plant Gogledd
Cymru, gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dadansoddi ei berfformiad wrth
gyflawni’r cynllun ar gyfer ei ardal a llunio ateb lleol i broblemau lleol.
Cynghorodd y Rheolwr PDC fod 2017-18 wedi bod yn flwyddyn ariannol heriol i
PDC yn lleol, a bod ei berfformiad i gyflawni ei gynllun gweithredu yn ardal
Sir Ddinbych wedi bod yn dda ar y cyfan.
Yn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a
Pharth Cyhoeddus a’r Rheolwr PDC:
·
eu bod yn cytuno er bod
y geiriad ar gyfer Blaenoriaeth 1 ar gyfer 2017-18 'Lleihau Trosedd ac Anhrefn
yr yr Ardal’ yn ymddangos i fod yn amlinellu holl ddiben y PDC, roedd hi’n
bwysig canolbwyntio ar y camau gweithredu o flaenoriaeth a nodwyd er mwyn
gwireddu’r flaenoriaeth hon ar gyfer y flwyddyn benodol hynny.
Lleihau trosedd ac anrhefn wastad yn uchelgais gan PDC a’i ddyhead
sylfaenol;
·
cynghorwyd fod y nifer
gostyngol o achosion trais domestig yn flaenoriaeth i’r PDC, yn ogystal â
blaenoriaeth i LlC a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.
Roedd hefyd yn ymddangos yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor fel rhan o
flaenoriaeth corfforaethol Cymunedau Cryf. Roedd yn bwysig
cofio ei bod yn hanfodol i droseddau gael eu riportio er mwyn gallu eu
hymchwilio.
Mae llwyddiant ymdrechion a wnaed i annog pobl i riportio
achosion o drosedd wedi cael effaith negyddol ar yr ystadegau gyda nifer o
achosion yn cael eu riportio yn uwch mewn nifer o ardaloedd. Fodd bynnag, er bod hynny’n ymddangos yn groes i’r graen roedd yn helpu
swyddogion i adnabod patrymau neu dueddiadau a cheisio creu atebion posib i
fynd i’r afael â gwraidd y broblem a cheisio atal unrhyw gynnydd yn y dyfodol;
·
cynghorwyd fod
Barnardo's wedi ymgymryd â llawer o waith mewn perthynas ag addysgu pobl, yn
enwedig pobl ifanc ar yr hyn sy’n dderbyniol/ ddim yn dderbyniol mewn
perthynas, gyda’r nod o leihau trais domestig;
·
cynghorwyd bod y Strategaeth Cam-Drin Domestig
Rhanbarthol ar gael i aelodau i’w ddarllen ar wefan y Cyngor.
Mae holl staff y Cyngor wedi cyflawni modiwl hyfforddiant ar-lein ar drais
domestig a’r gobaith oedd cyflwyno’r modiwl hwn i aelodau etholedig yn y
flwyddyn newydd.
Mae dros 200 o bobl wedi mynychu digwyddiad yn Neuadd y
Dref y Rhyl gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yn ei nifer
ffurfiau a sut y mae'r rheiny wedi'u heffeithio yn cael cymorth a help. Roedd yr holl wasanaethau cam-drin domestig yn bresennol yn ogystal â
Cyngor ar Bopeth (CAB).
Mae’r PDC yn awyddus i drefnu digwyddiadau tebyg yn y
dyfodol ond ar hyn o bryd ddim gyda'r cymhwysedd i’w cynnal nhw’n rheolaidd. Un
dull posib ar gyfer digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol fyddai bod yn
bresennol mewn cynadleddau/digwyddiadau wedi'u trefnu gan sefydliadau partner
h.y. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac ati;
·
cytunwyd i ddarparu
aelodau gyda manylion o’r wybodaeth ystadegol sydd yn cyd-fynd ag adroddiad
perfformiad blynyddol 2017-18;
·
cadarnhawyd fod cyngor
wedi cael ei rannu gyda phreswylwyr ar sut i ddelio â sgiâm dros y ffôn ayb.
mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned aml-asiantaeth a gynhaliwyd trwy
gyfryngau cymdeithasol.
Roedd yr heddlu yn hollol ymwybodol o’r problemau a’r gorbryder y mae sgiâm
o'r fath yn ei achosi, yn enwedig i unigolion diamddiffyn. Mae sgiâm o’r fath yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr yr Heddlu hefyd;
·
cydnabod bod problemau
gyda rhif ffôn yr Heddlu ar gyfer achos sydd ddim yn argyfwng, 101, a’u bod yn
ymwybodol o hynny;
·
cynghorwyd fod dull
amlasiantaeth yn cael ei ddefnyddio er mwyn lleihau gwahanol fathau o droseddau
h.y. pobl ifanc yn defnyddio beiciau yn anghyfrifol a pheryglu eu hunain ac
eraill, aildroseddu, camddefnyddio sylweddau ac ati;
·
cynghori fod y
gweithredodd cyffuriau ‘llinellau cyffuriau’ a chaethwasiaeth fodern yn feysydd
eithriadol o gymhleth oedd angen staff arbenigol o'r Heddlu i archwilio ac i
fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Mae llawer iawn o amser yn cael ei dreulio ar yr archwiliadau cymhleth hyn. Mae’r PDC a’i sefydliadau partner yn canolbwyntio mwy o’u hadnoddau ar
waith atal gyda phlant, pobl ifanc a grwpiau diamddiffyn er mwyn codi
ymwybyddiaeth o beryglon o gymryd sylweddau anghyfreithlon. Mae PDC a swyddogion Diogelu yn gweithio’n agos er mwyn diogelu y
diamddiffyn rhag troseddwyr o’r troseddau hyn, gan fod defnyddwyr cyffuriau eu
hunain yn ddioddefwyr o droseddau’r gwerthwyr cyffuriau;
·
cadarnhawyd fod y
datganiadau a wnaed yn y misoedd diwethaf gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
a’r Prif Gwnstabl mewn perthynas â defnyddio cyffuriau yn yr ardal heb ddal
gwaith y PDC yn ei ôl mewn unrhyw ffordd;
·
cynghorwyd bod PDC yn
gweithio’n weithredol gydag adrannau safonau masnach yr awdurdod lleol i godi
ymwybyddiaeth y cyhoedd a’u cyfrifoldeb i brynu nwyddau o ansawdd gyda'r bwriad
o leihau cyfleoedd i unigolion i ecsbloetio pobl ddiamddiffyn trwy ymarferion
caethwasiaeth fodern i gynhyrchu nwyddau o ansawdd isel am brisiau isel iawn.
