Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN RHEOLI ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL (AHNE) BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY A CHYNLLUNIAU AWDURDODAU LLEOL A'R WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y GWAITH AR Y CYD RHWNG AHNE CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (copi ynghlwm) i Aelodau archwilio cynllun rheoli tymor hir yr AHNE a sut mae’n cefnogi ac yn ategu cynlluniau’r Cyngor.

(10.10 a.m. – 10.55 a.m.)

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Howard Sutcliffe (Rheolwr Gweithrediadau Cefn Gwlad) a Huw Rees (Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth) i'r cyfarfod am drafodaeth ar gynlluniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, adroddiad ac atodiadau y swyddog AHNE (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn briffio’r Pwyllgor ar y berthynas rhwng Cynllun Rheoli AHNE a chynlluniau a strategaethau amrywiol y Cyngor.   Cynghorodd hefyd bod yr adroddiad yn diweddaru aelodau ar y trafodaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar rhwng swyddogion y pump AHNE yng Nghymru, y Gymdeithas Genedlaethol o AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r wybodaeth ar adolygiad Lloegr o'r parciau cenedlaethol a AHNE. 

 

Hysbyswyd yr aelodau gan yr Aelod Arweiniol a'r Swyddog AHNE bod tri allan o’r pump o'r AHNE yng Nghymru i’w cael yng Ngogledd Cymru, ac mai AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sydd â’r cyfanswm tir mwyaf yng Nghymru o’r holl AHNE.    Prif ddiben yr AHNE yw cadw a gwella tirwedd yr ardal yn unol â gofynion Adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Gan fod ardal ddaearyddol AHNE yn cynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, sefydlwyd Cydbwyllgor lle mae aelodau Cabinet o bob cyngor, er mwyn sicrhau fod y tri awdurdod lleol yn cydymffurfio â'u dyletswyddau statudol.  Mae tri o aelodau anweithredol pellach o bob cyngor yn rhan o’r grŵp Partneriaeth AHNE.     Er gwaetha’r ffaith bod y mwyafrif o’r ardal AHNE dynodedig i’w gael o fewn Sir Ddinbych mae pob un o’r tri awdurdod yn aelodau cyfartal o’r Cydbwyllgor ac yn cyfrannu cyfanswm cyfartal o arian i’w cyllideb i dalu am gostau staffio ac ati.  Mae Cynllun Rheoli AHNE, sydd wedi rhoi dyletswydd statudol i ddatblygu a rheoli, wedi cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi yn 2014.  

 

Cynghorwyd Aelodau fod swyddogion AHNE wedi gweithio’n agos gydag Adran Gynllunio’r Cyngor i sicrhau fod ceisiadau cynllunio yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cadwraeth statudol.  Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor a’i Wasanaethau Tai mewn perthynas â’r agenda iechyd a lles a hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach.   Dyma nhw’n pwysleisio bod nifer o gynlluniau AHNE yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni nifer o flaenoriaethau corfforaethol - prosiectau y grugiar ddu, gylfinir, gwenoliaid bach a grug i gyd yn cefnogi’r gwaith i gyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol yn ymwneud â’r amgylchedd.   Tra bod cyllid yn ariannu'r gwaith i'w wneud ar brosiectau eraill, fel y sgwâr yn Llangollen, datblygu siop gymunedol yn yr hen ysgol yn Llandegla a gwaith tafarn gymunedol y Raven yn Llanarmon-yn-Iâl i gyd yn cyfrannu at wireddu blaenoriaethau cymunedau cysylltiedig â chymunedau cadarn.  Mae cyflawni’r prosiectau hyn yn dibynnu’n fawr ar staff a gwirfoddolwyr AHNE.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Economi a Pharth Cyhoeddus, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth a’r Swyddog AHNE:

·         sicrhau’r Gymuned fod Sir Ddinbych yn elwa o'r ffaith bod Llwybr Genedlaethol Clawdd Offa yn ymestyn hyd ardal gyfan AHNE o Brestatyn i'r Waun. 

Y ffaith bod yna orsaf drên ym Mhrestatyn, diwedd y Llwybr os yw'r daith yn dechrau o Gas-Gwent yn ei hun yn fonws gan ei fod yn golygu bod cludiant hygyrch ar gael ar ddiwedd eu taith.   Mae’r AHNE yn derbyn cyllid gan CNC i wneud gwaith cynnal a chadw ar y Llwybr ac i weithio gyda grwpiau eraill fel Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ar fentrau yn ymwneud â thwristiaeth yn gysylltiedig â’r Llwybr h.y. cefnogi ceisiadau ar gyfer trosi beudai yn llety gwyliau ac ati, wrth sicrhau nad oes caniatâd yn cael ei roi i ddatblygiadau mawr eraill a fyddai’n cael effaith andwyol ar yr ardal;

·         cadarnhau fod arsylwadau AHNE ar geisiadau cynllunio wedi’u hadrodd yn y Pwyllgor Cynllunio neu adroddiadau ar benderfyniadau wedi eu dirprwyo i Aelod Arweiniol. 

