Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS
I.
Pobl – Lles meddyliol (Sian Williams)
II.
Cymuned – Grym cymunedol (Judith
Greenhalgh)
III.
Lle – Gwydnwch amgylcheddol
(Teresa Owen)
10:10am – 11:00am
Cofnodion:
Hysbysodd Nicola Kneale (CSDd) y Bwrdd y cynhaliwyd ymarfer mapio i sicrhau
nad oedd y themâu o’r 6 blaenoriaeth wreiddiol ar goll neu wedi’u dileu o’r 3
blaenoriaeth ddiwygiedig. Gellid gweld canlyniadau’r mapio yn eitem 5 o’r pecyn
adroddiadau, lle cynhwyswyd y mwyafrif o’r themâu.
a) Pobl – Lles Meddyliol
Cynhaliwyd gweithdy yn Llanrwst ddiwedd mis Tachwedd gyda nifer dda’n
mynychu ac roedd yr ymateb iddo’n gadarnhaol. Byddai adroddiad yn cael ei lunio
ar y gweithdy i’w gylchredeg ym mis Ionawr.
Roedd y gweithdy’n dangos bod llawer o waith yn mynd yn ei flaen eisoes yn
yr ardal hon i fapio’r gwasanaethau a’r mentrau presennol ar gyfer lles
meddyliol, ac i nodi unrhyw ddyblygu neu fylchau. Awgrymwyd bod posibilrwydd y
gellid defnyddio’r Timau Gweithredu Lleol i lywio neu gyflawni’r cynlluniau
gweithredu ar gyfer y flaenoriaeth hon.
Nododd y Bwrdd bod y galw am ofal iechyd meddwl yn y rhanbarth yn cynyddu’n
gyflym, a bod angen rhagor o adnoddau ar adeg o gyni ariannol cynyddol ar gyfer
awdurdodau lleol.
Cytunodd y Bwrdd i graffu ar yr adroddiad ar ôl ei gyhoeddi ym mis Ionawr er
mwyn blaenoriaethu gwaith i fynd i’r afael â’r meysydd a allai gael yr effaith
fwyaf.
b) Cymuned – Grym Cymunedol
Tywyswyd y Bwrdd i adran gyfleoedd yr adroddiad ar ragnodi cymdeithasol
(eitem 5b) - a ddatblygwyd yn dilyn sgyrsiau rhwng Nina Ruddle (Prifysgol
Glyndŵr), Dr Glynne Roberts (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Mefty Haider (CNC) a
Nicola Kneale (CSDd).
Canolbwyntiodd y Bwrdd ar yr agweddau y gallai’r BGC ychwanegu gwerth yn y
maes hwn, gan fod llawer o waith yn digwydd eisoes o ran rhagnodi cymdeithasol
yng Ngogledd Cymru. Cafwyd trafodaeth lle -
- Teimlodd y Bwrdd
bod posibiliadau o ran y BGC yn archwilio rhagnodi cymdeithasol yn nhermau
rheoli pwysau (cyfle B).
- Cytunodd yr
aelodau y byddai’n ddefnyddiol mynd ar drywydd cyfle C (datblygu data
iechyd gofodol ar lefel LSOA). Byddai hyn yn cysylltu â’r asesiad llesiant
a hefyd yn cyd-fynd â llunio lle. Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o
ganolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig i ddechrau (efallai cymunedau
gwledig ac arfordirol ar draws y ddwy sir).
- Dylid gweld
rhagnodi cymdeithasol fel ymagwedd a’i defnyddio i gefnogi bob un o’r 3
blaenoriaeth yn hytrach na fel cam gweithredu.