Mae ansawdd gwael rhai o’r nwyddau hyn o bosib yn gallu achosi risg iechyd
a diogelwch i'r prynwr neu bwy bynnag wnaeth eu derbyn nhw;
·
rhoi golwg cyffredinol o
sut y byddai gweithdrefnau diogelu yn cael eu annog pe bai pryderon yn cael eu
cyflwyno i bartner PDC am ddiogelwch unigolyn diamddiffyn.
Yn yr un modd pe bai'n dod yn amlwg bod plentyn sy’n derbyn gofal mewn
perygl o niwed byddai’r holl Gysylltiadau Diogelu PDC yn cael eu rhybuddio a
byddai ymateb aml-asiantaeth yn cael ei lunio. Byddai hyn yn cynnwys yr holl asiantaethau perthnasol h.y. Yr Heddlu,
Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Iechyd, rhieni Maeth ayb.;
·
cydnabod bod diogelu ac
amddiffyn plentyn rhag niwed yn llawer haws yn ystod oriau ysgol na thu allan i
oriau ysgol.
Fodd bynnag ni allai’r Cyngor fforddio i fod yn fodlon yn y maes hwn ac
wedi cydnabod yr angen i wella ei waith diogelu yn barhaus er gwaethaf pwysau
cyllidebol.
Mae gan y Fforwm Rhiantu Corfforaethol rôl bwysig mewn
materion diogelu.
Aelodau yn cyfeirio at gyflwyniad gwych ar Ddiogelu
wedi’i roi i’r Fforwm Rhiantu Corfforaethol a gofynnwyd iddo gael ei ddangos
i'r holl aelodau yn y dyfodol agos;
·
cynghorwyd bod y PDC yn gweithio’n agos gydag
ysgolion er mwyn adnabod disgyblion oedd mewn risg o fod yn rhan o ymddygiad
gwrthgymdeithasol ayb.; gyda’r nod o ddarparu gwaith ymyrraeth ragweithiol i’w
llywio nhw i ffwrdd o fywyd a fyddai'n arwain at y system cyfiawnder troseddol;
·
cadarnhau fod y dull
cyfiawnder adferol a ddefnyddir gan yr Heddlu, llysoedd a'r Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid gyda’r potensial o elwa’r unigolyn yn sylweddol yn ogystal
â’r gymdeithas yn gyffredinol; a
·
cadarnhau fod yr Heddlu
wedi gofyn am gyfarfod gyda PDC gyda’r bwriad o dynnu sylw at y niwsans a
achosir gan unigolion yn begian mewn llefydd cyhoeddus.
Rhagwelwyd y gallai asiantaethau
PDC ganolbwyntio eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus ar sut i ymateb
i unigolion yn begian ac i gefnogi’r unigolion hynny a oedd yn begian ar hyn o
bryd i gael mynediad i wasanaethau all eu helpu nhw fod yn annibynnol yn
ariannol, heb ryddhau’r Heddlu i ganolbwyntio ar yr unigolion hynny oedd yn
arddangos tueddiadau o fegera yn ymosodol neu yn ymddangos i fod yn dwyllodrus;
Roedd aelodau yn cydnabod y cymhlethdodau ynghlwm â’r gwaith camddefnyddio
sylweddau anghyfreithlon ‘llinellau cyffuriau’ a’r adnoddau y mae’r Heddlu
ayb., wedi eu neilltuo ar eu cyfer. Fodd bynnag, maent yn teimlo ei fod yn anodd iawn iddyn
nhw egluro i breswylwyr bod defnyddwyr cyffuriau yn achosi problem yn y
cymunedau yn ddioddefwyr eu hunain.
Wedi trafodaeth manwl dyma’r Pwyllgor yn:
Penderfynu: - yn amodol ar y sylwadau
uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol i dderbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad
ar berfformiad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2017-18 a’i Gynllun Gweithgaredd
Prosiect/Partneriaeth ar gyfer 2018-19.
Dogfennau ategol:
- CSP's Annual Report 2017-18 201218 - cym, Eitem 6. PDF 221 KB
- CSP's Annual Report 2017-18 201218 - App 1, Eitem 6. PDF 354 KB
- CSP's Annual Report 2017-18 201218 - App 2, Eitem 6. PDF 493 KB