Ceisiadau mawr fel ffermydd gwynt neu ddatblygiadau mawr ayb yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio i’w hystyried.  Byddai arsylwadau AHNE hefyd yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Cynllunio yn yr adroddiad.  Tra bod yr adroddiad ond yn cynnwys crynodeb o ymateb yr AHNE gall aelodau ofyn i weld yr ymateb yn ei gyfanrwydd os y dymunent wneud hynny;

·         cynghori bod cofnodion Cyd-bwyllgor AHNE, Partneriaeth AHNE a'i grwpiau gweithio yn ôl themâu ar gael i'r cyhoedd. 

Mae cofnodion y grwpiau gweithio yn ôl themâu wedi’u cyhoeddi gyda phapurau pwyllgor ar gyfer cyfarfodydd Partneriaeth AHNE; 

·         cadarnhau fod AHNE yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc trwy ei raglenni Parcmon Ifanc a thrwy ei brosiectau iechyd gwirfoddol. 

Swyddogion hefyd yn ymweld ag ysgolion i hyrwyddo’r cyfleoedd hyn a’r AHNE yn gyffredinol;

·         cynghori er bod canolfan gweithgareddau awyr agored Colomendy yn Loggerheads bellach ddim yn cael ei redeg gan Gyngor Dinas Lerpwl, bod disgyblion o ysgolion y ddinas yn parhau i fynychu cyrsiau yno sydd bellach yn cael ei rhedeg gan Kingswood;

·          cadarnhau fod taflenni Milltiroedd Cymunedol wedi eu cyhoeddi gan AHNE ar y cyd â Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor ar gael mewn nifer o wahanol lefydd yn AHNE yn ogystal ag mewn llyfrgelloedd a Chanolfannau Croeso. 

O ganlyniad i leihad mewn cronfeydd cyhoeddus, rhaid talu 50c i'w prynu, roeddent yn arfer bod am ddim.    Y rheswm dros godi ffi fechan yw galluogi llyfrgelloedd i greu ychydig o incwm;

·         cynghori fod nifer o asedau'r Cyngor wedi'u lleoli yn yr AHNE. 

Roedd yr asedau hyn yn bennaf yn rhai wedi’i trosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor ar ad-drefnu awdurdod lleol h.y. y ffordd o Ddyserth i Brestatyn, Bryn Prestatyn, Loggerheads ayb.

·         rhoi golwg cyffredinol o Gynllun Rheoli Cynaliadwy gwerth £700k sydd yn gweithredu ar hyd lain arfordirol gogleddol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd yn cynnwys defnyddio merlod Carneddau i bori ar y twyni tywod. 

Pan nad oedd angen y merlod i bori'r twyni defnyddiwyd nhw mewn llefydd eraill yn yr ardal h.y. Gwarchodfa Natur Aberduna yn Maeshafn yn yr AHNE.  Mae’r cynllun rheoli yn cynnwys cyllid gan CNC at raglenni rheoli dŵr a ffensio;

·          cadarnhau mai eu gweledigaeth ar gyfer AHNE oedd parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, gan eu bod yn teimlo fod y dull hwn yn gweithio'n dda yng ngogledd ddwyrain Cymru;

·          cynghori fod y fioamrywiaeth wrth graidd gweledigaeth AHNE ar gyfer yr ardal. 

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar dirwedd yr ardal, rhos ucheldir iach gyda chynefin grug gyda rhywogaeth gynhenid o fflora, ffawna a bywyd gwyllt.   Gweithio’n agos gyda ffermwyr a phorwyr i allu ailgyflwyno tir ffridd draddodiadol gan ddefnyddio ymarferion llosgi dan reolaeth i reoli rhedyn ac i helpu i feithrin cynefin yn yr ucheldir.

·          cadarnhau fod Swyddog Bioamrywiaeth wedi cael ei benodi i helpu’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo atgyfnerthu systemau eco yn unol â gofynion Rhan 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.  Mae’r gwaith yn drawsbynciol ac yn cynnwys mewnbwn i raglen torri gwair ar ymylon priffyrdd yr Awdurdod, gweithio i gynnal a chynyddu poblogaeth y rugiar ddu, môr-wenoliaid bach a gwiberod ayb. a fyddai yn ei dro yn cefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor yn ymwneud â'r amgylchedd;

·         cynghori fod swyddogion AHNE yn gweithio’n agos gyda Fforwm Mynediad Lleol Conwy a Sir Ddinbych.

Os oeddent yn dod yn ymwybodol o unigolion, busnes neu sefydliadau sydd â diddordeb cynnig profiadau amgylcheddol/bywyd gwyllt h.y. gweithgareddau neu wyliau y byddan nhw'n cefnogi drwy helpu nhw i gysylltu â'r Fforwm Mynediad Lleol a chael mynediad i ffynonellau cyllid posib i’w helpu nhw sefydlu eu busnesau;

·         cadarnhau bod y tân ar rostir Mynydd Llantysilio yn ystod haf 2018 wedi achosi difrod tymor canolig i hirdymor ar ecosystem yr ardal.  