Hysbysodd Debbie Neale (CGGSDd) y Bwrdd y byddai CGGSDd yn arwain ar elfen
Dementia’r flaenoriaeth gan eu bod wedi derbyn Cyllid Gofal Canolraddol (ICF) i
godi ymwybyddiaeth ac i gyflenwi hyfforddiant dementia ar draws Conwy a Sir
Ddinbych. Croesawodd y Bwrdd y diweddariad a gofynnodd am gael adroddiad mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cadarnhaodd CBS eu bod yn y camau cyntaf o ddod yn sefydliad cyfeillgar i
ddementia.
c) Lle – Gwydnwch Amgylcheddol
Darparwyd diweddariad ar y flaenoriaeth hon fel a ganlyn –
•
Sefydlwyd gweithgorau i yrru gwaith yn ei flaen gyda
swyddogion amgylcheddol o bartneriaid y BGC.
•
Byddai dwy fersiwn ar gyfer yr addunedau gwyrdd, un ar
gyfer cymunedau a busnesau ac un arall ar gyfer unigolion.
•
Byddai canllaw yn cael ei ddatblygu i gefnogi cymunedau i
gyflawni’r adduned, fyddai’n cynnwys gwybodaeth ar argaeledd adnoddau pellach a
chyllid posibl.
•
O ran y gwaith polisi amgylcheddol cyffredinol, roedd
gwybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn o bryd ar agweddau penodol (e.e.
gwastraff, llifogydd, bioamrywiaeth, carbon ac ynni ac ati). Byddai’r wybodaeth
hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu fframwaith y gallai bob partner weithio
tuag ato yn eu hamser eu hunain.
•
Cydnabuwyd bod angen datblygu gwaith partneriaeth
ymhellach, ac mae bwriad i sefydlu rhwydweithiau rhithwir ar gyfer y gwahanol
agweddau amgylcheddol.
Hysbysodd Siân Williams (CNC) y Bwrdd bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n
cynllunio i archwilio’r themâu o bob BGC yn nhermau’r amgylchedd ac yn penderfynu
yn lle y gallent roi cymorth. Awgrymwyd y gellid cymryd ymagwedd ranbarthol
tuag at gyflawni’r gwaith hwn.
Byddai’r ymagwedd hon yn cyd-fynd ȃ’r cynnig o ran newid hinsawdd o dan eitem 6. Hysbyswyd y
Bwrdd bod y cynnig hwn wedi deillio o BGC Wrecsam, ac awgrymodd y dylid cymryd
ymagwedd ranbarthol tuag at fynd i’r afael â newid hinsawdd er mwyn cyflymu
pethau, gan nad oedd ymagweddau lleol ar hyn o bryd yn gweithio.
Hysbyswyd y Bwrdd ynghylch sut mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir
Gwynedd yn bwriadu mynd i’r afael â chynhesu byd-eang, yn enwedig o ran
materion arfordirol. Cytunodd y Bwrdd bod gwaith rhanbarthol yn hanfodol i
liniaru effaith newid hinsawdd ar lefel ranbarthol.
Roedd cyfarfod o Gadeiryddion BGC Gogledd Cymru a swyddogion allweddol yn
cael ei drefnu i drafod y cynnig o ran newid hinsawdd ymhellach.
Trafododd yr arweinyddion blaenoriaethau (h.y. y rheiny sy’n arwain ar y
blaenoriaethau) werth arwain ar waith nad oedd o fewn eu maes arferol. Fodd
bynnag, roedd angen i’r Bwrdd ystyried pwy ddylai arwain ar y blaenoriaethau yn
y tymor hwy.
PENDERFYNWYD
– Y bydd
i.
Aelodau’r Bwrdd
yn craffu ar adroddiad y gweithdy lles meddyliol ar ôl ei gyhoeddi yn Ionawr
2019; a
ii.
Bydd swyddogion
arweiniol y flaenoriaeth Grym Cymunedol yn cysylltu â chydweithwyr iechyd i
drafod data ar lefel LSOA.
Dogfennau ategol:
- 5a Delivery Plan template - mental well-being v4, Eitem 5. PDF 770 KB
- 5. C&D Well-being plan - cross-referencing, Eitem 5. PDF 293 KB
- 5b Social Prescribing cover report., Eitem 5. PDF 105 KB
- 5b Social Prescribing Briefing for PSB, Eitem 5. PDF 232 KB
- 5c. Delivery Plan - environment priority (December progress update), Eitem 5. PDF 738 KB