Byddai’n cymryd amser sylweddol i gynefin y mynydd ail-afael ac i rywogaethau cynhenid ddychwelyd.   Er bod modd gweld egin gwyrdd ar hyn o bryd ar y mynydd, rhedyn oedd hyn yn bennaf a allai mewn gwirionedd achosi rhagor o broblemau os ddim yn cael ei reoli'n gywir.   Mae cais am gyllid wedi’i gyflwyno gyda'r bwriad o ailgyflenwi gwaith adfer ar y mynydd.  Byddai Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cynnal cyfarfod arbennig yn archwilio’r tân a’i effaith yn ystod Gwanwyn 2019;

·          cynghorwyd bod swyddogion AHNE yn cefnogi a helpu ffermwyr a phorwyr mewn perthynas â materion rheoli tir i sicrhau eu bod nhw, ymwelwyr a thwristiaid yn elwa o’r buddion mwyaf o’r amgylchedd lleol. 

Dyma nhw hefyd yn gweithio gyda Thîm Datblygu Economaidd y Cyngor a busnesau unigol yn eu nod i sicrhau fod busnesau bach yn gwneud y mwyaf o’u hincwm trwy gymryd rhan mewn cynlluniau fel ymgyrchoedd Aros, Bwyta yn lleol ac ati.;

·         tynnu sylw aelodau i ymateb ar y cyd wedi’i baratoi gan bump o swyddogion AHNE Cymru i ymgynghoriad gan Weinidog yr Amgylchedd LlC ar fwy o gydraddoldeb i AHNE gyda Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru, a chopi wedi'i atodi gyda’r adroddiad, yn amlinellu pob un o'r ddeuddeg pwynt a godwyd yn y ddogfen;

·          cadarnhau os byddai newidiadau deddfwriaethol yn cael eu cynnig fel rhan o ymgynghoriad LlC uchod byddai Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi, a  fyddai’n destun ymgynghoriad pellach. 

Mae’n debygol y byddai’n o leiaf dwy flynedd cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym; ac

·         cynghorwyd bod LlC wedi ymrwymo i ynni ‘gwyrdd’ ac ardaloedd dynodedig lle byddai ynni 'gwyrdd' yn cael ei gynhyrchu, yn enwedig yn lle dylai ffermydd tyrbinau gwynt ar raddfa fawr gael eu lleoli.  

 Mae’r llywodraeth bellach yn canolbwyntio ar fuddion cymunedol y dylid eu gwireddu o brosiectau ynni ‘gwyrdd’ h.y. y cynllun hydro yng Nghorwen sydd wedi bod o fudd i’r gymuned leol yn y dref, bydd y gronfa mantais gymunedol fawr fydd ar gael yn fuan i gymunedau wedi’u heffeithio gan ffermydd gwynt y Brenig a Chlocaenog, lle bydd oddeutu £170K a £750K yn ôl eu trefn ar gael i brosiectau cymunedol ar gyfer y 25 mlynedd nesaf.  Mae ymgynghoriad yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â'r cynlluniau hyn, gan gynnwys pa gymunedau ddylai elwa, y math o brosiectau i’w hariannu, cymorth ar gael i gymunedau i wneud cais am gyllid a gweinyddu’r gronfa.  Cytunodd aelodau fod y cronfeydd hyn yn deilwng o gael eu hystyried i'w craffu ar ddyddiad diweddarach a gofynnodd y Pwyllgor i'r Cynghorydd Rhys Thomas i lenwi ‘ffurflen gynnig i aelodau' ar ran y Pwyllgor a'i gyflwyno i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w ystyried;

 

Er ddim yn yr AHNE fe ofynnodd aelodau i swyddogion holi am y sefyllfa bresennol ynghylch y 7 erw o dir yn ardal Parc Bruton, y Rhyl, a oedd wedi cael ei adael i breswylwyr lleol, a chynigion i’w ddynodi fel gwarchodfa natur.

 

 Dyma aelodau yn llongyfarch ac yn cymeradwyo Swyddog Cefn Gwlad y Cyngor ar gyfer gogledd y sir a'i dîm ar y gwaith cadwraeth wych ac ymrwymo’r cyhoedd yn y gwaith y byddan nhw'n ei wneud yn yr ardal.   

 

 Wedi trafodaeth fanwl dyma’r Pwyllgor yn:

 

PENDERFYNU: - wedi ystyried y Cynllun, yn ddarostyngedig i’r arsylwadau uchod a’r Aelod Arweiniol a swyddogion yn mynd i’r afael â’r camau gweithredu a nodwyd, yn cadarnhau ei fod wedi sicrhau bod nodau ac amcanion y Cynllun yn cefnogi ac ategu gweledigaeth a dyheadau’r Cyngor ar gyfer yr ardal

 

 

Dogfennau ategol: